Y Gorau yng Nghymru am werth ychwanegol Canllaw Prifysgolion y Guardian 2026
Rhaglen Tymor yr Hydref 2026 Yn cynnwys canllaw i ddyddiadau allweddol Cylch UCAS 2027
ar gyfer Ysgolion, Colegau a Grwpiau Cymunedol www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth
Mae ein Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth yma i'ch cynorthwyo i helpu eich dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, colegau a sefydliadau cymunedol, yn rhoi cyngor ac arweiniad diduedd, a chynnal gweithgareddau wedi'u teilwra, i ategu'r gefnogaeth rydych chi eisoes yn ei chynnig.
Cwrdd â'r Tîm Dewch i adnabod y wynebau cyfeillgar sy'n cefnogi ysgolion, colegau a phartneriaid cymunedol ledled Cymru, Lloegr a’r tu hwnt.
Rebecca Breen Swyddog
Alec Crane Swyddog
Christopher Edwards Rheolwr
Mark Faulkner Uwch Swyddog
Heather Francis Uwch Swyddog Mamolaeth
Hattie Heath Swyddog
Kaffe Locke Swyddog Rhanbarthol
Ethan-Lee Mackay Swyddog
Scott Mahoney Uwch Swyddog
Isla McMail Swyddog Cyfrwng Cymraeg
Boed yn cyflwyno sesiynau yn eich ysgol neu'ch coleg, yn mynychu digwyddiadau ac arddangosfeydd ledled y DU, neu'n croesawu dysgwyr i'n campysau, ein nod yw eich arfogi chi a'ch dysgwyr gyda'r wybodaeth, yr hyder a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen i lywio'r daith i addysg uwch. Ewch i'n tudalennau gwe a dilynwch ein tudalen LinkedIn i archwilio ein hadnoddau, cyfleoedd, digwyddiadau a diweddariadau diweddaraf.
Jenna Page Swyddog Rhanbarthol
Dilynwch ein Linkedin! 2
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Lauren Perry Swyddog Rhanbarthol
Oska Von Ruhland Swyddog
Sarah Wiltshire Swyddog
I weld pa aelod o'r tîm sy'n cefnogi eich rhanbarth neu'ch maes pwnc chi, ewch i dudalen we’r Tîm Ysgolion a Cholegau.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
3
Sesiynau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Sut i Baratoi at y Dyfodol
Sut i Wneud Cais am Gyllid Myfyrwyr a Chyllidebu ar gyfer y Brifysgol Trefnwch sesiwn heddiw
Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i baratoi at y dyfodol drwy archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael ar ôl y chweched dosbarth neu’r coleg. Mae'n ystyried y buddion a ddaw o addysg uwch, llwybrau amgen fel Prentisiaethau Gradd a Rhwydwaith75, ac yn darparu cyngor ymarferol ar wneud y dewisiadau cywir, datblygu sgiliau dysgu annibynnol, a gwneud yn fawr o gyfleoedd addysg ôl-16.
Sut i wneud cais i Rh75 ac am Brentisiaethau Gradd
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno dysgwyr i fuddion Rhwydwaith75 a Phrentisiaethau Gradd, ac yn eu helpu i ddeall y gwahaniaethau allweddol rhwng y llwybrau addysg uwch hyn sy’n seiliedig ar waith. Mae'n esbonio'r broses ymgeisio, beth i'w ddisgwyl yn ystod y cyfnod recriwtio a dethol, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar greu ceisiadau cryf, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a deall yr hyn mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae'r gweithdy hwn yn helpu dysgwyr i ddeall y cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer addysg uwch a sut i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ariannu eu hastudiaethau. Mae'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid myfyrwyr, yn amlinellu opsiynau cymhwysedd a chyllid, ac yn archwilio cymorth ariannol ychwanegol, gan gynnwys ysgoloriaethau, bwrsariaethau a bwrsariaethau GIG lle bo'r rheiny’n berthnasol. Mewn partneriaeth â Blackbullion, mae'r gweithdy hefyd yn cyflwyno sgiliau cyllidebu ymarferol, gan helpu dysgwyr i fagu hyder wrth reoli eu harian a pharatoi'n ariannol ar gyfer bywyd prifysgol.
