Apprenticeship Newsletter Q3 2025 - Welsh

Page 1


PENNAETH NEWYDD

PRENTISIAETHAU:

DEWCH I GWRDD Â MATTHEW WICKER

Rydym yn falch iawn o groesawu Matthew Wicker fel Pennaeth newydd Prentisiaethau yn PCYDDS.

Mae Matthew yn arwain yr Uned Brentisiaethau, gan oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a darparu rhaglenni sy’n diwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd. Gyda dros ddegawd o brofiad ym maes rheolaeth addysg, cyflogadwyedd a datblygu’r gweithlu, mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth ac ymagwedd gydweithredol i feithrin partneriaethau sy’n cael effaith.

WYTHNOS

CYNEFINO

YR WYTHNOS

SY’N DECHRAU AR 15 MEDI 2025

Croeso cynnes i bob prentis newydd sy’n dechrau ar eu taith gyda ni’r Hydref hwn.

CADWCH Y DYDDIAD:

GRADDIO 2025

25 Tachwedd 2025

Diwrnod arbennig i ddathlu ein prentisiaid sy’n graddio’r Hydref hwn. Rhagor o fanylion i ddilyn.

Os hoffech chi wahodd eich cyflogwr, bydd gennym docynnau wedi eu neilltuo ar eu cyfer –siaradwch â’ch Swyddog Cyswllt Prentisiaethau am ragor o wybodaeth.

BLE MAEN NHW NAWR?

Llongyfarchiadau i Samuel Jackson, Arweinydd Trawsnewid Digidol yn y GIG, sydd wedi graddio drwy ein llwybr prentisiaeth. Cafodd ei stori lwyddiant ei hamlygu’n ddiweddar.

Dolen i erthygl ar y wefan >>> From Degree Apprentice to Digital Transformation Leader: UWTSD Graduate Sam Jackson’s Success Story | University of Wales Trinity Saint David

TAITH I JAPAN:

JOE & LUKE YN CYNRYCHIOLI PCYDDS

Cafodd dau o’n prentisiaid eithriadol, Joe Shankland (Gradd-brentis Peirianneg Fecanyddol) a Luke Read-Jenkins (Prentis), y cyfle anhygoel i gynrychioli PCYDDS yn Japan.

Fe wnaethon nhw ymweld â Japan ym mis Mehefin a dysgu am yr effaith ddiwylliannol ar effeithlonrwydd a pheirianneg ddarbodus.

UWTSD and Tata Steel partnership develops next generation of advanced manufacturing engineers | University of Wales Trinity Saint David

Roedd y daith yn anhygoel, ac roedd y prentisiaid yn wir lysgenhadon i’r brifysgol.

Marie Pitson

Uwch Ddarlithydd PCYDDS

Mae teithiau Luke a Joe yn dangos effaith partneriaeth y PCYDDS â diwydiant. Mae ein Radd-brentisiaethau’n sicrhau bod dysgwyr yn cael cymwysterau achrededig tra’n cymhwyso eu gwybodaeth yn uniongyrchol yn y gweithle. Mae’r dull hwn yn datblygu graddedigion medrus iawn sy’n barod i wneud gwahaniaeth ar unwaith yn eu sefydliadau ac yn y sector ehangach.

Matthew Wicker Pennaeth yr Uned Brentisiaeth PCYDDS

Gwnaethom gyflwyno

Gradd-brentisiaethau yn ôl yn 2023 a PCYDDS oedd un o’n dewis ddarparwyr hyfforddiant. Nid yn unig mae un dysgwr eisoes wedi graddio trwy raglen Radd-brentisiaeth PCYDDS, ond mae Joe wedi cael cyfle unwaith mewn oes i ymuno â thaith astudio i Siapan i rannu gwybodaeth am sut rydym yn gweithredu yn Tata Steel yn erbyn ystod eang o sectorau yn Siapan.

Ar ôl dychwelyd o’i daith gwnaeth Joe (ochr yn ochr â Luke Read Jenkins) gyflwyno eu canfyddiadau, ac roedd yn hynod ddiddorol clywed am yr hyn a ddysgasant yn ystod eu taith a’r gwahaniaethau mewn diwylliannau. Rwy’n edrych ymlaen at weld Joe yn parhau ar ei daith gyda PCYDDS a defnyddio’r offer a thechnegau a ddysgwyd yn ei amserlen waith ddyddiol.

Matthew Davies

Rheolwr Hyfforddiant Technegol (Dysgu a Datblygu) Tata Steel

DIGWYDDIADAU SBOTOLAU:

PRYNHAWN

RHWYDWEITHIO

I’R DIWYDIANT

Dydd Iau 23 Hydref 2025

CADWCH Y DYDDIAD!

3:00 – 5:00pm

Matrics Arloesi, Campws SA1, Heol y Brenin, Abertawe SA1 8EW

Ymunwch â ni ar gyfer prynhawn o fewnwelediadau a rhwydweithio ar y canlynol: TROSOLWG O EIDDO DEALLUSOL (PATENTAU, HAWLFRAINT, DYLUNIO, NODAU MASNACH, EIDDO DEALLUSOL DRAMOR).

Rachel Gilmore Swyddfa Eiddo Deallusol

MYNEDIAD AM DDIM

- Darperir lluniaeth

- Cyfleoedd i rwydweithio

WYTHNOS

PRENTISIAETHAU

2026

9 – 15 Chwefror 2026

CADWCH Y DYDDIAD!

Wythnos sy’n llawn o weithgareddau, digwyddiadau a chyfleoedd cyffrous. Cadwch lygad am gyhoeddiadau! www.uwtsd.ac.uk/events/uwtsdswansea-open-day

WORLDSKILLS

Mae ein prentisiaid yn parhau i ddisgleirio ar y llwyfan cenedlaethol a byd-eang

Dysgwch ragor yma: WorldSkills Feature

Cysylltwch â prentisiaethau@uwtsd.ac.uk a dilynwch ni ar LinkedIn

Degree Apprenticeships @ UWTSD

PRENTISIAETHAU GRADD DIGIDOL DERBYNIADAU IONAWR 2026

LLEOEDD AR GAEL

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod ceisiadau bellach ar agor ar gyfer derbyniadau Ionawr 2026 y Prentisiaethau Gradd Digidol. Mae lleoedd ar gael ar y rhaglenni canlynol:

• BSc Systemau Data a Gwybodaeth

• BSc Peirianneg Meddalwedd

• BSc Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch

Wedi eu cyflwyno mewn partneriaeth â chyflogwyr, mae’r rhaglenni hyn yn cyfuno gwaith â thâl gydag astudio’n rhan-amser yn y brifysgol, gan sicrhau bod prentisiaid yn datblygu’r arbenigedd technegol a’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i ffynnu yn yr economi ddigidol.

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n dymuno uwchsgilio eich gweithlu, neu’n unigolyn sydd â diddordeb mewn dechrau ar eich taith ym maes technoleg, cysylltwch â ni heddiw:

apprenticeships@uwtsd.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Apprenticeship Newsletter Q3 2025 - Welsh by University of Wales Trinity Saint David - Issuu