Cwestiynau Cyffredin am Docynnau Mynediad Clybiau a Chymdeithasau ar gyfer y wefan A fydd yn rhaid i mi dalu ffioedd unigol am bob cymdeithas y byddaf yn ymuno â hi? Na, nid oes gan gymdeithasau ffioedd aelodaeth unigol – felly unwaith y byddwch yn prynu Tocyn Mynediad Cymdeithasau, sy’n costio £10, gallwch ymuno â chynifer o gymdeithasau ag y dymunwch. A fydd yn rhaid i mi dalu ffioedd unigol am bob clwb chwaraeon y byddaf yn ymuno ag ef? Na, nid oes gan Glybiau Chwaraeon ffioedd aelodaeth unigol – felly unwaith y byddwch yn prynu Tocyn Mynediad Aur neu Arian, gallwch ymuno ag unrhyw nifer o glybiau chwaraeon a chymryd rhan mewn unrhyw nifer o weithgareddau y mae’r tocyn hwnnw’n caniatáu. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Tocyn Mynediad Aur a Thocyn Mynediad Arian Clybiau Chwaraeon? Mae’r ddau docyn mynediad, Aur ac Arian, yn caniatáu i fyfyrwyr ddewis y mathau o weithgarwch a lefel yr ymrwymiad a’r gystadleuaeth y maent eisiau cymryd rhan ynddynt. Mae'r tocynnau’n caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau chwaraeon a chymryd rhan mewn unrhyw nifer o weithgareddau y mae'r tocyn hwnnw'n caniatáu. Tocyn Mynediad Aur:
Yn caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau a chystadlu yn Chwaraeon BUCS ar gyfer unrhyw nifer o'r clybiau hynny. Angen y tocyn hwn i gystadlu yn BUCS. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd angen Tocyn Aur, oherwydd costau cysylltiedig uwch, a chymryd rhan yn y gweithgareddau y mae'r tocyn hwn yn rhoi'r hawl iddynt. Hefyd yn cwmpasu holl fuddion Tocyn Arian.
Tocyn Mynediad Arian:
Yn caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd angen Tocyn Arian, a chymryd rhan yn y gweithgareddau y mae'r tocyn hwn yn rhoi'r hawl iddynt. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr ymuno ag unrhyw nifer o glybiau sydd wedi'u dynodi fel rhai sydd angen Tocyn Arian a chymryd rhan mewn Chwaraeon hamdden a/neu nad ydynt yn ymwneud â BUCS. Methu cystadlu yng nghystadleuaeth BUCS gyda Thocyn Arian – mae angen Tocyn Aur i wneud hyn.