Skip to main content

82734-Undeb_Bangor_Associate_Member_Policy_-_September_2025-CY

Page 1

Polisi Aelodaeth Gyswllt Undeb Bangor Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Fel elusen a sefydliad o aelodau sy'n cael ei arwain yn ddemocrataidd, mae Undeb Bangor yn cyfeirio cyllid ac adnoddau yn bennaf er budd a datblygiad yr aelodau presennol (myfyrwyr Prifysgol Bangor). Gellir cymeradwyo aelodaeth gyswllt i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Bangor os yw'r unigolyn yn gymwys dan feini prawf aelodaeth gyswllt Undeb Bangor. 1. Grwpiau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor (yr Undeb Athletau, Cymdeithasau a Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor) ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) 1.1. Grwpiau swyddogol Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor yw'r grwpiau hynny sydd wedi eu cofrestru a'u cadarnhau gan Undeb Bangor ac sydd wedi llofnodi cytundeb grŵp yn unol â Threfn Gadarnhau Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor 1.2. Rhaid i bob grŵp a gaiff ei gadarnhau gan Undeb Bangor gynnwys mwyafrif o fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor 1.2.1.Rhaid i hynny fod yn ddim llai na dwy ran o dair o sylfaen aelodaeth y grŵp a gydnabyddir trwy ddata'r system aelodaeth ar-lein. 1.2.2.Rhaid i'r mwyafrif hwn fod yn gymwys ar bob adeg trwy gydol y flwyddyn 1.2.3.Ni chaniateir aelodau cyswllt i'r grwpiau oni bai bod y mwyafrif hwn yn dal i fod yn gymwys wrth dderbyn aelod cyswllt newydd. 1.2.4.Bydd aelodaeth gyswllt UMCB yn cael ei phrosesu yn unol â'r polisi hwn a dylid ei chynnwys pan gyfeirir at 'Grŵp Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor'. 2. Aelodaeth Gyswllt 2.1. Mae aelodaeth gyswllt, yn unol â’r hyn a ragnodir yn Erthyglau Cymdeithasu Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Erthygl 15) yn caniatáu i'r Bwrdd Gweithredol a/neu’r Bwrdd Ymddiriedolwyr gynnig darpariaeth i fyfyrwyr nad ydynt ym Mhrifysgol Bangor ymaelodi ag Undeb Bangor a chael y manteision canlynol: 2.1.1.Mynediad i ystafelloedd Undeb Bangor ar gyfer gweithgareddau grŵp, yn unol â'r drefn archebu ystafelloedd 2.1.2.Y gallu i ymuno ag unrhyw glwb, cymdeithas neu grŵp gwirfoddoli Undeb Bangor 2.1.3.Y gallu i ymuno ag UMCB 2.1.4.Bydd angen tâl pellach ar gyfer aelodaeth bellach ag unrhyw glwb, cymdeithas neu grŵp gwirfoddoli arall. 2.1.5.Y gallu i fynd i gyfarfodydd blynyddol a chyffredinol Undeb Bangor ac unrhyw gyfarfodydd democrataidd a gynhelir gan yr Undeb Athletau, cymdeithasau, Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor neu UMCB. 2.1.6.Y gallu i ddefnyddio gwasanaethau a chyfleusterau Undeb Bangor pan maent ar gael iddynt 2.2. Nid yw aelodaeth gyswllt yn caniatáu'r canlynol:


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
82734-Undeb_Bangor_Associate_Member_Policy_-_September_2025-CY by Undeb Bangor - Issuu