Ffocws Y Dyfodol 2024

Page 1


DYFODOL FFOCWS Y

Canllaw PDC ar addysg uwch i rieni a gofalwyr.

PDC: FFOCWS Y DYFODOL

Mae'r canllaw defnyddiol hwn wedi'i gynllunio i ddarparu mewnwelediadau cynhwysfawr a gwybodaeth hanfodol am Brifysgol De Cymru a'r broses ymgeisio gyffredinol i chi; rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid. Ein nod yw eich cynorthwyo i gefnogi'ch person ifanc drwy eu taith i addysg uwch.

Mae cychwyn ar fywyd prifysgol yn garreg filltir arwyddocaol, nid yn unig i fyfyrwyr ond hefyd i deuluoedd. Rydym yn deall bod y cyfnod pontio hwn yn golygu gwneud penderfyniadau pwysig, ymrwymiadau ariannol, deall amgylcheddau newydd, ac addasu i newidiadau. Felly, mae'r canllaw hwn yn adnodd gwerthfawr, gan gynnig gwybodaeth am gyfleusterau'r Brifysgol, gwasanaethau cymorth, a'r bywyd bywiog ar y campws. Mae hefyd yn mynd i’r afael ag agweddau ymarferol ar y broses ymgeisio, megis ffioedd, cyllid, llety, a llawer mwy.

P'un a yw'ch person ifanc yn penderfynu pa brifysgol i'w mynychu, yn paratoi eu cais, neu'n barod i gychwyn ar eu taith prifysgol, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i lywio'r camau hanfodol hyn gyda nhw. Rydym yn trafod popeth o fanteision addysg uwch ac awgrymiadau ar gyfer dewis y brifysgol iawn, i'r hyn i'w ddisgwyl yn ystod Diwrnodau

Agored a sut y gallwch chi gefnogi eu cyfnod pontio i fywyd y brifysgol.

Ein nod yw sicrhau eich bod yn teimlo’n wybodus, yn barod ac yn hyderus wrth gefnogi eich person ifanc wrth iddynt gamu i’r cyfnod cyffrous hwn o’u bywyd. Gobeithiwn fod y canllaw hwn yn ateb eich cwestiynau ac yn amlygu’r cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael yn PDC ar gyfer eich person ifanc.

PAM MYND I’R BRIFYSGOL?

Mae mynd i brifysgol yn darparu ystod o fanteision a phrofiadau. Nid yn unig y mae’n gyfle i’ch person ifanc ddatblygu eu gwybodaeth mewn maes y mae ganddynt ddiddordeb ynddo, ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol ac, yn ei dro, gwella eu potensial i ennill cyflog - byddant hefyd yn cael eu blas cyntaf ar annibyniaeth a rhyddid. Mae’n gyfle iddynt fagu hyder, ehangu eu gorwelion, a gwneud ffrindiau newydd am oes. Gall ennill gradd wella eu rhagolygon gyrfa ac agor y drysau i lawer mwy o gyfleoedd yn y dyfodol.

Y CYFLOG CYFARTALOG AR

GYFER GRADDEDIGION YW

£24,000, SYDD

UWCH NA PHOBL 25-30 OED NAD YDYNT YN RADDEDIGION.*

PAM PDC?

PDC yw un o brifysgolion mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol Prydain. Fe welwch fod ein traed ar y ddaear cymaint â’r lle rydym yn ei alw’n gartref. Rydym yn Brifysgol fawr, ond rydym yn ymfalchïo mewn dosbarthiadau bach a staff sy'n wirioneddol ofalu ac yn gweithio'n galed i adeiladu dyfodol gwell i'n myfyrwyr. Rydym yn credu bod yfory gwell yn bosibl os ydym yn paratoi ar ei gyfer heddiw, ac rydym yma i’ch cefnogi chi a’ch person ifanc bob cam o’r ffordd.

Dyma rai o’r pethau sy’n gwneud PDC pwy ydyn ni:

1.

Byddwch un cam ar y blaen gyda phrofiad ymarferol.

Yn PDC, mae gennym ymagwedd unigryw at addysgu trwy brofiad ymarferol a phartneriaethau ag arweinwyr diwydiant, gan roi theori ar waith.

2.

Dysgu wedi’i hail-ddychmygu.

Y ffordd orau i'n myfyrwyr fod yn barod am yrfa ar ôl graddio yw astudio gan ddefnyddio'r un cyfleusterau, meddalwedd a thechnegau y byddant yn eu defnyddio yn eu gyrfaoedd. Mae ein holl gyfleusterau wedi'u hadeiladu'n bwrpasol i safonau diwydiant. Dyna sy’n rhoi cymaint o hyder i gyflogwyr yng ngraddedigion PDC 3.

Mae llwyddiant yn ymwneud â phwy

rydyn ni'n eu hadnabod, yn ogystal â'r hyn rydych chi'n ei wybod.

Rydym yn datblygu ac yn cyflwyno ein cyrsiau drwy partneriaethau unigryw gyda chyflogwyr, gan gynrychioli arweinwyr diwydiant, y sector cyhoeddus, a chyrff cenedlaethol. Mae gradd PDC yn canolbwyntio 100% ar yr hyn sydd ei angen ar gyflogwyr yn y dyfodol, gan roi mantais gystadleuol ychwanegol i’n graddedigion.

4.

Rhwydwaith75

Graddiwch gyda gradd, pump mlynedd o brofiad gwaith ac heb unrhyw ddyled myfyriwr! Mae Rhwydwaith75 yn llwybr gwaith ac astudio rhan-amser cyfunol i ennill gradd sy'n caniatáu i fyfyrwyr Weithio, Ennill a Dysgu. Gall israddedigion sy’n rhan o Rwydwaith75 gymhwyso eu gwybodaeth academaidd i waith go iawn o fewn cwmni cynnal, gan ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol y mae diwydiant yn chwilio amdanynt.

5.

6.

Hyfforddwr Academaidd Personol (HAP) i bob myfyriwr. Neilltuir Hyfforddwr Academaidd Personol i bob myfyriwr israddedig, sy'n annibynnol ar eu cwrs, i'w helpu gyda'u hanghenion unigol. Maen nhw yno i helpu eich person ifanc i gael y gorau o astudio a bywyd yn PDC. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys lles, gyrfaoedd a chyflogaeth, entrepreneuriaeth, cymorth astudio a chlybiau a chymdeithasau.

Mae pob agwedd ar fywyd yma, ym mhob man rydych chi'n edrych. Mae PDC yn gymuned agored, amrywiol a chroesawgar o fyfyrwyr lle gwneir ffrindiau am oes. Gyda’r amrywiaeth eang o bethau i’w gwneud, eu gweld a’u profi ar draws ein lleoliadau yn Ne Cymru, mae bob amser rhywbeth newydd i’w ddarganfod. Ar ben hynny, beth bynnag yw diddordebau eich person ifanc, mae yna gymdeithas neu glwb PDC lle byddant yn cwrdd â myfyrwyr o’r un anian.

7.

Mae ein hymchwil yn newid bywydau er gwell.

Mae ein hymchwil a'n haddysgu yn canolbwyntio ar yr heriau byd-eang a fydd yn effeithio ar bob cymuned yn y dyfodol. Gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ddosbarthu fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol, bydd eich person ifanc yn cael ei addysgu gan rai o’r arweinwyr yn eu maes, gan ddarparu gwybodaeth ac ysbrydoliaeth heb ei hail.

*Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021)

Mae PDC wedi cael ei henwi'n Brifysgol Seiber y Flwyddyn am bedair blynedd yn olynol - 2019, 2020, 2021 a 2022.*

*Y Gwobrau Seiber Cenedlaethol

DEWIS Y BRIFYSGOL IAWN

PAN GERDDAIS I MEWN

I,R BRIFYSGOL, ROEDD

YN TEIMLO,N IAWN.

ROEDDWN I,N MEDDWL, IE, HWN FYDD YR UN.

DAETH POPETH AT EI

GILYDD; MAE,R DARNAU I GYD YN FFITIO.

Sam Whatley

BSc (Anrh) Seiberddiogelwch

Cymhwysol

Mae mynychu diwrnod agored prifysgol yn gyfle perffaith i gael teimlad o’r campws, y cwrs, y staff academaidd a’r awyrgylch cymdeithasol, yn ogystal â mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau a’r llety yn uniongyrchol. Mae bob amser yn ddiddorol cymharu prifysgolion fel rhiant neu ofalwr - mae'n debyg y bydd yr hyn sy'n creu argraff neu'n eich siomi yn wahanol iawn i farn eich person ifanc. Mae'n syniad da tynnu llawer o luniau i'ch atgoffa o'r pethau rydych chi wedi'u gweld wrth edrych yn ôl yn nes ymlaen.

Os na allwch ymweld â phrifysgol yn bersonol, mae prifysgolion yn aml yn cynnig teithiau campws rhithwir a blogiau fideo myfyrwyr a allai fod o gymorth. Yn PDC, mae gennym fyfyrwyr sydd wedi creu blogiau fideo gwych o ddiwrnodau agored ar draws ein campysau, ac mae gennym ni deithiau 360-gradd o bob campws ar ein gwefan.

Mae'n bwysig ymchwilio a chymharu opsiynau llety. Eto, efallai y bydd yr hyn sy’n bwysig i chi yn llai pwysig i’ch person ifanc. Mae yna deithiau rhithwir ar wefannau prifysgolion y gallwch chi edrych arnynt gyda'ch gilydd os na allwch fynychu diwrnod agored, ond rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â llety i gael syniad o addasrwydd y lle. Dylai hyn gynnwys edrych o gwmpas y ddinas er mwyn caniatáu i’ch person ifanc ddychmygu eu bod yn byw yno ac dod yn gyfarwydd â'r hyn sydd gan yr ardal leol i'w gynnig. HELPU POBL IFANC

SCANIWCH AM DEITHIAU 360-GRADD O BOB CAMPWS

BETH YW...

Mae'r dudalen hon yn esbonio rhai termau ac acronymau prifysgol a ddefnyddir drwy gydol y broses ymgeisio.

UCAS

Mae Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau (UCAS) yn gweithredu fel y gwasanaeth derbyn cenedlaethol a rennir.

Mae UCAS yn gyfrifol am brosesu pob cais israddedig i brifysgolion y DU.

UCAS EXTRA

Gwasanaeth ar gael o ddiwedd mis

Chwefror ymlaen i unrhyw ymgeiswyr sydd heb eu lleoli eisoes yn y system. Gall ymgeiswyr ychwanegu un dewis cwrs a phrifysgol at eu cais yn unig, ond mae'n rhoi cyfle iddynt wneud cais yn rhywle arall heb aros am Glirio ym mis Awst.

SGANIWCH I WYLIO

EIN CANLLAW

CLIRIO I RIENI

SGANIWCH I

GLYWED Y GWIR

AM GLIRIO

DYDDIAD CAU IONAWR UCAS

Dyddiad cau ystyriaeth gyfartal UCAS ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau

israddedig yw 29 Ionawr 2025. Gall

ymgeiswyr wneud cais ar ôl y dyddiad

hwn, ond bydd prifysgolion ond yn

ystyried eu cais os oes lleoedd gwag dal ar gael ar gyfer y cwrs a ddewiswyd.

Cysylltwch â’r Brifysgol y mae gan eich

person ifanc ddiddordeb ynddi i gael

gwybod a yw’n dal i ystyried ceisiadau ar gyfer eu cwrs dewisol.

HWB UCAS

Hwb UCAS (a elwid yn flaenorol yn UCAS Track) yw gwasanaeth ar-lein UCAS lle gall ymgeiswyr wirio cynnydd byw eu cais ac ymateb i gynigion.

CLIRIO

Clirio yw pan fydd UCAS yn rhoi cyfle i ymgeiswyr wneud cais am leoedd prifysgol sydd heb eu llenwi eto, y tu allan i'r ffenestr ymgeisio arferol. Mae ceisiadau ar gyfer Clirio yn agor ar 5 Gorffennaf. Mae'n opsiwn da os yw'ch person ifanc wedi newid ei feddwl am ei gwrs dewisol, os nad yw wedi bodloni'r gofynion mynediad yn llwyr, neu os yw wedi gwneud yn well na'r disgwyl yn ei arholiadau ac yn dymuno newid ei gwrs neu brifysgol, neu i unrhyw un a benderfynodd wneud cais i brifysgol yn hwyr yn y cylch. Ni fydd pob cwrs ar gael yn ystod Clirio a dylai ymgeiswyr wirio lleoedd gwag ar wefannau

prifysgolion i weld a yw'r cwrs y mae ganddynt ddiddordeb ynddo ar gael o hyd.

MYNEDIAD GOHIRIEDIG

Mae mynediad gohiriedig yn golygu gwneud cais am gwrs ac yna cymryd blwyddyn allan cyn ei ddechrau. Gall ymgeiswyr ddewis dyddiad cychwyn 'gohiriedig' ar gyfer eu cwrs dewisol pan fyddant yn gwneud cais, mae'n bwysig cysylltu â PDC neu wirio eu tudalennau cwrs ar ein gwefan cyn cyflwyno'r cais i sicrhau bod PDC yn gallu derbyn cais gohiriedig.

BLWYDDYN I FFWRDD

Mae llawer o bobl sy'n gohirio eu ceisiadau yn bwriadu cymryd blwyddyn i ffwrdd, sy'n rhoi cyfle iddynt deithio, ennill arian, a chael profiad gwerthfawr cyn dechrau yn y brifysgol. I eraill, efallai y bydd angen iddynt weithio, neu fod ag ganddynt ymrwymiadau eraill y flwyddyn honno.

