Skip to main content

Canllaw Prynu Moesegol i Grwpiau

Page 1

Canllaw Prynu Moesegol i Grwpiau Plastigion Mae'n bwysig i ni chwarae rhan weithredol wrth leihau ein defnydd o blastig i ddiogelu'r amgylchedd. Fel myfyrwyr, gallwch leihau eich gwastraff plastig trwy addasu i arferion prynu mwy cynaliadwy. Dewiswch gynhyrchion sydd ag ychydig iawn neu ddim deunydd pacio plastig. Chwiliwch am gynhyrchion sydd wedi’u pecynnu gyda deunyddiau arall fel gwydr, cardbord, neu ddeunyddiau bioddiraddadwy; mae'r rhain yn well i'r amgylchedd ac fe ellir eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio. Trwy ddefnyddio poteli dŵr a chwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio, gellir osgoi defnyddio plastig untro a derbyn gostyngiad ar ddiodydd poeth ym mannau arlwyo’r brifysgol yn yr un modd. Efallai na fydd dewisiadau ar wahân i blastig ar gael bob amser. Pan na ellir osgoi plastig wrth brynu, ceisiwch sicrhau eich bod yn cael gwared â’r deunydd pacio yn gywir, gan ailgylchu lle bo modd. Trwy ddewis dewisiadau ar wahân i blastig untro ac ymdrin â gwastraff yn gyfrifol, gallwch gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a helpu i leihau llygredd plastig.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook