Skip to main content

Graduate Futures Careers Event Brochure (Welsh)

Page 1


Annwyl Fyfyrwyr,

Croeso cynnes iawn i Ffair Yrfaoedd Ysgol Busnes Prifysgol De Cymru, Dyfodol Graddedigion.

Rydyn ni’n falch iawn eich bod yn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad pwysig hwn, sy'n dod â myfyrwyr, graddedigion, tiwtoriaid cyrsiau ôl-radd/proffesiynol ac ystod eang o gyflogwyr o ddiwydiannau o bob math at ei gilydd.

Diben heddiw yw archwilio posibiliadau, creu cysylltiadau ystyrlon, a chael syniadau fydd yn eich helpu i benderfynu ar eich camau nesaf. Boed yn barod i ymgymryd â'ch rôl

broffesiynol gyntaf, yn chwilio am leoliad gwaith, yn archwilio cynlluniau graddedigion ac astudiaethau pellach neu am gael ysbrydoliaeth ar gyfer y dyfodol, mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i'ch cefnogi a'ch grymuso chi.

Byddwch yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr sydd wrthi’n recriwtio'n, dysgu am wahanol lwybrau gyrfa, a deall pa sgiliau a phriodoleddau mae sefydliadau yn chwilio amdanyn nhw. Gwnewch yn fawr o'r sgyrsiau hyngofynnwch gwestiynau, byddwch yn chwilfrydig, a defnyddiwch y cyfle hwn i adeiladu eich hyder. Fel prifysgol, rydyn ni’n benderfynol o'ch helpu i ddatblygu sylfeini academaidd cryf , a’r sgiliau proffesiynol a'r rhwydweithiau fydd yn eich galluogi i ffynnu mewn byd gwaith sy’n gystadleuol ac yn newid yn barhaus. Rydyn ni’n gobeithio y bydd heddiw yn agor drysau newydd, yn creu syniadau newydd a gwerthfawr, ac yn dod â chi gam yn nes at eich gyrfa.

Diolch am fod yn rhan o ddigwyddiad Dyfodol

Graddedigion. Gobeithio y cewch eich ysbrydoli ac y bydd heddiw yn ddiwrnod cynhyrchiol i chi.

11:30 14:00 10:45 11:30 10:00 10:45 14:00 15:00

Prif Siaradwr: BT Panel Gyrfaoedd Cynnar

11:30 15:00

Prif Siaradwr: Chelsea Bond, PwC

Stondinau arddangoswyr yn agor

(cyflogwyr, cyrsiau ôlradd/proffesiynol PDC, adrannau cymorth PDC)

Awr Dawel (Stondinau

arddangoswyr yn dal ar agor)

Gweithdai CV a LinkedIn

YPRIF SIARADWYR

Chelsea Bond

Cyfarwyddwr yn PwC

Mae Chelsea Bond ACA yn Gyfarwyddwr Archwilio yn PwC. Mae’n angerddol dros ddarparu gwasanaethau archwilio o ansawdd uchel i fusnesau ledled rhanbarth Cymru a Gorllewin Lloegr, yn rhychwantu ystod eang o ddiwydiannau.

Yn wreiddiol o Gastell-nedd, mae gwytnwch a phenderfyniad wedi bod yn hanfodol i’w thaith. Dechreuodd Chelsea ei gyrfa gyda Rhaglen Flying Start PwC fel rhan o'r garfan gyntaf ym Mhrifysgol Reading - rhaglen y mae hi bellach yn falch o’i hyrwyddo. Treuliodd dair blynedd gyntaf ei gyrfa yn Llundain, gan ennill profiad amhrisiadwy, cyn dychwelyd i Gymru. Mae Caerdydd wedi bod yn gartref iddi ers 2016.

Y tu hwnt i'w rôl broffesiynol, mae Chelsea yn angerddol dros rymuso menywod mewn busnes. Fel mam i efeilliaid, mae hi’n benderfynol o feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae talent yn ffynnu ac amrywiaeth yn sbarduno llwyddiant.

Mae Chelsea yn credu mewn sgyrsiau agored a gonest, bod ar gael i bobl, a dangos empathi o ran yr heriau mae busnesau yn eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd presennol. Mae ei nod yn syml: darparu gwasanaeth eithriadol i gleientiaid a chreu profiadau ystyrlon i'w thimau.

Bydd sgwrs Chelsea yn ymdrin â'i chefndir, PwC (a sut beth yw bywyd o fewn y sefydliad), ac wedyn yn symud ymlaen i drafod cyfleoedd a phroses ddethol PwC.

1

CyngorCall

Sicrhewcheichbodyn gwybodpwyfyddyno

Edrychwch ar y rhestr o gyflogwyr cyn i chi gyrraedd i benderfynu gyda phwy rydych chi am siarad.

2

Sicrhewcheichbodyngwybod suti’chcyflwynoeichhun

Penderfynwch ar ffordd syml o’ch cyflwyno eich hun - eich cwrs, eich diddordebau, a'r hyn rydych chi'n chwilio amdano.

Dewchâ'chCV

3 4 5 6

Bydd ychydig o gopïau (a fersiwn ddigidol) yn ddefnyddiol os bydd cyflogwyr eisiau ei weld.

Gofynnwch gwestiynauda

Ysgrifennwch nodiadau

Sicrhewcheichbodynedrychyn daclusacynhyderus

Does dim angen gwisgo siwtond gwisgwch yn daclus, yn gyfforddus ac yn broffesiynol.

Archwiliwchycyfan

Peidiwch â chyfyngu’r diwrnod i’r stondinau rydych chi eisoes yn gyfarwydd â nhw - efallai y bydd rolau perffaith i chi mewn lleoedd annisgwyl.

Peidiwch â chyfyngu’r diwrnod i’r stondinau rydych chi eisoes yn gyfarwydd â nhw - efallai y bydd rolau perffaith i chi mewn lleoedd annisgwyl.

Enterprise Mobility

Diwydiant: Gwasanaethau Busnes

Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynliun i raddedigion, lleoliadau, interniaethau

A gynigir nawdd: Na

Enterprise Mobility ydym ni. Portfolio o frandiau o'r radd flaenaf, sy'n eiddo i deulu

Ymunwch a ni, ac fel Cyflogwr Graddedigion y Flwyddyn TargetJobs 2024 ac un o 100 Cyflogwr Graddedigion Goraur Times gyda throsiant o $38 biliwn a mwy na 90,000 o aelodau tîm ar draws mwy na 90o owledydd. www enterprisemobility co uk/en/careers html

No. Arddangoswr Disgrifiad

Companies House

Diwydiant: Llywodraeth - Canolog a Lieol

Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, Lleoliadau, Prentisiaethau, Lefel mynediad

A gynigir nawdd: Na

Rydym yn fwy na dim ond asiantaeth lywodraethol - rydym yn gymuned lewyrchus

o weithwyr proffesiynol sy'n ymroddedig i ysgogi arloesedd, meithrin amrywiaeth, a gwneud effaith ystyrlon - ar economi'r DU, a bywydaur bobl sy'n byw ac yn gweithio yma.

https://brand.companieshouse.gov.uk/d/kdFcWAdRRJUP

No. Arddangoswr Disgrifiad

Darogan

Diwydiant: Gwasanaethau Eraill

Cyfleoedd: Swyddi i raddedigion, cynllun i raddedigion, interniaethau, lleoliadau

A gynigir nawdd: Na

Drwy ein bwrdd swyddi gallwch ddod o hyd i rolau byw yn amrywio o gynlluniau graddedig a swyddi llawn amser i interniaethau a lleoliadau.

www darogan cymru

UK Army – Graduate Officer Pathways

Diwydiant: Amddiffyn / Sector Cyhoeddus

Cyfleoedd: Hyfforddiant swyddog raddedig, llwybrau noddi, datblygu arweinyddiaeth

A gynigir nawdd: Na

Mae'r Byddin Brydeinig yn cynnig llwybrau graddedig strwythuredig i swyddi swyddogion, gan gynnwys cynlluniau cymorth ariannol sy'n talu am astudio ac yn gwarantu lle yn yr Academi Milwrol Frenhinol Sandhurst ar ôl cwblhau'r cwrs

Mae'r rhaglenni hyn yn cynnig hyfforddiant ar arweinyddiaeth, cyfleoedd datblygu talu â thâl a phrofiad clir o gynnydd i swyddi swyddog comisiynedig i raddedigion Gall raddedigion gael mynediad at fwy o gymorth ariannol, datblygiad proffesiynol a llwybrau technegol yn dibynnu ar eu gradd a'r maes gyrfa a ddewiswyd.

Link

Toiledau Toilets

Gyrfaoedd PDC

Tîm Menter a'r Stiwdio Sefydlu

Astudiaethau Ôlradd PDC

Mae astudiaethau ôl-radd yn PDC yn cynnig cyfle i ddyfnhau eich gwybodaeth, arbenigo yn eich maes, neu newid cyfeiriad yn gyfan gwbl. Gall ein tîm eich tywys trwy’r opsiynau o ran cyrsiau, cyllid, gofynion mynediad, a sut y gall astudiaethau ôl-radd eich helpu i wireddu eich nodau gyrfa Boed yn ystyried gradd feistr, cymhwyster proffesiynol, neu radd ymchwil, gallwn eich helpu i ddeall beth sy’n iawn i chi.

Clinig CV a LinkedIn

Eisiau creu CV sy’n denu sylw neu gryfhau eich proffil LinkedIn? Galwch heibio i'r Clinig CV a LinkedIn i gael adborth ymarferol, wedi'i deilwra, gan y Tîm Gyrfaoedd. Boed yn ymgeisio am swyddi rhan-amser, lleoliadau gwaith neu swyddi i raddedigion, byddwn yn eich helpu i gyflwyno eich profiad a'ch sgiliau yn y ffordd orau bosibl Bydd ffotograffydd ar gael ar y safle i dynnu lluniau proffil LinkedIn proffesiynol.

Cyfrifeg a Chyllid

Y Gyfraith

Busnes

Marchnata Strategol a Digidol

Rhestrwirio:

1. Darllenwch eich nodiadau

Atgoffwch eich hun am y bobl y siaradoch chi â nhw, beth ddysgoch chi, a'r cyfleoeddoedd o ddiddordeb i chi

2. Rhowch drefn ar eich gwybodaeth am gyflogwyr

Casglwch unrhyw daflenni, cardiau busnes, neu ddolenni a gawsoch chi at ei gilydd Penderfynwch pa gyflogwyr sy’n flaenoriaeth i chi o ran dilyn i fyny

3. Datblygwch eich cysylltiadau

Anfonwch air o ddiolch neu cysylltwch drwy LinkedIn

Soniwch am rywbeth gwnaethoch chi ei drafod a holwch am y camau nesaf

4. Gwiriwch ddyddiadau cau

Chwiliwch am ddyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, lleoliadau neu raglenni y clywoch chi amdanyn nhw a rhowch nhw yn eich calendr

5. Diweddarwch eich CV

Addaswch eich CV ar sail y swyddi rydych chi'n bwriadu gwneud cais amdanyn nhw. Cofiwch gynnwys enghreifftiau sy'n dangos eich cryfderau.

6. Dechreuwch eich ceisiadau

Ewch i wefannau cyflogwyr, byrddau swyddi, neu ddolenni a gafodd eu rhannu.

Dechreuwch ddrafftio eich ceisiadau tra bo’r wybodaeth yn dal yn fyw yn y cof.

7. Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd

Os ydych chi eisiau help gyda'ch CV neu geisiadau am swyddi, neu am drafod opsiynau, mae Tîm Gyrfaoedd PDC yma i'ch helpu

8. Meddyliwch am yr hyn greodd argraff

Beth wnaeth sefyll allan a pham? Ddaethoch chi ar draws syniadau newydd am yrfa?

9. Daliwch ati i gynyddu eich profiad

Chwiliwch am gyfleoedd gwaith i fyfyrwyr yn PDC, cyfleoedd gwirfoddoli, neu gyfleoedd am leoliadau neu waith rhan-amser i gryfhau eich sgiliau

10. Cadwch mewn cysylltiad

Dilynwch gyflogwyr a Gyrfaoedd PDC ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am swyddi, digwyddiadau a chyfleoedd newydd.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Graduate Futures Careers Event Brochure (Welsh) by UniofSouthWales - Issuu