EGLURO TERMAU YNGHYLCH CYNIGION

GWRTHOD TRWY

DDIFFYG (DBD)

Os na fydd ymgeiswyr yn ymateb i'w cynigion erbyn eu dyddiad cau, bydd unrhyw gynigion sydd ganddynt yn cael eu gwrthod yn awtomatig ar eu rhan. Bydd y dyddiad i ateb i'w cynigion i'w weld yn eu Hwb UCAS unwaith y byddant wedi cael cynigion gan eu holl ddewisiadau.

CYNNIG DIAMOD (U)

Mae hwn yn golygu nad oes gan y cynnig unrhyw amodau sy'n gysylltiedig ag ef ac mae gan yr ymgeisydd le ar y cwrs yn bendant.

CYNNIG CADARN DIAMOD (UF)

Mae'r cynnig hwn yn ddiamod ac wedi cael ei dderbyn yn gadarn gan yr ymgeisydd.

CYNNIG AMODOL (C)

Mae hwn yn golygu bod rhai amodau y mae angen eu bodloni cyn cael mynediad i'r cwrs, e.e. cyflawni graddau Safon Uwch penodol neu gwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

CYNNIG CADARN AMODOL (CF)

Mae hwn yn gynnig amodol sydd wedi ei dderbyn yn gadarn gan yr ymgeisydd. Unwaith y bydd yr amodau wedi'u bodloni bydd y cynnig hwn yn dod yn Gynnig Cadarn Diamod (UF).

ESBONIO PWYNTIAU TARIFF UCAS

Mae pwyntiau tariff UCAS yn trosi cymwysterau a graddau eich person ifanc yn werth rhifiadol.

Mae gan lawer o gymwysterau (ond nid pob un) werth tariff UCAS, a fydd yn amrywio yn dibynnu ar faint y cymhwyster, a'r radd a gyflawnwyd. Defnyddir y gwerth rhifiadol hwn gan ddarparwyr cyrsiau AU i asesu a yw'r ymgeisydd yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer cwrs penodol.

Ewch ucas.com/tariff i ddefnyddio

Cyfrifiannell Tariff UCAS – offeryn defnyddiol i'ch helpu chi a'ch person ifanc i ddarganfod gwerth eu cymwysterau.

SUT I DDEFNYDDIO'R TABL TARIFF

Dewch o hyd i enw'r cymhwyster yn y golofn ar y chwith*

Dilynwch y rhes ar draws i ddod o hyd i'r radd gyfatebol.

Dilynwch y golofn i fyny, yn y rhes uchaf gallwch chi weld faint o bwyntiau UCAS yw’r radd.

*Peidiwch â phoeni os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru. Ewch i ucas.com/tariff i weld y rhestr lawn o gymwysterau a phwyntiau tariff. Os nad yw'ch person ifanc yn siŵr pa gymhwyster y maent yn ei astudio, anogwch nhw i ofyn i'w tiwtoriaid ysgol neu goleg.

Un Safon-Uwch

Dwy Safon-Uwch

Tair Safon-Uwch

Bagloriaeth Cymru

Diploma Atodol BTEC

Tystysgrif Estynedig BTEC

Diploma 90 Credyd BTEC

Diploma BTEC

Diploma Estynedig BTEC

Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio Lefel 3

Diploma Estynedig UAL Lefel 3

Diploma Estynedig CACHE Lefel 3

Diploma Technegol CACHE Lefel 3

Diploma CACHE Lefel 3

DYDDIADAU CAU AR GYFER

CEISIADAU ISRADDEDIG UCAS

Dyma rai dyddiadau pwysig a chanllaw cam wrth gam i broses ymgeisio UCAS.

MEDI 2024 - IONAWR 2025

Ymchwiliwch a mynychu Diwrnod

Agored PDC i ddarganfod pa gwrs sydd fwyaf addas i'ch person ifanc.

Anogwch nhw i anfon eu cais at UCAS, bydd y rhan fwyaf o'r broses hon yn cael ei chwblhau yn eu hysgol neu goleg.

Diwrnodau Agored i Ddod

Dydd Sadwrn 28 Medi 2024

Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024

Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025

Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025

IONAWR 2025

PRIF DDYDDIAD CAU UCAS

Dylai ceisiadau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig fod wedi cyrraedd UCAS erbyn 18:00 (amser y DU) ar 29 Ionawr 2025.

Mae holl gyrsiau PDC yn dal ar agor ar ôl y dyddiad hwn, ond mae'n debygol y byddwn yn cau ein cyrsiau mwyaf cystadleuol ar ôl y dyddiad hwn.

IONAWR - MAI 2025

Dylai'r ymgeisydd ddechrau cael cynigion. Gweler tudalen 11 i weld yr holl ystyron cynigion. Eu cam nesaf yw penderfynu eu cynnig cadarn (dewis cyntaf). Yn ogystal, gallan nhw hefyd ddewis cynnig yswiriant (ail ddewis), rhag ofn na fyddan nhw’n cael y graddau sydd eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf.

Os nad yw'ch person ifanc yn cael unrhyw gynigion, peidiwch â phoeni. Bydd angen iddyn nhw edrych ar y gwasanaeth UCAS Extra.

CHWEFROR – GORFFENNAF 2025

BYDD UCAS EXTRA YN AGOR AR 26 CHWEFROR 2025

AC YN CAU AR 4 GORFFENNAF 2025

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn cael unrhyw gynigion o'u pum dewis UCAS, neu os ydynt yn dewis gwrthod pob cynnig, yn cael cyfle i gymryd rhan yng ngwasanaeth UCAS Extra. Bydd ymgeiswyr ond yn gallu gwneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau sydd â lleoedd o hyd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.ucas.com/extra

Nawr yw'r amser hefyd i wneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Gweler tudalen 16 am ragor o wybodaeth.

MYNEDIAD 2025 - 2026

MAWRTH - MEHEFIN 2025

Efallai bod eich person ifanc eisoes wedi mynychu un o’n Diwrnodau Agored, ond bydd Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn eu helpu i wneud PDC yn ddewis cadarn.

Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr i Ddod

Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025

Dydd Sadwrn 5 Ebrill 2025

Dydd Sadwrn 17 Mai 2025

14 AWST 2025DIWRNOD Y CANLYNIADAU

Gobeithio y bydd eich person ifanc wedi cael y graddau ar gyfer eu cwrs dewisol.

Os na wnaethant, peidiwch â phoeni, gallan nhw wneud cais drwy Glirio, sy'n paru ymgeiswyr â lleoedd gwag yn y brifysgol.

Bydd y broses glirio yn agor ar 5 Gorffennaf 2025 ac yn cau ar 20 Hydref 2025.

MEDI 2025

TYMOR YN DECHRAU

Mae eich person ifanc bellach yn rhan o deulu PDC. Llongyfarchiadau, maen nhw bellach yn fyfyriwr swyddogol!

SGANIWCH I GLYWED RHAGOR AM Y CYLCH UCAS. NEU CHWILIWCH 'GYLCH UCAS PDC’ AR YOUTUBE

DEILIAID CYNIGION

- BETH NESAF?

Mae eich person ifanc wedi derbyn cynigion gan y prifysgolion y gwnaethant gais iddynt, felly beth nesaf? Efallai y byddant yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn dibynnu ar y cwrs, felly gwnewch yn siŵr eu bod yn mynychu hyn.

Nesaf, os ydynt yn teimlo'n barod, gall eich person ifanc dderbyn y cynnig. Yn dibynnu ar faint o gynigion y maent wedi'u derbyn, gall eich person ifanc penderfynu ar ddewis cadarn, dewis yswiriant a gwrthod unrhyw gynigion eraill.

Nawr mae'n bryd gwneud cais am gyllid a llety os oes angen. Gall ddyddiadau cau ar gyfer pob un amrywio ond rydym yn argymell trefnu hyn cyn gynted â phosibl.

Efallai y cewch gyfle i ymuno â ni ar Ddiwrnodau Profiad Ymgeiswyr neu Gyfweliad a fydd, gobeithio, yn helpu'ch person ifanc i wneud penderfyniad. Darganfyddwch fwy am Ddiwrnodau Profiad Ymgeiswyr trwy fynd i: decymru.ac.uk/dpy

Yn y cyfamser, mae'n bwysig annog eich person ifanc i barhau i weithio'n galed i fodloni amodau eu cynnig, os yw'r rhain yn berthnasol.

Byddant hefyd yn derbyn gwahoddiad i ymuno â'n cymuned Unibuddy i gwrdd yn rhithwir â’r rhai a fydd yn gyd-fyfyrwyr iddynt. Mae gennym hefyd grŵp Instagram Ymgeiswyr PDC, mae croeso iddynt ymuno â’r grŵp hwn. Gallent sganio'r cod QR i ymuno â'r grŵp.

Unwaith y derbynnir cynnig, anfonir gohebiaeth e-bost at eich person ifanc sy’n rhoi manylion eu camau nesaf.

Os bodlonir yr amodau, bydd eich person ifanc yn cael gwybod trwy UCAS neu PDC yn uniongyrchol unwaith y bydd eu lle wedi'i gadarnhau.

Nawr am y rhan hwyl! Mae'n bryd i'ch person ifanc ddechrau pacio a pharatoi i ymuno â'r teulu PDC. Gallwch ddarganfod mwy am ein gwasanaethau cymorth, cyngor ac arweiniad ar y tudalennau canlynol.

ARIANNU EICH ASTUDIAETHAU

Astudio yn y Brifysgol yw un o’r buddsoddiadau mwyaf arwyddocaol y bydd person yn ei wneud erioed, felly rydym wedi esbonio'r broses cam wrth gam i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gefnogi eich person ifanc wrth iddynt edrych ar eu hopsiynau ariannu.

GWNEUD CAIS AM GYLLID

Mae’n dda cadw mewn cof nad oes angen i’ch person ifanc aros i dderbyn cynigion gan brifysgolion o’u dewis cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Gellir gwneud hyn mor gynnar â mis Chwefror, ac mae’n syniad da ei drefnu cyn gynted â phosibl.

Er mwyn pennu cymhwysedd ar gyfer y Benthyciad Cynhaliaeth, fel rhiant neu warcheidwad, bydd angen i chi ddarparu manylion ariannol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, gan gynnwys eich Rhif Yswiriant Gwladol a gwybodaeth am incwm yr aelwyd. Gallwch wneud hyn trwy greu cyfrif, trwy www.gov.uk/studentfinance os ydych yn byw yn Lloegr, neu www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk os ydych yn byw yng Nghymru.

EFALLAI Y BYDD Y SYNIAD O’CH PERSON IFANC YN CRONNI LLOG AR EU BENTHYCIADAU YN GWNEUD I CHI FOD EISIAU YMYRRYD A’U HELPU.

MAE’N WERTH COFIO BOD UNRHYW DDYLED SY’N DAL I FOD YN DDYLEDUS AR ÔL 30 MLYNEDD (40 MLYNEDD OS YDYCH YN BYW YN LLOEGR) YN CAEL EI DILEU. FELLY, NID YW BOB AMSER YN WERTH HELPU EICH PERSON IFANC AD-DALU EI FENTHYCIAD YN GYNNAR.*

*Gwiriwch gov.uk a chwiliwch 'Repaying your student loan' am y wybodaeth ddiweddaraf.

BENTHYCIADAU

Mae dau fath o fenthyciad ar gael i fyfyrwyr.

Yn nodweddiadol, bydd myfyriwr llawn amser y DU yn talu hyd at £9,250 y flwyddyn mewn ffioedd dysgu, a bydd myfyrwyr rhan-amser y DU yn talu hyd at £2,625* y flwyddyn. Nid oes angen talu’r rhain ymlaen llaw a gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu, a all dalu am eu ffioedd dysgu i gyd neu ran ohonynt.

Mae Benthyciad Cynhaliaeth ar gael i helpu gyda chostau byw wrth astudio - i dalu am gostau fel llety a bwyd. Ar gyfer y benthyciad hwn, bydd y swm y bydd eich person ifanc yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar ystod o ffactorau, megis ble bydd yn byw yn ystod y tymor ac incwm eich aelwyd.

Bydd pob myfyriwr sy'n hanu o Gymru yn derbyn isafswm o £1,000 mewn grantiau nad oes rhaid eu had-dalu.* Gall myfyrwyr sy’n hanu o Gymru hefyd fod yn gymwys i gael cymysgedd o Fenthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw.

Cofiwch, nid yw myfyrwyr yn dechrau talu eu benthyciadau yn ôl tan ar ôl graddio, a dim ond pan fydd y myfyriwr graddedig yn ennill dros gyflog penodol.

*Gwiriwch gyda'ch cwmni benthyciadau myfyrwyr perthnasol am y costau a'r ffigurau diweddaraf.

YSGOLORIAETHAU A

BWRSARIAETHAU

Cofiwch, efallai y bydd eich person ifanc hefyd yn gymwys i dderbyn ysgoloriaethau neu fwrsariaethau yn PDC i helpu tuag at eu ffioedd dysgu, costau byw, grantiau a benthyciadau.

GWELER EIN HOLL

FWRSARIAETHAU AC

YSGOLORIAETHAU PDC YMA:

DECYMRU.AC.UK/ARIAN

DEALL TERMAU ARIANNOL

BENTHYCIAD

Gall unrhyw beth y cyfeirir ato fel benthyciad fod yn ad-daladwy ar ryw adeg.

CYNHALIAETH

Cyllid i gynorthwyo gyda chostau byw.

GRANT

Nid oes angen ei ad-dalu.

CREDYDAU CWRS

Unedau sy'n cynrychioli faint o waith academaidd a gwblhawyd mewn cwrs penodol. Mae cwrs israddedig llawn amser fel arfer yn 120 credyd y flwyddyn.

PRAWF MODD

Bydd y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar feini prawf ariannol, er enghraifft incwm aelwyd.

DOLENNI A CHYSYLLTIADAU

DEFNYDDIOL

Cyllid Myfyrwyr Cymru: cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Cyllid Myfyrwyr Lloegr: gov.uk/student-finance

Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr: money@southwales.ac.uk Ffioedd a Chyllid PDC: decymru.ac.uk/arian

SGANIWCH YMA I GWRDD Â THÎM

CYNGOR ARIANNOL I FYFYRWYR PDC.

DIWRNODAU AGORED A DIWRNODAU PROFIAD YMGEISWYR

Ymweld â phrifysgolion yn bersonol yw'r ffordd orau o archwilio'r ystod o gyfleoedd y mae'r brifysgol yn eu darparu ar gyfer twf academaidd a phersonol. Yn PDC mae ein Diwrnodau Agored a'n Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr wedi'u teilwra i roi trosolwg cynhwysfawr o'r hyn y gall PDC ei gynnig i'ch person ifanc.

DIWRNODAU AGORED

Mae rhyngweithio â staff academaidd a myfyrwyr presennol yn rhan allweddol o'r profiad. Mae'r sgyrsiau hyn yn cynnig mewnwelediadau i'r cyrsiau, y dulliau addysgu, a'r profiad cyffredinol i fyfyrwyr yn PDC.

Gall eich person ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'u cwrs o ddiddordeb, sy'n ffordd wych iddynt fesur eu brwdfrydedd dros y pwnc.

Ymunwch ag un o'n teithiau llety; maent yn rhoi cyfle gwych i weld ansawdd ein cyfleusterau llety drosoch eich hunain.

Yn ein Ffair Wybodaeth gallwch gwrdd â'n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, Tîm Gyrfaoedd, Tîm Lles a Gwasanaethau Anabledd a mwy.

Gan gydnabod pwysigrwydd hygyrchedd, mae PDC yn cynnig Bwrsariaeth Teithio i dalu costau rhesymol i deuluoedd sy'n ymweld.

Mae'r fwrsariaeth hon ar gael ar gyfer mynychu Diwrnodau Agored, Cyfweliadau, neu Ddiwrnodau Profiad Ymgeiswyr, gan sicrhau bod pob darpar fyfyriwr yn cael cyfle i brofi'r hyn sydd gan PDC i'w gynnig, beth bynnag fo'u sefyllfa ariannol.

Mae Diwrnodau Agored fel arfer yn digwydd cyn i'ch person ifanc wneud cais i'r brifysgol.

GALLWCH WELD EIN HOLL

DDIGWYDDIADAU A GWELD A YDYCH YN GYMWYS AR GYFER EIN

BWRSARIAETH TEITHIO: DECYMRU.AC.UK/DIWRNODAU-AGORED

DIWRNODAU PROFIAD YMGEISWYR

Mae diwrnodau ymgeiswyr yn gyfle ychwanegol i ymweld â’r brifysgol. Gallant hefyd gael eu galw'n Diwrnodau Ymweld i ymgeiswyr.

Yn PDC, mae ein Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr yn llawn dop gyda rhaglen gyffrous o weithgareddau pwnc-benodol a sesiynau blasu, yn ogystal â chyfleoedd i sgwrsio â myfyrwyr presennol, cwrdd ag academyddion a fydd yn eich addysgu yn y dyfodol ac archwilio’r cwrs yn fanylach.

Bydd eich person ifanc yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau blasu ac yn darganfod mwy am ein cyfleusterau addysgu a'r ystod o gymorth sydd ar gael iddynt yn PDC.

Cynhelir Diwrnodau Profiad Ymgeiswyr ar ôl i'ch person ifanc wneud cais i PDC. Byddwn yn anfon e-bost atynt gyda mwy o fanylion unwaith y byddant wedi gwneud cais.

SYMUD I MEWN

Unwaith y bydd eich person ifanc wedi derbyn ei gynnig, mae’n bryd i’r hwyl ddechrau! Mae cymaint i edrych ymlaen ato, gydag wythnos groeso wedi’i threfnu bob blwyddyn i helpu pob myfyriwr i gwrdd â’u cymheiriaid ac ymgartrefu.

Mae symud oddi cartref yn gyfle i’ch person ifanc gwrdd â phobl newydd a darganfod sut beth yw byw’n annibynnol. P'un a ydynt yn gymdeithasgar neu'n fwy ar yr ochr swil, mae'n brofiad aeddfedu a fydd yn eu gosod ar eu llwybr i fod yn oedolion.

Wrth helpu eich person ifanc i symud i mewn, rydym yn argymell eu hannog i adael eu drws ar agor er mwyn caniatáu i’w cymdogion newydd alw heibio a chael sgwrs. Mae bob amser yn syniad da mynd â chacennau neu eitemau bwyd neu ddiod eraill gyda nhw ar y diwrnod symud i mewn, a fydd yn cynorthwyo’r sgyrsiau hyn. Fe’u cynghorir i ddefnyddio’r mannau cymunedol fel y gegin a/neu’r lolfa cymaint â phosibl, fel nad ydynt yn teimlo’n unig. Mae hyn yn caniatáu iddynt sgwrsio'n hawdd â'u cymheiriaid a thynnu eu meddwl oddi ar beidio â bod gartref gyda'u teulu.

GWASANAETHAU PDC AR Y CAMPWS

UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL DE CYMRU (UMPDC)

Mae Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn chwarae rhan ganolog ym mywyd myfyrwyr. Fel endid annibynnol sydd â chysylltiad agos â’r Brifysgol, mae’n gweithredu fel corff cynrychioliadol i fyfyrwyr, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn strwythur y Brifysgol. Mae UM yn gweithredu lleoliadau amrywiol yn benodol ar gyfer myfyrwyr PDC, gan gynnwys siopau, bariau, caffis, a lleoliadau adloniant gyda’r nos. Mae'n gymuned gymdeithasol berffaith i gymdeithasu a chwrdd â ffrindiau newydd.

Mae UMPDC yn cynnig ystod eang o gyfleoedd a gwasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys hwyluso timau chwaraeon, clybiau, a chymdeithasau, darparu mannau cymdeithasol a bwyta, a chynnig cyfleoedd gwaith. Anogir cymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr yn fawr, boed hynny fel aelod o Gyngor y Myfyrwyr, Cynrychiolydd Academaidd, aelod o dîm chwaraeon, neu wirfoddolwr.

Mae holl dimau a chlybiau chwaraeon PDC yn cael eu rheoli gan UM, gyda thimau cystadleuol yn cymryd rhan yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae aelodaeth yn y timau hyn yn cynnwys nifer o fanteision megis cit, hyfforddi, trafnidiaeth ac yswiriant.

Mae myfyrwyr yn dod yn aelodau o UM yn awtomatig wrth gofrestru ond gallant adael os dymunir. Mae strwythur yr Undeb yn bennaf yn cynnwys myfyrwyr etholedig, gan gynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer cymryd rhan ac arwain, sy'n datblygu hyder mewnol myfyrwyr ac ymdeimlad o gyfrifoldeb.

EIN GWASANAETHAU CYMORTH

Ardal Gynghori

Mae ein Hardal Gynghori yn siop un stop ar gyfer pob ymholiad gan fyfyrwyr. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor cyfrinachol ar unrhyw beth a allai effeithio ar allu eich person ifanc i astudio.

DARGANFYDDWCH

FWY AM YR ARDAL

GYNGHORI YMA

Llety

Wedi’u lleoli yn y Caban Llety ar ein campws yn Nhrefforest, mae ein gwasanaethau llety ar gael i gynnig cyngor ar ymholiadau llety ar draws pob campws, gan gynnwys darparwyr y sector preifat a darparwyr preifat trydydd parti.

Gwasanaethau Anabledd

Mae'r Tîm Gwasanaethau Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gymorth sy'n ymwneud ag anabledd i holl fyfyrwyr PDC.

Gellir cysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Anabledd a Dyslecsia a’n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr cyn i fyfyrwyr gyrraedd i helpu gydag unrhyw rai o’ch cwestiynau/ymholiadau am y cymorth sydd ar gael yn ein Prifysgol.

Os oes gan eich person ifanc anabledd, bydd angen iddynt lenwi Ffurflen Cyllid Myfyrwyr am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Os byddant yn astudio yn PDC, gallant gysylltu â’n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr i drefnu apwyntiad i’w helpu i gwblhau’r broses ymgeisio hon: money@southwales.ac.uk

Gyrfaoedd

Mae Gyrfaoedd PDC yn darparu cymorth gyda chyngor gyrfaoedd, cyflogaeth, gweithio’n llawrydd, lleoliadau gwaith a llawer mwy. Gall graddedigion PDC dderbyn cyngor gyrfaoedd am oes, sy’n ddefnyddiol iawn wrth wneud cais am swyddi yn y dyfodol.

TG a’r Llyfrgell

Mae cymorth TG ar gael ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, ac mae ein gwasanaethau llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau gwybodaeth am y llyfrgell o ansawdd uchel i fyfyrwyr.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chwnsela

Mae’r gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chwnsela yn cynnwys dau dîm sydd ar gael i gefnogi eich person ifanc drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol.

Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr

Mae’r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cymorth a chyngor i helpu myfyrwyr i reoli eu harian, ynghyd â gwybodaeth am gyllid, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Cysylltwch â’r tîm: money@southwales.ac.uk

Y Tîm Sgiliau Astudio

O gyfeirnodi i ysgrifennu traethodau academaidd, mae ein tîm o arbenigwyr wrth law i gefnogi eich person ifanc gyda’u hastudiaethau yn PDC.

GŴYLGROESO

Mae wythnosau cyntaf y brifysgol yn gyfnod cyffrous; mae'n gyfle i ennyn diddordebau newydd a gwneud atgofion bythgofiadwy ar hyd y ffordd. Mae GŵylGroeso yn gyfle perffaith i fyfyrwyr newydd wneud ffrindiau mewn amgylchedd cefnogol.

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ar draws ein campysau Trefforest, Casnewydd a Chaerdydd. Mae gan eich person ifanc ddigon i edrych ymlaen ato, o Barth Gemau, cerddoriaeth fyw, marchnad masnachwyr lleol, bwyd stryd, stondinau gwybodaeth a mwy.

Ewch i'n gwefan a chwilio 'Digwyddiadau Croeso' i weld yr holl weithgareddau sydd ar gael. Bydd eich person ifanc hefyd yn gallu archebu eu tocynnau ar gyfer y digwyddiad drwy ein tudalen Digwyddiad Croeso. Byddwch yn gyflym gan mai dim ond nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael.

GALLWCH

DDARGANFOD

MWY AM YR ŴYL

GROESO YMA.

LLETY

Mae ble maen nhw'n byw mor bwysig â'r hyn maen nhw'n ei astudio, felly rydym wedi amlinellu'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael.

NEUADDAU SY’N EIDDO I’R BRIFYSGOL

Os bydd eich person ifanc yn penderfynu byw ym Mhontypridd, gallant ddewis byw yn ein neuaddau preswyl ar y campws. Mae’r neuaddau hyn yn cael eu rheoli yn uniongyrchol gan PDC. Mae byw mewn neuadd yn ffordd wych o wneud ffrindiau a theimlo’n rhan o deulu PDC, yn enwedig yn eu blwyddyn gyntaf. Mae llawer yn digwydd, ac os ydynt yn astudio ar ein campws ym Mhontypridd, mae eu darlithoedd boreol yn daith cerdded fer o’u llety.

NEUADDAU PREIFAT

Gallant fyw mewn neuaddau hefyd os ydynt am fyw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd. Yr unig wahaniaeth yw nad PDC sy’n berchen ar y neuaddau yno. Yn hytrach, mae gennym bartneriaethau gyda darparwyr preifat sydd wedi’u dewis yn ofalus. Mae ganddyn nhw’n union yr un naws gynnes, groesawgar. Byddwch yn cwrdd â llwyth o fyfyrwyr PDC, yn ogystal â myfyrwyr o brifysgolion a cholegau eraill.

TAI PREIFAT

Dewis arall yw rhentu tŷ neu fflat preifat gyda ffrindiau. Eu gofod eu hunain fydd hwn a gallant ddewis eu cyd-letywyr. Law yn llawn â hyn, wrth gwrs, bydd yr holl weinyddu sydd ynghlwm wrth rentu tŷ, ac mae’n debygol y bydd yn rhaid i iddynt ymrwymo am flwyddyn gyfan. Mae’r myfyrwyr sy’n rhentu tai preifat yn dueddol o wneud hynny o’u hail flwyddyn ymlaen, yn hytrach na phan fyddant yn cyrraedd gyntaf.

BYWYD PRESWYLWYR

MAE BYWYD PRESWYLWYR YN

RHAGLEN UNIGRYW SYDD WEDI'I

CHYNLLUNIO I GEFNOGI

MYFYRWYR MEWN NEUADDAU

TRWY GREU CYFLEOEDD I

GWRDD AG ERAILL A DYSGU

SGILIAU NEWYDD AR GARREG

EICH DRWS. BYDDANT YN CAEL

MYNEDIAD I'R HWB – EU HARDAL

GYMDEITHASOL DDYNODEDIG, LLE GALLANT YMLACIO A CHYMDEITHASU.

YN OGYSTAL, MAE LLWYTH YN

DIGWYDD – O DDOSBARTHIADAU

CELF, DOSBARTHIADAU COGINIO, CWRDD Â CHŴN THERAPI I

WEITHDAI BYW'N IACH.

ydyn nhw'n lleol i'r rhanbarth, yna mae byw gartref bob amser yn opsiwn!

PARATOWCH I FYND!

Rydym wedi llunio rhestr wirio fach o bethau gwerthfawr i’w cofio ar gyfer wythnosau cyntaf eich person ifanc yn PDC.

RHESTR WIRIO!

Rhestr Wirio Pacio

Byddwch yn gallu casglu llawer o bethau ar ôl cyrraedd, ond dyma ambell syniad i’ch rhoi chi ar ben ffordd:

AR GYFER EICH YSTAFELL WELY

Dillad

Dillad gwely

Gliniadur

Hangyrs

Bocsys storio

Argraffydd

Ceblau ymestyn

Seinyddion

AR GYFER EICH YSTAFELL YMOLCHI

Papur tŷ bach

Nwyddau ymolchi

Cynnyrch glanhau

Tywelion a mat bath

Basgedi storio

AR GYFER Y GEGIN

Llestri a chyllyll a ffyrc

Sosbenni

Cynnyrch glanhau

Hanfodion bwyd fel pasta, nwdls sych, ffa, tomatos tun a pherlysiau sych

NI FYDD ANGEN I CHI DDOD Â...

Microdon, tegell na thostiwr

Canhwyllau – defnyddiwch oleuadau LED neu oleuadau ‘tylwyth teg’ yn lle hynny

Anifeiliaid anwes! (Ymddiheuriadau!)

PETHAU ERAILL

Sicrhewch fod gennych ddigon o arian i’ch cynnal tan i’ch benthyciad myfyriwr gyrraedd

Dewch â rhywbeth i’w fwyta ar y noson gyntaf (neu gael tecawê)

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o fwyd ffres i bara’r dyddiau cyntaf

Dylech gael cyflenwad mis o leiaf o unrhyw feddyginiaeth a ragnodwyd i chi

Pecyn cymorth cyntaf sylfaenol

Yn aml gallwch gael gwerslyfrau eich cwrs yn ail law

Unrhyw ddeunyddiau papur ac ysgrifennu y gallai fod ei angen arnoch Gemau bwrdd neu gonsol gemio ar gyfer nosweithiau gartref gyda’ch cydletywyr

Lluniau i wneud i’ch ystafell newydd deimlo’n gartrefol

EIN LLEOLIAD

Mae'r lleoliad y mae'ch person ifanc yn dewis astudio a byw ynddo yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran yr hyn y mae'n ei brofi yn y Brifysgol. Yn PDC, mae gennym dri champws yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Mae’r rhain yn galluogi ein myfyrwyr i brofi’r amrywiaeth sydd gan Dde Cymru i’w gynnig – bwrlwm y dinasoedd, harddwch yr arfordir, a llonyddwch y cefn gwlad. Mae gennym bum campws ar draws tri lleoliad, ond un Brifysgol ydyn ni. Mae pob campws yn agored i bob myfyriwr, ac mae'n gyflym ac yn hawdd cyrraedd un o'r llall.

CAERDYDD

Mae Caerdydd yn lle gwych i astudio, ac mae’r ddinas yn estyniad o’n campws, gan gynnig ysbrydoliaeth a phrofiadau a fydd yn cyfoethogi bywyd prifysgol ein myfyrwyr. Mae’n brifddinas fodern, amlddiwylliannol sy’n cynnig ansawdd bywyd gwych ac mae llawer o fyfyrwyr PDC yn dewis byw yng Nghaerdydd, hyd yn oed os ydynt yn astudio ar ein campysau ym Mhontypridd neu yng Nghasnewydd. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant, mae'n ddinas myfyrwyr boblogaidd sy'n gwybod sut i fwynhau ei hun.

Mae yna nifer o neuaddau myfyrwyr yng nghanol y ddinas, yn ogystal â dewis enfawr o lety’r sector rhentu preifat. Caerdydd yw prifddinas fwyaf fforddiadwy’r DU hefyd, felly mae’n berffaith i fyfyrwyr ar gyllideb.* Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod. O siopa a chwaraeon byw i gerddoriaeth, y celfyddydau a hanes, mae rhywbeth at ddant pawb.

*Mynegai Byw Myfyrwyr Natwest 2023

CASNEWYDD

Mae Casnewydd yn ddinas annibynnol, amlddiwylliannol sy’n llawn syniadau a chyfleoedd. Mae ein campws modern ar lan yr afon ac mae’n gartref i gymuned ddysgu sy’n ymroddedig i wella bywydau pobl.

Os bydd eich person ifanc yn penderfynu byw yng Nghasnewydd wrth astudio yn PDC, ni fyddant byth yn brin o ffyrdd o dreulio eu hamser. Mae’n ddinas gryno, groesawgar i fyfyrwyr sy’n llawn busnesau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys byd coginiol annibynnol – o boptai a chaffis artisan i fragdy sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae yna hefyd sîn gelfyddydol ffyniannus, lle gall myfyrwyr ymlacio gyda ffrindiau dros ddiod a cherddoriaeth fyw.

PONTYPRIDD

Mae Prifysgol De Cymru ym

Mhontypridd wedi’i hamgylchynu gan fryniau gwyrdd a mynediad hawdd at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog syfrdanol. Yma, mae lle i ganolbwyntio a gorwelion i'w harchwilio. Mae cymuned amrywiol a chyfeillgar wrth graidd ein Campws

Pontypridd, gyda’r dysgu wedi’i wasgaru dros dri safle: Trefforest, Glyn-taf a Pharc Chwaraeon PDC.

Pontypridd yw'r lle delfrydol i deimlo'n gysylltiedig â chymuned a natur; mae’n dref farchnad wirioneddol wedi’i hamgylchynu gan gefn gwlad. Gall eich person ifanc roi cynnig ar heicio, beicio, dringo, nofio yn yr awyr agored, neu chwaraeon tîm yn ein Parc Chwaraeon anhygoel. Hefyd mae llawer o dafarndai cartrefol sydd wedi ennill gwobrau yn ogystal â chaffis, sinemâu a chwaraeon byw sy'n berffaith ar gyfer cymdeithasu â ffrindiau.

MAE EIN CAMPYSAU WEDI'U CYSYLLTU'N DDA.

O leoliad canolog Pontypridd, mae'n hawdd mwynhau popeth sydd gan Dde Cymru i'w gynnig – bywyd a diwylliant y ddinas, traethau trawiadol a chefn gwlad syfrdanol, gyda gorsaf drenau wrth ymyl y campws, lle mae'n cymryd dim ond 20 munud i gyrraedd Caerdydd. Mae gorsaf Casnewydd dafliad carreg o'r campws hefyd ac mae ar brif linell Llundain rhwng Caerdydd a Bryste, fel y gall ein myfyrwyr brofi bydoedd adloniant a bywyd nos mewn dim o dro.

AWGRYMIADAU I WARCHEIDWAID

Annog cynllunio

Dyma ychydig o bethau i feddwl amdanynt:

• Pa bwnc sydd ganddyn nhw ddiddordeb ynddo? Bydd hyn yn eu helpu i gyfyngu ar eu dewis o gwrs.

• Ble maen nhw eisiau astudio? A oes ganddynt sefydliad penodol mewn golwg, neu a ydynt yn dal i ddatblygu rhestr fer?

• Ydyn nhw'n chwilio am rywbeth agos i'w cartref neu'n hapus i archwilio ymhellach i ffwrdd? Cofiwch ystyried cost llety a theithio wrth lunio'r rhestr fer.

• Ystyriwch pa raddau realistig y gallant ddisgwyl eu cael. Anogwch nhw i edrych ar yr holl opsiynau, o sefydliadau i gyrsiau, ac i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud i gael lle ar y cwrs o’u dewis.

• Mae’n allweddol nodi y byddant yn cael cymorth ac arweiniad gan eu hysgol neu goleg.

Cefnogwch eich person ifanc

Nid oes angen dweud hyn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y pwysau y gallent fod yn eu hwynebu i gwblhau gwaith cwrs neu’r pryder a allai fod ganddynt am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd gyda’u hastudiaethau erbyn tymor yr hydref. Byddwch yno iddyn nhw, gwrandewch ar bethau maen nhw'n eu dweud wrthych chi, a cheisiwch beidio ag ymyrryd gormod.

Arian sy'n cyfrif

Mae sefyllfa pawb yn unigryw, felly mae’n bwysig deall ystyriaethau ariannol o ran mynd i'r brifysgol, a’r hyn y gall fod angen i chi wneud cais amdano neu beidio. Bydd yn helpu i leihau straen yn y tymor hir. Chwiliwch ar-lein am wybodaeth am gyllid myfyrwyr a gwnewch hynny cyn gynted â phosibl - gall gymryd hyd at ddau fis i'w drefnu.

Ymchwiliwch i ysgoloriaethau, bwrsariaethau, grantiau a benthyciadau fel eich bod yn deall yr holl gymorth ariannol sydd ar gael a'r gwahanol gynigion, yn ogystal â'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais.

Cofiwch, dim ond pan fydd eich person ifanc wedi graddio o'r brifysgol ac mewn cyflogaeth, gan ennill mwy na'r swm trothwy y byddant yn dechrau ad-dalu’r benthyciad. Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar wefan gov.uk ac yn chwilio ‘repaying your student loan’ am y wybodaeth ddiweddaraf. Bydd gan dudalennau 18 a 19 fwy o fanylion am gyllid myfyrwyr.

SGANIWCH YMA I

WELD EIN LLYFRYN

CYLLID I FYFYRWYR

CYMRU

Arfer yw hanner y gwaith

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i’ch person ifanc ymarfer coginio prydau iach ac ymarfer golchi dillad drwy ddefnyddio peiriant golchi dillad. Maent yn ymddangos fel pethau syml ond bydd hyn yn eu helpu i ddod i arfer â byw'n annibynnol.

Byddwch yno ar y diwrnod MAWR…

Mae diwrnod canlyniadau yn gyfnod pryderus i bawb sy’n rhan ohono, felly cynigiwch y gefnogaeth sydd ei hangen – beth bynnag yw’r newyddion, y peth allweddol yw iddynt gysylltu â’r brifysgol sy'n ddewis cadarn iddynt, i weld pa opsiynau sydd ar gael.

YR HYN SYDD GAN EIN

RHIENI PDC I’W DDWEUD

MAE MYND I,R BRIFYSGOL WEDI

GWNEUD FY MHLENTYN YN FWY

HYDERUS A HUNANGYNHALIOL.

MAE HI'N GALLU GWNEUD EI

PHENDERFYNIADAU EI HUN A RHEOLI EI BLAENORIAETHAU.

Rhiant PDC

MAE FY MERCH YN PROFI

MAE,R PENDERFYNIAD I FYND

I,R BRIFYSGOL YN DDEWIS

UNIGOL I BOB PLENTYN A

THEULU, MAE,N CYNNIG

CYMAINT O GYFLEOEDD NA

FYDDAI AR GAEL FEL ARALL. “ ”

Rhiant PDC

DIWYLLIANNAU GWAHANOL OHERWYDD

AMRYWIAETH Y MYFYRWYR AR EI CHWRS

OND HEFYD GYDA PHWY MAE,N BYW. MAE

HI,N GWELD AC YN DEALL PETHAU O

SAFBWYNTIAU POBL ERAILL O,R BYD, MAE

HI,N DATBLYGU EMPATHI A MEWNWELEDIAD DYFNACH, MAE,N

WIRIONEDDOL HYFRYD GWELD HYNNY.

Rhiant PDC

SGANIWCH YMA I DDARGANFOD SUT MAE

MYFYRWYR WEDI ELWA ERS YMUNO Â PDC

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD A CHEWCH WYBOD

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD Â PDC

CYSYLLTIADAU DEFNYDDIOL

YMHOLIADAU CAIS PDC

Myfyrwyr y DU: admissions@southwales.ac.uk

Myfyrwyr Rhyngwladol a'r UE: international.admissions@southwales.ac.uk

YMHOLIADAU CWRS PDC

Myfyrwyr y DU Ffoniwch: 03455 76 77 78 | E-bostiwch: enquiries@southwales.ac.uk

Myfyrwyr Rhyngwladol a'r UE Ffoniwch: 01443 654 450 | E-bostiwch: uswglobal@southwales.ac.uk

MEWNFUDO A CHYNGOR RHYNGWLADOL

Ffoniwch: 01443 482 083 | E-bostiwch: international.advice@southwales.ac.uk

Llinell Gymorth i Rieni

Cysylltwch â'n llinell gymorth benodol i rieni ar 0345 576 0996 am unrhyw ymholiadau neu gefnogaeth. Mae ein tîm yma i’ch cynorthwyo gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych am daith eich person ifanc yn y brifysgol.

UniBuddy

Hoffech ddarganfod mwy am fodiwl penodol, sut beth yw ein cyfleusterau neu fywyd myfyrwyr yn PDC?

Cysylltwch â'n llysgenhadon cyfeillgar a sgwrsiwch â staff academaidd a all ateb eich holl gwestiynau llosg. southwales.ac.uk/cy/siarad-a-ni/

CYSYLLTWCH Â NI AR-LEIN

Dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf, diweddariadau a chipolwg ar fywyd myfyrwyr yn PDC. Ymunwch â'n cymuned:

Am wybodaeth fanylach ynglŷn â chyrsiau, derbyniadau, a bywyd myfyrwyr, ewch i’n gwefan: www.decymru.ac.uk

Dilynwch ni ar gyfryngau

cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am PDC. #TeuluPDC

Ewch i: www.decymru.ac.uk @de_cymru

Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei argraffu, ond gall newid. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ffoniwch neu edrychwch ar ein gwefan: www.decymru.ac.uk

Fel rhan o’i hymrwymiad at yr iaith Gymraeg, mae’r Brifysgol yn darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. I wybod mwy, ewch i: www.decymru.ac.uk neu e-bostiwch: cymraeg@decymru.ac.uk

Cynhyrchwyd gan adran Myfyrwyr y Dyfodol Prifysgol De Cymru | Dylunio: Argraffu a Dylunio PDC Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.

Llundain
Caeredin
Belfast
Caerdydd

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.