Mae Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil (CECA) Cymru yn cynrychioli contractwyr mwyaf a lleiaf Cymru. Ni sydd yn adeiladu yr is-adeiledd sydd angen ar ein cenedl i ffynnu.
Mae'r adolygiad yma yn adlewyrchu ar gyfnod 18 mis anodd a heriol i gontractwyr peirianneg sifil ar draws Cymru. Er ein bod wedi medru symud ymlaen a peth o'n gwaith mae'r 18 mis wedi ei ddominyddu gan bandemig Covid19 a mae'r rhan fwyaf o'n hymdrechion wedi mynd tuag at gefnogi ein haelodau yn ystod y cyfnod yma. Er hyn, gallwn amlygu sut y mae aelodau CECA Cymru yn parhau i gyfrannu at les Cymru drwy gwell is-adeiledd ac yn fwy pwysig mae'r adolygiad yn cynnig cip olwg i'r 12 mis nesaf a'r golygon i'n haelodau.