Skip to main content

cymraeg - job descript

Page 1

Disgrifiadau Swydd Swyddog Sabothol

Pob Swyddog Sabothol: Cyflog blynyddol: £21,197

Tymor y swydd: Mehefin 1af - Gorffenaf 30ain

Bydd yn ymddiriedolwr Undeb y Myfyrwyr Yn cael ei ystyried yn ‘deiliad swyddog undeb mawr’ fel y’i diffinnir gan Ddeddf Addysg 1994 Bydd yn aelod llawn â phleidlais o Fwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor a Phwyllgor Gwaith Undeb Bangor. Bydd yn darparu arweiniad ar gyfeiriad portffolio ymgyrchoedd a digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Bydd yn cynorthwyo ac yn cefnogi gweithgareddau’r Wythnos Groeso, gan gynnwys ffair y Glas. Cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Ar adegau gall hyn fod gyda'r nos ac ar benwythnosau, y tu allan i oriau swyddfa arferol. Hyrwyddo gwerthoedd yr Undeb bob amser Yn gweithio i sicrhau bod eu gwaith nhw, a gwaith Undeb y Myfyrwyr, yn cael ei gyfathrebu’n gywir ac yn effeithiol i fyfyrwyr. Bydd disgwyl iddo ddarparu erthyglau rheolaidd ar gyfer cyhoeddiadau'r Undeb, gan gynnwys y wefan. Yn gweithio i gefnogi a chyflawni cylch gwaith iechyd, lles, cynaliadwyedd a chymunedol Undeb y Myfyrwyr. Yn gweithio'n rhagweithiol ar syniadau a pholisïau myfyrwyr a basiwyd yng Nghyngor Undeb Bangor. Bydd yn mynychu ac yn cynrychioli myfyrwyr yng nghyfarfodydd lefel uchel y Brifysgol gan gynnwys; grwpiau tasg strategaeth a grwpiau gorffen a phwyllgorau. Cydgysylltu ag adrannau perthnasol y Brifysgol ar faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr. Mynychu cynadleddau cenedlaethol. Bydd yn eistedd ar baneli cyfweld Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol pan fo angen Bydd yn cynorthwyo i gynrychioli myfyrwyr ym mhrosesau apeliadau a disgyblaethau'r Brifysgol pan fo angen. Mynychu cyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr megis y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a Chyngor Undeb Bangor, gan ddarparu adroddiadau ac ateb cwestiynau myfyrwyr pan fo angen. Bydd yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr i gynhyrchu adroddiadau. Bydd yn ymgysylltu'n rheolaidd â myfyrwyr o amgylch y campws


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
cymraeg - job descript by Undeb Bangor - Issuu