UNDEB BANGOR Pecyn Recriwtio Hyfforddwyr Cynrychiolwyr Cwrs Swyddi www.undebbangor.com/swyddi
Croeso Rydym am recriwtio staff sy’n fyfyrwyr i weithio yn Undeb Bangor a hoffem ichi ystyried gwneud cais. Croeso i becyn recriwtio Undeb Bangor i swyddi staff sy’n fyfyrwyr, fydd yn ddechrau taith gyffrous i chi gobeithio. Rydym yn cynnig cyfleoedd cyffrous i chi weithio i Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) a fydd yn eich helpu i ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr ynghyd â chyflogaeth â thâl. Mae Undeb Bangor yn sefydliad llwyddiannus, bywiog a chyffrous, ac mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn - dyna pam ein bod yn bodoli. Ein nod yw cynrychioli a darparu gwasanaethau i'n myfyrwyr; trwy weithio gyda ni byddech chi'n helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Fel sefydliad rydyn ni eisiau amgylchedd sy'n hwyl, yn broffesiynol ac yn darparu gwasanaeth gwych i'n haelodau. Os credwch y gallwch chwarae rhan yn hyn ac y gallwch wneud cyfraniad, anfonwch eich cais atom.