Prifddinas i eichddarganfod lle
Rhaglen
Diwrnod Agored


Rhaglen
Rydym mor gyffrous i rannu ein prifysgol gyda chi. Dyma’ch cyfle i archwilio ein campws, cwrdd â’n staff, a sgwrsio gyda’n myfyrwyr a oedd unwaith yn eich sefyllfa chi. Os ydych yn gwybod pa gwrs hoffech astudio, neu os ydych dal wrthi’n gwneud eich penderfyniad, mae heddiw yn gyfle i feddwl am eich dyfodol.
Gwnewch y mwyaf o’ch diwrnod, gofynnwch gwestiynau, ymunwch yn y teithiau, a dychmygwch fod yn rhan o gymuned Met Caerdydd.
Mwynhewch archwilio,
Tîm Llysgenhadon Myfyrwyr Met Caerdydd
Dyma’n awgrymiadau i wneud y gorau o'ch Diwrnod Agored:
Cynlluniwch ymlaen llaw. Dewiswch y sgyrsiau, y teithiau a'r gweithgareddau sydd bwysicaf i chi.
Cofrestrwch yn ein mannau cofrestru i gael trosolwg o'r hyn sy’n mynd ymlaen. Gall ein staff cyfeillgar ateb eich cwestiynau neu rhoi cyfarwyddiadau i chi. Peidiwch ag anghofio bwyta’r pice ar y maen sy’n rhad ac am ddim!
Ewch ar daith o amgylch y campws dan arweiniad myfyrwyr i weld pob ardal sydd i’w cynnig.
Mynychwch sgwrs am unrhyw gwrs i ddysgu mwy am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi ac i sgwrsio ag academyddion.
Ewch i'r ffair wybodaeth i sgwrsio â staff o bob ardal o'r Brifysgol am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i chi fel myfyriwr Met Caerdydd.
Gofynnwch gwestiynau. Nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach - mae ein staff a'n llysgenhadon yma i’ch helpu.
Mae modd archebu lle yn llawer o'n sesiynau. Os nad ydych wedi archebu eich sesiynau eto, peidiwch â phoeni, mae digon o amser!
Ewch i'ch e-bost cadarnhau archebu diwrnod agored a chliciwch ar reoli fy archeb lle byddwch yn gallu gweld yr holl sesiynau sydd ar gael.
Llandaf Cyncoed
Mae gan Brifysgol Met Caerdydd ddau gampws ar gyfer dysgu: Cyncoed a Llandaf. Mae pob un yn cynnal gwahanol feysydd pwnc, felly mae'n bwysig eich bod chi yn y lle iawn ar gyfer eich cwrs
Ddim yn siŵr? Siaradwch ag aelod o staff neu gwiriwch eich e-bost.
Mae bws gwennol am ddim yn rhedeg o’r ddau gampws ar y diwrnod agored. Ewch i flaen y campws i weld pryd mae'r bws nesaf yn gadael.
Os ydych ar gampws Llandaf ac eisiau gweld ein cyfleusterau chwaraeon, defnyddiwch y gwasanaeth bws wennol i gyrraedd campws Cyncoed. Mae chwaraeon yn rhan o'n gwreiddiau ym Met Caerdydd ac rydym yn falch o'n cyfleusterau a'n cyfleoedd i bawb gymryd rhan, o athletwyr perfformiad i chwaraeon hamdden a'r gemau mewn-golegol.
Ewch ar daith o amgylch y campws neu crwydrwch ar eich cyflymder eich hun i weld cyfleusterau ar draws y campws, yna galwch heibio i bentref chwaraeon NIAC i ofyn cwestiynau neu ymunwch ag un o'n sgyrsiau chwaraeon.
Nid dewis y cwrs mwyaf priodol yn unig sy’n llunio’ch penderfyniad ar ble i astudio. Mae angen i chi hefyd ddewis y lleoliad gorau ar gyfer blynyddoedd nesaf eich bywyd.
Dyma ein dinas ni - prifddinas Cymru. Yn llawn diwylliant, antur a chwaraeon. Bywyd nos, siopa, sîn fwyd rhyngwladol llewyrchus, mannau gwyrdd, dyfrffyrdd a llawer mwy – a hyn oll yn hygyrch a’n hawdd ei gyrraedd. P'un a ydych chi'n lleol i'r ddinas, neu'n ystyried astudio gyda ni o bell, rydym yn hyderus mai Caerdydd yw'r lle y byddwch eisiau ei alw'n gartref.
