Skip to main content

Sabbatical Officer Elections FAQs

Page 1

Cwestiynau Cyffredin am Etholiadau’r Swyddogion Sabothol Sut gallaf fod yn Swyddog Sabothol? Nid yw bod yn Swyddog Sabothol fel ‘swydd’ arferol! Caiff deiliaid y swyddi hyn eu dewis trwy etholiad sy'n agored i'r gymuned fyfyrwyr gyfan. Rydych yn enwebu eich hun ar gyfer yr un swydd sy'n apelio fwyaf atoch. Fel rhan o'ch enwebiad, mae angen i chi feddwl am lunio maniffesto, paragraff o destun sy’n egluro pam y dylai myfyrwyr bleidleisio drosoch ac sy’n cynnwys ychydig o wybodaeth amdanoch eich hun a'r hyn rydych yn bwriadu ei gyflawni os cewch eich ethol yn Swyddog Sabothol.

Pwy all sefyll yn yr etholiadau? Cyn belled â'ch bod yn fyfyriwr cofrestredig, cyfredol ym Mhrifysgol Bangor, gallwch sefyll yn Etholiadau’r Swyddogion Sabothol. Does dim rhaid i chi fod yn byw ar gampws Bangor, gallwch fod ar gampws lloeren yn y Deyrnas Unedig neu ar gampws lloeren rhyngwladol. Ond os byddwch yn llwyddiannus yn yr etholiad, bydd yn ofynnol i chi weithio o Fangor dros gyfnod y swydd. Os nad ydych yn sicr am eich statws fel myfyriwr, cysylltwch â Gweinyddu Myfyrwyr a fydd yn gallu eich cynorthwyo.

Beth yw Swyddogion Sabothol? Arweinwyr Undeb y Myfyrwyr; nhw sy'n penderfynu beth fydd yr Undeb yn ymgyrchu drosto, pa ddigwyddiadau i'w cynnal, ac yn cynrychioli myfyrwyr ar y lefelau uchaf ar draws y Brifysgol. Maent yn gweithio gyda gwahanol grwpiau o fyfyrwyr dros y flwyddyn i gyflwyno newidiadau cadarnhaol ar draws Prifysgol Bangor. Mae gan bob Swyddog Sabothol ei gylch gorchwyl ei hun y maent yn gyfrifol amdano.

A fyddaf yn cael fy nhalu? Byddwch. Y cyflog presennol yw £22,681.

A allaf gyflawni’r swydd ac astudio ar yr un pryd?


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Sabbatical Officer Elections FAQs by Undeb Bangor - Issuu