I ddathlu ein llwyddiannau yn ystod y 12 mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi ein Hadolygiad Blynyddol cyntaf. Mae'r cyhoeddiad yn tynnu sylw at y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan CBAC, mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid ar draws y gymuned addysg, i sicrhau bod dysgwyr Cymru yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
• Gweithio'n agos gydag ysgolion a cholegau i sicrhau bod arholiadau'n cael eu cyflwyno'n effeithiol yn 2022.
• Ein gwaith datblygu cymwysterau parhaus; gan gynnwys gweithio gyda Cymwysterau Cymru ar Cymwys ar gyfer y Dyfodol, datblygu'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd, a chyfres o Gymwysterau Galwedigaethol newydd.
• Dathlu cyflawniadau a cherrig milltir gan gynnwys ennill achrediad Buddsoddwyr Mewn Pobl, a'n partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i lansio cynllun bwrsari myfyrwyr newydd er cof am ein cyn Brif Weithredwr, Gareth Pierce.