CROESO I PCYDDS
2 Hydref 2025
DIWEDDARIAD HWBCAST
CROESO I FYFYRWYR NEWYDD A MYFYRWYR SY'N
DYCHWELYD!
YN Y BWLETIN MYFYRWYR CYNTAF ELENI BYDDWN YN
EICH CADW CHI'N GYFREDOL GYDA PHOPETH SY'N
DIGWYDD YN PCYDDS!
ABERTAWE A CHAERFYRDDIN
COFIWCH GWNEUD CAIS AM / NEU ADNEWYDDU EICH TRWYDDED PARCIO.
Ar ddydd Llun 13eg Hydref am 7YB, bydd y camerâu ANPR yn dod yn weithredol a gall unrhywun heb trwydded cael dirwy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost myfyriwr i wneud cais.
CLICLIWCH YMA
Un o’r manteision o astudio gyda ni yw'r bargeinion anhygoel sydd ar gael! O eitemau TG unigryw i ostyngiadau gwych i fyfyrwyr, darganfyddwch sut y gallwch chi arbed wrth wneud y gorau o'ch profiad fel myfyriwr.
�� Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
�� Bargeinion TG: Meddalwedd am ddim fel Microsoft Office 365 a nifer o ostyngiadau!
�� Gostyngiadau Myfyrwyr: Arbedwch gyda chardiau disgownt!
�� Adnoddau Academaidd: Mae siop PCYDDS yma i chi!
�� Darganfyddwch mwy yn ein Hwbcast sy’n trafod hyn i gyd. Peidiwch â cholli'r bennod hon - bydd eich waled yn diolch i chi! ��
AP YR HWB
Mae angen i bob myfyriwr sicrhau eu bod wedi lawrlwytho Ap yr Hwb.
Oes gennych chi gwestiynau am yr Ap? Cysylltwch â: hwb@pcydds.ac.uk 0300 131 3030
Gallwch hefyd ymweld â ni yn Abertawe, Caerfyrddin a Chaerdydd!
Cymorth
Cymorth Llesiant
Ebostiwch hwb@pcydds.ac.uk am fwy
Mae bywyd prifysgol yn gyfle anhygoel i ddysgu pethau newydd a dod i adnabod eich hun, ond gall ddod â rhai heriau hefyd. Efallai eich bod yn dod i’r brifysgol a bod gennych chi ddiagnosis o gyflwr iechyd meddwl neu efallai y byddwch chi’n cael anawsterau gyda’ch iechyd neu lesiant meddyliol tra byddwch chi’n astudio.
P’un ai eich bod chi’n dioddef o broblem tymor byr gyda straen, mater cymhleth sy’n para’n hirach, neu os ydych chi’n cael trafferth ond ddim yn siŵr beth i’w wneud, yna mae’r Gwasanaeth Llesiant yma i’ch cefnogi. Gallwch gael mynediad at ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau.
Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau cyfrinachol, proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac sydd am ddim a all weithio gyda chi i ddeall yn well yr hyn rydych chi’n ei ddioddef a’ch helpu i benderfynu sut rydych am reoli’r effaith ar eich astudiaethau
Cefnogi Dysgwyr Anabl
Ebostiwch hwb@pcydds.ac.uk am fwy
Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd addysgol cynhwysol a hygyrch lle gall pob myfyriwr ffynnu. Ein nod yw darparu’r offer i fyfyrwyr sydd angen cymorth i’w galluogi i weithio i’w potensial a dangos gwir lefel eu gallu fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig.
Croeso i’r holl fyfyrwyr newydd i’r Drindod Dewi Sant a chroeso nôl i’r myfyrwyr sy’n dychwelyd
Mae eich llyfrgell brifysgol yn cynnig casgliadau digidol a phrintiedig, Rhestrau Adnoddau Ar-lein, hyfforddiant Sgiliau Gwybodaeth a Sgiliau Digidol, mannau dysgu, a chymorth ar-lein a wyneb yn wyneb gan eicn staff gwybodus a chyfeillgar. Archwiliwch wefan y llyfrgell i ddarganfod mwy – Gwefan Llyfrgell PCYDDS I ddathlu dechrau blwyddyn academaidd newydd beth am alw yn ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin a’r Fforwm, SA1 i weld y gwasanaethau sydd gennym i’w cynnig. Mae Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu PCYDDS yn rhaglen diwtorial ar-lein ddeinamig a ddyluniwyd gan y Llyfrgellwyr Cyswllt Academaidd i’ch cefnogi gyda datblygu sgiliau academiadd a llythrennedd gwybodaeth annibynnol, trosglwyddadwy. Mae'r Sgiliau Gwybodaeth ar-lein yn ategu'r sesiynau sgiliau gwybodaeth llyfrgell mewn person (wedi'u trefnu gan eich tiwtor) a gewch gan eich Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd yn ystod eich astudiaethau
Mae’r modiwlau’n cynnwys:
• Uniondeb Academaidd – Rydym yn argymell bod pob myfyriwr yn cychwyn ar ei daith yma!
• Cyfeirnodi
• Adnabod, chwilio am a gwerthuso gwybodaeth
• Rhestrau adnoddau ar-lein
• Rheoli gwybodaeth
• Hawlfraint
• Cefnogaeth ymchwil
Gallwch gael mynediad i’r unedau drwy wefan llyfrgell PCYDDS a Moodle. I ddysgu mwy am y Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein, beth ydyn nhw a sut i gael gafael arnyn nhw beth am archwilio ein canllaw cam wrth gam defnyddiol: Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein Peidiwch ag anghofio, os oes angen rhagor o gymorth a chefnogaeth arnoch, gallwch archebu sesiwn gyda'ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd: Trefnwch Apwyntiad
DIGWYDDIADAU
Yn y sesiwn fer, ymarferol hon, dysgwch sut i gadw’ch dyfeisiau a’ch data personol yn wrth astudio, gweithio, a chymdeithasu ar-lein. Byddwn yntrafod arferion clyfarar gyfer amddiffyn eich gliniadur a’ch ffôn, osgoi apiau peryglus, a thrin gwybodaeth fel gwaith cwrs, manylion mewngofnodi a ffeiliau personol. Os ydych ar y campws neu gartref, bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i aros yn ddiogel ac yn hyderus yn eich bywyd digidol.
Cynhelir y sesiwn hon ar-lein ar ddydd Mawrth 21ain Hydref am 2yp. Sylwer: Os ydych yn aelod o staff, cofrestrwch ar gyfer y sesiwn i staff. Os yw ar gyfer eich myfyrwyr, anfonwch y ddolen isod atynt.
Cofrestrwch eich diddordeb trwy’d ddolen hon: Awgrymiadau Seiberddiogelwch i Fyfyrwyr – Dyfeisiau a Data - 14 Hydref 2025
Meddai’r Is-Ganghellor, yr
Athro Elwen Evans KC "Mae'r ymrwymiad hwn yn adlewyrchu ein hymroddiad i adeiladu cymunedau cryf a chynhwysol ar draws ein campysau. Mae hefyd yn cydnabod y sgiliau a'r profiadau unigryw y mae personél y lluoedd arfog yn dod â nhw i'n cymuned brifysgol a'r gymdeithas gyfan. Diolch i bawb sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar yr ymrwymiad hwn yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS)
wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn swyddogol — addewid cenedlaethol i sicrhau bod y rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, yn cael eu trin â thegwch a pharch.
Mae hyn yn golygu bod PCYDDS wedi
ymrwymo'n ffurfiol i gefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog - gan gynnwys myfyrwyr a staff sy'n gyn-filwyr, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr cadetiaid neu ran o deuluoedd milwrol.
Os ydych chi'n gwasanaethu ar hyn o bryd, wedi gwasanaethu, neu fod gennych gysylltiad teuluol â'r fyddin, rydyn ni am i chi deimlo eich bod wedi’ch cydnabod, eich cynnwys a'ch cefnogi yn ystod eich amser yn y brifysgol
Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bob myfyriwr. Byddwn hefyd yn archwilio ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth a chynnig cymorth i'r rhai sy'n gysylltiedig â'r lluoedd arfog. Eisiau Dysgu Mwy neu Angen Cymorth?
Ewch i:
www.armedforcescovenant.gov.uk
E-bost: Hwb@uwtsd.ac.uk
MAE’CH ANGEN CHI ARNOM NI
Er mwyn hyrwyddo ein gwaith gyda'r addewid pwysig hwn, rydym yn chwilio am lysgenhadon pellach sydd â chysylltiadau â'r lluoedd arfog i gefnogi i rannu a datblygu'r agenda. Os hoffech chi fynegi eich diddordeb, anfonwch e-bost i armed.forces.academy@pcydds.ac.uk
E-bostiwch y armed.forces.academy@pcydds.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth
Mae'n bleser gennym gyhoeddi creu Academi Lluoedd Arfog PCYDDS.
Mae'r Academi wedi'i sefydlu i ddod â'r offrymau presennol at ei gilydd i bersonél sy'n gwasanaethu. Mae hefyd yn gyfrwng i alluogi PCYDDS i gefnogi'r cadetiaid tri- gwasanaeth, personél sy'n pontio allan o'r gwasanaeth, yn ogystal â chyn-filwyr ac, wrth gwrs, eu teuluoedd.
Wedi'i lleoli yn Ysgol Fusnes Caerfyrddin, bydd yr academi drwy ei Grŵp Cynghori yn darparu cyngor arbenigol a thraws-sector ar draws PCYDDS, ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i staff, myfyrwyr, Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Milwyr wrth Gefn a Chadetiaid ar draws ein sefydliadau a'n disgyblaethau.
Cysylltu â ni
Ein tasg gychwynnol yw datblygu ein gwefan i ddangos y ddarpariaeth bresennol i'r Lluoedd Arfog. Os ydych chi'n Gyn-filwr, Milwr wrth Gefn neu Wirfoddolwr Oedolion y
Llu Cadetiaid, hoffai'r Academi glywed gennych, rydym am wneud yn siŵr bod pob myfyriwr ar draws pob disgyblaeth yn cael y cyfle i gyfrannu i’n Hacademi.