Trafod Economeg RHIFYN 8

Pa mor ddrwg yw anweithgarwch economaidd?
Robert Nutter a Barry Harrison
![]()

Pa mor ddrwg yw anweithgarwch economaidd?
Robert Nutter a Barry Harrison
Yn gyntaf, dyma eglurhad – nid yw rhywun o oedran gweithio sy’n economaidd anweithgar yn cael ei ystyried yn ddi-waith. Mae dau ddull cyfrifo sefydledig wrth fesur diweithdra yn y DU. Ceir Arolwg o’r Llafurlu (LFS), sy’n cofnodi pobl nad ydyn nhw’n gweithio ar hyn o bryd, ond sydd ar gael i weithio. Yn ail, mae nifer gwirioneddol y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra (Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) yn bennaf), a elwir yn ‘nifer y bobl sy’n hawlio budddaliadau’.
Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn tueddu i gynhyrchu ffigur uwch na nifer y bobl sy’n hawlio budddaliadau, gan fod niferoedd sylweddol o bobl sy’n chwilio am waith ond nad ydyn nhw’n gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith. Yn ôl mesur yr Arolwg o’r Llafurlu, diffinnir pobl ddiwaith fel y rhai sydd ‘heb swydd, eisiau swydd, wedi mynd ati i chwilio am waith yn ystod y pedair wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, neu sydd allan o waith, wedi dod o hyd i swydd ac yn aros i ddechrau’r swydd yn y pythefnos nesaf’.
Mae’r Arolwg o’r Llafurlu yn arolwg ar hap o tua 50,000 o gartrefi yn y DU bob chwarter blwyddyn, gan gynnwys 2,500 o gartrefi yng Nghymru. Cyfrifir y gyfradd ddiweithdra drwy fynegi nifer y di-waith fel canran o’r boblogaeth economaidd weithgar. Y rhai sy’n economaidd weithgar yw’r rhai sydd mewn gwaith neu sy’n chwilio am waith o ddifrif (wedi’u cofrestru yn ddi-waith).
Beth felly yw ystyr rhywun sy’n economaidd anweithgar?
Mae person yn economaidd anweithgar os yw rhwng 16 a 64 oed, os nad yw’n chwilio am waith neu os nad yw ar gael i ddechrau swydd. Yn y DU, mae tua 9.3 miliwn o bobl yn economaidd anweithgar, sy’n cynrychioli 21.8% o’r grŵp oedran hwn ac yn gyfran fawr o’r gweithlu posibl. Mae’r data isod yn Ffigur 1 yn dangos gostyngiad yn y gyfradd anweithgarwch o 2011, wrth i lefelau cyflogaeth godi yn yr economi. Ond, newidiodd hynny oherwydd pandemig COVID-19 yn 2020.
Ffigur 1
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Pobl rhwng 16 a 64 oed, %
Ffynhonnell: Crynodeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol o ystadegau’r farchnad lafur
Roedd nifer y bobl economaidd anweithgar yn y DU, a fesurwyd rhwng Mehefin ac Awst 2024, dros 600,000 yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig rhwng Ionawr a Mawrth 2020. Roedd y cynnydd hwn mewn anweithgarwch yn golygu bod cyfradd gyflogaeth y DU wedi aros islaw ei lefel cyn y pandemig yn 2024 (Ebrill i Fehefin). Y DU yw’r unig wlad o’r gwledydd G7 lle mae hyn yn wir, er bod anweithgarwch economaidd yn y DU yn dal i fod islaw cyfartaledd gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), y G7 a’r Undeb Ewropeaidd (Ffigur 2).
Ar ddechrau’r 2000au, a bron hyd at y pandemig, gostyngodd y gyfradd anweithgarwch economaidd yn gyson. Roedd llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys:
• y cynnydd mewn hunangyflogaeth (trwy dwf yr economi gìg)
• sefydlu a chynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol
• ehangu gofal plant a ariennir gan y llywodraeth
• gostyngiad yn yr incwm o gynlluniau pensiwn preifat (yn rhannol oherwydd cyfraddau llog isel iawn).
Denodd y ffactorau hyn bobl o oedran gweithio i’r farchnad lafur neu cafwyd eu perswadio i aros ynddi am gyfnod hirach.