Sut i baratoi ar gyfer y Brifysgol
Wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 13 a myfyrwyr cyfatebol mewn colegau sydd eisoes wedi cyflwyno eu cais UCAS, mae'r cyflwyniad rhyngweithiol hwn yn helpu myfyrwyr i lywio'r cyfnod rhwng cael gwybod am benderfyniadau prifysgolion a dechrau addysg uwch. Mae'n ymdrin â phynciau allweddol fel cyllid myfyrwyr, llety, cyllidebu, a pharatoi ar gyfer bywyd myfyrwyr, gan roi'r hyder i ddysgwyr gymryd eu camau nesaf. Gellir teilwra'r sesiwn i roi cyngor ac arweiniad penodol am astudio yn PDC i ddysgwyr sydd eisoes â chynnig gennym.
Sut i Wneud Cais UCAS
Mae'r gweithdy ymarferol hwn yn tywys dysgwyr drwy broses ymgeisio UCAS, o greu cyfrif i gwblhau pob rhan o'r cais. Gellir ei roi ar ffurf cyflwyniad neu, fel sy’n digwydd amlaf, fel sesiwn gam wrth gam ymarferol lle bydd dysgwyr yn cwblhau eu cais gan ddefnyddio cyfrifiaduron eu hysgol neu goleg, neu ar un o'n campysau prifysgol. Trwy helpu dysgwyr drwy'r broses, mae'r gweithdy hwn yn helpu i leihau'r pwysau ar athrawon a chynghorwyr tra'n sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n hyderus ac yn barod i gyflwyno cais o ansawdd.
Grŵp Blwyddyn
Tymor yr Hydref
Tymor y Gwanwyn
Tymor yr Haf
Blwyddyn Gyntaf
Sut i Baratoi at y Dyfodol
Sut i baratoi ar gyfer
Sut i Baratoi at y Dyfodol
Sut i wneud cais am i Rh75 ac am Brentisiaethau Gradd
Sut i Ysgrifennu Datganiad Personol Perffaith
Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn helpu dysgwyr i ysgrifennu datganiad personol UCAS cryf a diddorol. Bydd pob dysgwr yn derbyn ein Llyfryn Canllaw UCAS, y gallan nhw ei ddefnyddio drwy gydol y sesiwn i wneud nodiadau, cwblhau gweithgareddau, a’u helpu i fwrw ymlaen ag ysgrifennu eu cais. Mae'r gweithdy’n trafod fformat newydd UCAS ar gyfer datganiadau personol, am beth mae prifysgolion yn chwilio, a sut y gall dysgwyr gysylltu eu profiadau, eu diddordebau a'u sgiliau yn effeithiol i ddangos eu brwdfrydedd a'u haddasrwydd ar gyfer cwrs neu faes pwnc dewisol.
Sut i Baratoi ar gyfer eich Arholiadau
Ail Flwyddyn
Sut i wneud cais
UCAS Sut i Ysgrifennu Datganiad Personol Perffaith
Mae'r gweithdy hwn yn arfogi dysgwyr gyda'r sgiliau a'r strategaethau sydd eu hangen i baratoi'n effeithiol ar gyfer arholiadau. Mae'n archwilio ystod o dechnegau adolygu, dulliau rheoli amser ymarferol a chynllunio astudio, a ffyrdd o greu arferion astudio iach. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu dealltwriaeth o straen, yn deall ei effaith yn ystod cyfnodau arholiadau, ac yn darganfod strategaethau llesiant ymarferol i helpu i reoli pwysau, adeiladu gwytnwch, a pherfformio ar eu gorau. 4
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
eich Arholiadau
Sut i wneud cais am i Rh75 ac am Brentisiaethau Gradd Sut i Wneud Cais am Gyllid Myfyrwyr a Chyllidebu ar gyfer y Brifysgol
Sut i baratoi ar gyfer y Brifysgol
Sut i baratoi ar gyfer eich arholiadau Sut i baratoi ar gyfer y Brifysgol
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
5
Digwyddiadau a Diwrnodau Blasu
Am ddim
Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a diwrnodau blasu ar gyfer ysgolion a cholegau ar ein campysau drwy gydol Tymor yr Hydref. Os hoffech drefnu diwrnod blasu ar gyfer eich myfyrwyr Blwyddyn 12 neu Flwyddyn 13, cysylltwch â ni: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk
“Mewn arolygon ar ôl y digwyddiad, disgrifiodd 93% o ymatebwyr y digwyddiad fel un defnyddiol/ defnyddiol iawn o ran eu cysylltu ag addysg uwch.”
