Skip to main content

Course Reps Agreement - Cymraeg

Page 1

Cytundeb Rôl Cynrychiolydd Cwrs Trwy ymrwymo eich hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, rydych chi’n cytuno i wneud y canlynol: •

Mynychu hyfforddiant er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r rôl ac adeiladu ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn gynrychiolydd.

Hyrwyddo eich rôl fel cynrychiolydd cwrs i fyfyrwyr eich cwrs ac ar lefel ysgol os ydych chi’n dewis ail swydd.

Casglu adborth (cadarnhaol a negyddol).

Mynychu a chynrychioli barn myfyrwyr mewn Cyfarfodydd Pwyllgor Staff Myfyrwyr a’r Cyngor Cynrychiolwyr Cwrs.

Diweddaru myfyrwyr am ganlyniadau’r cyfarfodydd.

Gweithio gyda’r Undeb Myfyrwyr er mwyn tynnu ein sylw at faterion.

Cytuno i ymddwyn yn unol â Siarter Myfyrwyr y Brifysgol.

Trwy ymrwymo eich hunain i fod yn Gynrychiolydd Cwrs, gallwch ddisgwyl y canlynol gan Undeb Bangor: •

Darperir hyfforddiant llawn er mwyn dod yn Gynrychiolydd Cwrs.

Rydym ni’n awyddus i annog cynrychiolwyr cwrs o gefndiroedd amrywiol, i gynrychioli corff myfyrwyr amrywiol. Rydym ni’n deall bod gan fyfyrwyr ymrwymiadau eraill ac amgylchiadau amrywiol, felly rydym ni yma i’ch cefnogi chi i gymryd rhan pa bynnag ffordd y medrwn ni, boed hynny drwy ddarparu opsiynau ar-lein er mwyn cymryd rhan, neu’r opsiwn i ddod â’ch gofalwr, partner neu blant gyda chi i sesiynau a digwyddiadau.

Gall y grant cynrychiolydd cwrs gael ei ddefnyddio i’ch helpu chi i drefnu digwyddiadau i hyrwyddo eich rôl fel cynrychiolydd cwrs, casglu adborth gan gyd-fyfyrwyr ac i helpu i greu cymuned o fewn eich ysgolion.

Mae gennym ni aelod o staff penodol i gefnogi cynrychiolwyr cwrs, felly os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, sefyllfa nad ydych chi’n gwybod sut i ddelio â hi, neu os ydych chi’n cael trafferth gyda’r rôl, gallwch ddod i siarad gyda ni, ac fe weithiwn ni gyda chi i ddod o hyd i ddatrysiad.

Byddwch yn cael eich gwahodd i’r Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn i ddathlu gwaith y Cynrychiolwyr Cwrs, gyda Gwobr Cyflawniad Eithriadol sy’n wobr werth £1000.

Enw ___________________________________________________


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Course Reps Agreement - Cymraeg by Undeb Bangor - Issuu