Mae'r astudiaeth yn cynnig dealltwriaeth o’r gweithlu chwarae yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar dri maes sy’n gorgyffwrdd: strategol, cysylltiadau rhwng y strategol ac ymarfer a’r gweithlu chwarae ei hun. Yn ogystal â throsolwg o’r methodoleg, mae’r crynodeb gweithredol yn cynnwys rhestr o 16 o ganfyddiadau, a dandansoddiad o’r canlyniadau gan gynnwys cymariaethau rhwng canfyddiadau 2021 a’r rheini o’r astudiaeth gweithlu diwethaf yn 2008.