xxxxxxx
Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl Cymru
Cynnwys
Cyflwyniad gan Andrew Goodall, Prif Weithredwr, GIG Cymru
3
1. Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach
4
2. Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal
8
3. Eich trin ag urddas a pharch
12
4. Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn
16
5. Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol
20
6. Eich trin chi fel unigolyn
24
7. Diolch o galon i bawb sy’n gweithio i GIG Cymru
28
Ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod 32 Gwybodaeth am wasanaethau’r GIG ac am y Datganiad Ansawdd Blynyddol 35
Cyflwyno Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG Cymru) Mae deg sefydliad yn rhan o GIG Cymru - saith bwrdd iechyd ar gyfer gwahanol rannau o Gymru, a thair ymddiriedolaeth genedlaethol, sef Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Mae’r sefydliad hwn yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i bobl ledled y wlad, ac mae hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Gwaed Cymru. Caiff GIG Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n gosod y blaenoriaethau a’r targedau i wasanaethau iechyd yng Nghymru.
2 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Croeso Pleser yw cyflwyno Datganiad Ansawdd Blynyddol cyntaf GIG Cymru, sy’n rhoi cipolwg cyffredinol ar y gwaith gwych sy’n cael ei wneud gan holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru i wella ansawdd y gofal i bobl sy’n byw yng Nghymru. Bydd pob un ohonom yn dod i gysylltiad â’r GIG ar ryw adeg yn ei bywydau, ac mae’n parhau i fod yn wasanaeth sy’n sail i ddisgwyliadau’r cyhoedd, gyda gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus yn hanfodol iddo. Mae hefyd yn wasanaeth â miliynau o gysylltiadau gyda phobl bob blwyddyn ar draws y gwasanaethau ysbyty, cymuned, iechyd meddwl a gofal sylfaenol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i wasanaethau prysur ddarparu gofal o ansawdd uchel a rhoi profiadau
Cyflwyniad
da i gleifion. Dyna’r rheswm pam mae ansawdd gofal a diogelwch cleifion mor greiddiol i waith beunyddiol y GIG yng Nghymru.
pryderon yngl n â’r safonau gofal ar rai wardiau mewn dau ysbyty. Rydym wedi gweithredu ar y canfyddiadau hyn ar lefel leol a chenedlaethol.
Ar y cyfan, gall y GIG yng Nghymru fod yn falch o’r ffaith bod dros 90% o’r rhai a holwyd yn yr arolwg cenedlaethol diweddaraf yn fodlon iawn â’r gofal a gawsant.
Rydym wedi adolygu’r ffordd y mae’r GIG yn ymdrin â chwynion a phryderon ac rydym yn rhoi’r amryw argymhellion ar waith. Rydym wedi cyflwyno ffyrdd newydd o gadw golwg ar sut rydyn ni’n gwneud a lle mae angen gwella. Ein hegwyddor sylfaenol yw bod yn rhaid inni ddysgu o’n camgymeriadau.
Mae’r datganiad hwn yn nodi’r meysydd lle rydym wedi gweld gwelliannau, gan gynnwys atal heintiau a gofalu am bobl sy’n dioddef o ganser, sydd wedi cael strôc neu sydd ar ddiwedd eu hoes. Rydym yn brechu mwy o bobl nag erioed; mae’r cyfraddau sgrinio cyffredinol yn dda ac mae cyfraddau goroesi canser a disgwyliad oes pobl Cymru yn gwella. Ond fe wyddom y gallwn wneud mwy i wella gofal. Mae bodloni anghenion cleifion o ran urddas a pharch yn bwysig iawn i’r GIG. Os na fydd hynny’n digwydd, rydym yn gweithredu. Cyhoeddwyd adroddiad Ymddiried mewn Gofal y llynedd, yn dilyn
Mae’n rhaid i GIG Cymru barhau i wella er mwyn gallu rhoi gofal o ansawdd uchel i chi a’ch teulu pan fydd ei angen fwyaf. Byddwn yn canolbwyntio ar nifer o feysydd allweddol y flwyddyn nesaf, gan gynnwys: • Gweithio i’ch helpu i ofalu am eich iechyd eich hun a chymryd cyfrifoldeb amdano. Rydyn ni’n gwybod y gall byw’n iach helpu i atal salwch; • Parhau i ddatblygu gwasanaethau cydlynus gydag eraill er mwyn darparu gofal yn
3 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
agosach at gartrefi pobl, gan weithio hefyd i atal oedi mewn triniaeth pan fydd yn rhaid i chi fynd i’r ysbyty; • Parhau i weithredu ar argymhellion Ymddiried mewn Gofal a chanfyddiadau’r archwiliadau dirybudd ar wardiau ysbytai ac iechyd meddwl; • Sichrau ein bod yn nodi pobl sy’n dioddef dementia cyn gynted ag y bo modd, fel eu bod yn cael y gofal gorau posib. Yn bennaf oll, rydym eisiau darparu gofal diogel a thrugarog sy’n canolbwyntio ar bobl. Rydym yn ymrwymedig i unioni pethau os byddant yn mynd o chwith. Byddwn yn gweithredu ar adborth pobl ac yn gweithio gyda chi i sicrhau bod gennym Wasanaeth Iechyd Gwladol gwirioneddol y gall pawb ymfalchïo ynddo.
Andrew Goodall Prif Weithredwr, GIG Cymru
1
Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach Mae iechyd da yn bartneriaeth rhyngoch chi fel unigolyn a GIG Cymru. Fe wnawn ni bopeth a allwn i’ch cadw’n iach, ond mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud hefyd i’ch cadw eich hun yn iach. Er enghraifft, gallwn eich helpu i roi’r gorau i smygu, ond mae’n dibynnu ar eich penderfyniad chi i fyw bywyd di-fwg Wrth sôn am iechyd, rydym yn gwybod bod camau bach yn gallu arwain at newidiadau mawr. Rydym yn gwybod hefyd ei bod yn anodd weithiau i staff y GIG allu byw yn iach. Rydym yn cefnogi staff i wella’u hiechyd drwy’r rhaglen Pencampwyr Iechyd. Rydym hefyd eisiau datblygu partneriaethau cryfach â sefydliadau y tu allan i’r GIG er mwyn gallu helpu mwy o bobl yn ein cymunedau i wneud dewisiadau iachach ac osgoi mynd yn sâl. Dyma enghreifftiau o sut rydyn ni’n helpu pobl i wneud dewisiadau iach a byw bywydau iach.
4 Datganiad All Wales Annual Ansawdd Quality Blynyddol Statement GIG Cymru 2014 2014
1. Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach
Helpu ein staff i’ch helpu chi Mae’r rhaglen Pencampwyr Iechyd wedi helpu staff gofal iechyd ar draws Cymru i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd. Mae wedi annog staff i fyw bywydau mwy ffit ac iach ac i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw ymysg eu cleifion a’u cymunedau ehangach. Dywedodd staff eu bod wedi gwneud gwelliannau sylweddol o ran ymarfer corff, a’u bod yn gweithio tuag at bwysau iach ac yfed llai o alcohol.
Gwyliwch Liam yn siarad am sut y llwyddodd i roi’r gorau i smygu, diolch i’r ymgyrch Pencampwyr Iechyd www.bit.ly/liamc4h
OEDDECH CHI’N GWYBOD? Mae’r ymgyrch wedi rhoi mwy o hyder i bobl i siarad â’u cleifion, a hefyd â’u ffrindiau a’u teuluoedd yngl n â dewisiadau ffordd o fyw iach.
g d i r h o i c ip o lw Mae hyn we sut mae i ar g o ia w n i m if io n .Y le pe t h a u i’m c y w ’m o d i a n e w y d d io n d s ia r a d y n o n e s t u n a w r y n g a ll d w i w e d i b o d yn n h w a m y r h u d , a ’m o d i’n ne y n c e is io ’i w w h i w a s t a d y n y gwybod nad han hawdd. ’n c y m r y d r
n e s , fu – D r G lyn Jo P e n c a m pw y r Ie c h yd rch yn yr ymgy
5 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Curo’r ffliw! Mae’r ffliw yn glefyd hynod o heintus sy’n gallu lladd.
Mae mwy na dwy ran o dair o’r plant sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw wedi cael y brechiad, ac fe hoffem gael eich help chi i gynyddu’r nifer hwn y flwyddyn nesaf.
