Conference Services Newsletter (Welsh) - October 2016 (External)

Page 1

RHIFYN 3

Cynadleddau Met Caerdydd Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi Digwyddiadau Diweddar Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion Ar 16 Medi 2016 cynhaliodd Met Caerdydd y gynhadledd Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion ar gampws Llandaf. Mynychodd dros 150 o addysgwyr carchardai, academyddion, gweithwyr cefnogi a phroffesiynolion carchardai o bob rhan o'r DU i drafod sut y gall addysg chwarae rhan bwysig yn helpu lleihau aildroseddu. Lansiwyd y gynhadledd gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, Barbara Wilding, a chynhwysodd brif anerchiad gan gyn-fyfyrwyr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion a myfyriwr presennol Met Caerdydd a gyflwynodd ei daith dysgu a sut y mae Met Caerdydd wedi trawsnewid ei fywyd.

“Roedd y cinio, y safle a’r lleoliad i gyd o ansawdd uchel iawn ac fe wnaethom fwynhau’r Cacennau Cri hefyd! Llawer o ddiolch am eich trefnu anhygoel a’ch help i drefnu’r gynhadledd.” Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion

Lluniau gan Laurynas Taunys

Cymdeithas Syndrom Down Cymru Ar benwythnos 22-24 Gorffennaf cynhaliom ddigwyddiad preswyl ar gyfer y Gymdeithas Syndrom Down. Daeth y grŵp at ei gilydd i drafod a chynllunio sut y gallant gyfrannu at y rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru. Agwedd bwysig o’r cwrs yw’r cyfle i weithwyr proffesiynol glywed yn uniongyrchol gan unigolion sydd â Syndrom Down. Rhannwyd eu profiadau i ddweud wrth weithwyr proffesiynol am eu bywydau ac i helpu i newid agweddau pobl.

Darganfod mwy am ein Cyfleusterau Cynhadledd a Digwyddiadau

Awgrym y dydd Mae cynrychiolwyr yn cofio’r amgylchedd ac yn enwedig y bwyd a’r diod. Mae gofynion a dewisiadau gwesteion cynhadledd yn fwy nag erioed felly ystyriwch gynnwys dewisiadau iach, llysieuol a heb glwten.

“Rhoddodd yr ystafelloedd gwely en-suite hyfryd a’r ystafelloedd cynadledda sydd wedi'u dylunio'n ddeniadol deimlad proffesiynol iawn i'r digwyddiad. Gwnaethpwyd popeth yn hwylus gan yr arlwyo a’r gefnogaeth a gafwyd gan staff ar y safle. Yn benodol, roeddem yn ddiolchgar bod staff wedi gwneud ymdrech ychwanegol i sicrhau bod ein gwesteion sydd ag anableddau dysgu wedi’u croesawu a bod ganddynt bopeth roedd ei angen arnynt. Byddem yn bendant yn ystyried defnyddio’r lleoliad hwn unwaith eto.” Cymdeithas Syndrom Down Cymru

01


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.