Skip to main content

Leap into literacy

Page 1

LLAMUÊIÊLYTHRENNEDD! Beth yw Llamu i Lythrennedd? Mae Gwasanaeth Addysgu Canolfan Miles yn cynnal rhaglenni Llamu i Lythrennedd, gyda golwg ar wella medrau darllen, ysgrifennu a siarad. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cymysgedd cytbwys o weithgareddau dysgu i grwpiau, parau ac unigolion, yn y Gymraeg neu’r Saesneg, dan oruchwyliaeth ein staff addysgu arbenigol.

Ble cynhelir y rhaglen Llamu i Lythrennedd? Cynhelir y rhaglen Llamu i Lythrennedd yng Nghanolfan Dyslecsia Miles ym Mhrifysgol Bangor.

CanolfanÊDyslecsiaÊMilesÊynÊcyflwyno

LLAMU I LYTHRENNEDD

Mae ein dull o addysgu wedi’i gynllunio ar gyfer plant mewn addysgu uniaith neu ddwyieithog, ac mae’r rhaglen yn addas i unrhyw blentyn a allai gael budd o hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol gyda llythrennedd, wedi’u haddasu i’w hanghenion unigol.

Rydym yn canolbwyntio ar sgiliau darllen ac ysgrifennu, ochr yn ochr â gweithgareddau i ddatblygu iaith lafar. Byddwn yn neilltuo amser i gynnal a hybu sgiliau eich plentyn o ran ysgrifennu a sillafu. Mae plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar, yn cynnwys gwrando ar straeon, dysgu geirfa a gweithio gyda geiriau, sy’n sgiliau a fydd yn hyrwyddo eu datblygiad o ran darllen. Wrth reswm, mae amser hefyd ar gyfer rhai gweithgareddau difyr, chwarae gemau sydd wedi’u trefnu a chryfhau sgiliau cymdeithasol.

RhaglenÊaddysguÊsyddÊwedi’iÊdatblygu’nÊ arbennigÊarÊgyferÊunigolion,ÊynÊdarparuÊ hyfforddiantÊunigolÊacÊmewnÊgrwpiauÊiÊ blantÊoedÊysgol Cysylltwch â'r Ganolfan am ragor o wybodaeth am rhaglen a’r gost: Canolfan Dyslecsia Miles, Ffordd y Coleg Prifysgol Bangor Bangor, Gwynedd LL57 2DG

01248Ê382Ê203

dyslex-admin@bangor.ac.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Leap into literacy by Undeb Bangor - Issuu