Skip to main content

Rhaglen Tymory Gwanwyn 2022 I Ysgolion a Cholegau

Page 1

Caerdydd | Casnewydd | Pontypridd www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

RHAGLEN TYMOR Y GWANWYN 2022 I YSGOLION A CHOLEGAU


CROESO Mae tîm arbenigwyr arobryn Prifysgol De Cymru yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU yn cyflwyno gweithdai rhyngweithiol sydd wedi'u cynllunio i hysbysu myfyrwyr am addysg uwch, a'u cefnogi gyda pharatoi ar gyfer prifysgol.

Mae ein sesiynau ymwybyddiaeth addysg uwch: Yn rhad ac am ddim Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg Ar gael wyneb yn wyneb neu ar-lein Wedi'u teilwra ar gyfer anghenion eich myfyrwyr Gall ein rhaglen o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau gefnogi'ch ysgol neu'ch coleg i gyflawni Meincnodau Gatsby. I gael mwy o wybodaeth am wyth Meincnod Gatsby ar gyngor gyrfa da, cliciwch yma.

Campws Dinas Casnewydd

2


SESIYNAU YMWYBYDDIAETH ADDYSG UWCH Pam Addysg Uwch?

Ysgrifennu Datganiad Personol

Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn ateb tri chwestiwn sylfaenol: Ydy prifysgol yn werth chweil? Ydy hi'n gyraeddadwy? Ydy hi’n fforddiadwy?

Bydd y sesiwn hon yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn y mae prifysgolion yn chwilio amdano, sut i gyflwyno eu hunain yn y ffordd orau a sut i ddod o hyd i'r cymhelliant i 'wneud y peth'.

Mae'r sesiwn hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol ddulliau o ymchwilio a darganfod y brifysgol a'r cwrs cywir.

Y Broses UCAS

O gofrestru a dewis cwrs, hyd at ddiwrnod canlyniadau a chlirio, mae'r sesiwn hon yn arwain myfyrwyr trwy'r broses UCAS ac yn tynnu sylw at sut y gall myfyrwyr wneud y gorau o'u cais.

Cyllid Myfyrwyr Mae'r sesiwn hon yn caniatáu i fyfyrwyr nodi'r math a'r swm o gymorth ariannol sydd ar gael yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ariannol a allai fod ganddynt.

Creu Argraff mewn Cyfweliad Trwy weithgareddau chwarae rôl ac enghreifftiau go iawn, nod y sesiwn hon yw paratoi myfyrwyr i greu argraff mewn cyfweliadau prifysgol a/neu swydd.

Sgiliau Astudio Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu rhai o'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer astudio lefel 3 a thu hwnt. Bydd myfyrwyr yn ystyried ystod eang o sgiliau astudio, gan gynnwys darllen ac ysgrifennu effeithiol, technegau adolygu, cyfeirio, llên-ladrad a rheoli amser.

Gweithdy Gwneud Cais UCAS Gadewch i'n tîm profiadol arwain eich myfyrwyr trwy broses ymgeisio ar-lein UCAS.

Paratoi ar gyfer Gyrfaoedd y Dyfodol Mae dyfodol y cyflogaeth yn newid. Mae'r sesiwn hon yn cynnig mewnwelediad i sut mae’r byd gwaith yn datblygu, a sut y bydd addysg uwch yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi’r dyfodol.

Lles a Gwydnwch Mae'r gweithdy hwn yn arfogi dysgwyr â strategaethau i sicrhau llesiant cadarnhaol gyda ffocws ar sut i wneud y mwyaf o'u cyfleoedd astudio.

Addysg Uwch o fewn Addysg Bellach Gyda dros 60 o gyrsiau wedi'u rhyddfreinio i'n colegau partner ledled De Cymru, gallwn gynghori myfyrwyr ar fanteision astudio cymhwyster PDC yn eu coleg lleol. www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

3


Myfyrwraig yn Llyfrgell Campws Caerdydd

4


GWEMINARAU BYW PDC Gall ddewis mynd i'r brifysgol fod yn brofiad pryderus a dryslyd i fyfyrwyr a rhieni, ond mae ein tîm arobryn yma i helpu. Anogwch eich myfyrwyr i ymuno â'n gweminarau byw trwy gydol y flwyddyn, a fydd yn eu tywys trwy'r broses hon. O gais UCAS i iechyd a lles myfyrwyr, byddwn yn esbonio'r cyfan. Cynhelir y gweminarau trwy gyfrwng y Saesneg gyda chyfle i ofyn cwestiynau yn Gymraeg.

Gweminarau Dyddiad

Amser

Sesiwn

15 Chwefror

6-6.30 pm

Lles a Chadernid

1 Mawrth

6-6.30 pm

Pam Addysg Uwch?

15 Mawrth

6-6.30 pm

Gwneud cais am lety myfyrwyr: Holi ac ateb i rieni a gofalwyr

23 Mawrth

5.30-6.30 pm

Astudio ar Gyfer Gyrfa Mewn Gofal Iechyd

29 Mawrth

6-6.30 pm

Sgiliau Astudio

30 Mawrth

5.30-6.30 pm

Gwneud Cais Llwyddiannus I Astudio Cyrsiau Iechyd

SUT I NEILLTUO LLE

Gall myfyrwyr gael mwy o wybodaeth a neilltuo eu lle yma. www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

