FFEIRIAU GYRFAOEDD
Ymunwch â ni ar gyfer Ffeiriau Gyrfaoedd Tachwedd PCYDDS
2025! Ar agor i holl fyfyrwyr a graddedigion PCYDDS. Digwyddiad rhad ac am ddim i'ch helpu chi i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa. Peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn i archwilio'ch opsiynau a chynllunio'ch dyfodol. Cwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a darganfod ystod eang o lwybrau gyrfa. Mae eich gyrfa yn y dyfodol yn dechrau yma!
Ysbrydoliaeth. Cysylltu. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: gyrfaoedd@pcydds.ac.uk
Ffair Yrfaoedd Caerfyrddin
�� Dydd Mawrth 4 Tachwedd 2025
�� 11:00am – 2:00pm
�� Neuadd Chwaraeon, Campws Caerfyrddin PCYDDS
Ffair Yrfaoedd Abertawe
�� Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
�� 10:00am – 2:00pm
�� Llawr Gwaelod, Adeilad IQ, Campws Abertawe PCYDDS
CAMPWS CAERDYDD
Eisiau dysgu rhagor am gyrraedd a defnyddio adnoddau Ar-lein Llyfrgell PCYDDS? Os felly mae’r sesiwn hon i chi!
Byddwch yn ennill dealltwriaeth o:
• Gymorth ymchwil y Llyfrgell
• Sut i lunio strategaeth ymchwil effeithiol
• Sut i leoli a chyrraedd erthyglau mewn cylchgronau academaidd, elyfrau a chronfeydd data arbenigol
• Ymchwil Mynediad Agored a sut i ddod o hyd iddo
• Arfau ar gyfer darganfod adnoddau i gynorthwyo’ch ymchwil
• Pwysigrwydd gwerthuso’n feirniadol
• Rheoli’ch cyfeirnodi
• Mynediad i Sconul a’n gwasanaeth rhyng-lyfrgelloedd Eisiau Rhagor
Dyddiad: Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025
Amser: 1pm
Hyd: 1 awr
Lleoliad: MS Teams Ar-lein - Cofrestrwch Yma
Cwest Gwybodaeth Llyfrgell: datglowch eich gor-rymoedd academaidd!
Credu y gallwch chi dorri’r cod i lwyddiant academaidd?
Beth yw’r her?
Gweithiwch fel tîm neu fel unigolyn i ddatrys posau a datgloi cliwiau. Ar y daith, byddwch yn dysgu sut i:
Ennill gwybodaeth am adnoddau llyfrgell
Deall hanfodion cyfeirnodi
Ddefnyddio offer ac adnoddau digidol allweddol
Pam cymryd rhan?
• Magu hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau’r llyfrgell
• Darganfod offer astudio a fydd yn eich helpu drwy’r flwyddyn
• Cwrdd â chyd-fyfyrwyr mewn lleoliad llawn hwyl, rhyngweithiol
• Cyfle i ennill gwobr a’r hawl i frolio!
Dyddiadau: o 6 Hydref 2025 – 1 Rhagfyr 1015
Lleoliad: Llyfrgell Caerfyrddin, Llyfrgell Y Fforwm (Abertawe), Ardal Lyfrgell Llundain, Ardal Ddysgu Birmingham (Llawr 1af, Louisa House)
Cymerwch ran er mwyn cael cyfle i ennill gwobr!