Rydyn ni am amddiffyn yr henoed, pobl â chyflyrau iechyd tymor hir, menywod beichiog a phlant ifanc yn arbennig, gan mai iddyn nhw y mae’r perygl mwyaf o gael eu lladd gan y ffliw. Y ffordd orau o amddiffyn pobl yw drwy frechlyn ffliw blynyddol. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cydlynu’r rhaglen genedlaethol i frechu rhag y ffliw, ac mae wedi helpu i amddiffyn miloedd o blant ac oedolion. Rydym yn annog holl staff GIG Cymru i fod yn Ymladdwyr Ffliw a chael eu brechu.
www.bit.ly/flufightercymru
1. Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach
Cynllun Gwên – gwella iechyd deintyddol plant
Rhaglen genedlaethol yw Cynllun Gwên i wella iechyd deintyddol plant ifanc yng Nghymru. Y llynedd cymerodd bron i 93,000 o blant ran mewn gweithgareddau dyddiol yn brwsio’u dannedd gyda phast dannedd fflworid dan oruchwyliaeth yn yr ysgol neu’r feithrinfa. Mae’r plant yn cael gwersi ar gadw eu dannedd a’u ceg yn iach, gan gynnwys dewis bwydydd iach. Rhoddir pecynnau deintyddol iddynt fynd adref gyd nhw er mwyn iddynt allu parhau â’r arferion da yn ystod gwyliau’r ysgol.
LLWYDDIANNAU CYNLLUN GWÊN • Mae adroddiad diweddaraf Cynllun Gwên yn dangos gostyngiad o ryw 6% yn nifer y plant 5 oed sydd â phydredd dannedd. • Mae rhieni’n dweud wrthym fod eu plant yn mwynhau’r gwersi, a’u bod yn fwy tebygol o frwsio’u dannedd gartref. • Mae pydredd dannedd yn dal yn gyffredin mewn plant yng Nghymru. Gall rhieni helpu eu plant drwy wneud yn si r eu bod yn brwsio’u dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid, a gwneud yn si r mai dim ond adeg prydau bwyd y maen nhw’n cael bwydydd a diodydd llawn siwgr.
D arllenwch ragor ar wefan Cynllun Gwên www.bit.ly/CynllunGwên 6 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Helpu pobl i golli pwysau Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae dietegwyr cymwysedig yn cynnal cyrsiau byr i grwpiau bach dan yr enw ‘Bwyta i Fyw’. Mae’r cyrsiau’n helpu pobl i newid yr hyn maen nhw’n ei fwyta fel y gallant fod yn iachach. Mae’r bwrdd iechyd hefyd wedi datblygu ‘Foodwise’, sef rhaglen rheoli iechyd sy’n cael ei rhedeg mewn cymunedau gan bartneriaid fel Cymunedau yn Gyntaf a gwasanaethau hamdden. Mae’r bwrdd iechyd wedi helpu pobl i newid eu ffordd o fyw cyn iddynt gael llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys. Mae smygu a bod dros bwysau yn cynyddu’r risg o gymhlethdodau u i ro i’r Fe w na et h fy he lp llawfeddygol, megis clotiau so ff a. go ra u i dd io gi ar y i’n da rl le n gwaith neu heintiau sy’n dw N aw r, w rt h si op a, peryglu bywyd. Mae’r d br as te r y la be li am fw yd yd rhaglen yn helpu pobl i ne ud lla w er is el .Dw i w ed i gw w ed i’u roi’r gorau i smygu a cholli ni o be th au na fy dd w pwysau, gan leihau’r risg o lp. he yr b he ud ne gw niwed neu gymhlethdodau he lp ga n dd fo ga a n, re Ka – o ganlyniad i lawdriniaeth. yt a i Fy w ’ ra gl en ‘Bw
1. Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach
Mae’r achosion diweddar o’r frech goch yng Nghymru wedi dangos mor bwysig yw brechu rhag clefydau. O beidio cael eich brechu mae llawer mwy o risg ichi ddal clefyd, a gallai’r clefyd hwnnw arwain at farwolaeth. Rydym yn gwybod mai’r ffordd orau o amddiffyn plant rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR) yw eu brechu yn erbyn y clefydau niweidiol hyn sy’n gallu lladd. Mae gennym brawf fod y brechlyn MMR yn ddiogel, er gwaethaf storïau yn y cyfryngau yn y gorffennol sydd wedi codi ofn. Os yw’r lefelau brechu’n isel, mae’n fwy tebygol y bydd achosion o un o’r clefydau hyn. Rhwng mis Tachwedd 2012 a mis Gorffennaf 2013 gwelodd Cymru’r nifer fwyaf o achosion o’r frech goch ers cyflwyno’r
Rhoddwyd brechlyn MMR i rai yn eu harddegau yr oedd risg iddynt ddal y clefyd
HELPU POBL I ROI’R GORAU I SMYGU Mae’r byrddau iechyd i gyd yn gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu sesiynau i bobl i roi’r gorau i smygu. Caiff rhai o’r rhain eu darparu gan Dim Smygu Cymru. Roedd Stoptober yn ymgyrch arall uchel ei phroffil yn annog pobl i geisio rhoi’r gorau iddi ym mis Hydref. Caiff mamau beichiog hefyd eu hannog i roi’r gorau i smygu – rhoddir cynnig iddynt fynd yn fuan i sesiynau i’w galluogi nhw i stopio.
Brechu plant yn erbyn clefydau sy’n gallu lladd brechlyn MMR. Cafwyd gwybod am 1,202 o achosion o’r frech goch i gyd. Mae’r frech goch yn gallu lladd, ac yn anffodus bu farw un person o’r clefyd yn y cyfnod hwn. Rhoddwyd dros 77,000
7 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
dos o MMR i bobl ar draws Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Hefyd, rhoddwyd y brechlyn i fwy nag erioed o blant dwyflwydd (95.9%) a phum mlwydd oed (92.9%).
www.dimsmygucymru.com
OEDDECH CHI’N GWYBOD? Mae pobl bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu pan fyddant yn cael cymorth na thrwy ymdrechu ar eu pen eu hunain.
2
Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal Rydym wedi gwneud diogelwch cleifion yn flaenoriaeth yn GIG Cymru. Ein nod yw osgoi pob niwed posib pan fyddwn yn gofalu am bobl – boed hynny yn yr ysbyty, mewn gwasanaethau cymunedol, neu yn eich cartref. Rydym wedi targedu meysydd penodol lle’r ydym yn gwybod bod posib i bobl gael niwed. Er enghraifft, rydym yn rhoi sylw i faterion yn ymwneud â heintiau a hefyd sepsis. Rydym am wneud yn si r bod meddyginiaethau yn cael eu defnyddio’n ddiogel; er enghraifft, warfarin, sy’n cael ei ddefnyddio i deneuo’r gwaed. Gwyddom fod symud pobl oedrannus a bregus o’u cartref i’r ysbyty hefyd yn gallu golygu risg felly rydym yn gweithio’n galed i ddarparu mwy o ofal yn y gymuned. Rydym yn monitro pa mor ddiogel yw’ch gofal drwy i’r staff riportio digwyddiadau diogelwch yn ymwneud â chleifion – pethau fel cwympo, doluriau gwasgu, heintiau neu gamgymeriadau meddyginiaeth. Rydym yn annog rhoi gwybod am y pethau hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn dysgu ac yn gwella pan aiff pethau o chwith. Pan fyddwn yn gweld themâu a thueddiadau, rydym yn cyhoeddi rhybudd diogelwch cleifion yn nodi’n glir i’n staff pa gamau i’w cymryd. Rhagor o wybodaeth yn www.patientsafety.wales.nhs. uk/hafan. Gwyddom fod angen inni wneud rhagor, er gwaethaf ein llwyddiant hyd yma. Rydym wedi gosod blaenoriaethau clir i holl sefydliadau’r GIG i wneud gofal yn fwy diogel ac rydym yn cadw golwg manwl ar yr hyn sy’n digwydd. Gallwch ein helpu ni eich helpu chi i gadw’n saff – drwy ddweud wrthym os ydych yn poeni ein bod wedi methu rhywbeth neu os ydym efallai wedi gwneud rhywbeth yn anghywir.
