Skip to main content

IDS- CYMRAEG

Page 1

Mae UCU, Undeb Addysg Uwch mwyaf y DU, wedi galw tri diwrnod o streicio. Mae’r dyddiau penodol wedi eu rhestru isod; Dydd Iau yr 24ain o Dachwedd Dydd Gwener y 25ain o Dachwedd Dydd Mercher y 30ain o Dachwedd Mae hyn yn ymwneud â chynllun Pensiwn USS ac amodau tâl a gwaith. Fel Prifysgol byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau unrhyw effaith bosibl y gallai'r streic ei chael arnoch chi fel myfyrwyr, a bydd y Brifysgol yn aros ar agor yn ystod cyfnod y streic. Mae'r Brifysgol yn parhau i wneud popeth posibl i sicrhau nad oes unrhyw effaith ar eich cymwysterau gradd, ac i leihau unrhyw effaith ar eich astudiaethau. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu parhau i gael mynediad at wasanaethau allweddol yn ystod y dyddiau hyn, fel y Llyfrgell a Gwasanaethau Myfyrwyr.

Nid yw pob aelod o staff yn streicio, ac mae'r effaith yn amrywio ar draws y Brifysgol. Yn ogystal, nid oes unrhyw rwymedigaeth ar aelodau UCU sy'n mynd ar streic i hysbysu'r Brifysgol eu bod yn gwneud hynny. Mae nifer o gamau wedi cael eu cymryd i liniaru effaith y gweithredu diwydiannol, ac i sicrhau bod modd cyflawni deilliannau dysgu. Oherwydd hyn mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd yn gallu sicrhau y bydd y deunyddiau angenrheidiol yn gallu cael eu cyflwyno ar draws ei rhaglenni academaidd. Am y rheswm hwn, ac er ei bod yn anffodus efallai bydd myfyrwyr yn profi ychydig o anghyfleuster, nid yw'r brifysgol yn rhagweld y bydd angen rhoi ad-daliad i fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr gyflwyno asesiadau yn unol â chyfarwyddyd Trefnwyr y Modiwl. Pe bai'r gweithredu diwydiannol yn effeithio ar barodrwydd unrhyw fyfyrwyr ar gyfer asesu, bydd y Brifysgol yn ystyried hyn wrth ystyried estyniadau neu amgylchiadau arbennig a gyflwynir yn ymwneud â'r streic. Fodd bynnag, dim ond os nad yw myfyrwyr wedi cael amser ychwanegol i gwblhau asesiadau o ganlyniad i streic y bydd amgylchiadau arbennig yn berthnasol ar lefel unigol, os nad yw papurau arholiad wedi’u haddasu o ganlyniad i streic, neu os nad yw mesurau byd-eang eraill wedi’u haddasu. yn ôl disgresiwn Senedd y Brifysgol, heb eu cymhwyso i liniaru ar gyfer streic. Senedd y Prifysgol yw awdurdod academaidd y Brifysgol, ac sydd efo’r pŵer i roi rheoliadau arbennig ar waith mewn perthynas ag asesiadau, i sicrhau nad oes unrhyw fyfyrwyr dan anfantais mewn amgylchiadau fel y rhain. Ni fydd y Brifysgol yn elwa'n ariannol oherwydd yr anghydfod hwn, a chaiff unrhyw arbedion cyflog eu neilltuo i fynd i'r afael â chaledi myfyrwyr. Bydd y Brifysgol yn parhau i adolygu'r sefyllfa, a byddwn yn rhoi gwybod i fyfyrwyr a staff os yw'r sefyllfa'n newid. Darperir diweddariadau trwy e-bost a bydd Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr Bangor yn cael eu diweddaru'n rheolaidd trwy gydol y cyfnod gweithredu diwydiannol. Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael yn yr adran Cwestiynau ac Atebion sydd yn dilyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, siaradwch â'ch Tiwtor Personol neu Bennaeth eich Ysgol, ac mae Undeb y Myfyrwyr hefyd ar gael wrth gwrs i roi cefnogaeth bellach, ac efallai yr hoffech gysylltu â'ch swyddog sabothol os oes angen cyngor neu eglurhad pellach arnoch Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gysylltu ag Undeb y Myfyrwyr a byddwn yn ychwanegu at y cwestiynau a ofynnir yn aml pan ddaw rhagor o wybodaeth i law.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
IDS- CYMRAEG by Undeb Bangor - Issuu