Skip to main content

Fersiwn Cymraeg

Page 1

Yn y pecyn hwn mae'r holl wybodaeth fydd angen arnoch i wneud cais ar gyfer rôl staff myfyrwyr yn Undeb Bangor Dyddiad Cau: Hanner nos, nos Fawrth yr 22ain o Awst Ni fydd ceisiadau yn cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn

Oriau: Rhwng 10-16 awr yr wythnos yn ystod y tymor ac oriau achlysurol yn ystod yr haf, ac mae'n bosib y bydd ychydig o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau. Yn ystod cyfnodau prysur yn yr Undeb, efallai y bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 16 awr. Rydym ni eisiau i'r oriau weddu i ddeiliad y swydd ac i anghenion y sefydliad, felly byddant yn cael eu trafod ac fe gytunir arnynt ar y cyd. Mae lles meddyliol a chorfforol ein gweithwyr yn bwysig i ni. Gofynnir i'r holl staff gymryd egwyl 45-munud di-dâl yn ystod unrhyw sifft 9-5 i sicrhau eu bod nhw'n cael y saib sydd ei angen arnynt ac amser i adfer. Bydd modd trafod gweithio hybrid a gweithio hyblyg: Rydym ni'n gwybod bod gan fyfyrwyr ystod o ymrwymiadau eraill; rydym ni'n ceisio caniatáu gweithio hyblyg lle bo'n bosib

Cyfradd tâl yr awr: Byddwch chi'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol sy'n £12.22 yr awr ar hyn o bryd, mae'r cyfraddau hyn hefyd yn cynnwys lwfans ar gyfer tâl gwyliau sy'n 12.07%. Mae'r swydd ddisgrifiadau canlynol yn rhoi syniad cychwynnol i chi o'r gwaith y bydd disgwyl i chi ei wneud. Gallent newid o bryd i'w gilydd er mwyn gweddu i amgylchiadau sy'n newid.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Fersiwn Cymraeg by Undeb Bangor - Issuu