Skip to main content

Elections_Rules_and_Regulations_2024-25-CY (1)

Page 1

Rheolau a Rheoliadau'r Etholiadau - 2024/25 Caiff Etholiadau Swyddogion Sabothol Undeb Bangor eu llywodraethu gan Is-Ddeddf 7 Etholiadau, Cyfansoddiad Undeb Bangor (sydd i’w gweld yma www.UndebBangor.com/governance-documents ) a gan y rheolau a'r rheoliadau isod, fel y’u cymeradwywyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr a Phwyllgor Etholiadau Undeb Bangor. Os caiff unrhyw un o’r rheolau hynny eu torri gallai hynny arwain at osod sancsiynau ar ymgeisydd, ymgyrchydd neu ymgyrch.

Enwebiadau

1. Rhaid i’r ymgeisydd gyflawni'r meini prawf canlynol yn llwyddiannus er mwyn cael ei gynnwys yn yr etholiad: 1.1. Byddant wedi eu henwebu eu hunain gan ddefnyddio'r broses enwebu ar-lein erbyn dyddiad cau’r enwebiadau. 1.2. Yn gymwys i sefyll yn yr etholiadau fel y diffinnir yn yr Erthyglau Cymdeithasu a’r Is-Ddeddfau. 1.3. Buont yng Nghyfarfod Briffio’r Ymgeiswyr, neu wedi derbyn cyfarwyddyd ar lafar gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau os nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd amgylchiadau arbennig. 1.4. Cytunwyd i ymrwymo i'r rheolau hyn ac i Is-Ddeddf 7 Undeb Bangor Etholiadau. 2. Gall ymgeisydd dim ond enwebu ei hun a sefyll am un swydd

Gwybodaeth i Ymgeiswyr 1. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr. 2. Ni chaniateir i ymgeiswyr na fuont yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr sefyll yn yr etholiadau. 3. Os na all unrhyw ymgeisydd fod yn bresennol yng nghyfarfod briffio’r ymgeiswyr, bydd y broses fel a ganlyn: 3.1. Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno amgylchiadau arbennig i'r Dirprwy Swyddog Canlyniadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith wedi dyddiad cyfarfod briffio'r ymgeiswyr. 3.2. Rhaid i'r ymgeisydd ddarparu manylion yr amgylchiadau arbennig a pham nad yw/nad oedd yn gallu bod yn bresennol. 3.3. Bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n penderfynu a ddylid cadarnhau’r amgylchiadau arbennig. 3.4. Os na all ymgeiswyr fod yn bresennol yn y cyfarfod briffio oherwydd amgylchiadau arbennig, yn unol â'r uchod, bydd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau’n trefnu cyfle arall i'r ymgeisydd dderbyn cyfarwyddyd llafar. 4. I gael eu cynnwys yn yr etholiad, rhaid i’r ymgeiswyr dderbyn briffiad llafar yr ymgeiswyr o fewn 4 diwrnod gwaith wedi’r cyfarfod briffio i ymgeiswyr sydd ar yr amserlen.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Elections_Rules_and_Regulations_2024-25-CY (1) by Undeb Bangor - Issuu