Ffigur 2
Mae anweithgarwch cynyddol yn y DU yn sefyll allan
Newid yn y gyfradd anweithgarwch economaidd (pwyntiau canran)
DU
UDA
Canada
Ffrainc
Japan
Yr Eidal
Yr Almaen
bwynt canran yn llai
pwynt canran yn llai
Newid o Ragfyr 2019 i Ragfyr 2023
pwynt canran yn fwy
Ffynhonnell: Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar economïau datblygedig blaenllaw gwledydd y G7
Salwch hirdymor (2.7 miliwn) a bod yn fyfyriwr llawn amser (2.56 miliwn) oedd y prif resymau dros anweithgarwch economaidd yn y data a gasglwyd ym mis Awst 2024, gyda 30% o bobl economaidd anweithgar yn dweud bod eu hanweithgarwch oherwydd salwch hirdymor a 27% yn dweud ei fod oherwydd eu bod yn fyfyriwr. Mae nifer y bobl economaidd anweithgar sydd â salwch hirdymor yn y DU bellach wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau casglu’r data hwn yn 1993. Dangosir hyn yn Ffigurau 3 a 4.
Mae anweithgarwch oherwydd salwch hirdymor wedi bod yn cynyddu ers haf 2019. Mae’r cynnydd mewn salwch hirdymor yn gysylltiedig â:
• phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith gweithwyr ifanc
• COVID hir
• y nifer sylweddol o bobl ar restrau aros y GIG.
Yn y DU, mae’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig ag iechyd ers COVID bellach yn cyfrif am ryw 30% o gyfanswm y ceisiadau am fudd-daliadau. Mae hyn yn groes i’r sefyllfa mewn economïau datblygedig eraill.
Ffigur 3
Anweithgarwch economaidd oherwydd salwch hirdymor Miliynau, wedi'u haddasu'n dymhorol
Ffynhonnell: Swyddfa Ystadegau Gwladol, AA1: Crynodeb o ystadegau’r farchnad lafur
Ffigur 4
Rhagwelir y bydd budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag iechyd yn cynyddu
Gwariant ar bobl rhwng 16 a 64 oed fel cyfran o'r cynnyrch domestig gros ym Mhrydain Fawr, blwyddyn yn dod i ben ym mis Mawrth
Anabledd Analluogrwydd Wedi’u cyfuno
Ffynhonnell: Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
Mae rhesymau eraill dros anweithgarwch economaidd. Mae tua 1.73 miliwn o bobl mewn rolau gofalu, neu ddim yn gweithio oherwydd bod eu partner yn ennill cyflog sy’n ddigon uchel i gael gwared ar bwysau ariannol o’r cartref neu fod y gost o fynd i’r gwaith yn rhy uchel o’i gymharu â’r cyflog y gellir ei ennill. Yn sicr, mae cost ac argaeledd gofal plant yn ffactor pwysig i lawer o deuluoedd. Mae hefyd yn werth cofio, ymhlith y bobl sy’n economaidd anweithgar, bod 1.1 miliwn o bobl o dan 64 oed sydd wedi ymddeol ar eu pensiwn galwedigaethol. Mae athrawon, gweision sifil, swyddogion heddlu a meddygon, ymhlith eraill, yn gallu ymddeol ar bensiwn llawn cyn cyrraedd 64 oed.
Mae effaith nifer fawr o bobl ar fudd-daliadau sy’n gysylltiedig â salwch yn straen enfawr ar yr economi. Dywedodd Faisal Islam, golygydd Economeg y BBC, yn ddiweddar:
‘Mae’r DU yn sâl. Mae’n llawer mwy sâl na gwledydd tebyg eraill, ac mae’r sefyllfa’n gwaethygu, gan droi’n argyfwng iechyd, cymdeithasol, meddygol, economaidd a chyllidebol phosibl’1.
Mae’r baich ar gyllid cyhoeddus yn sylweddol, gyda gwariant y llywodraeth ar fudd-daliadau salwch sy’n gysylltiedig ag iechyd yn codi o £36 biliwn cyn y pandemig i £48 biliwn nawr.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai’r ffigur godi i £63 biliwn erbyn diwedd y Senedd bresennol. Mae’r broblem anweithgarwch economaidd hefyd yn costio swm sylweddol i’r economi mewn cynnyrch domestig gros coll a refeniw treth is.
Y broblem gyda chymaint o bobl ifanc yn anweithgar yn economaidd oherwydd problemau iechyd meddwl yw eu bod yn dod yn ddatgysylltiedig â’r farchnad lafur – gelwir hyn yn hysteresis. Mae 900,000 o bobl ifanc ym Mhrydain rhwng 18 a 24 oed nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant. Yr awgrym clir yw bod yn rhaid i’r rhai sydd mewn cyflogaeth gyfrannu mwy a mwy i gefnogi’r aelodau hynny o’r boblogaeth sy’n anweithgar.
Mae’r llywodraeth yn wynebu’r her frawychus o leihau’r gwastraff talent hwn, wrth i gost dibyniaeth ar lesiant roi mwy o bwysau ar gyllid cyhoeddus sydd eisoes yn wan. Fel y dywedodd y Prif Weinidog newydd, Kier Starmer, mae rhywbeth o’i le pan fo angen gweithwyr tramor i lenwi bylchau a achosir gan salwch a phrinder prentisiaethau. Canlyniad lefelau uchel o anweithgarwch economaidd yw prinder yn y farchnad lafur, sy’n egluro’n rhannol mudo cyfreithiol net i’r DU o 685,000 yn 2023.
Bydd cael y rhai sydd â salwch hirdymor yn ôl i iechyd da ac i’r gwaith yn gofyn am unrhyw un, neu bob un o’r canlynol:
• mwy o hyblygrwydd gan gyflogwyr
• gostyngiad sylweddol yn rhestrau aros y GIG
• cefnogaeth iechyd meddwl gwell
• diwygiad posibl i’r system dreth a budd-daliadau.
Mae cynyddu argaeledd hyfforddiant mewn meysydd lle mae prinder sgiliau hefyd yn flaenoriaeth, er enghraifft yn y crefftau adeiladu. Bydd Papur Gwyn ar Gyflogaeth sy’n cael ei weithio arno gan yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau yn uno’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol â chanolfannau gwaith. Y rheswm am hyn yw gwneud gwaith a swyddi yn brif swyddogaeth iddyn nhw, yn hytrach na gweithredu’n bennaf fel y ffordd o brofi hawl i fudddaliadau. Fel llawer o ddiwygiadau ochr gyflenwi, mae’r mesurau a amlinellir uchod yn gostus a, hyd yn oed os cânt eu gweithredu yn eu cyfanrwydd, byddan nhw’n cymryd peth amser cyn i unrhyw fuddion sylweddol ddod i’r amlwg.
Mae ochr gadarnhaol i’r farchnad lafur serch hynny. Mae 32 miliwn o bobl mewn cyflogaeth yn y DU, sef 75% o’r grŵp oedran 16 i 64. Yn arwyddocaol, mae yna hefyd lawer o weithwyr hŷn yn parhau mewn cyflogaeth, yn llawn amser neu’n rhan amser, hyd at eu 60au hwyr a thu hwnt. Ymhlith pethau eraill, mae hyn yn bwysig oherwydd bydd oedran pensiwn y wladwriaeth yn codi o 66 i 67 yn 2028. O safbwynt cyllid y llywodraeth, byddai angen i oedran pensiwn y wladwriaeth yn y DU fod yn 70 neu’n 71 erbyn 2040, o’i gymharu â 66 nawr, er mwyn cynnal y status quo o nifer cyson y gweithwyr fesul pensiynwr y wladwriaeth2. A fydd pobl eisiau gweithio’n hirach? Mater arall yw hynny!
1 Y bom amser salwch gwaith sy’n peryglu cenhedlaeth goll o weithwyr – Faisal Islam 21/10/24
2 Y Ganolfan Hirhoedledd Ryngwladol 05/02/24
Ffynonellau a chydnabyddiaethau
Delwedd clawr: Llun wedi’i dynnu gan Mario Gutiérrez / Moment / Getty Images
Ffigur 1: Data Source / ONS.gov.uk / Open Government Licence v3.0
Ffigur 2: Data Source / ONS.gov.uk / Open Government Licence v3.0
Ffigur 3: Data Source / ONS.go.uk / Open Government Licence v3.0
Ffigur 4: Data Source / ifs.org.uk / Institute for Fiscal Studies
Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin: Ystadegau Marchnad Lafur 15/10/24
Erthygl BBC ‘The work sickness timebomb that risks a lost generation of workers’ 21 Hydref, 2024 https://www.bbc.co.uk/news/articles/c99vz4kz5vzo