8 Datganiad All Wales Annual Ansawdd Quality Blynyddol Statement GIG Cymru 2014 2014
2. Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal
Holwch am Glotiau Un risg i gleifion yr ydym yn gweithio’n galed i’w hatal yw’r risg a achosir gan glotiau gwaed (thrombosis) sy’n gallu datblygu pan fyddwch yn yr ysbyty. Gall asesiad syml adnabod pobl y mae perygl iddynt gael clotiau gwaed. I’r rhai sydd mewn perygl, mae yna gyffuriau sy’n gallu helpu i atal clotiau gwaed ac achub bywydau. I helpu i annog defnydd o asesiadau a chyffuriau Mae MWY o SIAWNS gwrth-thrombosis, cafodd ichi gael clot mewn ymgyrch genedlaethol ‘Holwch am Glotiau’ ei datblygu gan Gwella 1000 o Fywydau a’i chefnogi gan Lifeblood, yr elusen thrombosis. Mae’r ymgyrch Nag mewn yn helpu’r cyhoedd i ddeall y risg, fel y gallant ofyn am asesiad a chael y driniaeth briodol. Mae hefyd yn helpu i atgoffa’r staff i gynnal yr asesiadau a rhoi’r cyffuriau angenrheidiol. Rhagor o wybodaeth yn www.holwchamglotiau.co.uk
9 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Adolygu’r gofal a gafodd pob un a fu farw yn yr ysbyty Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn adolygu gofal cleifion sydd wedi marw yn yr ysbyty – caiff hyn ei alw’n ‘adolygiad marwolaeth’. Caiff y nodiadau eu gwirio i wneud yn si r bod y cleifion wedi cael y gofal a’r driniaeth iawn. Drwy edrych ar nodiadau cleifion fel hyn a gofyn cwestiynau, gallwn ganfod ffyrdd o wella gofal. Yn ystod y chwe mis hyd at fis Mawrth 2014 cynhaliodd GIG Cymru fwy na 4,000 o adolygiadau marwolaeth i weld a oedd angen gwella’r gofal. Canmolwyd y ffordd hon o weithredu gan adolygiad annibynnol yn 2014, ac erbyn hyn dyma a wneir fel mater o drefn yn GIG Cymru. Drwy’r broses hon nodwyd bod angen gwella’r ffordd o ofalu am bobl sâl iawn sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd a gwella’r cyfarwyddiadau sy’n helpu staff i benderfynu a ddylid ceisio adfywio pobl. Rydym wedi datblygu trefn newydd i’w defnyddio ar draws Cymru. Mae rhoi’r drefn hon ar waith yn 2015 yn flaenoriaeth allweddol inni.
2. Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal
Llai o heintiau
18% marwolaethau
MRSA
wedi gostwng
*ystadega u 2013
Mae heintiau yn gallu bod yn niweidiol iawn. Mae modd atal llawer o’r heintiau a gaiff pobl mewn sefydliadau gofal iechyd. Mae staff ar draws Cymru yn gweithio’n galed i atal cleifion rhag cael heintiau tra maent yn yr ysbyty. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gwell technegau glanhau a sterileiddio, canolbwyntio ar bwysigrwydd golchi dwylo, ac ymateb yn gyflym os ceir heintiau. Rydym hefyd eisiau gwneud
yn si r nad yw gwrthfiotigau yn cael eu gorddefnyddio. Bydd hyn yn help i geisio sicrhau eu bod yn parhau’n effeithiol. Felly, ni ddylid rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn pan na fyddant yn gwneud unrhyw les. Rydym yn gweithio’n agos gyda meddygon teulu i wneud yn si r nad yw pobl yn cael gwrthfiotigau yn ddiangen. Mae c.difficile yn un o’r heintiau mwyaf cyfarwydd sy’n effeithio ar bobl mewn ysbytai ac yn y gymuned. Trwy
10 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
gostyngiad cenedlaethol o
34%
ymdrech galed gan staff y GIG ar draws Cymru, mae llai o bobl yn dal yr haint. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn darparu gofal mwy diogel a galluogi pobl i fynd adref yn gynt. Rydym wedi dysgu sawl gwers yn sgil clwstwr o achosion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Er bod pethau wedi gwella, mae’r lefelau heintio yn dal yn rhy uchel, felly mae rhywfaint o ffordd i fynd eto i gyrraedd y ffigurau targed o ran atal heintiau. Mae hyn yn dal yn flaenoriaeth i GIG Cymru.
Adnabod a thrin sepsis Mae Sepsis yn gallu peryglu bywyd. Mae’n digwydd pan fydd y corff yn gorweithio yn erbyn haint ac yn dechrau ymosod ar ei organau ei hun. Gall gael ei achosi gan rywbeth mor syml â thorri’r croen neu frathiad gan bryfyn, neu gan haint fel niwmonia. Mae’n risg hefyd ar ôl llawdriniaeth, neu i fenywod sydd newydd roi genedigaeth. Mae sepsis yn aml yn ffactor pan fydd pobl yn mynd yn sâl yn sydyn ac yn marw. Mae pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yn rhan o’r ymgyrch i fynd i’r afael â sepsis. Rydym wedi rhoi canllawiau penodol i sefydliadau, ac mae’n rhaid iddynt eu dilyn os ydynt yn canfod sepsis. Mae’r hysbysiadau diogelwch cleifion hyn yn bwysig i wneud yn si r bod gofal yn cael ei roi yn gyflym.
2. Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal
Atal anafiadau drwy gwympo Mae cwympo yn un o brif achosion anabledd a marwolaeth ymysg pobl h n yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n arwain at broblemau fel poen, colli hyder ac annibyniaeth. Mae atal cwympo wedi bod yn flaenoriaeth bwysig i holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru.
CAMAU I FYND I’R AFAEL Â SEPSIS • Mae pob un o sefydliadau GIG Cymru yn cymryd rhan yn Niwrnod Sepsis y Byd bob blwyddyn; digwyddiad bydeang sy’n hyrwyddo’r ffyrdd gorau o atal sepsis drwy godi ymwybyddiaeth o’r symptomau a’r camau y mae gofyn eu cymryd. • Mae staff yn y byrddau iechyd i gyd wedi cael hyfforddiant ymateb cyflym i ddefnyddio chwe elfen allweddol atal sepsis – a elwir yn ‘Sepsis Six’. • Rydym yn defnyddio’r Rhybudd Cynnar Cenedlaethol (NEWS) i fonitro iechyd pob claf mewn ysbyty. • Mae llawer o wardiau ysbyty yn cadw pecyn o gyfarpar gwrth-sepsis fel bod modd trin sepsis yn gyflym cyn gynted ag y caiff ei ganfod. G wyliwch fideo a ffilmiwyd yng Nghymru ar gyfer Diwrnod Sepsis y Byd www.bit.ly/wsd13vid
11 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio mewn partneriaeth ag adran hamdden Cyngor Sir Gâr i ddatblygu rhaglenni ymarfer corff i oedolion bregus i’w gwneud yn gryfach ac i annog pobl sydd wedi cael strôc i ganfod ffyrdd i ymarfer. Caiff y rhaglenni eu darparu mewn lleoliadau cymunedol ar draws y sir. Cyflwynwyd llwybr gofal, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, i alluogi oedolion h n sydd wedi cwympo i aros gartref ar ôl cael asesiad gan
barafeddygon. Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol wedyn yn gweithio gyda nhw, gan gynnal asesiad perygl cwympo a nodi ffyrdd o leihau’r risg y bydd yr unigolyn yn cwympo eto. Gall meddygon teulu hefyd gyfeirio pobl sy’n fregus, neu y mae perygl iddynt gwympo, at y Timau Adnoddau Cymunedol i gael eu hasesu. I’r oedolion h n hynny sy’n dal i gwympo er eu bod yn cael help, mae mynediad cyflym hefyd at wasanaeth asesu eiddilwch. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys arbenigwr mewn gofal henoed, ynghyd â thîm amlddisgyblaethol.