Neilltuwch eich lle nawr:
CSI: Y tu ôl i’r tâp (Fforensig)
Camwch i fyd cyffrous ymchwilio i safle trosedd gyda'n digwyddiad allgymorth CSI trochol. Yn berffaith ar gyfer gwyddonwyr fforensig uchelgeisiol, a meddyliau chwilfrydig fel ei gilydd, mae'r profiad ymarferol hwn yn gadael i chi blymio i mewn i'r broses ddiddorol o ddatrys achos llofruddiaeth.
Mynd i'r afael â: Cheiropracteg
Mae Ceiropracteg yn llawer mwy na chefn poenus a gyddfau anystwyth. Mae Ceiropractyddion yn weithwyr gofal iechyd sylfaenol sy'n arbenigo mewn esgyrn, cymalau, cyhyrau a meinwe meddal. Gall myfyrwyr brofi dysgu ymarferol y tu mewn i'n Canolfan Sefydliad Ceiropracteg Cymru (WIoC). Anogwch eich myfyrwyr i archwilio'r llwybr gyrfa hwn trwy fynychu'r Diwrnod Blasu hwn sy'n cynnwys technegau trin asgwrn cefn a thylino pwyntiau sbardun. 6
O’r Safle Trosedd i’r Llys Mae'r diwrnod yn cyflwyno senario lleoliad trosedd efelychiedig i fyfyrwyr, gan eu galluogi i ddeall sut mae gwahanol feysydd pwnc yn rhyngweithio, o leoliad y drosedd hyd at erlyniad mewn llys barn.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Mynd i'r afael ag: Addysg ac Addysgu
This Taster Day is a fantastic opportunity Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn gyfle gwych i'ch myfyrwyr archwilio arfer gorau mewn addysg plentyndod cynnar, cael cipolwg go iawn ar fywyd fel athro dan hyfforddiant, a datblygu sgiliau newydd gwerthfawr. Trwy weithdai rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol, byddant yn cael eu hannog i gydweithio, gofyn cwestiynau, a dechrau meddwl am eu dyfodol mewn addysg, a hynny i gyd wrth gael teimlad o fywyd prifysgol. www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Iechyd (Nyrsio, Bydwreigiaeth, Ymarfer Adran Llawdriniaeth ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol)
A oes gan eich myfyrwyr angerdd dros weithio mewn amgylchedd gofal iechyd? Cymerwch ran mewn carwsél o weithgareddau yn ein hystafell efelychu glinigol sy'n archwilio sut beth yw bod yn nyrs, yn fydwraig, neu'n ymarferydd adran lawdriniaethau.
Mynd i'r afael â: Seicoleg
Profwch o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys mapio hunaniaeth gymdeithasol, dulliau ymchwil, llwybr llygad a Biopac. Dyma gyfle i fyfyrwyr ymweld â'n Labordy Seicoleg, yn ogystal â rhoi cynnig ar ddefnyddio rhywfaint o'r offer.
7
Chwaraeon Diwrnod Darganfod Perfformiad Athletwyr Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn archwilio'r gwasanaethau cymorth lluosog y gallai athletwr eu profi, gan gynnwys Cryfder a Chyflyru, Gwyddor Chwaraeon, a Therapi Ymarfer Corff, gan roi cipolwg ar yr opsiynau gyrfa yn y dyfodol (ar ac oddi ar y cae) fel myfyriwr graddedig o'r graddau hyn. Datblygu Hyfforddwyr Yfory Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn rhoi cipolwg i fyfyrwyr ar sut y gallant ddod yn hyfforddwyr chwaraeon ac athrawon Addysg Gorfforol. Bydd amrywiaeth o weithgareddau cylchol yn canolbwyntio ar Ddatblygu Chwaraeon a Hyfforddi a Pherfformiad Pêl-droed.
Mynd i'r afael â: Chyfriadureg
Mae ein cyrsiau Cyfrifiadureg a TGCh yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu'r sgiliau ymarferol hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn y diwydiant TG. Yn y digwyddiad hwn byddwch yn cael cyfle i weld sut mae technoleg yn cael ei defnyddio i ddatrys problemau byd go iawn a bod yn greadigol gyda rhywfaint o'n cit sy'n cael ei bweru gan Raspberry Pi, wrth i chi archwilio un o themâu allweddol ein cyrsiau: y Rhyngrwyd Pethau.
8
Mynd i'r afael â: Pheirianneg
Mae ein Diwrnodau Blasu pwrpasol yn cwmpasu ystod o feysydd pwnc o fewn peirianneg, gan gynnwys Awyrenneg, Awyrofod, Cynnal a Chadw Awyrennau, Amgylchedd Adeiledig, Sifil, Trydanol ac Electronig, a Mecanyddol. Bydd myfyrwyr yn profi diwrnod rhyngweithiol a gynhelir gan ein hacademyddion yn y maes pwnc, yn ogystal â chael blas ar fywyd prifysgol yn PDC.
Gwyddor Fferyllol
Bydd myfyrwyr yn ateb y cwestiwn a yw tabledi sydd wedi'u storio'n anghywir neu sydd wedi mynd heibio eu dyddiad defnyddio olaf yn ddiogel, gan ddefnyddio dull sbectrosgopig syml i bennu dirywiad tabledi aspirin. Byddant hefyd yn cael eu herio i baratoi a phecynnu eu hufen dyfrllyd a'u balm gwefusau eu hunain. Yn olaf, bydd ein hacademyddion yn trafod yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant fferyllol.
Dosbarth Meistr Sbectrosgopeg
Archwiliwch fyd sbectrosgopeg IR ac NMR yn y dosbarth meistr ymarferol hwn a gynlluniwyd i ategu maes llafur Cemeg Lefel A. Byddwch yn dechrau gyda darlith gyflwyniadol ar sut mae'r technegau hyn yn cael eu defnyddio i adnabod strwythurau cemegol, ac yna sesiwn ymarferol yn ein labordai arloesol. Gweithiwch gyda data ac offer sbectrosgopig go iawn i adeiladu eich sgiliau, dyfnhau eich dealltwriaeth, a phrofi'r math o waith labordy y gallwch ei ddisgwyl yn y brifysgol.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Mynd i'r afael â: Chwnsela a Gwaith Cymdeithasol
Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn cynnig cipolwg gwerthfawr i'ch myfyrwyr ar fyd proffesiynol Cwnsela a Gwaith Cymdeithasol. Trwy weithdai rhyngweithiol dan arweiniad ymarferwyr a darlithwyr profiadol, byddant yn archwilio heriau byd go iawn mewn iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, yn datblygu sgiliau allweddol fel empathi, cyfathrebu a gwrando gweithredol, ac yn dysgu am y llwybrau gyrfa amrywiol y gall y graddau hyn arwain atynt. Mae'n gyfle gwych i fyfyrwyr sy'n ystyried dyfodol mewn proffesiynau cymorth brofi dysgu ar lefel prifysgol a deall yr effaith y gallent ei chael ar fywydau pobl.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Busnes ar Waith
Ymunwch â ni am ddiwrnod cyffrous yng nghartref newydd Ysgol Busnes PDC yng Nghaerdydd. Cewch brofiad o sesiynau diddorol mewn Busnes a Rheoli, Marchnata a Chyfrifeg a Chyllid. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i roi blas ymarferol i fyfyrwyr o sut mae astudio'r cyrsiau hyn a'r llwybrau gyrfa amrywiol ym mhob maes. P'un a yw eich myfyrwyr â diddordeb mewn arwain tîm, llunio strategaethau marchnata arloesol neu gyfrifo'r niferoedd mewn cyllid, bydd y diwrnod hwn yn eu helpu i ddarganfod y llwybr cywir ar gyfer eu dyfodol.
9
Cyfres Mynd i'r afael â'r Yr Expo Gyrfaoedd Diwydiannau Creadiol: Creadigol
Y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig: Cefnogi lles trwy greadigrwydd
Mynd i'r afael â: Seiberddiogelwch
Trwy sesiynau ymarferol, diddorol, bydd myfyrwyr yn archwilio meysydd allweddol fel: Peirianneg Gymdeithasol – Dysgu sut mae ymosodwyr yn manteisio ar ymddygiad dynol. Diogelwch Rhwydwaith – Darganfod sut i ddiogelu systemau a data rhag bygythiadau seiber. Deallusrwydd Ffynhonnell Agored (OSINT) – Ymchwilio i sut y gellir defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer dadansoddi. Fforensig Digidol – Datgelu'r technegau a ddefnyddir i adfer a dadansoddi tystiolaeth ddigidol. P'un a ydyn nhw'n chwilfrydig am fygythiadau seiber neu'n ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch, bydd y profiad hwn yn helpu eich myfyrwyr i feithrin sgiliau hanfodol a chael cipolwg ar y rolau cyffrous sy'n llunio dyfodol diogelwch ar-lein. 10
Mae'r Diwrnod Blasu hwn yn cynnig cyfle unigryw i'ch myfyrwyr archwilio sut y gellir defnyddio creadigrwydd i gefnogi iechyd, lles a datblygiad personol. Drwy weithdai a thrafodaethau ymarferol dan arweiniad artistiaid sy'n ymarferwyr a darlithwyr profiadol, bydd myfyrwyr yn darganfod sut y gall y radd Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig arwain at yrfaoedd mewn celfyddydau cymunedol, lleoliadau therapi, addysg a gofal iechyd. Byddant yn cael cipolwg ar sut y gellir cyfuno sgiliau artistig â dulliau therapiwtig i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau pobl, a hynny i gyd wrth brofi sut beth yw astudio'r pwnc gwerth chweil ac amlbwrpas hwn yn y brifysgol.
Cyfres o ddigwyddiadau sy'n cwmpasu ein holl gyrsiau yn y diwydiannau creadigol i roi cyfle i'ch myfyrwyr gael gafael ar ein hoffer lefel diwydiant. Byddan nhw'n clywed gan ddarlithwyr sydd wedi gweithio yn y diwydiannau creadigol, gan berfformio ar y lefelau uchaf. Bydd gwybodaeth am gynnwys ein cyrsiau, bywyd prifysgol a dewisiadau gyrfa ar gyfer y meysydd pwnc canlynol: • Animeiddio, Gemau a Dylunio • Ffasiwn, Marchnata a Ffotograffiaeth • Ffilm a Theledu • Cerddoriaeth a Drama
Rhowch gyfle i'ch myfyrwyr archwilio llwybrau gyrfa greadigol yn y digwyddiad ysbrydoledig hwn sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n ansicr o'u camau nesaf neu sydd eisiau dysgu mwy am gyfleoedd yn y diwydiannau creadigol. Gyda sgyrsiau allweddol, gweithdai ymarferol, a rhyngweithiadau mewn arddull ffair yrfaoedd, mae'n berffaith ar gyfer grwpiau mwy gyda diddordebau amrywiol, ac yn ffordd wych o helpu myfyrwyr i droi chwilfrydedd yn uchelgais.
Mynd i'r afael â: Biowyddoniaeth
Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfres o sgyrsiau rhyngweithiol a gweithdai labordy neu faes diddorol wedi'u cynllunio i roi cipolwg gwerthfawr i fyfyrwyr ar y cyfleoedd amrywiol sydd ar gael trwy raddau mewn Bioleg, Biowyddoniaeth Fiofeddygol, Gwyddorau Meddygol, ac Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt. Gall ysgolion a cholegau ddewis digwyddiad sy'n cyd-fynd â disgyblaethau unrhyw un o'r pedwar cwrs hwn, er enghraifft digwyddiad sy'n canolbwyntio ar ecoleg, biofeddygol neu fioleg foleciwlaidd. www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
11
Mynd ag Arbenigedd y Brifysgol i'ch Ystafell Ddosbarth Ysbrydolwch eich myfyrwyr gyda sesiynau pwnc-benodol wedi’u cyflwyno gan ein academyddion arbenigol. Gall ein hacademyddion ymweld â'ch ysgol neu'ch coleg i gyflwyno gweithdai diddorol, darlithoedd gwadd a sesiynau gwybodaeth â’r nod o gyfoethogi’r cwricwlwm, cefnogi dilyniant i Addysg Uwch, a rhoi cipolwg i fyfyrwyr dros astudio eu pwnc dewisol yn y brifysgol. Mae sesiynau ar gael yn y meysydd pwnc canlynol: • Addysg ac Addysgu • Bioleg a Fforensig • Busnes • Celf a Dylunio • Ceiropracteg • Cemeg • Cerddoriaeth • Cwnsela a Seicotherapi • Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch • Chwaraeon • Drama • Ffilm a’r Cyfryngau • Ffotograffiaeth • Gwaith Cymdeithasol
• Gwasanaethau Cyhoeddus a Phlismona • Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd • Gwyddor Amgylcheddol • Gwyddor Fferyllol • Y Gyfraith • Hanes • lechyd a Gofal Cymdeithasol • Iechyd Cynghreiriol • Nyrsio a Bydwreigiaeth • Peirianneg • Seicoleg • Troseddeg • Technoleg Dylunio • TGCh
Rhagor o wybodaeth
I weld yr amryw weithdai a sesiynau gwybodaeth sydd ar gael ym mhob maes pwnc, ewch i'n tudalennau gwe.
Trefnu sesiwn
I drafod eich gofynion neu i drefnu sesiwn ar gyfer eich ysgol neu goleg, cysylltwch â schoolsandcolleges@southwales.ac.uk
12
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Cadwch le nawr! Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr
I gadw lle, sganiwch y cod QR:
Dydd Mercher, 3 Chwefror 2027 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
13
Rhwydwaith75:
DIWRNODAU AGORED 2026
Ennill Cyflog, Dysgu a Chael Profiad mewn Diwydiant
26 MEDI 24 HYDREF 21 TACHWEDD
Mae Rhwydwaith75 yn opsiwn arall yn lle Prentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol De Cymru . Mae’n cyfuno cyflogaeth â thâl â gradd prifysgol. Yn wahanol i lawer o Brentisiaethau Gradd, rydyn ni’n gweithio'n uniongyrchol gyda rhwydwaith o gyflogwyr partner ac yn paru myfyrwyr cymwys â chyfleoedd addas. Gyda hyd at bum mlynedd o brofiad mewn diwydiant a 100% o raddedigion yn cael cyflogaeth, mae Rhwydwaith75 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill, dysgu a graddio gyda'r sgiliau, y profiad a'r cysylltiadau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Cysylltwch â'n Tîm Ysgolion a Cholegau i drefnu cyflwyniad a chael gwybod sut mae Rhwydwaith75 yn cynnig opsiwn gwych arall i Brentisiaethau Gradd i'ch dysgwyr.
Diwrnodau Agored
Dechreuwch ymchwil AU eich myfyrwyr yn un o'n Diwrnodau Agored. Mae'r digwyddiadau hyn yn ffordd wych i'ch myfyrwyr ddarganfod yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael yn PDC.
Neilltuwch le mewn diwrnod agored:
Bwrsariaeth Teithio
Gallwn dalu cost treuliau rhesymol sy'n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i fynychu Diwrnod Agored Israddedig, Cyfweliad, neu Ddiwrnod Profiad Ymgeisydd. Mae taliadau'n talu am gostau trên neu fws, ac rydym yn gallu eich cefnogi gyda chostau teithio mewn car.
14
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
15
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau 2027/28 Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich myfyrwyr gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau.
Cronfa Barod Ar Gyfer Y Dyfodol PDC
Yn PDC, rydym am i bawb gael yr un cyfleoedd i ffynnu. Mae ein Cronfa Barod ar gyfer y Dyfodol yn darparu £1,000 i fyfyrwyr amser llawn cymwys, a delir yn uniongyrchol iddynt yn eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Bwrsariaeth Dilyniant PDC
Mae'r bwrsari yn werth £1,000 i fyfyrwyr amser llawn a £500 i fyfyrwyr rhan-amser cymwys. Bydd myfyrwyr yn derbyn y bwrsari yn eu tymor cyntaf erbyn diwedd mis Tachwedd 2026. I fod yn gymwys, mae angen i fyfyrwyr gwblhau gradd HND neu radd sylfaen achrededig Prifysgol De Cymru yn llwyddiannus gydag un o'n Colegau Partner erbyn Haf 2027 a symud ymlaen i gwblhau eu cwrs ar gampws PDC ym mis Medi 2027.
Bwrsariaeth Offer Cwrs PDC
Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig: Bydd myfyrwyr sy'n astudio BA (Anrh) y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig yn derbyn taleb gwerth £100 i brynu cyflenwadau celf gan Dryad Education. Gwyddorau Cymhwysol: Bydd myfyrwyr yn derbyn bag offer hanfodol a thaleb dillad awyr agored neu gôt labordy a gogls amddiffynnol PDC os ydynt yn cofrestru ar gwrs cymwys. Y Diwydiannau Creadigol: Bydd myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol, Ffilm, Cynhyrchu’r Cyfryngau neu Ddylunio Ffasiwn yn derbyn dyfais storio ddigidol am ddim.
Ysgoloriaeth Chwaraeon PDC
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydyn ni’n hynod falch o ansawdd y gefnogaeth a'r awyrgylch sy’n nodweddu ein llwybrau perfformiad, sy'n sicrhau bod pob myfyriwrathletwr yn cael cyfle i ragori yn eu hastudiaethau ac yn eu camp. Mae'r ysgoloriaeth hon yn rhoi £2,000 i fyfyrwyr blwyddyn 0 neu 1 cymwys, a £1,000 i fyfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd.
Bwrsariaeth Profi Diagnostig
Efallai y bydd myfyrwyr cofrestredig PDC sy'n astudio o leiaf 60 credyd yn gymwys i dderbyn asesiad mewnol am ddim gyda chefnogaeth gan y Bwrsari Profi Diagnostig.
16
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
Ysgoloriaethau Cymraeg PDC
Mae gennym amrywiaeth o ysgoloriaethau ar gael, gan gynnwys: • £250 pan fydd myfyrwyr yn astudio o leiaf 5 credyd o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. • £1,000 pan fydd myfyrwyr yn astudio o leiaf 40 credyd o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaeth Teithio Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth Gwerth £500, rhoddir y bwrsari untro hwn, heb brawf modd, i bob myfyriwr sy'n dechrau eu blwyddyn rhyngosod fel rhan o'u cwrs gradd Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth. Bwriad y bwrsari yw darparu cefnogaeth ariannol tuag at eu costau teithio i'w lleoliad rhyngosod.
Cynllun Noddfa Ffoaduriaid
Mae Cynllun Noddfa Ffoaduriaid Israddedig PDC yn darparu cefnogaeth i nifer gyfyngedig o ffoaduriaid cymwys trwy hyfforddiant Saesneg am ddim o 15 wythnos neu lai cyn dechrau cwrs israddedig yn y Brifysgol.
Ysgoloriaeth Noddfa Israddedig
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi dau ymgeisydd israddedig llwyddiannus gyda ffioedd dysgu wedi'u hepgor am hyd eu hastudiaethau israddedig ac ysgoloriaeth i gynorthwyo gyda chostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol De Cymru ar y sail y gallent newid. Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.
Edrychwch ar ein Hysgoloriaethau a'n Bwrsariaethau
I gael rhagor o fanylion am ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau ac am y meini prawf i fod yn gymwys, ewch i'n gwefan.
www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
17
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau Israddedig UCAS Dyma rai dyddiadau pwysig a chanllaw cam wrth gam i'r broses ymgeisio UCAS.
MEDI 2026 - IONAWR 2027
IONAWR – MAI 2027
Dylai myfyrwyr ddechrau ymchwilio i brifysgolion a mynychu diwrnodau agored i archwilio cyrsiau a gyrfaoedd posibl. Bydd angen iddynt gwblhau eu cais UCAS. Mae Tîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth PDC yn cynnig sesiynau i helpu gyda datganiadau personol (gweler tudalennau 4-5). Fel athro neu gynghorydd, ystyriwch osod dyddiadau cau mewnol cynharach i adolygu ceisiadau a darparu cyfeiriadau. Am arweiniad, cyfeiriwch at Ganllaw Datganiad Personol a Chanllaw Cyfeirio ar-lein UCAS.
Dylai'r ymgeisydd ddechrau derbyn cynigion. Eu cam nesaf yw penderfynu ar eu derbyn cadarn (dewis cyntaf). Yn ogystal, gallant hefyd wneud derbyn yswiriant (ail ddewis), rhag ofn nad ydynt yn cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf. Os nad yw'r ymgeisydd yn derbyn unrhyw gynigion, peidiwch â phoeni. Bydd angen iddynt ystyried UCAS Extra – gweler y cam nesaf.
Diwrnodau Agored PDC sydd ar ddod Dydd Sadwrn 26 Medi, 24 Hydref, 21 Tachwedd 2026
IONAWR 2027
PRIF DDYDDIAD CAU UCAS
Dylai ceisiadau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig fod wedi cyrraedd UCAS erbyn 18:00 (amser y DU) ar 13 Ionawr 2027. Mae pob cwrs PDC yn dal ar agor ar ôl y dyddiad hwn, ond mae'n debyg y byddwn yn cau rhai o'n cyrsiau mwyaf cystadleuol ar ôl y dyddiad hwn. 18
25 CHWEFROR – 1 GORFFENNAF 2027 Bydd gan ymgeiswyr nad ydynt yn derbyn unrhyw gynigion o'u pum dewis UCAS, neu os ydynt yn dewis gwrthod eu holl gynigion, y cyfle i ymuno ag UCAS Extra. Dim ond am gyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd gwag o hyd y bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais amdanynt. Am ragor o wybodaeth ewch i www.ucas.com/extra. Nawr hefyd yw'r amser i wneud cais am gyllid myfyrwyr. Beth am anfon e-bost at Dîm Ysgolion, Colegau ac Allgymorth PDC: ysgolionacholegau@ decymru.ac.uk i drefnu cyngor ac arweiniad arbenigol a diduedd ar gyllid myfyrwyr i fyfyrwyr a'u rhieni/gofalwyr yn eich ysgol neu goleg. www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
MYNEDIAD 2027
Am wybodaeth bellach, ewch i: www.ucas.com
MAWRTH – MEHEFIN 2027 Efallai bod myfyrwyr eisoes wedi mynychu Diwrnodau Agored, ond bydd Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn eu helpu i benderfynu’n derfynol ar eu prifysgol ddewisol. Yn ystod y digwyddiadau hyn i ddeiliaid cynigion, byddant yn cymryd rhan mewn darlithoedd neu weithdai blasu ac yn clywed yn uniongyrchol gan lysgenhadon myfyrwyr am realiti dyddiol bywyd prifysgol. Mae digwyddiadau ar ôl cynigion yn rhoi cyfle trochi i fyfyrwyr asesu a yw dull addysgu a dysgu prifysgol yn addas iddynt. Yn ogystal, byddant yn cael y cyfle i gysylltu ag ymgeiswyr eraill. Anogwch eich dysgwyr i fynychu Diwrnod Profiad Ymgeiswyr os ydynt yn derbyn cynnig gan PDC.
MEDI 2027 DECHRAU'R TYMOR Mae'n bryd i'ch myfyrwyr hedfan o nyth yr ysgol neu'r coleg a dechrau ar eu taith prifysgol!
GORFFENNAF – AWST 2027 Yn groes i'r gred boblogaidd, mae Clirio yn agor ymhell cyn diwrnod y canlyniadau ar 2 Gorffennaf 2027 ac mae'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi penderfynu'n ddiweddarach yn y cylch eu bod bellach am wneud cais i'r brifysgol, neu fyfyrwyr sydd wedi newid eu meddyliau. Ar Ddiwrnod y Canlyniadau ei hun, gobeithio y bydd myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i brifysgol yn y prif gylch wedi derbyn y graddau ar gyfer eu cwrs dewisol. Os nad ydynt, peidiwch â chynhyrfu, gallant wneud cais drwy Clirio, sy'n paru ymgeiswyr â lleoedd gwag mewn prifysgol.
Sganiwch y cod QR am drosolwg o gylch UCAS gan PDC:
Mae Clirio ar agor hyd at 18 Hydref 2027. Ffoniwch ni: 03455 76 06 06 www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau
19
Cefnogwch eich myfyrwyr i gynllunio eu yfory, heddiw Mae gan ein gwefan yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar eich myfyrwyr am PDC mewn un lle. Sganiwch y cod QR isod neu ewch i decymru.ac.uk
Chwiliwch am: De_Cymru
Cynhyrchwyd gan Adran Myfyrwyr y Dyfodol, Prifysgol De Cymru. Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312..