Gallwch arbed arian, a byw i'r eithaf hefyd - mae Caerdydd wedi'i rhestru fel un o'r dinasoedd myfyrwyr mwyaf fforddiadwy yn y DU*. *3ydd
Rydym yn eich annog i brofi’r ddinas cyn mynd adref. Ond os nad oes gennych amser, yna edrychwch ar y wybodaeth ar ein gwefan:
Yn ein Ffair Wybodaeth, gallwch ddysgu mwy am y gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael. Gallwch sgwrsio â’r canlynol:
Derbyniadau – gallwn ateb ymholiadau am y broses dderbyn, gofynion mynediad, cyfweliadau a chynigion cyd-destunol, a llawer mwy.
Cyngor Ariannol – cymorth gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag arian, gan gynnwys ceisiadau am Gyllid Myfyrwyr. Mae cymorth wedi'i deilwra ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n ofalwyr, yn ymadawyr gofal, neu sydd wedi dieithrio o’u teuluoedd.
Cymorth Lles – siaradwch â'r tîm os oes angen help arnoch i roi pecyn cymorth ar waith, gan gynnwys addasiadau ar gyfer iechyd meddwl, anabledd ac anawsterau dysgu penodol.
Mi fydd ein Ffair Wybodaeth yn digwydd yma: Llandaf: Yr Hwb
Cyncoed: NIAC
Gyrfaoedd – darganfyddwch y mentrau a'r gefnogaeth sydd ar gael i helpu i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd. Gallwn gynnig cyngor cyffredinol neu ymholi am y gefnogaeth sydd ar gael os oes gennych anghenion penodol.
Chwaraeon – darganfyddwch gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym yn cynnig dros 30 o glybiau chwaraeon, ystod o weithgareddau anffurfiol a hamdden, ynghyd â thimau cystadleuol mewn BUCS a chynghreiriau cenedlaethol.
Yr Iaith Gymraeg – gofynnwch am ein cwricwlwm cyfrwng Cymraeg academaidd a galwedigaethol helaeth. Mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael ysgoloriaeth i gefnogi eich astudiaeth hefyd.
Undeb Myfyrwyr Met Caerdyddrydym yma i'ch helpu i gael y gorau o'ch amser fel myfyriwr. Darganfyddwch sut allwch chi gymryd rhan a beth sydd ar gael os ymunwch â ni.
Ewch i'n Ffair Llety ar gyfer cyngor, manylion am opsiynau ystafelloedd a phrisio.
Llandaf: I fyny'r grisiau yn yr Hwb Cyncoed: Centro
Dysgwch am ein hamrywiaeth o opsiynau llety ar hyd a lled Caerdydd. Yn ogystal â neuaddau preswyl sy'n eiddo i'r Brifysgol, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynnig ystafelloedd gwely astudio en-suite mewn amrywiol leoliadau ger ein campysau, ardaloedd myfyrwyr, neu ganol y ddinas.
○ Campws Cyncoed
○ Campws Plas Gwyn
○ Blackweir Lodge
○ North Court
○ The Bakery
○ Cambrian Point
○ Tŷ Pont Haearn
○ Arofan House
Ymunwch ag un o'n sgyrsiau a'n teithiau niferus i gael ymdeimlad o fywyd fel myfyriwr ym Met Caerdydd.
Ar gyfer sgyrsiau ysgolion/pynciau, edrychwch ar y tudalennau penodol ar gyfer eich ysgol.
Gallwch ddod o hyd i leoliad yr holl sgyrsiau yn eich porth archebu.
Esboniad o'r Datganiad Personol newydd 11:45-12:15 13:15-13:45
Esboniad o Gyllid Myfyrwyr
12:30-13:00 13:15-13:45
Llety Prifysgol Met Caerdydd 11:45-12:15 12:30-13:00
Chwaraeon a chadw'n heini ym Mhrifysgol Met Caerdydd 12:30-13:00
Chwaraeon Perfformiad: Rygbi Dynion 12:30-13:00
Chwaraeon Perfformiad: Rygbi Merched 11:45-12:15
Chwaraeon Perfformiad: Pêl-rwyd 11:45-12:15
Chwaraeon Perfformiado: Pêl-droed 13:15-13:45
Chwaraeon Perfformiad: Hoci 13:15-13:45
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 12:30-13:00
Teithiau Campws 10:00-15:00 galwch heibio, nid oes angen archebu
Ewch i'n Pwynt
Myfyrwyr Met yn NIAC i sgwrsio â myfyrwyr presennol am eu bywyd fel myfyriwr Met Caerdydd, ac i gychwyn ar daith o amgylch y campws.
Teithiau Llety 10:00-15:00 archebwch ar y diwrnod
Ewch i'r Ffair Llety yn Centro i fynd ar daith o amgylch y llety.
Ymunwch ag un o'n sgyrsiau a'n teithiau i gael ymdeimlad o fywyd fel myfyriwr ym Met Caerdydd.
Esboniad o'r Datganiad Personol newydd
Ar gyfer sgyrsiau ysgolion/pynciau, edrychwch ar y tudalennau penodol ar gyfer eich ysgol.
Gallwch ddod o hyd i leoliad yr holl sgyrsiau yn eich porth archebu.
11:45-12:15 13:15-13:45
Teithiau Campws
Esboniad o Gyllid Myfyrwyr
12:30-13:00 13:15-13:45
Llety Prifysgol Met Caerdydd 11:45-12:15 12:30-13:00
Chwaraeon a chadw'n heini ym Mhrifysgol Met Caerdydd 12:30-13:00
Chwaraeon Perfformiad: Rygbi 11:45-12:15
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg 11:45-12:15
10:00-15:00 galwch heibio, nid oes angen archebu Ewch i'n Pwynt Myfyrwyr Met yn y Cwad i sgwrsio â myfyrwyr presennol am eu bywyd fel myfyriwr Met Caerdydd, ac i gychwyn ar daith o amgylch y campws.
Teithiau Llety 10:00-15:00 archebu ar y diwrnod Ewch i'r ystafell ddosbarth awyr agored yn y Cwad i archebu lle ar gyfer taith o amgylch y llety –brysiwch gan fod lleoedd yn gyfyngedig iawn! (mae'r teithiau olaf yn gadael y campws am 3yp).
Mae ein cyrsiau gradd creadigol wedi'u cynllunio i'ch arfogi â'r offer i wneud newid ystyrlon mewn ystod eang o yrfaoedd. Ymgollwch yng nghymuned fywiog Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC) wrth i chi ehangu eich sgiliau, syniadau a phrofiadau. Dysgwch am ein cwricwlwm arloesol ac archwiliwch ein hystod eang o weithdai, cyfleusterau technegol ac offer.
Sgyrsiau Croeso i'r Ysgol 9:45-10:30 13:15-14:00
Sesiynau Gwybodaeth am y Cyrsiau
Cwrdd â'r Academyddion (Gofod y Galon)
10:30-11:30 14:00-15:00
9:00-09:45 11:30-12:30 15:00-16:00
Yn gadael yn rheolaidd o brif fynedfa’r adeilad Celf a Dylunio yn dechrau o 11.30
Mae ein Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol yn darparu
graddau sy'n canolbwyntio ar gyflogadwyedd i baratoi graddedigion yn llawn ar gyfer byd gwaith. Mae campws
Cyncoed yn gartref i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, un o'r canolfannau addysg a hyfforddiant athrawon mwyaf yn y DU. Fe welwch gyfoeth o gyfleusterau arbenigol ar gyfer Addysg yn ogystal â'r Tŷ
Trosedd a ddefnyddir gan fyfyrwyr Plismona a Throseddeg.
Sgyrsiau Croeso i'r Ysgol
Sesiynau Gwybodaeth am y Cyrsiau
Cwrdd â'r Academyddion (NIAC)
10:00-10:30 13:30-14:00
10:30-11:30 14:00-15:00
10:00-15:00
Ar gampws Llandaf, rydym yn cynnig amrywiaeth o raddau sy’n paratoi ar gyfer y byd-gwaith, yn cwmpasu cymdeithaseg, gwaith cymdeithasol a pholisi. Mae'r graddau wedi'u datblygu yn gysylltair â’r diwydiant, cyrff proffesiynol, grwpiau defnyddwyr gwasanaeth ac arbenigwyr academaidd, bydd y graddau yma yn eich helpu i flodeuo yn eich gyrfa ddewisol. Dysgwch am gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith gwerthfawr a darganfyddwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth i gymunedau a chymdeithas ehangach.
Sgyrsiau Croeso i’r Ysgol
Sesiynau Gwybodaeth am y Cyrsiau
10:00-10:30 13:30-14:00
10:30-11:30 14:00-15:00
Cwrdd â'r Academyddion (Llyfrgell) 10:00-15:00
Rydym yn ysgol fusnes a rheolaeth achrededig, yn paratoi ein myfyrwyr i fod yn arweinwyr diwydiant y dyfodol. Mae’r cwricwlwm yn cael ei yrru gan ymchwil arloesol a phrofiad byd go iawn yr academyddion, gan gynnig amgylchedd dysgu sy'n gefnogol ac yn cyffrous a ddeallusol. Mae cyfleusterau adeiladwyd i bwrpas ar gampws Llandaf yn cynnwys Ffug Llys, Ystafell Lletygarwch, a chanolfannau TG ymroddgar gyda mynediad at feddalwedd arbenigol i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad.
Sgyrsiau Croeso’r Ysgol
Sesiynau Gwybodaeth am y Cyrsiau
10:00-10:30 13:30-14:00
10:30-11:30 14:00-15:00
Rydym yn ganolfan ragoriaeth gydnabyddedig yn y DU, yn adnabyddus am ansawdd ein hymchwil a gwaith academaidd. Mae ein cyfleusterau chwaraeon arbenigol yn galluogi’r cyfle i ennill profiad ymarferol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Archwiliwch y gampws a gofynnwch i’r staff am ein cyfleusterau, sy'n eich cefnogi i ddysgu a chwarae, gan gynnwys y NIAC, nifer o gaeau a cyrtiau chwaraeon, labordai arbenigol, campfeydd, ystafelloedd addysgu tylino chwaraeon a’r ystafelloedd ddarlledu a chyfryngau chwaraeon.
Sesiynau Cwrs
10:30-11:30 14:00-15:00
Sesiwn Gwybodaeth am y Flwyddyn Sylfaen Chwaraeon 13:15-13:45
Cwrdd â'r Academyddion (NIAC) 10:00-15:00
Mae ein cyfleusterau Gwyddorau Iechyd arbenigol wedi'u cynllunio gyda’ch gyrfa a’ch dyfodol mewn golwg, er mwyn eich galluogi i ennyn sgiliau a phrofiad ymarferol fel rhan o’r gradd. Mae’r Hyb Iechyd Clinigol Perthynol wedi'i gynllunio ar gyfer addysg ryngbroffesiynol, gan gyfuno dysgu sy’n seiliedig ar efelychu gyda gwasanaethau clinigol a arweinir gan fyfyrwyr ar gyfer y gymuned. Mae campws Llandaf hefyd yn gartref i labordai biofeddygol, labordai technoleg ddeintyddol a'r Ganolfan Diwydiant Bwyd.
Sesiynau Cwrs 10:30-11:30
Sesiwn Gwybodaeth am y Flwyddyn Sylfaen Iechyd 13:15-13:45
Cwrdd â'r Academyddion (Llyfrgell) 10:00-15:00
Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn cynnig graddau achrededig dan arweiniad ymarferol i'ch helpu i ymdopi â heriau’r byd sy'n datblygu yn barhaol. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr ar draws y diwydiant technoleg i ddylunio cyrsiau sy'n berthnasol i'r diwydiant a sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd. Dysgwch am gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a gweld ein cyfleusterau - o roboteg, electroneg, gemau a labordai Deallusrwydd Artiffisial (AI) i fwth Realiti Rhithwir (VR) a mannau unigryw i fyfyrwyr.
