Tocyn Mynediad Clybiau a Chymdeithasau a Thelerau ac Amodau Cymryd Rhan
1. Rhagarweiniad
1.1. Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i brynu a defnyddio Tocyn Mynediad Clybiau a Chymdeithasau a ddarperir gan Undeb Bangor a chymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp cysylltiedig ag Undeb Bangor.
1.2. Drwy brynu Tocyn Mynediad neu gymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp, gan gynnwys sesiynau blasu, rydych chi'n cytuno i'r telerau a nodir isod.
1.3. Mae'r Tocyn Mynediad yn cyfrannu at gostau cefnogi gweithgaredd grŵp myfyrwyr, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i yswiriant, hyfforddiant, cyngor ac arweiniad, cyfleusterau, a chefnogaeth weinyddol.
2. Cymryd Rhan a Risg
2.1. Drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp cysylltiedig ag Undeb Bangor, rydych yn derbyn eich bod yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun ac yn cytuno i ddilyn rheolau'r gweithgaredd, unrhyw gyfarwyddiadau penodol i'r gweithgaredd, a'r mesurau iechyd a diogelwch a amlinellir yn asesiad risg y grŵp a chan arweinwyr y grŵp.
2.2. Gyda phob gweithgaredd chwaraeon a hamdden mae perygl o anaf personol. Drwy gymryd rhan rydych chi'n cadarnhau eich bod chi'n ymwybodol o'r risgiau ac yn eu derbyn, ac yn gyfrifol am eich gweithredoedd a'ch cyfranogiad eich hun.
2.3. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn unol â'r Telerau ac Amodau hyn wedi'u cynnwys o dan Yswiriant Damweiniau Personol Undeb Bangor.
3. Cymhwystra
3.1. Mae Tocyn Mynediad Clybiau a Chymdeithasau ar gael i’r canlynol:
3.1.1. Myfyrwyr presennol Prifysgol Bangor sydd wedi cofrestru'n llawn ar adeg prynu ac am y cyfnod y bydd y Tocyn yn cael ei ddefnyddio.
3.1.2. Rhai nad ydynt yn fyfyrwyr, yn unol â Pholisi Aelodau Cyswllt Undeb Bangor. Rhoddir aelodaeth gyswllt yn ôl disgresiwn yr Undeb a gall fod yn amodol ar gais, cymeradwyaeth, gofynion ychwanegol a thalu unrhyw ffioedd cysylltiedig.
3.2. Mae Undeb Bangor yn cadw'r hawl i wirio cymhwystra a dirymu mynediad os na chyflawnir yr amodau.
4. Pwrpas a Chwmpas
4.1. Mae'r Tocyn Mynediad yn caniatáu i'r deiliad ymuno ag unrhyw nifer o grwpiau myfyrwyr (clybiau a chymdeithasau) sy'n gysylltiedig ag Undeb Bangor sy'n dod o dan gwmpas y Tocyn Mynediad a brynwyd, yn amodol ar reolau aelodaeth pob grŵp unigol.
5. Hyd
5.1. Mae'r Tocyn Mynediad yn ddilys am un flwyddyn academaidd tan 31 Gorffennaf y flwyddyn academaidd honno.
5.2. Mae Tocynnau Mynediad Hanner Blwyddyn ar gael o Semester 2 ymlaen y flwyddyn academaidd honno ac maent yn ddilys tan 31 Gorffennaf y flwyddyn academaidd honno.
5.3. Mae tocynnau mynediad hanner blwyddyn Semester 1 ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio hyd at ddiwedd Semester 1 yn unig ac maent yn ddilys tan 31 Rhagfyr y flwyddyn academaidd honno.
5.4. Rhaid prynu Tocyn Mynediad newydd ar gyfer pob blwyddyn academaidd i barhau i gael mynediad.
6. Dyddiad Cau Prynu
6.1. Rhaid prynu Tocyn Mynediad priodol cyn ymuno neu barhau ag unrhyw weithgaredd clwb neu gymdeithas y tu hwnt i sesiynau blasu, fel y nodir yn Adran 8 “Sesiynau Blasu”.
6.2. Rhaid prynu tocyn mynediad priodol cyn bod yn gymwys i gymryd rhan yn Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
6.3. Y tu hwnt i sesiynau blasu (Adran 8), anogir myfyrwyr yn gryf i brynu eu Tocyn Mynediad erbyn ail wythnos addysgu Semester 1 i sicrhau mynediad parhaus, yswiriant, a chymhwystra i gymryd rhan.
6.4. Y tu hwnt i sesiynau blasu (Adran 8), nid yw myfyrwyr sy'n methu â phrynu'r Tocyn Mynediad perthnasol erbyn yr amser gofynnol yn gymwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ni fyddant wedi'u hyswirio am gymryd rhan yn y gweithgaredd.
