Arweiniad ar gyfer yr Her Gynaliadwyedd Mae Undeb Bangor wedi bod yn gweithio’n galed i wneud newidiadau perthnasol a chadarnhaol i hyrwyddo cymuned gynaliadwy, megis gweithio i leihau allyriadau, atal gwastraff gormodol, a gwarchod ein mannau gwyllt lleol. Mae'r Her Gynaliadwyedd yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan weithredol yn y newidiadau hyn a dadlau dros brofiad prifysgol cynaliadwy, cadwraeth amgylcheddol, a lles cymunedol. Mae'r wobr yn golygu bod myfyrwyr yn cwblhau ac yn dogfennu tasgau sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a’u cyfnewid am bwyntiau. Dyma gyfle i chi arddangos y gweithgareddau a’r digwyddiadau anhygoel y mae eich grŵp yn eu cynnal trwy gydol y flwyddyn. Mae’r tasgau a osodir trwy’r heriau wedi’u llunio gan ystyried Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDG’s) ac yn rhoi cyfle i grwpiau dderbyn cydnabyddiaeth am eu llwyddiant cynaliadwy, ynghyd â derbyn cymorth ac arweiniad ar sut y gellir gwella gweithgareddau a digwyddiadau dyddiol.
*** Bydd y grŵp sy’n ennill y mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y flwyddyn yn cael gwobr o £100 o gyllid ar gyfer eu grŵp. Bydd 3 gwobr: un enillydd i glybiau, un i gymdeithasau ac un am wirfoddoli. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno yn y nosweithiau gwobrwyo Clybiau a Chymdeithasau a Gwirfoddoli Blynyddol.