Sgyrsiau Croeso’r Ysgol
Sesiynau Gwybodaeth am y Cyrsiau
10:00-10:30 13:30-14:00
10:30-11:30 14:00-15:00
He ol Cyncoe d H
Cilgant y Coed
Prif fynedfa’r campws
Y Brif Dderbynfa a Bwyty K1
Darlithfa
Canolfan Ddysgu
Stradling (Neuaddau)
Herbert (Neuaddau)
Fitzhamon (Neuaddau)
Byngalo (Neuaddau)
Tŷ Froebel
Tŷ Thomas (Neuaddau)
Tŷ Warwick a Swyddfa'r Neuaddau
Clare (Neuaddau)
Bute (Neuaddau)
Ellis (Neuaddau)
Stuttgart (Neuaddau)
Baltimore (Neuaddau)
Nantes (Neuaddau)
Queenswood
Neville (Neuaddau)
Neuadd Chwaraeon
Pwll Nofio
Tŷ Safle Trosedd
Darlithfa 1 a 2
Undeb y Myfyrwyr (Centro)
Stiwdio Ddawns
Y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC)
Arena’r Saethwyr
Canolfan Ymchwil
Stiwdios y Gampfa
Caffi’r Fainc
Campfa Met Actif
Campfa Syd Arron
Caffi'r Trac
Parth-g
Desg Gymorth TG (Llawr Cyntaf)
Swyddfa Rhaglenni a Addysgir
Llythyren yr adeilad
Adeilad y brif fynedfa
Parcio
Ddim yn siŵr ble i fynd?
Sganiwch y cod QR i weld eich amerslen.
Man ymgynnull tân
Diffibriliwr (AED) (oriau gweithredu)
Diffibriliwr (AED) (24 awr)
Blwch cymorth cyntaf (oriau gweithredu)
Blwch cymorth cyntaf (24 awr)
Caffi
Ystafell weddi aml-ffydd
Ystafell rhieni a babanod
Rhesel beiciau
Safle bws
Peiriant dŵr
*Ffoniwch ‘2222’ ar unrhyw ffôn mewnol neu o ffôn symudol, 029 2020 1140, am swyddog cymorth cyntaf neu ewch i dderbynfa.
Caeau
Ystafell Bost
Yr Hyb
Campfa Met Actif (Llawr Cyntaf)
Clinig Podiatreg
Prif Dderbynfa a Pharth-g
Prif Neuaddau
Darlithfa A0.31
Yr Oriel (Llawr Cyntaf)
Ysgol Dechnolegau
Caerdydd (YDC)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (YGDC)
Caffi’r Bocs (Llawr Cyntaf)
Tŷ Morol
Ysgol Reoli
Caerdydd (YRC)
Yr Atriwm
Y Ddesg
Gymorth TG (Llawr Cyntaf)
Ysgol Dechnoleg Ddeintyddol
Gwyddorau Biofeddygol (YChGIC)
Canolfan Ddysgu
Y Lolfa Fyd-eang
Undeb y Myfyrwyr (Llawr Cyntaf)
Canolfan Diwydiant Bwyd FIC
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (YChGI)
Y Stiwdio
Llythyren yr adeilad
Adeilad y brif fynedfa
Parcio
Man ymgynnull tân
Diffibriliwr (AED)
Diffibriliwr (AED) (24 awr)
Blwch cymorth cyntaf (oriau gweithredu)
Blwch cymorth cyntaf (24 awr)
Ddim yn siŵr ble i fynd?
Sganiwch y cod QR i weld eich amerslen.
Caffi
Prif fynedfa’r campws
Ystafell weddi aml-ffydd
Ystafell rhieni a babanod
Gwefru cerbydau trydan
Rhesel beiciau
Safle bws
Peiriant dŵr
*Ffoniwch ‘2222’ ar unrhyw ffôn mewnol neu o ffôn symudol, 029 2020 1140, am swyddog cymorth cyntaf neu ewch i dderbynfa.
BRIFYSGOL AC
Gwneud
Ymgartrefu mewn llety
Gwrandewch ar
Claudia ym Mhennod 1 (00:35)
Lauren ym Mhennod 16 (00:50)
Cyllidebu
a’r costau byw
Vibhor ym Mhennod 12 (03:41) HELP RYDW I’N MYND I’R
ffrindiau newydd
Gwrandewch ar Emmie ym Mhennod 3 (03:59)
Liv ym Mhennod 8 (00:45)
Cefnogaeth
myfyrwyr
Gwrandewch ar
Cory ym Mhennod 6 (00:29)
Gwrandewch ar
Nirav ym Mhennod 2 (03:45)
Celyn ym Mhennod 17 (00:19)
Peidiwch â’i fethu! Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth a chymorth allweddol er mwyn gwneud cais i brifysgol gan gynnwys; ceisiadau, cyllid myfyrwyr a llety.
Sganiwch yma os ydych yn fyfyriwr
Sganiwch yma os ydych yn riant
Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau eich diwrnod. Llenwch yr arolwg
adborth yma er mwyn i chi roi eich barn.