Cardiff Metropolitan University - Conference Services Newsletter - October 2015 (Welsh) External

Page 1

RHIFYN 1

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Rydyn ni wedi cael gweddnewidiad! Oeddech chi’n gwybod ein bod ni wedi adnewyddu ein tair ystafell gynadledda yng Nghyncoed yn ddiweddar? Mae’r lliw gwyrdd leim a llwyd llechen yn adlewyrchu cefn gwlad Cymru. Gyda chelfi modern cyfforddus a system glywedol sy’n rhan o’r dodrefn, mae’n lleoliad heb ei ail i gynnal cyfarfod proffesiynol. Mae’r

gofod hyblyg, arddull theatr, yn dal hyd at 80 o bobl, gydag uwchdaflunydd dwbl. Os ydych chi’n trefnu cynhadledd neu ddigwyddiad y flwyddyn nesaf, beth am archebu un o’n hystafelloedd gynadledda? Cymerwch gip yma neu cysylltwch â ni i drafod eich digwyddiad.

Gair o gyngor wrth drefnu cynhadledd: Mae lefelau egni’r mynychwyr yn amrywio gydol y dydd. Gallwch wella eu cyfraniad trwy gynnwys ‘sesiynau torri’r ia’ ar ddechrau’r cyfarfod a sesiynau sbardun ar ôl cinio er mwyn cadw lefelau egni’n uchel. Lawrlythwch ein rhestr wirio.

Trydar y dydd Social media tip: Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol: Ystyriwch ‘restrau’ a ‘dadansoddeg’ er mwyn deall eich methiannau a’ch llwyddiannau. A chofiwch bod eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn beiriannau chwilio grymus.  @CardiffMetConf

Tamaid i aros pryd Bu’n haf prysur ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rhwng creu ein caffi newydd yn yr Atrium ac addurno bloc newydd o ystafelloedd

gwely. Mae caffi’r Atrium yn yr Ysgol Reoli, lle cynhelir cynadleddau ar gyfer hyd at 200 o bobl. Mae yna gownter coffi Costa yn ogystal â

dewis o frechdanau, bwyd poeth a bar salad ffres. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Caffi newydd Atrium

01


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.