7. Prawf o brynu
7.1. Ar ôl prynu, bydd Tocynnau Mynediad yn cael eu hychwanegu'n awtomatig at broffil y prynwr ar wefan Undeb Bangor.
7.2. Rhaid i brynwyr hefyd gasglu sticer prawf prynu gan Undeb y Myfyrwyr, i'w roi ar eu cerdyn myfyriwr. Rhaid rhoi'r sticer hwn ar gerdyn myfyriwr dilys a dim ond pan gaiff ei ddefnyddio gan ddeiliad y cerdyn a enwir y mae'n ddilys.
7.3. Os bydd cerdyn myfyriwr, gyda sticer ynghlwm, yn cael ei golli, rhaid i'r myfyriwr gael cerdyn newydd gan y Brifysgol. Yna rhaid i Undeb y Myfyrwyr roi sticer newydd, a chodir ffi amdano.
8. Sesiynau Blasu
8.1. Gall Undeb Bangor a'i grwpiau cysylltiedig gynnig sesiynau blasu, gan ganiatáu i fyfyrwyr roi cynnig ar weithgaredd cyn ymrwymo i aelodaeth.
8.2. Gall myfyrwyr fynd i hyd at ddwy sesiwn flasu fesul grŵp heb brynu Tocyn Mynediad.
8.3. Mae angen Tocyn Mynediad dilys i gymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd pellach y tu hwnt i sesiynau blasu.
9. Dim modd trosglwyddo
9.1. Mae'r Tocyn Mynediad yn bersonol i'r prynwr unigol ac ni ellir ei drosglwyddo, ei rannu na'i werthu.
9.2. Gall unrhyw ymgais i gamddefnyddio'r Tocyn arwain at gamau disgyblu, yn unol â gweithdrefnau Undeb Bangor, a chanslo heb ad-daliad.
10. Ymddygiad
10.1. Drwy brynu Tocyn Mynediad ac ymuno ag unrhyw grŵp sy'n gysylltiedig ag Undeb Bangor, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r canlynol:
10.1.1.Cod Ymddygiad Undeb Bangor.
10.1.2.Codau ymddygiad, cyfansoddiadau a chyfarwyddiadau penodol i weithgareddau grwpiau penodol.
10.1.3.Canllawiau iechyd a diogelwch.
10.1.4.Polisïau'r brifysgol a chyfreithiau perthnasol.
10.2. Mae Undeb Bangor yn cadw'r hawl i ddirymu aelodaeth grŵp neu fynediad i'r Tocyn Mynediad heb ad-daliad o ganlyniad i gamau disgyblu.
11. Ad-daliadau
11.1. Gallwch ofyn am ad-daliad llawn o'ch Tocyn Mynediad o fewn 14 diwrnod calendr i'w brynu, ar yr amod nad ydych wedi cael mynediad at fuddion aelodau yn unig (e.e. ymuno â grŵp a chymryd rhan mewn gweithgaredd).
11.2. Ar ôl y cyfnod i ailfeddwl o 14 diwrnod, ni roddir ad-daliadau fel rheol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ac yn ôl disgresiwn Undeb Bangor.
11.3. Rhaid cyflwyno ceisiadau am ad-daliad drwy e-bostio cyfleoedd@undebbangor.com
11.4. Os ydych chi wedi cael unrhyw fuddion (e.e. ymuno â grŵp a chymryd rhan mewn gweithgaredd), gall Undeb Bangor ddidynnu cyfran o'r ffi cyn rhoi addaliad.
11.5. Os terfynir aelodaeth o grŵp myfyrwyr o ganlyniad i gamau disgyblu, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn ad-daliad o'ch Tocyn Mynediad.
12. Diogelu Data
12.1. Drwy brynu'r Tocyn Mynediad, rydych chi'n cytuno i Undeb Bangor brosesu eich data personol yn unol â Pholisi Preifatrwydd Undeb Bangor ac at ddibenion rheoli eich aelodaeth a chymryd rhan mewn grŵp.
12.2. Gall eich data gael ei rannu ag aelodau pwyllgor y grŵp, staff perthnasol Undeb y Myfyrwyr, a'r Brifysgol, lle bo angen.
12.3. Drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, rydych yn cydsynio i Undeb Bangor ddefnyddio ffotograffiaeth a lluniau fideo at ddibenion hyrwyddo, oni bai eich bod yn ein hysbysu ni fel arall yn ysgrifenedig.
13. Newidiadau i'r Telerau
13.1. Mae Undeb Bangor yn cadw'r hawl i newid y telerau hyn ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ac yn dod i rym ar unwaith.
14. Ymholiadau
14.1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau ac Amodau hyn neu os hoffech ofyn am ad-daliad, cysylltwch â cyfleoedd@undebbangor.com