Skip to main content

Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs

Page 1

Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs • •

• • • •

Mae’n rhaid i bob Cynrychiolydd Cwrs sy’n cynnal digwyddiadau neu weithgareddau gwblhau asesiad risg cyn i’r gweithgaredd ddechrau. Mae’r mwyafrif o weithgareddau dan do ar-gampws gan gynnwys y rheiny sy’n gweini bwydydd risg isel wedi’u cynnwys o fewn yr Asesiad Risg Generig. Bwydydd a ellir eu bwyta ar dymheredd ystafell (lle nad oes angen eu hoeri na’u cynhesu) ydi Bwydydd Risg Isel ac fe’i prynir o fusnesau bwydydd (e.e. archfarchnad, caffi) sydd ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Os ydi’ch gweithgaredd chi yn yr awyr agored, oddi ar y safle, yn delio â choginio neu werthu bwyd, neu ddim yn cael ei gynnwys o fewn yr Asesiad Risg Generig, cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor. Mi wnawn ni eich helpu chi i baratoi Asesiad Risg Penodol ar gyfer eich gweithgaredd. Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor os ydych chi’n bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi arian (e.e. gwerthu cacennau). Gall y Tîm gynnig cyngor ar yr wybodaeth a roddir yn unig. Os cuddir manylion, efallai na roddir cyngor priodol a allai effeithio ar iechyd, diogelwch a lles cyfranogwyr ac eraill a effeithir gan weithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs. Rhaid i Gynrychiolwyr Cwrs roi gwybod i’r Tîm Llais Myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn eu gweithgaredd neu broffil risg ar unwaith.

Teitl Asesiad Risg

Enw’r Digwyddiad

Trefnydd y Digwyddiad

Enw

Crynodeb o’r gweithgarwch y mae’r AR yn ei gynnwys Disgrifiwch yr holl weithgareddau fydd yn digwydd yn eich digwyddiad

Dyddiad y crëwyd ac/neu adolygwyd yr AR Swydd

Rhif Fersiwn Rôl cynrychiolydd cwrs ac ysgol


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs by Undeb Bangor - Issuu