5


Myfyriwr yn y Ganolfan Efelychu Clinigol, Campws Glyn-taf

6


DIGWYDDIADAU A OPEN DAYS GWEITHGAREDDAU PWNCBENODOL Gydag amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddewis ohonynt ar draws pob un o'n Cyfadrannau, bydd ein digwyddiadau a'n gweithgareddau pwnc-benodol yn rhoi cyfle i'ch myfyrwyr gael mewnwelediad go iawn i astudio pwnc penodol yn y brifysgol. Mae sesiynau ar gael yn y meysydd pwnc canlynol: Bioleg a Fforensig

Nyrsio a Bydwreigiaeth

Busnes*

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ceiropracteg

Mathemateg

Celf a Dylunio*

Peirianneg*

Cemeg

Saesneg

Cerddoriaeth

Seicoleg

Cymdeithaseg

Seicotherapi a Chynghori

Chwaraeon

Technoleg Dylunio

Daearyddiaeth, Daeareg a Hanes Byd Natur

Teithio a Thwristiaeth

Drama* Ffilm a'r Cyfryngau Ffotograffiaeth Gofal Plant, Addysg a Dysgu* Gwasanaethau Cyhoeddus a Heddlua*

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Y Gyfraith* Hanes

TGCh Troseddeg

CYSYLLTU Â NI Rydyn ni’n gallu cynnal gweithgareddau pynciol wyneb yn wyneb neu yn rhithiol dros Microsoft Teams. Cysylltwch â ni i wybod mwy neu i drafod eich anghenion. *Sesiynau cyfrwng Cymraeg ar gael

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

7


EHANGU CYFRANOGIAD Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn modd a gefnogir. O fewn y Tîm Recriwtio Myfyrwyr, mae staff sy'n cefnogi ac yn cyflwyno ystod o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys: Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd Plant a theuluoedd milwrol Myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu ychwanegol Myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Oedolion 21+ Myfyrwyr sydd naill ai mewn gofal ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod mewn gofal ar ryw adeg yn eu bywydau Myfyrwyr o godau post difreintiedig a nodwyd trwy systemau POLAR a TUNDRA

SUT ALLWN NI HELPU Rydyn ni'n darparu gwybodaeth a chymorth i athrawon a chynghorwyr i helpu i baratoi myfyrwyr heb gynrychiolaeth ddigonol ar gyfer addysg uwch. Os ydych chi'n meddwl y gallech chi a / neu'ch myfyrwyr elwa o'n cefnogaeth, cysylltwch â ni.

8


Myfyrwraig mewn ystafell ddosbarth, Campws Trefforest

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

9


Campws Glyn-taf, Pontypridd

10


DATBLYGU PROFFESIYNOL AR GYFER ATHRAWON A CHYNGHORWYR Trwy gydol y flwyddyn, mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gweithio gyda dros 2,000 o athrawon a chynghorwyr i sicrhau bod ganddynt wybodaeth addysg uwch gyfoes, gan gynnwys cynnal cynadleddau sy'n eu cefnogi yn eu rolau addysgu ac ymgynghorol o ddydd i ddydd. Os ydych eisiau ymholi am weithgaredd penodol neu gymorth wrth lunio llwybrau eich myfyrwyr tuag at addysg uwch, anfonwch ebost atom ni. Os hoffech gael eich cynnwys ar ein cronfa ddata o gysylltiadau allweddol, llenwch y ffurflen hon. Noder bod modd darparu ein sesiynau datblygu proffesiynol ar-lein ar adeg sy’n addas i chi. Am fwy o wybodaeth, ewch i'n gwefan.

CYSYLLTU Â NI Anfonwch ebost at y Tim Recriwtio Myfyrwyr i drefnu sesiwn datblygu proffesiynol.

6

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

11


DIWRNODAU AGORED

Rydym yn cynnal rhaglen gyffrous o ddiwrnodau agored a digwyddiadau ar-lein trwy gydol y flwyddyn, fel y gall eich myfyrwyr ddarganfod mwy am PDC.

Ar y campws

Ar-lein

Bydd eich myfyrwyr yn cael cyfle i archwilio ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd, neu Bontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr, dysgu am fywyd yn PDC a materion cyllid, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'u cwrs.

Rydym yn cynnal diwrnodau agored ar-lein trwy gydol y flwyddyn. Gall eich myfyrwyr wylio cyflwyniadau byw gan ein staff addysgu a chymorth, sgwrsio'n fyw gyda staff a myfyrwyr a gofyn cwestiynau mewn sesiynau Holi ac Ateb. Mae'r rhain yn opsiwn gwych os na all eich myfyrwyr gyrraedd y campws neu eisiau dysgu mwy ar ôl digwyddiad ar y campws.

12


Ar Alw Gall eich myfyrwyr edrych ar ddeunydd ein diwrnod agored ar alw ar unrhyw adeg i ddarganfod ein cyrsiau, mynd ar daith campws rithwir, a sgwrsio â staff a myfyrwyr trwy Unibuddy.

DIWRNODAU AGORED Dydd Sadwrn 19 Chwefror (Ar y campws) Dydd Sadwrn 5 Mawrth (Ar y campws) Dydd Sadwrn 2 Ebrill (Ar y campws)

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

13


Cefnogwch eich myfyrwyr i baratoi at yfory, heddiw. Rydyn ni’n teimlo’n gryf dros wella pob yfory, felly rydym wedi tynnu yn ôl rhag argraffu deunydd lle bo’n bosib. Mae gan ein prosbectws digidol newydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen am Brifysgol De Cymru, mewn un man. Sganiwch y cod QR isod neu ewch i’r tudalen we yma.

Search: PrifysgolDeCymru Cynhyrchwyd gan Adran Marchnata a Denu Myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Elusen 1140312. Mae’r Brifysgol yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Rhaglen Tymory Gwanwyn 2022 I Ysgolion a Cholegau by UniofSouthWales - Issuu