Employer Guide to CareersConnect - Cymraeg

Page 1


CYNNWYS:

SUT I GREU PROFFIL SEFYDLIAD

SUT I REOLI FY MHROFFIL SEFYDLIAD

SUT I YCHWANEGU CYFLEOEDD AT CYSWLLTGYRFAOEDD

SUT I YCHWANEGU LLEOLIADAU AR CYSWLLTGYRFAOEDD

SUT I ARCHEBU DIGWYDDIADAU

TUDALEN 1

TUDALEN 5

TUDALEN 7

TUDALEN 12

TUDALEN 16

SUT I GREU PROFFIL SEFYDLIAD

Byddwch yn cael eich tywys i’r ffurflen cofrestru sefydliad.

Llenwch y ffurflen gofrestru hon yn ofalus gan ddefnyddio eich manylion.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cyfeiriad ebost y cwmni lle bo modd. Os byddwch chi'n defnyddio parth cyfeiriad ebost nad yw'n eiddo i'r cwmni, fel gmail neu outlook, efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi i wirio gwybodaeth.

I greu proffil sefydliad ar CyswlltGyrfaoedd, cliciwch y botwm yn gyntaf.

CYSWLLTGYRFAOEDD

Cliciwch

“Mewngofnodi i’r sefydliad”ar waelod y dudalen ac yna dewiswch“Cofrestru”.

Cadarnhewch p’un ai a ydych chi'n asiantaeth recriwtio ai peidio.

Dewiswch eich math o sefydliad a rhowch drosolwg fel y gall ein myfyrwyr a'n graddedigion ddysgu amdanoch chi.

Mae hefyd yn ddefnyddiol darparu dolen i'ch gwefan, sy'n caniatáu i'n myfyrwyr a'n graddedigion archwilio eich sefydliad yn fanylach.

Dylech fwrw ymlaen i lenwi’r ffurflen cofrestru sefydliad.

Rhowch wybod i ni os ydych chi'n gyn-fyfyriwr

o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Morgannwg neu Brifysgol Cymru, Casnewydd.

Wrth lenwi'r adran "Manylion eich sefydliad", gwnewch yn siŵr bod y manylion hyn yn gywir. Bydd ein system yn paru'r manylion hyn â Thŷ'r Cwmnïau neu'r Comisiwn Elusennau. Mae hyn yn caniatáu i ni wirio pwy yw eich sefydliad, gan ein galluogi i brosesu cais eich sefydliad yn gyflym.

Dewiswch eich prif faes busnes. Gallwch ddewis hyd at 4 maes busnes ychwanegol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein telerau ac amodau, a chadarnhewch eich bod wedi darllen y dogfennau hyn.

Llwythwch logo eich cwmni i fyny.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio “Cofrestru” ar y gwaelod i'w chyflwyno. Yna bydd eich proffil yn cael ei gyflwyno i aelod o’n tîm ei gymeradwyo. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffurflen cofrestru sefydliad neu os ydych chi'n dod ar draws

MANTEISION CAEL PROFFIL AR CYSWLLTGYRFAOEDD

Mynediad Uniongyrchol at Fyfyrwyr a Graddedigion

Prifysgol De Cymru

Drwy gofrestru eich sefydliad ar CyswlltGyrfaoedd, gallwch rannu swyddi gwag, lleoliadau, rolau rhanamser a chyfleoedd gwirfoddoli yn uniongyrchol gyda myfyrwyr Prifysgol De Cymru a graddedigion diweddar.

Mae'r cyfleoedd hyn yn cael eu hyrwyddo i gronfa dalent sydd wrthi’n chwilio am waith.

Hysbysebu am ddim

Does dim tâl am restru eich rolau ar CyswlltGyrfaoedd –gallwch hysbysebu swyddi llawn amser, swyddi rhanamser, lleoliadau neu brofiadau gwirfoddoli heb dalu dim.

Cael eich gweld yn fwy amlwg ymysg ymgeiswyr perthnasol

Mae cyfleoedd sy'n cael eu postio ar CyswlltGyrfaoedd yn cael eu cymeradwyo a'u rhannu â chymuned myfyrwyr a graddedigion Prifysgol De Cymru, gan gynyddu eich siawns o ddenu ymgeiswyr o safon sy’n llawn cymhelliant ac yn barod i weithio.

Postio amrywiaeth o fathau o gyfleoedd

Mae'r platfform yn cefnogi gwahanol fathau o gyfleoedd – o leoliadau ac interniaethau i swyddi graddedigion a gwirfoddoli – sy'n eich galluogi i ymgysylltu mewn sawl cam o'r broses o ddatblygu talentau.

Cofrestru ar gyfer digwyddiadau gyrfaoedd PDC

Drwy CyswlltGyrfaoedd gallwch archebu neu gofrestru i fynd i ddigwyddiadau swyddogol Gyrfaoedd Prifysgol De Cymru, gan gynnwys ffeiriau staff, digwyddiadau dros dro a gweithdai i gyflogwyr, er mwyn cwrdd â myfyrwyr wyneb yn wyneb a chodi proffil eich sefydliad.

Dulliau cyfathrebu syml

Mae'r platfform yn canoli eich ymgysylltiad â gyrfaoedd – mae swyddi, lleoliadau, digwyddiadau a dulliau rhyngweithio â chyflogwyr i gyd yn cael eu rheoli mewn un lle, gan eich helpu i gyfathrebu'n gyson â myfyrwyr a graddedigion.

SUT I REOLI FY MHROFFIL SEFYDLIAD

Gallwch ddiweddaru holl wybodaeth eich sefydliad o'r sgrin hon gan ddefnyddio'r tabiau ar draws brig y sgrin.

Mae'r wybodaeth hon yr un manylion ag y gwnaethoch eu nodi drwy ffurflen gofrestru eich sefydliad. Fodd bynnag, o fan hyn gallwch olygu gwybodaeth gan gynnwys disgrifiad o’ch sefydliad, manylion cyfeiriad a strwythur eich sefydliad.

I reoli proffil eich sefydliad, rhaid i chi fewngofnodi i broffil eich sefydliad yn gyntaf.

Ewch i'r gwymprestr “proffil”a dewis “Diweddaru proffil fy sefydliad”.

Gallwch ychwanegu defnyddwyr eraill at eich sefydliad neu ddiweddaru cysylltiadau eich sefydliad drwy ddewis y tab “Cysylltiadau a Defnyddwyr” a chlicio ar “Ychwanegu cyswllt newydd”.

Wrth olygu gwybodaeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn clicio “Cadw newidiadau” ar waelod y dudalen.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os bydd cydweithwyr newydd eisiau gallu cael mynediad at CyswlltGyrfaoedd, neu os bydd cydweithwyr wedi gadael neu wedi newid rolau.

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth newid defnyddwyr sefydliadol, cysylltwch â ni drwy e-bost (careers@southwales.ac.uk) lle gall aelod o staff eich helpu.

SUT I YCHWANEGU CYFLEOEDD AT CYSWLLTGYRFAOEDD

I ychwanegu cyfleoedd at CyswlltGyrfaoedd rhaid i chi fewngofnodi i broffil eich sefydliad yn gyntaf. Ewch i'r gwymprestr“cyfleoedd”a dewis“Postio Cyfle”.

Byddwch yn cael eich tywys i lenwi'r ffurflen gyfle.

Yn gyntaf dewiswch y math o gyfle, gan sicrhau eich bod yn darllen y disgrifiad byr o dan bob math.

Dewiswch y dyddiad cyhoeddi (pryd fydd y cyfle ar gael i'n myfyrwyr a'n graddedigion ei weld) a'r dyddiad cau.

Dewiswch sut yr hoffech i ymgeiswyr wneud cais am y rôl hon. Os byddwch yn dewis “Arlein”, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys dolen i’r wefan. Os byddwch yn dewis “Drwy e-bost”, cofiwch gynnwys y cyfeiriad e-bost y dylid anfon ceisiadau iddo.

Gallwch hefyd gynnwys unrhyw gyfarwyddiadau penodol yma.

Dewiswch sut yr hoffech gael hysbysiadau, ac yna dewis “Nesaf”.

Yna byddwch yn cael eich tywys i'r adran "Manylion y Swydd".

Dewiswch y math o gyfle – gallwch ddewis mwy nag un.

Yna gallwch chi nodi teitl y swydd a rhoi disgrifiad manwl o'r rĂ´l.

Dyma'r amser perffaith i rannu manylion am y rôl, fel y cyfrifoldebau a'r disgwyliadau, yn ogystal â manyleb y person.

Gallwch hefyd gynnwys manteision y rĂ´l fel buddion a lwfans gwyliau. Gall yr wybodaeth hon gynyddu ymgysylltiad gan ein myfyrwyr a'n graddedigion.

Ychwanegwch leoliad y rĂ´l gan gynnwys yr ardal a'r wlad.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r blwch "Gwybodaeth ychwanegol am leoliad" i nodi'r lleoliad.

Mae hyn yn bwysig gan y gallai myfyrwyr a graddedigion fod yn chwilio am rolau mewn lleoliadau penodol yn unig.

Dewiswch y sectorau swyddi y mae'r rĂ´l hon yn berthnasol iddynt. Gallwch ddewis hyd at 5 sector. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn gan fod ein myfyrwyr yn dewis cael negeseuon e-bost gyda rhybuddion swyddi yn y diwydiannau yr hoffent weithio ynddynt a rolau y bydd ganddynt ddiddordeb ynddynt.

Nodwch ystod cyflog a/neu gyflog penodol ar gyfer y rôl hon. Sylwch, os byddwch yn rhestru'r cyflog fel un "cystadleuol", efallai y byddwn yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth gan ein bod yn hoffi bod mor dryloyw â phosibl gyda'n myfyrwyr a'n graddedigion.

Defnyddiwch yr adran atodiadau i uwchlwytho unrhyw ddogfennau fel disgrifiad swydd neu becyn ymgeisydd.

Nodwch a ydych chi'n derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ac a allwch chi ddarparu nawdd fisa.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu ein telerau ac amodau.

Defnyddiwch yr adran “Manylion y cais” i nodi faint o bobl rydych chi'n bwriadu eu cyflogi.

Gallwch hefyd gynnwys dyddiadau’r cyfweliad, gan ddefnyddio’r botwm “Ychwanegu” i ychwanegu dyddiadau ychwanegol.

Nodwch y dyddiad cychwyn lle bo modd. Os nad oes dyddiad cychwyn penodol, yna dewiswch “Hyblyg”. Mae hyn yn ddefnyddiol i'n myfyrwyr sy'n chwilio am waith ar ôl gorffen eu hastudiaethau.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch gael rhagolwg o’ch cyfle ac yna clicio “Ychwanegu Cyfle”i gyflwyno'r rôl.

Yna bydd aelod o staff tîm Gyrfaoedd PDC yn adolygu eich cyfle cyn ei gymeradwyo. Efallai y bydd yn anfon e-bost atoch os oes ganddo unrhyw ymholiadau cyn cyhoeddi eich cyfle i'n myfyrwyr a'n graddedigion.

SUT I YCHWANEGU LLEOLIADAU

AR CYSWLLTGYRFAOEDD

I ychwanegu cyfle lleoliad at CyswlltGyrfaoedd, rhaid i chi fewngofnodi fel sefydliad yn gyntaf.

Ewch i'r gwymprestr “Lleoliadau” a dewis “Postio Lleoliad”.

Byddwch yn cael eich tywys i'r ffurflen lleoliad. Dyma lle rydych

chi'n ychwanegu'r wybodaeth am y cyfle lleoliad i'n staff a'n myfyrwyr ei darllen.

Dewiswch y cynllun y mae'r lleoliad hwn yn perthyn iddo. Gallwch

ddefnyddio'r gwymprestr "Postio ar gynlluniau ychwanegol" i ddewis sawl cynllun lleoliad.

Yna gallwch ddewis y dyddiad cyhoeddi. Mae hyn yn pennu pryd y bydd ein myfyrwyr yn gallu gweld y cyfle lleoliad.

Mae angen i chi ddewis dyddiad cau hefyd.

Bydd angen i chi ddewis sut yr hoffech i'n myfyrwyr wneud cais am y cyfle lleoliad hwn.

Yna dewiswch “Nesaf” ar waelod y dudalen i gael eich tywys i ail dudalen y ffurflen lleoliad.

Yna byddwch yn cael eich tywys i dudalen 2 lle gallwch roi manylion am y cyfle lleoliad.

Dewiswch y math o gyfle o'r gwymprestr.

Gallwch hefyd ychwanegu teitl y swydd a rhoi disgrifiad o'r cyfle. Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys cymaint o fanylion â phosibl gan mai dyma'r wybodaeth y bydd ein myfyrwyr yn ei darllen am eich cyfle.

Dewiswch hyd at 5 sector swyddi perthnasol a dewiswch pa alwedigaethau.

Mae hyn yn ddefnyddiol iawn wrth i'n myfyrwyr ddewis cael negeseuon e-bost gyda rhybuddion swyddi yn y diwydiannau yr hoffent weithio ynddynt a rolau sy'n berthnasol neu o ddiddordeb iddynt.

Nodwch ystod cyflog a/neu gyflog penodol ar gyfer y rĂ´l.

Os yw'r lleoliad yn un di-dâl, dewiswch "lleoliad di-dâl" o'r gwymprestr.

Gofynnir i chi hefyd nodi ble mae’r cyfle lleoliad.

Defnyddiwch y rhan hon o'r ffurflen i uwchlwytho unrhyw ddogfennau perthnasol fel manyleb person.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn adolygu ein telerau ac amodau.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, gallwch gael rhagolwg o’ch cyfle ac yna clicio “Ychwanegu Lleoliad” i gyflwyno'r cyfle.

Bydd yr adran “Manylion y cais” yn gofyn i chi nodi faint o fyfyrwyr rydych chi’n chwilio amdanynt.

Dylech nodi dyddiadau’r cyfweliad. Gallwch ddefnyddio'r botwm “Ychwanegu” i ychwanegu dyddiadau cyfweliad ychwanegol.

Yna gallwch ddewis y dyddiad dechrau. Mae blwch isod sy'n caniatáu i chi ychwanegu mwy o fanylion.

Yna bydd aelod o staff tîm Gyrfaoedd PDC yn adolygu eich lleoliad cyn ei gymeradwyo. Efallai y bydd yn anfon e-bost atoch os oes ganddo unrhyw ymholiadau cyn cyhoeddi eich cyfle i'n myfyrwyr.

SUT I ARCHEBU DIGWYDDIADAU PDC

I gadw lle yn ein digwyddiadau, mae angen i chi fewngofnodi fel sefydliad ar CyswlltGyrfaoedd yn gyntaf. Defnyddiwch y gwymprestr“Digwyddiadau”a dewis“Chwilio am ddigwyddiadau”.

O'r sgrin hon, byddwch yn gallu chwilio am ein digwyddiadau y gallwch gadw lle ynddynt.

Rydym yn cynnig digwyddiadau Dros Dro i Gyflogwyr, sy'n gyfle i chi ddod i'n campws a gosod stondin i siarad â'n myfyrwyr. Mae gennym ddigwyddiadau eraill hefyd, fel ffeiriau sy'n benodol i gyfadrannau neu gyrsiau.

I gadw lle mewn digwyddiad, dewiswch deitl y digwyddiad.

Yna byddwch yn cael eich tywys i'r ffurflen archebu ar gyfer y digwyddiad hwn.

Gall cynnwys y ffurflen archebu amrywio yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad.

Llenwch yr holl wybodaeth ar y ffurflen archebu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch.

Pan fyddwch yn clicio teitl digwyddiad, byddwch yn cael eich tywys i'r dudalen "Manylion y digwyddiad". Dyma lle gallwch ddarllen gwybodaeth am y digwyddiad.

O dan“Cadw lle yn y digwyddiad hwn” gallwch enwebu rhywun i gael negeseuon e-bost am yr archeb. Yna cliciwch“Nesaf”.

Os oes gennych chi ddigwyddiadau ar y gweill yr hoffech chi eu rhannu gyda'n myfyrwyr a'n graddedigion, cysylltwch â ni drwy e-bost. Bydd aelod o staff yn helpu i ychwanegu'r digwyddiad at CyswlltGyrfaoedd a'i hyrwyddo drwy dimau cwrs a/neu gyfryngau cymdeithasol.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.