Cynrychiolwyr Cwrs – Canllaw Trefnu Digwyddiadau Lluniwyd y canllaw digwyddiadau hwn er mwyn rhoi help i Gynrychiolwyr Cwrs drefnu digwyddiadau. Mae trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn ffordd wych o wneud eich hunain yn weladwy i fyfyrwyr, i hyrwyddo gwaith cynrychiolwyr ac i gasglu adborth am bynciau. Dyma rai o’r pethau yr hoffech chi feddwl amdanynt o bosib, yn dibynnu ar ba fath o weithgaredd yr ydych chi’n ei drefnu:
NOD Y DIGWYDDIAD Cyn i chi benderfynu ar beth ydych chi’n mynd i’w wneud, meddyliwch am y pwrpas. ➢ ➢ ➢ ➢
Digwyddiad cymdeithasol Cyfle i fyfyrwyr gyfarfod ei gilydd Datblygu sgiliau/gwybodaeth Casglu adborth
AR GYFER PWY MAE’R DIGWYDDIAD? Fydd y digwyddiad ar gyfer yr holl fyfyrwyr sydd ar eich cwrs neu ydych chi’n cynrychioli grŵp penodol yr hoffech chi dargedu? Meddyliwch am beth y mae’r myfyrwyr hynny eisiau ei gael o ddigwyddiad, ac unrhyw bethau ychwanegol y dylech chi eu hystyried ar gyfer y grŵp hwnnw megis ymrwymiadau amser a hygyrchedd.
PWY FYDD YN CYNNAL Y DIGWYDDIAD? Oes angen i chi recriwtio cynrychiolwyr, staff neu fyfyrwyr eraill i’ch helpu, neu wahodd siaradwr gwadd? Allech chi gydweithio gyda chymdeithas neu brosiect gwirfoddoli sy’n berthnasol i’ch cwrs? Sicrhewch eich bod chi’n cynllunio ymhell o flaen llaw os fyddwch chi’n gofyn i siaradwyr gwadd gymryd rhan a llenwch y Ffurflen Gais Siaradwr Gwadd.
BETH FYDD Y GWEITHGAREDD/DIGWYDDIAD? Mae cynrychiolwyr wedi trefnu’r canlynol yn y gorffennol: