Mai 2020
Ffocws ar chwarae
Ailagor parciau, ardaloedd chwarae a mannau agored ar gyfer chwarae plant Mae’r papur briffio hwn yn darparu gwybodaeth ac arweiniad i swyddogion parciau a mannau agored a rheolwyr meysydd chwarae. Mae’n amlinellu rhywfaint o’r ffactorau i’w hystyried wrth lunio penderfyniadau ynghylch pa fannau fydd ac a hyrwyddir ar gyfer chwarae a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Rydym yn sylweddoli dan yr amgylchiadau presennol, ’does fawr yn aros yr un fath a byddwn yn diweddaru’r papur briffio hwn fel y bydd gwybodaeth newydd yn dod i law. Mewn ymateb i’r coronafeirws, bu ffocws angenrheidiol ar waith, siopa ac ymarfer corff fel gweithgareddau allweddol. I blant, bu pwyslais hefyd ar barhau â’u haddysg, cyn belled â bo modd. Fodd bynnag, dylai chwarae gael ei ystyried yn weithgaredd allweddol hefyd. Mae’n hanfodol i les, gwytnwch1, a datblygiad plant a dyma sut fyddant yn ymarfer corff ar y cyfan.
Llacio’r cyfyngiadau symud Cyn cau ysgolion a gwasanaethau gofal plant ar gyfer y mwyafrif o blant yng Nghymru, penderfynodd llawer o awdurdodau lleol a rheolwyr meysydd chwarae eraill i gau ardaloedd chwarae a chyfyngu neu gau mynediad i barciau a mannau hamdden. Yn eu dogfen, Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod2, a gyhoeddwyd ar 15 Mai 2020, mae Llywodraeth Cymru’n amlinellu system goleuadau traffig ar gyfer codi’r cyfyngiadau ar Gymru. Mae hyn yn egluro’n blaen, hyd yn oed pan fyddwn ar y lefel ‘gwyrdd’ o lacio’r cyfyngiadau, y bydd
Am Chwarae Cymru
Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phlant yn eu harddegau i chwarae ac i hybu arfer dda ar bob lefel o lunio penderfyniadau ac ym mhobman ble gallai plant chwarae. Fe weithiom yn agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei ddeddfwriaeth ‘Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’ arloesol. Mae Adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal.