![]()
Mae tîm o arbenigwyr arobryn Prifysgol De Cymru yn gweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU yn cyflwyno gweithdai rhyngweithiol sydd wedi'u cynllunio i hysbysu myfyrwyr am addysg uwch, ac yn eu cefnogi gyda throsglwyddo i'r brifysgol.
Mae ein sesiynau ymwybyddiaeth addysg uwch:
Gall ein rhaglen o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau gefnogi eich ysgol neu goleg i gyflwyno Meincnodau Gatsby. I gael rhagor o wybodaeth am wyth Meincnod Gatsby ar gyngor gyrfa da, cliciwch yma.
Mae’r sesiwn hon yn ateb tri chwestiwn sylfaenol: A yw prifysgol yn werth chweil? A yw'n gyraeddadwy? A yw'n fforddiadwy?
Mae'r sesiwn hon hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol ddulliau o ymchwilio a darganfod y brifysgol a'r cwrs cywir.
O gofrestru a dewis cwrs, hyd at ddiwrnod canlyniadau a chlirio, mae'r sesiwn hon yn arwain myfyrwyr drwy'r broses UCAS lawn ac yn amlygu sut y gall myfyrwyr wneud y gorau o'u cais.
Bydd y sesiwn hon yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn y mae prifysgolion yn chwilio amdano, sut i gyflwyno eu hunain yn y golau gorau a sut i ddod o hyd i'r cymhelliant i 'gyflawni'.
Yn ystod y gweithdy hwn, bydd ein tîm yn arwain eich myfyrwyr trwy broses ymgeisio ar-lein UCAS.
Mae dyfodol cyflogaeth yn newid. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cipolwg ar sut mae byd gwaith yn esblygu, a sut y bydd addysg uwch yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi’r dyfodol.
Creu argraff mewn Cyfweliadau
TMae’r sesiwn hon yn amlygu’r math a’r swm o gymorth ariannol sydd ar gael yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw bryderon ariannol a allai fod gan fyfyrwyr. Trwy enghreifftiau o fywyd go iawn, nod y sesiwn hon yw paratoi myfyrwyr i greu argraff yn eu prifysgol a chyfweliadau swyddi.
Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu rhai o'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer astudio lefel 3 a thu hwnt. Bydd myfyrwyr yn ystyried ystod eang o sgiliau astudio, gan gynnwys darllen ac ysgrifennu effeithiol, technegau adolygu, cyfeirnodi, llên-ladrad a rheoli amser.
Mae’r gweithdy hwn yn arfogi dysgwyr â strategaethau i sicrhau lles cadarnhaol gyda ffocws ar sut i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd astudio.
Gyda dros 60 o gyrsiau wedi’u rhyddfreinio i’n colegau partner lleol ledled De Cymru, gallwn gynghori myfyrwyr ar fanteision astudio cymhwyster PDC yn eu coleg AB lleol.
Gydag amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddewis ohonynt ar draws pob un o’n Cyfadrannau, bydd ein digwyddiadau a gweithgareddau pwnc-benodol yn rhoi’r cyfle i’ch myfyrwyr gael cipolwg go iawn ar astudio pwnc penodol yn y brifysgol. Rydym yn cynnig sesiynau yn y meysydd pwnc canlynol:
Celf a Dylunio Bioleg a Fforensig Busnes Cemeg Ceiropracteg Gofal Plant, Addysg ac Addysgu Troseddeg Technoleg Dylunio Drama Peirianneg Saesneg Ffilm a'r Cyfryngau Gwyddor yr Amgylchedd ac Astudiaethau Natur Iechyd a Gofal Cymdeithasol
TGCh Y Gyfraith Cerddoriaeth Nyrsio a Bydwreigiaeth Ffotograffiaeth Seicoleg Seicotherapi a Chwnsela Gwasanaethau Cyhoeddus a Phlismona Cymdeithaseg
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi grwpiau a dangynrychiolir o unrhyw oedran, cefndir neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio gyda chefnogaeth.
O fewn Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU, mae tîm o staff sy'n cefnogi ac yn cyflwyno ystod o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch ar hyn o bryd.
Mae hyn yn cynnwys:
Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd
Plant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd
Myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Myfyrwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Oedolion 21+
Myfyrwyr sydd naill ai mewn gofal ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod mewn gofal ar ryw adeg
Myfyrwyr o ardaloedd cod post difreintiedig wedi'u nodi trwy systemau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi'ch myfyrwyr gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau. Ewch i decymru.ac.uk/ysgolionacholegau i lawrlwytho deunyddiau i hyrwyddo ysgoloriaethau a bwrsariaethau i'ch myfyrwyr.
Drwy gydol y flwyddyn, mae'r Tîm Recriwtio Myfyrwyr yn gweithio gyda dros 2,000 o athrawon a chynghorwyr i sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am addysg uwch, gan gynnwys cynnal digwyddiad blynyddol Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr a'u cefnogi yn eu rolau addysgu a chynghori o ddydd i ddydd.
Os oes gennych gais am weithgaredd penodol neu os hoffech gefnogaeth uniongyrchol i siapio eich llwybrau myfyrwyr i raglenni addysg uwch, anfonwch e-bost atom. Os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein cronfa ddata cysylltiadau allweddol, llenwch y ffurflen hon.
Sylwch, mae pob un o'n sesiynau DPP wedi'u haddasu i'w cyflwyno ar-lein. Rydym hefyd yn gallu darparu DPP Athrawon a Chynghorwyr yn bersonol ar un o'n campysau neu yn eich ysgol/coleg.
I gael rhagor o wybodaeth am ein sesiynau a gweithgareddau DPP athrawon, ewch i'n gwefan.
E-bostiwch y Tîm Recriwtio Myfyrwyr i archebu sesiwn DPP.
Rydym yn cynnal rhaglen gyffrous o ddiwrnodau agored a digwyddiadau ar-lein trwy gydol y flwyddyn, fel y gall eich myfyrwyr ddarganfod mwy am PDC.
Bydd eich myfyrwyr yn cael y cyfle i archwilio ein campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd, neu Bontypridd, cwrdd â staff academaidd a myfyrwyr presennol, dysgu am fywyd yn PDC ac arian myfyrwyr, a chymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig â'u cwrs.
Gall eich myfyrwyr gael mynediad i'n diwrnod agored ar alw unrhyw bryd i ddarganfod ein cyrsiau, archwilio ein campws yn rhithwir, a sgwrsio â staff a myfyrwyr trwy Unibuddy.
Rydym yn cynnal diwrnodau agored arlein trwy gydol y flwyddyn. Yma gall eich myfyrwyr wylio cyflwyniadau byw gan ein staff addysgu a chymorth, sgwrsio'n fyw gyda staff a myfyrwyr a gofyn cwestiynau mewn sesiynau Holi ac Ateb. Mae'r rhain yn opsiwn gwych os na all eich myfyrwyr gyrraedd y campws neu os ydynt am ddysgu mwy ar ôl digwyddiad ar y campws.