Skip to main content

79878-Course_Rep_&_Network_Leader_Risk_Assessment_1_-CY

Page 1

Asesiad Risg Gweithgareddau Cynrychiolwyr Cwrs  

  

Rhaid i bob Cynrychiolydd Cwrs sy'n cynnal digwyddiadau neu weithgareddau sicrhau bod asesiad risg yn ei le cyn i'r gweithgaredd ddechrau. Mae'r Asesiad Risg Generig yn cwmpasu’r rhan fwyaf o weithgareddau dan do ar y campws, gan gynnwys rhai sy'n gweini bwydydd risg isel. Mae bwydydd risg isel yn fwydydd y gellir eu bwyta ar dymheredd ystafell (nid oes angen eu rhewi na’u hailgynhesu) ac a brynwyd gan fusnes bwyd (e.e. archfarchnad, caffi) gydag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Os yw’r gweithgaredd yn yr awyr agored, oddi ar y safle, yn ymwneud â choginio neu werthu bwyd, neu nad yw'n dod o dan amodau’r Asesiad Risg Cyffredinol am ryw reswm arall, cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor. Byddwn yn eich helpu i baratoi Asesiad Risg Penodol ar gyfer eich gweithgaredd. Cysylltwch â’r Tîm Llais Myfyrwyr am gyngor os ydych yn bwriadu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau codi arian (e.e. gwerthu cacennau). Dim ond ar sail y wybodaeth a gyflwynir y gall y Tîm gynnig cyngor. Os na ddatgelir y manylion, efallai na chaiff y cyngor priodol ei gynnig, a gallai hynny effeithio ar iechyd, diogelwch a lles y cyfranogwyr a phobl eraill y mae gweithgareddau’r cynrychiolwyr cwrs yn effeithio arnynt. Rhaid i Gynrychiolwyr Cwrs hysbysu’r Tîm Llais Myfyrwyr ar unwaith os bydd eu gweithgarwch neu eu proffil risg yn newid.

Teitl yr Asesiad Risg Trefnydd Digwyddiadau

Dyddiad Creu a/neu Adolygu’r Asesiad Risg Swydd

Fersiwn Rhif


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
79878-Course_Rep_&_Network_Leader_Risk_Assessment_1_-CY by Undeb Bangor - Issuu