3
Eich trin ag urddas a pharch Mae gan bawb hawl i gael ei drin ag urddas a pharch ac rydym yn credu bod hynny’n bwysig iawn. Mae’n golygu trin pobl yn garedig a thrugarog. Rhaid inni gael hyn yn iawn bob amser. Rydym yn falch fod y rhan fwyaf o bobl yn dweud wrthym eu bod yn hapus iawn â’r gofal y maen nhw’n ei gael. Ar y llaw arall, fe wyddom fod achosion yn digwydd weithiau lle nad yw ansawdd y gofal rydym yn ei roi yn bodloni ein safonau disgwyliedig. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn cymryd camau er mwyn inni allu dysgu gwersi a gwella pethau. Rydym wedi sicrhau bod pawb ar draws GIG Cymru wedi dysgu gwersi o ganfyddiadau adroddiad o’r enw ‘Ymddiried mewn Gofal’ a fu’n edrych ar y safonau gofal mewn dau o’n hysbytai. Mae gennym lawer o ffyrdd eraill o gadw llygad ar ba mor dda rydyn ni’n gwneud a ble mae angen inni wella. Rydym wedi gosod safonau clir ac rydym yn bwrw golwg ar y rhain yn rheolaidd. Cyhoeddir adroddiad bob blwyddyn i ddangos a ydyn ni’n llwyddo i gadw at y safonau hanfodol hyn. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio’n galed i wneud y gwelliannau a nodwyd gan Gomisiynydd Pobl H n Cymru yn dilyn yr adolygiad a gynhaliwyd ganddi. Mae gennym arolygwyr sy’n ymweld â holl ysbytai GIG Cymru gydol y flwyddyn i wneud yn si r bod pobl yn cael gofal diogel a thrugarog. Mae’r arolygwyr yn cyhoeddi eu hadroddiadau fel bod pawb yn gallu gweld pa mor dda mae ysbytai’n gwireddu disgwyliadau. Ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: www.hiw.org.uk/hafan
12 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
3. Eich trin ag urddas a pharch
Ymweliadau Ansawdd Dirybudd
Roedd angen inni wneud yn si r nad oedd y materion a godwyd yn adroddiad ‘Ymddiried mewn Gofal’ yn gyffredin yng Nghymru, felly cynhaliwyd ymweliadau ansawdd dirybudd â 70 ward acíwt i oedolion mewn 20 ysbyty yng Nghymru, a bron hanner yr holl wardiau iechyd meddwl i bobl h n. Yn ystod yr ymweliadau edrychwyd ar y gofal yr oedd y cleifion yn ei dderbyn, er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu rhoi yn gywir, gan gynnwys cyffuriau tawelu. Edrychwyd hefyd i weld a oedd unigolion yn cael y gofal cywir o ran cael diod a mynd i’r toiled. Roedd yn gyfle hefyd i siarad â chleifion, teuluoedd, gofalwyr a staff am y gofal oedd yn cael ei ddarparu. Daethpwyd ar draws llawer o arferion da yn ogystal â meysydd y gellid eu gwella. Roedd y meysydd i’w gwella yn cynnwys pethau fel gwella’r ffordd o storio meddyginiaethau ar y ward ac adolygu faint o ddogfennau a gofnodir gan staff. Rydym hefyd yn mynd i lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth ar draws Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd yfed mwy o hylif a sicrhau nad yw cleifion yn dioddef o ddiffyg hylif. Ymddiried mewn Gofal: www.bit.ly/Ymddiriedmewngofal Ymweliadau ansawdd dirybudd: www.bit.ly/gwiriadau Hanfodion Gofal: www.bit.ly/hanfodion
13 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Gofal ymataliaeth Rydym yn gwybod bod ymataliaeth (continence) yn bryder mawr i bobl sy’n mynd i’r ysbyty, yn enwedig os ydyn nhw’n h n. Yn ystod yr ymweliadau dirybudd, edrychwyd yn fanwl ar ofal ymataliaeth. Rydym wedi ymrwymo i wneud yn si r bod pobl yn cael help i fynd i’r t bach lle bo angen. Rydym hefyd am wneud yn si r, os oes rhaid ffitio cathetrau, eu bod nhw’n saff a bod llai o berygl i bobl gael heintiau ar y d r. Ers tair blynedd mae sefydliadau GIG Cymru wedi cymryd rhan mewn rhaglen i hyrwyddo defnydd saffach o gathetrau. Rydym wedi cyflwyno ‘bwndel gofal’ (cyfuniad o’r ffyrdd mwyaf diogel o weithio) o ran cathetrau, ac mae hyn wedi arwain at ostyngiad mewn heintiau. Ym Mwrdd
Iechyd Addysgu Powys mae’r rhaglen wedi cael ei hymestyn o ysbytai i’r gymuned ac mae’n cael ei defnyddio gan nyrsys cymunedol. Mae pecyn ymataliaeth cenedlaethol wedi cael ei ddatblygu hefyd sy’n cynnwys safonau gofal i helpu staff i asesu anghenion cleifion a’u helpu os nad ydyn nhw’n gallu ymatal. Caiff y mesurau hyn eu gwirio drwy system riportio hanfodion gofal. Er bod yr ymweliadau dirybudd wedi gweld llawer o enghreifftiau o arferion da, fe ddaethpwyd ar draws meysydd lle’r oedd angen gwella. Gofynnwyd i’r wardiau hynny wneud gwelliannau. Bydd ein harolygwyr yn cadw llygad ar ofal ymataliaeth pa fyddant yn ymweld â’r ysbytai.
3. Eich trin ag urddas a pharch
Rydym yn gweld nifer gynyddol o bobl â dementia yng Nghymru wrth i bobl fyw yn hirach. Mae hyn yn golygu bod dementia ar lawer o gleifion mewn ysbytai, er eu bod yn aml yn cael eu trin am bethau eraill. Mae’n wirioneddol bwysig bod pobl â dementia yn cael gofal priodol ac yn cael gofal sy’n gwneud iddynt deimlo’n saff a diogel. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i hyn yn y flwyddyn sydd i ddod. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd yr un cyntaf yng Nghymru i wneud Cynllun Pili Pala yn rhan annatod o’i waith er mwyn adnabod cleifion dementia mewn ysbytai a darparu gofal wedi’i deilwra ar eu cyfer. Mae dros 1,000 o staff wedi cael eu hyfforddi ac mae’r bwrdd iechyd yn bwriadu penodi
Cefnogi cleifion â dementia ‘Pencampwyr Pili Pala ‘ ar bob ward. Mae’r cynllun ar gael yn y Gymraeg hefyd.
14 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf caiff ‘n’ad fi’n angof’ ei ddefnyddio i ddynodi cleifion â dementia neu broblemau cof eraill. Mae’r n’ad fi’n angof yn atgoffa gweithwyr
iechyd proffesiynol i ddarparu lefel uwch o gymorth os oes angen. Mae cleifion â dementia yn llenwi taflen ‘Dyma fi’ gyda help aelodau’r teulu, i roi gwybodaeth am eu bywyd a’r pethau maen nhw’n eu hoffi, er mwyn helpu’r staff i ddarparu gofal sy’n bersonol iddyn nhw.
3. Eich trin ag urddas a pharch
Sicrhau urddas ar ddiwedd bywyd
Marw gartref Rydym yn gwybod y byddai’n well gan y rhan fwyaf o bobl farw gartref, yn hytrach nag yn yr ysbyty. Ac roedd hynny’n sicr yn wir am Mr T, pan gafodd ddiagnosis o ganser sylfaenol a oedd wedi ymledu i’w afu, ac nad oedd modd ei drin.
Rydym yn benderfynol y bydd pobl yn cael gofal trugarog a diogel wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu bywyd. Rhaid i anghenion a dymuniadau’r unigolyn fod wrth galon pob gwasanaeth ac mae angen cefnogi teuluoedd hefyd. Byddai’n well gan lawer o bobl farw gartref yn hytrach nag mewn ysbyty ac rydym am i gynifer â phosib o bobl gael gwireddu eu dymuniadau. Mae’n destun balchder mai Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu mynediad 24/7 at wasanaethau gofal lliniarol. Mae teuluoedd pobl sydd wedi marw yn dweud wrthym i’w profiadau fod yn rhai cadarnhaol ar y cyfan. Rydym yn mesur hyn ar raddfa a elwir yn iWantGreatCare, ac mae’r sgôr cyfartalog i ofal diwedd bywyd yn 9.5 allan o 10. Un o’r ffyrdd rydyn ni wedi gwella gofal yw drwy gyflwyno blychau ‘Rhag Ofn’ i sicrhau bod modd cael gafael ar feddyginiaethau arbenigol yn hawdd o nifer o gyfleusterau fel fferyllfeydd ac ysbytai. Mae hyn yn sicrhau bod timau’n gallu rhoi cyffuriau effeithiol i gleifion y tu allan i’r oriau agor arferol. Ewch i iWantGreatCare Cymru www.bit.ly/iwgcwales
15 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Roedd ei unig fab yn byw gerllaw, felly roedd yn awyddus i gael marw gartref. Trefnwyd iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty er mwyn i hyn allu digwydd. Roedd Mr T yn ddyn preifat iawn ac nid oedd yn awyddus i gael ei weld gan sawl gweithiwr iechyd proffesiynol gwahanol. Roedd ganddo hefyd nifer o ddymuniadau penodol yngl n â’r modd yr oedd am i’w ofal personol gael ei ddarparu. Aeth nyrs glinigol arbenigol o Ofal Hosbis Dewi Sant i weld Mr T i egluro wrtho sut y byddai ei ofal diwedd oes yn gweithio. Trefnwyd mai tîm bychan o nyrsys cartref fyddai’n gofalu amdano, a hynny er mwyn parchu ei ddymuniad i gael cyn lleied â phosib o weithwyr iechyd proffesiynol. Roedd y nyrsys hefyd yn gallu rhoi cefnogaeth i fab Mr T, a oedd yn ei chael yn anodd ymdopi â’r dirywiad sydyn yn iechyd ei dad. Treuliodd Mr T bythefnos olaf ei fywyd yn ei gartref, ac roedd ei fab gydag ef pan fu farw. Aeth y nyrs o’r hosbis ati i ymolchi Mr T a’i wisgo yn y dillad yr oedd ef ei hun wedi’u dewis. Fe arhosodd hi gyda mab Mr T nes i’r trefnydd angladdau gyrraedd.
4
Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn Rydym eisiau gwneud yn si r ein bod yn gwybod bod y gofal a’r driniaeth a gewch chi yn effeithiol. Rydym yn gwneud hyn drwy sicrhau bod pob triniaeth wedi cael ei phrofi i ddangos ei bod yn gweithio, a hynny’n seiliedig ar yr ymchwil gorau sydd ar gael. Weithiau, efallai mai ni fydd y rhai sy’n darganfod y dystiolaeth, a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd rhan mewn ffyrdd newydd o weithio a rhoi cynnig ar driniaethau newydd. Rydym eisiau gwneud yn si r hefyd fod pawb yng Nghymru yn cael triniaeth effeithiol, ble bynnag maen nhw’n byw a pha sefydliad bynnag sy’n darparu’r gofal. Dyna ein hymrwymiad i degwch – sicrhau bod pawb yn gallu bod yn si r eu bod yn cael gofal iechyd o ansawdd uchel. Rydym yn canfod ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau fel nad oes rhaid i bobl deithio’n bell i ysbytai, neu nad oes rhaid iddynt fynd i’r ysbyty o gwbl. Rydym am ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel mewn gwahanol fannau, nid o reidrwydd ym mhob ysbyty, a chyn agosed i gartrefi pobl â phosib. I’n helpu i wireddu hyn rydym yn cynhyrchu cynlluniau cyflawni sy’n darparu arweiniad a chyfeiriad i GIG Cymru ar feysydd penodol, gan gynnwys: strôc, clefyd y galon, canser, diwedd bywyd, iechyd anadlol, cleifion sy’n ddifrifol wael, diabetes a gofal llygaid. Mae’r Cynlluniau Cyflawni i gyd i’w gweld yma: www.bit.ly/cyflawni
16 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
4. Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn
Gwell gofal i gleifion sydd â chlefyd yr arennau
Gwyliwch y fideo yn www.bit.ly/nightdialysis
Mae’r tîm arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cyflwyno gwasanaeth dialysis arennol gartref yn y nos i gleifion sydd ENILLYDD GWOBR â chlefyd cronig ar yr arennau. Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd bywyd cleifion, er a pob enghraifft, maen nhw’n gallu treulio M a e w e d i g w e ll a mwy o amser gyda’u teuluoedd yn d d o ’m y w y d i e w g a gwneud y pethau maen nhw’n eu lu . b y w y d fy n h e u mwynhau, does dim rhaid iddyn a n s ea nhw deithio i’r ysbyty mor aml, ac – H a y le ig h , S w mae eu hiechyd yn llawer gwell.
SICRHAU’R TRINIAETHAU CANSER GORAU POSIB Mae sawl elfen ynghlwm wrth ddarparu gofal canser o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl yn byw mewn ffyrdd sy’n gallu helpu i atal canser rhag digwydd. Os yw pobl yn datblygu canser, mae’n bwysig cael diagnosis cyflym. Mae angen penderfynu’n gyflym ar yr opsiynau llawdriniaeth, radiotherapi a chemotherapi er mwyn i bobl cael triniaeth cyn gynted â phosib.
hunanasesiadau ac arolygiadau gan arbenigwyr yw’r adolygiadau cymheiriaid. Mae adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi hyd yma ar driniaethau am ganser yr ysgyfaint, ac mae adolygiad Cymru gyfan o wasanaethau canser yr ysgyfaint ar gael. Mae’n hanfodol ein bod yn cyrraedd y safonau uchel rydyn ni am eu gwireddu, felly mae cymryd rhan mewn adolygiadau ac archwiliadau cenedlaethol yn bwysig iawn. Mae hefyd yn golygu bod modd canfod unrhyw broblemau a mynd i’r afael â nhw.
Mae GIG Cymru yn cynnal ‘adolygiadau cymheiriaid’ o wasanaethau canser i wneud yn si r bod pob sefydliad yn darparu’r gofal gorau posib i bobl â chanser. Cymysgedd o
17 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Darllenwch yr Adolygiad gan Gymheiriaid ar Ganser yr Ysgyfaint 2013 yn: www.bit.ly/canserysgyfaint
‘Clybiau Coesau’ yn gwella canlyniadau iechyd Ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys mae’r tîm nyrsio ardal wedi sefydlu nifer o ‘Glybiau Coesau’ arbenigol sy’n galluogi cleifion i gael triniaeth mewn lleoliad cymunedol lleol yn hytrach nag ysbyty. Mae’r ffordd newydd hon o ddarparu gofal wedi arwain at lawer gwell triniaeth i bobl. Mae wlserau’n gwella’n well ac mae cleifion yn dweud bod agwedd gymdeithasol y clybiau yn wirioneddol werthfawr iddynt. Mae hefyd yn golygu nad yw pobl yn gorfod mynd i’r ysbyty ENILLYDD GWOBR mor aml.
4. Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn
Eich cadw’n saff gartref Mae staff yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio i drefnu gofal i bobl yn eu cartrefi drwy brosiect llwybrau gofal amgen. Mae staff ambiwlans yn defnyddio gwasanaethau cymunedol ar gyfer cleifion sydd wedi cwympo neu wedi cael episodau epileptig neu hypoglycaemig. Yn hytrach na mynd â nhw i’r ysbyty, gall parafeddygon gyfeirio cleifion at eu meddyg teulu neu dîm cymunedol penodedig.
hwn yn M a e’r g w a it h if io n y n c a el si c rh a u bo d c le p ri od ol , g a n y y g of a l m w y a f f p ri od ol , a r y r c li n ig w r m w y a n y ll e ia w n . a d eg ia w n a c y
ea n , – Gr ay ha m M cLh GI G Y m dd ir ie do la et A m bi w la n s Cy m ru . Gw as an ae th au
Gwell gofal i famau a babanod digwyddiad o arwyddocâd cymdeithasol ac emosiynol. Rydym am i fenywod a’u teuluoedd gael eu trin ag urddas a pharch.
Ein gweledigaeth i wasanaethau mamolaeth yn GIG Cymru yw gwasanaeth lle mae beichiogrwydd a geni plentyn yn cael ei gydnabod fel
Rydym am i feichiogrwydd a geni plentyn fod yn brofiad diogel a chadarnhaol i bob mam, dim ots ble mae hi’n byw na beth yw ei hamgylchiadau. Rydym am wneud yn si r bod pob mam, ei chymar a’r teulu yn gallu dechrau rhianta gan deimlo’n hyderus a galluog a’u bod yn cael cefnogaeth dda i
18 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
roi cychwyn sicr i’w plentyn mewn bywyd. I gyflawni hyn mae’r Byrddau Iechyd yn: • Holi menywod a’u partneriaid am eu profiad o wasanaethau mamolaeth a defnyddio’r sylwadau i wella gwasanaethau. • Cefnogi menywod i fyw mewn ffordd iach. • Gwella mynediad uniongyrchol at fydwraig erbyn cwblhau 10 wythnos o feichiogrwydd. • Cynyddu’r cyfraddau genedigaethau normal a
gwneud llai o doriadau cesaraidd. • Annog mamau i fwydo’u babanod ar y fron. Mae cymorth amrywiol yn cael ei ddarparu i rieni a’u plant drwy raglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru, sef rhaglen i’r blynyddoedd cynnar. Mae rhieni sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn cael gwasanaeth mwy cynhwysfawr gan ymwelwyr iechyd, ynghyd â chymorth rhianta, gofal plant rhan-amser safonol a help i ddatblygu iaith gynnar.
4. Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn
GALLWCH CHI WNEUD GWAHANIAETH Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi agor Uned Driniaethau Ymchwil Clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae hyn yn golygu bod cleifion yng Nghymru yn gallu cymryd rhan am y tro cyntaf mewn treialon cynnar ar gyffuriau newydd arloesol. Recriwtiwyd cleifion yn barod i fwy na 70 astudiaeth ymchwil.
Help i wella cleifion sydd ‘chlwyfau’ ers amser hir Bydd pobl sydd â chlwyfau fel wlserau gwasgu a niwed arall i’r croen yn cael help gan ganolfan ragoriaeth atal a thrin clwyfau sydd wedi agor yng Nghymru, y ganolfan gyntaf o’i bath yn y byd. Partneriaeth yw’r Ganolfan Arloesi ym Maes Gwella Clwyfau (WWIC) rhwng GIG Cymru, prifysgolion Cymru, cwmnïau a Llywodraeth Cymru. Mae clwyfau a niwed i’r croen yn gallu digwydd yn aml i gleifion yn yr ysbyty neu bobl yn y gymuned sydd â phroblemau symud. Bydd y ganolfan newydd yn datblygu dulliau trin newydd i helpu pobl sy’n dioddef â chlwyfau. Bydd hefyd yn nodi sut i atal clwyfau rhag datblygu neu fynd yn waeth.
19 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Gwasanaeth Gwaed Cymru
OEDDECH CHI’N GWYBOD? Gall rhoddwyr gwryw roi bob 12 wythnos a rhoddwyr benyw bob 16 wythnos.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac mae’n dibynnu ar berthynas gref â’r cyhoedd i sicrhau bod cyflenwadau gwaed a phlasma ar gael i sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Maent wedi mynd ati i geisio cynyddu nifer y bobl sydd ar y gofrestr rhoddwyr mêr esgyrn er mwyn sicrhau bod pobl â chlefydau difrifol iawn yn gallu cael trawsblaniadau hollbwysig. Mae GIG Cymru yn diolch o waelod calon i’r holl bobl sydd wedi rhoi i Wasanaeth Gwaed Cymru. Mae nifer y rhoddwyr mêr esgyrn wedi rhagori ar yr holl dargedau, sy’n golygu bod llawer o gleifion wedi elwa o driniaeth hollbwysig.
YMCHWIL YNG NGHYMRU Mae GIG Cymru yn cymryd rhan mewn ymchwil pwysig i wella sawl maes gofal iechyd. Mae’r rhain yn cynnwys: canser yn gysylltiedig â HPV, adsefydlu ar gyfer clefyd Parkinson, canfod diabetes math 1 yn gynnar mewn pobl ifanc, trin clefyd llygaid thyroid, a chlefyd arennol mewn babanod a phlant bach. Dim ond drwy i gynifer o’n cleifion helpu a chymryd rhan y gallwn ni wneud hyn. Yn 2014 dosbarthodd Llywodraeth Cymru £40.5 miliwn, drwy NISCHR, i gynorthwyo ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
b rhodd bo dydd …i ddiwallu’r angen am waed yn ysbytai’r De, y Gorllewin a’r Canolbarth.
5
Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol Mae GIG Cymru am wneud yn siŵr eich bod yn cael y gofal y mae ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch. Mae’n well datrys y rhan fwyaf o broblemau iechyd yn gyflym fel bod pobl yn gallu mynd yn ôl i’w bywyd normal, neu cyn agosed â phosib at hynny, mor gyflym â phosib. Mewn rhai meysydd, gwyddom fod pobl yn aros yn rhy hir i gael triniaeth. Rydym yn gweithio’n galed i wella hyn. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r gwasanaethau lle mae’n wirioneddol bwysig bod pobl yn cael eu gweld a’u trin yn amserol. Rydym wedi edrych yn arbennig ar sicrhau bod pobl yn gallu gweld eu meddyg teulu pan fydd angen iddynt wneud hynny. Mae ein gwasanaeth ambiwlans a’r adrannau damweiniau ac achosion brys yn ein hysbytai wedi bod dan bwysau. Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein gwasanaethau brys yn gallu ymateb i anghenion lleol. Mae hyn hefyd yn golygu darparu rhagor o wasanaethau yn ein cymunedau fel nad oes angen mynd i’r ysbyty os oes opsiynau mwy priodol ar gael. Rydym yn cydweithio’n agos a’n partneriaid gofal cymdeithasol ac ag asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau integredig sy’n gweddu i’ch anghenion. Ond nid mater i ofal brys yn unig yw hwn. Trefnir miloedd o lawdriniaethau, profion a thriniaethau bob dydd yn GIG Cymru. Mae cael cydbwysedd rhwng darparu gofal brys a sicrhau ein bod yn gallu gwneud y llawdriniaethau a’r gweithdrefnau eraill sydd wedi’u cynllunio yn her. Mae angen inni ddarparu ein gwasanaethau i gyd yn amserol ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pobl yn cael y gofal y mae ei angen arnynt heb orfod aros yn rhy hir amdano. Gallwch chi ein helpu i wireddu hyn. Cofiwch wneud Dewis Doeth wrth ddefnyddio gwasanaethau GIG Cymru. Gwyddom fod llawer o bobl yn gwneud hynny’n barod – diolch yn fawr ichi!
20 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
5. Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol
Arweiniad Dr Olivia i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys Byddai’n fwy buddiol i lawer o’r bobl sy’n dod i adrannau brys ddefnyddio gwasanaethau eraill, fel y gwasanaeth deintyddol brys neu fferyllfa leol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn egluro’r neges bwysig honno mewn ffilm lle gwelir ymgynghorydd Damweiniau ac Achosion Brys ieuengaf Cymru, Dr Olivia.
GWELLA’R LLIF CLEIFION DRWY YSBYTAI Mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi gwella’r ‘llif cleifion’ yn eu hysbytai, wedi lleihau oedi ac wedi gwneud yn si r bod cleifion yn cael triniaeth yn gyflymach. Mae prosiect ‘Canolbwyntio ar Lif’ wedi gweld gostyngiad yn lefel y galw ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys ac wedi cynyddu nifer y cleifion sy’n cael eu trosglwyddo i ysbyty o ambiwlans o fewn y targed 15 munud. ENILLYDD GWOBR
Mae’r ffilm, ‘Dr Olivia’s Guide to A&E: Is it really an Emergency?’, eisoes wedi cael ei gwylio gan filoedd o bobl ac wedi cael ei dangos ar Newyddion y BBC. Mae’n ffordd hwyliog o gyfleu neges bwysig iawn.
Gallwch ei gwylio yma: www.bit.ly/drolivia
Mae’n bwysig bod pawb yng Nghymru yn gwneud Dewis Doeth. Ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 i gael gwybod ble yw’r lle gorau i geisio help.
Osgoi pwysau diangen ar ein gwasanaethau brys Mae’r Ganolfan Triniaethau Alcohol yng nghanol dinas Caerdydd yn help i ostwng nifer y bobl sy’n mynd i’r adran frys yn Ysbyty Athrofaol Cymru oherwydd ENILLYDD GWOBR anafiadau yn gysylltiedig ag alcohol. Alcohol sy’n gyfrifol am 70% o’r derbyniadau i adrannau brys ar yr oriau brig. Mae hyn yn golygu bod mwy o botensial i ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais, ac mae hefyd yn golygu bod pobl yn gorfod aros yn hirach i gael eu gweld.
21 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Anfonwyd llai na 25% o’r bobl a gafodd eu trin yn y ganolfan i’r ysbyty. Dywedodd llawer o gleifion fod y gofal a gawsant wedi eu helpu i beidio â Llai na goryfed efo.
25%
5. Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol
Blaenoriaeth i ofal llygaid
Y CAMAU RYDYM YN EU CYMRYD
5000
• Rydym yn ariannu 5000 o apwyntiadau Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru ar draws y wlad. Mae hyn wedi golygu bod 5000 o gleifion a fyddai wedi cael eu hapwyntiad mewn gwasanaeth llygaid ysbyty yn gallu cael gofal llygaid gan eu hoptometrydd achrededig lleol.
Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau i bobl sydd ag iechyd llygaid gwael ac sy’n colli eu golwg. Gwyddom y gall fod angen triniaeth gyflym iawn ar rai cyflyrau llygaid difrifol ac rydym yn gwybod nad oes triniaeth wedi’i rhoi’n ddigon cyflym weithiau i atal pobl rhag colli eu golwg. Rydym wedi cyhoeddi cynllun sy’n egluro beth y mae GIG Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau gofal llygaid, i sicrhau bod pobl yn cael y gofal y mae ei angen arnynt. Rydym yn symud mwy o wasanaethau allan o’r ysbytai i’w gwneud yn haws i bobl gael gafael arnynt, yn nes at ble maen nhw’n byw.
22 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru
• Gall optometrydd yn eich stryd fawr leol roi cyngor arbenigol ichi ar broblemau llygaid sydd angen sylw ar frys, a’r ffordd orau o’u trin. Mae ganddynt offer gwell nag sydd gan feddygon teulu i archwilio’r llygaid. • Mynd i’r afael ag oedi ac achosion wedi ôl-gronni mewn clinigau offthalmoleg. • System ‘e-gyfeirio’ newydd i wneud yn si r bod pobl yn cael eu gweld yn gynt. • Uwchraddio cyfarpar ar draws Cymru i wella sganiau a phrofion. • Rydym yn cynnal prosiectau ysgol i helpu plant i ddeall pwysigrwydd iechyd llygaid.
5. Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol
Ei gwneud yn haws o lawer i gleifion y galon gael cyngor arbenigol Pan fydd angen cyngor arbenigol ar gleifion, rydym am wneud yn si r eu bod yn gallu ei gael yn gyflym. Er enghraifft, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am sicrhau bod pobl â phroblemau ar y galon yn gallu cael cyngor cardiolegol arbenigol lle bo’i angen. Trefnwyd rhaglen newydd o brofion ar y cyd â ‘rhith’ gysylltiadau ag ymgynghorwyr cardioleg. Drwy hyn, sicrhawyd gofal mwy cyflym a diogel i bobl, drwy ddarparu gwasanaethau yn nes at eu cartrefi. Mae rhywfaint o waith i’w wneud eto i sicrhau bod yr holl driniaethau ar gael, ond cafwyd rhai llwyddian nau nodedig: • Mynediad cyflym at gyngor a rheolaeth arbenigol wedi golygu bod y cyfnod aros o fwy na 30 diwrnod wedi gostwng i lai na dau ddiwrnod ar gyfartaledd. • 80 y cant o bobl yn cael eu rhyddhau’n ddiogel gyda’r driniaeth iawn, heb orfod mynd i glinig ysbyty. • Cyfraddau uchel o fodlonrwydd â’r gwasanaeth ymysg cleifion a meddygon teulu.
Cewch wybod rhagor yn y fideo hwn: www.bit.ly/bcucardio
23 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Gwella llawdriniaeth i gleifion y galon Mae llawdriniaeth ar y galon yn un o’r llawdriniaethau mwyaf difrifol y gall person ei chael, a dim ond pan fydd yn gwbl angenrheidiol y caiff ei gwneud. Unwaith y mae’r penderfyniad i roi llawdriniaeth ar y galon wedi cael ei wneud, mae’n bwysig iawn nad yw pobl yn gorfod disgwyl yn rhy hir. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gweithredu ar bryderon yngl n ag amseroedd aros i gleifion y galon sydd angen
llawdriniaeth. Er bod y cyfraddau gwella i bobl oedd wedi cael llawdriniaeth yn dda iawn, roedd yr oedi’n golygu nad oedd rhai pobl yn cael eu llawdriniaeth mewn pryd a’u bod yn marw tra oeddent yn disgwyl am driniaeth. I ddelio â hyn, cynyddwyd nifer y llawdriniaethau ar y galon er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth angenrheidiol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl sydd angen y llawdriniaeth bwysig hon yn gallu ei chael yn ddiogel ac yn gynt nag o’r blaen.
6
Eich trin chi fel unigolyn Mae’r pethau sy’n bwysig i chi yn bwysig i ninnau hefyd. Rydym am gael pethau’n iawn o ran eich gofal a sicrhau ei fod yn diwallu’ch angen unigol chi, gan roi llais i’ch teulu neu’ch gofalwyr pan fydd angen. Rydym yn datblygu ffyrdd newydd o wrando ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym am ein gwasanaethau, gan ein bod eisiau gwybod beth sy’n wirioneddol bwysig i bawb. Hefyd, rydym eisiau i bobl ddweud wrthym am unrhyw bryderon sydd ganddynt am eu gofal, neu os ydynt wedi cael eu siomi gan y gofal a gawsant. Rydym yn defnyddio proses o’r enw ‘Gweithio i Wella’ i ddelio â materion sy’n cael eu codi gan gleifion. Rydym wedi adolygu hyn yn ddiweddar, felly fe wyddom fod angen inni ei gwneud yn haws i bobl gael ateb i’w pryderon. Rydym angen eich help gyda hyn – manteisiwch ar unrhyw gyfle i ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl o’r gofal rydyn ni’n ei ddarparu a sut gallwn wella pethau’n gyflym. Mae clywed hanes cleifion wedi bod o fudd mawr inni. Mae byrddau iechyd yn aml yn cynnwys stori claf yn eu cyfarfodydd. Mae hynny’n rhoi cyd-destun dynol byw i drafodaethau am faterion ansawdd. Hoffem ddiolch i bob un sydd wedi dweud ei stori wrthym. Mae’n werthfawr iawn i ni wrth inni geisio parhau i wella.
24 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
6. Eich trin chi fel unigolyn
gwasanaethau iechyd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio gwasanaeth atgoffa dwyieithog ar ffurf neges destun sy’n helpu pobl i gadw’u hapwyntiad claf allanol. Rhoddir dewis iaith i gleifion o’u hapwyntiad cyntaf un. Mae therapyddion iaith a lleferydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi dechrau defnyddio pecynnau cyfrwng Cymraeg newydd i helpu plant dan dair oed sy’n siarad Cymraeg.
Pwysigrwydd iaith Rydym am i bawb gael gofal iechyd o’r ansawdd gorau posib. Mae rhai pobl yn teimlo’n fwy hyderus yn mynegi eu hanghenion gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, a phan fyddant yn sâl neu’n fregus maen nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg â’r staff.
Gwyddom hefyd fod angen inni fod yn rhagweithiol – efallai na wnaiff pobl ofyn i staff gofal iechyd siarad Cymraeg; mae angen i ni wneud yn si r ein bod yn gofyn i bobl pa iaith y byddai’n well ganddyn nhw ei defnyddio. Mae sawl enghraifft lle’r ydym yn ehangu’r dewis iaith ym mhob maes o’r
25 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Dros y flwyddyn nesaf, bydd angen inni ganolbwyntio ar gyflawni’r camau yn ein strategaeth genedlaethol ‘Mwy Na Geiriau’ a Safonau’r Gymraeg sydd ar fin dod i rym. Mwy Na Geiriau: www.bit.ly/mtjwfbl Comisiynydd y Gymraeg: www.bit.ly/comgymgw
DWY FUNUD WERTHFAWR Arolwg yw Dwy Funud o’ch Amser, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae wedi’i seilio ar faterion y gwelwyd eu bod yn dweud wrthym a yw cleifion yn teimlo iddynt gael eu trin ag urddas a pharch. Mewn ymateb i’r arolygon, mae’r Bwrdd Iechyd wedi rhoi blaenoriaeth i wneud cleifion yn fwy cyfforddus ar y wardiau ac yn ystod y prosesau rhyddhau.
6. Eich trin chi fel unigolyn
Defnyddwyr gwasanaethau yn helpu i ddatblygu gwell cyfarwyddiadau Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol ENILLYDD GWOBR Hywel Dda wedi gweithio gyda phobl sy’n defnyddio’i wasanaethau i ddatblygu gwell arwyddion, a ffyrdd o ffeindio’ch ffordd o gwmpas ysbytai. Mae’r bwrdd iechyd wedi gweithio’n agos gydag oedolion ag anableddau dysgu, y cyngor iechyd cymuned lleol a chleifion i ddylunio arwyddion sy’n defnyddio symbolau a lliwiau.
Mae defnyddio parthau lliw a symbolau hawdd eu hadnabod yn ffordd effeithiol o gyfleu cyfarwyddiadau clir, yn enwedig i oedolion ag anableddau dysgu. Mae’r adborth gan ddefnyddwyr, yn arbennig pobl â phroblemau llythrennedd, wedi bod yn gadarnhaol. Mae pobl wedi ei chael yn haws adnabod pa adran y mae ei hangen arnynt a sut mae cyrraedd yno.
Cewch wybod rhagor yn y fideo hwn: www.bit.ly/hdsignage
26 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Buddsoddi mewn gofalwyr
Mae gofalwyr yn chwarae rhan hynod o bwysig, felly rydym am eu cefnogi gystal ag y medrwn. Er enghraifft, mae meddygon teulu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwneud ymdrech i ddod o hyd i bobl sy’n gofalu am aelodau o’u teulu ac yna’n eu cefnogi drwy Wasanaeth Ychwanegol Lleol, gan ddefnyddio Pecyn Gofalwyr Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu. Anogir meddygon teulu hefyd i ganfod pobl ifanc sy’n gweithredu fel gofalwyr a chynnig cymorth iddyn nhw. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae practisau meddygon teulu, ysbytai a fferyllfeydd yn cymryd rhan yng nghynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, sy’n cynnig mwy o gymorth i ofalwyr. Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn datblygu fersiwn Gofalwr Ifanc i’w defnyddio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd i gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau sy’n gofalu am riant neu aelod o’r teulu sy’n anabl neu’n sâl.
6. Eich trin chi fel unigolyn
Gofalu am y meddwl Mae iechyd meddwl yn faes lle mae GIG Cymru yn buddsoddi’n helaeth. Mae nifer o raglenni ar waith drwy Gymru sy’n pwysleisio pwysigrwydd rhaglenni iechyd meddwl mewn bywyd bob dydd, er enghraifft mewn ysgolion. Eleni rydym wedi datblygu strategaeth i ostwng nifer y bobl sy’n lladd eu hunain neu’n niweidio eu hunain, a hynny drwy raglen o’r enw Beth am Siarad â Fi 2. Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill i roi’r sylw pennaf i bobl sydd mewn perygl o ladd eu hunain neu niweidio eu hunain. Rydym yn ceisio dysgu o ddigwyddiadau yn y gwasanaethau iechyd meddwl i’n helpu ni i wella. Rydym hefyd wedi sefydlu cynllun i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, ynghyd â’u teuluoedd, yn cael cyngor perthnasol a phrydlon. Mae ‘ACT-ion for Living’, sy’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn darparu sesiynau therapi wythnosol wedi’u seilio ar ymwybyddiaeth ofalgar. Mae i’r rhaglen ddwy brif neges – derbyn yr hyn sydd y tu hwnt i’ch rheolaeth bersonol chi ac ymrwymo i weithredu mewn modd sy’n gwella a chyfoethogi eich bywyd. Mae’n helpu pobl i grisialu beth sy’n bwysig ac yn golygu rhywbeth iddyn nhw, yna mae’n defnyddio’r wybodaeth honno i’w harwain, eu hysbrydoli a’u symbylu i wneud newidiadau a fydd yn gwneud bywyd yn well.
27 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi datblygu ‘Awgrymiadau Gwych’ i helpu pobl i ymdopi ag anawsterau cyffredin wrth gael triniaeth am ganser. Mae’r rhain yn cynnwys blinder a hwyliau isel. Mae angen cefnogaeth ar blant hefyd pan fydd aelod o’r teulu yn sâl. Felly mae staff yn cael eu hyfforddi i gyfeirio teuluoedd a gofalwyr cleifion at wybodaeth a chymorth gan wasanaethau clinigol. Ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae ‘gwasanaethau cwnsela cyfunol’ yn cael eu cynnig i blant a phobl ifanc sy’n cynnwys gwasanaethau therapi ar-lein a chwnsela wyneb yn wyneb yn yr ysgol. Gall pobl ifanc fanteisio ar gwnsela wyneb yn wyneb ac elwa o gymorth ar-lein heb gael eu cyfeirio gan feddyg. Mae gwella’r gofal ysbyty cyffredinol i bobl ag anawsterau dysgu yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru. Mae hyn yn golygu cymryd camau allweddol i sicrhau: • Bod pobl ag anableddau dysgu yn cael eu hadnabod yn gynnar • Cyfathrebu effeithiol â chleifion, gofalwyr, aelodau’r teulu a chlinigwyr • Gofal a thriniaeth urddasol, sy’n canolbwyntio ar unigolion • Adolygu effeithiol a chynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion Treialwyd y gwaith gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac erbyn hyn mae’n adrodd bod y lefel gydymffurfio yn 100%. Mae’r byrddau iechyd eraill ar wahanol gamau o ran sefydlu’r drefn, sy’n cynnwys hyfforddi pawb o’r staff.
7
Diolch o galon i bawb sy’n gweithio i GIG Cymru Mae’r bobl sy’n gweithio i GIG Cymru yn gwneud gwahaniaeth ym mhopeth a wnawn. Mae eu hangerdd a’u hymroddiad nhw yn tywynnu drwy’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Rydym am gydnabod a gwobrwyo hyn lle bynnag y medrwn, a dyna pam mae Gwobrau GIG Cymru yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Mae’r arloesi a’r gwaith caled a gaiff ei arddangos yn y Gwobrau yn ysbrydoliaeth. Byddai’n amhosib inn i allu darparu cynifer o wasanaethau a thriniaethau ledled Cymru o ddydd i ddydd heb ymrwymiad a brwdfrydedd ein staff a’n contractwyr gofal sylfaenol. Ni ddylid anghofio chwaith am y llu o wirfoddolwyr a mudiadau trydydd sector sy’n darparu gofal, cefnogaeth a chymorth ymarferol i’r bobl sydd eu hangen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i bawb sy’n gweithio i’r GIG ac i’r sefydliadau sy’n bartneriaid inni.
28 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
7. Diolch o galon i bawb sy’n gweithio i GIG Cymru
Ein staff
Rydym yn gwybod bod lles staff yn bwysig dros ben. Os na fyddant yn cael gofal da, ni fyddant yn gallu darparu gofal cystal. Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod staff yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt i barhau i ddarparu gofal i eraill. Rydym hefyd eisiau sicrhau y gall staff fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Er ein bod wedi sicrhau cynnydd o bron 10 y cant yn nifer y staff sy’n gweithio yn GIG Cymru ers 2004, rydym yn wynebu problemau o ran recriwtio i rai swyddogaethau. Rydym yn gweithio’n galetach i recriwtio meddygon
Mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 10% ers 2004. ar bob lefel wrth inni sylweddoli bod angen mwy o staff meddygol. Hefyd mae cyfleoedd i ni ymchwilio i fodelau gwaith mwy arloesol i sicrhau ein bod yn darparu’r gofal sydd ei angen. Rydym hefyd eisiau rhoi grym i’n gweithlu, gan gydnabod bod llawer o bobl yn gweithio i ni nad ydynt yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan GIG Cymru, ond yn gweithio ar gontract. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r cyfraniad aruthrol gan wirfoddolwyr a phobl sy’n gweithio yn y trydydd sector o ran rhoi cymorth a gofal i bobl ledled y wlad.
29 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Recriwtio rhagor o nyrsys Un o’r prif bethau a nodir mewn adroddiadau diweddar a gyhoeddwyd am ofal gwael ar draws y Deyrnas Unedig yw’r angen i sicrhau bod digon o nyrsys yn gweithio ar wardiau ysbytai. Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod digon o nyrsys i ddarparu gofal saff, effeithiol i bawb. Rydym wedi buddsoddi £10m ychwanegol bob blwyddyn ers 2013 i’w ddefnyddio gan y byrddau iechyd i sicrhau bod y lefelau iawn o staff nyrsio yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau safonol yn y dyfodol. Rydym wedi bod yn cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys bob blwyddyn. Mae yna hefyd gyrsiau ‘dychwelyd i ymarfer’ i bobl sydd wedi cael eu hyfforddi ond nad ydynt yn gweithio fel nyrsys ar hyn o bryd, ac a hoffai ddod yn ôl.
7. Diolch o galon i bawb sy’n gweithio i GIG Cymru
Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd Mae dros 12,000 o staff GIG Cymru wedi cwblhau lefel gyntaf Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd
Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd yw’r rhaglen ddysgu genedlaethol i holl staff a chontractwyr GIG Cymru. Mae’n darparu ffordd gyffredin a chyson o wella ansawdd gwasanaethau mewn sefydliadau GIG ar draws Cymru.
awdd gyda’n Mae Gwella Ans dimensiwn Gilydd yn rhoi ersbectif gwahanol a ph m cyfan – gwahanol i’r t ar ei ganfed. mae wedi talu r B u sn es , – Ju li a, R h eo lwA dd ys g u P ow ys B w rd d Ie ch yd
Bydd Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd yn help i bawb o’r staff wella’r ffordd maen nhw’n gweithio, i sicrhau eich bod yn cael hyd yn oed gwell gofal. Mae hefyd yn help i greu gwell amgylcheddau gwaith, i wneud eich gofal yn saffach, gostwng nifer yr achosion lle ceir oedi os oes angen triniaeth arnoch, a’ch helpu i ddychwelyd i’ch bywyd normal mor gyflym â phosib ar ôl cael triniaeth. Gallwch ganfod rhagor am Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd ar-lein yn: www.iqt.wales.nhs.uk/hafan Gwyliwch Julia’n egluro’r gwahaniaeth y mae Gwella Ansawdd gyda’n Gilydd yn ei wneud: www.bit.ly/iqtjulia
30 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
DARPARU GOFAL RHAGOROL Y TU HWNT I’N FFINIAU Bu 55 aelod o staff GIG Cymru yn gwasanaethu yn Ysbyty Maes uned wrth gefn 203 (Cymru) y fyddin yn nhalaith Helmand yn Affganistan yn 2013. Mae’r cyfnod dyletswydd o chwe mis wedi rhoi i’r staff brofiad gwerthfawr sy’n arwain ffyrdd newydd o weithio yn ôl yma yng Nghymru.
7. Diolch o galon i bawb sy’n gweithio i GIG Cymru
Tîm gwirfoddolwyr yn cefnogi pobl h n
ENILLYDD GWOBR
Mae GIG Cymru yn gwerthfawrogi’r llu o bobl sy’n rhoi o’u hamser sbâr i helpu i ddarparu cymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen. Er enghraifft, datblygwyd gwasanaeth gwirfoddolwyr Care Home Ask and Talk (CHAaT) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn partneriaeth â Chymdeithas Ymddeol y GIG. Mae’n wasanaeth unigryw a gynigir gan weithwyr GIG proffesiynol sydd wedi ymddeol, yn cefnogi pobl h n sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae Chat yn cynnig cyfarfodydd
DOD Â GWASANAETHAU’N NES ATOCH iechyd yn lleol yn y gymuned. Rydym yn buddsoddi £40 miliwn • Darparu gweithwyr gofal iechyd arall fel rhan o gynllun i wella proffesiynol medrus yn eich ardal chi. mynediad at wasanaethau gofal • Sicrhau bod cleifion yn cael sylfaenol ar draws Cymru. gwasanaeth gan feddygon teulu, Ein nod yw galluogi pobl i gael gofal nyrsys a fferyllwyr y diwrnod y yn nes at eu cartref, gan helpu pobl mae angen hynny arnynt, un ai i ofalu amdanynt eu hunain ac osgoi wyneb yn wyneb, dros y ffôn, apwyntiadau ysbyty diangen. drwy’r e-bost neu alwad fideo. Rydym am: • Bod â thimau o weithwyr iechyd a • Gynllunio a chyflenwi gwasanaethau gofal cymdeithasol proffesiynol 31 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
wyneb yn wyneb, gan gynnig cyfle i siarad yn breifat neu mewn grwpiau am brofiadau unigolion sy’n byw mewn cartref gofal nyrsio. Canolbwyntir ar ansawdd bywyd, gan wneud yn si r bod pobl sy’n byw mewn cartrefi nyrsio yn saff, yn cael gofal da a’u bod yn mwynhau byw yn y cartref. Mae llawer o enghreifftiau eraill o wirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad pwysig i waith parhaus GIG Cymru – ar ran pawb sy’n gweithio yn GIG Cymru, diolch yn fawr iawn!
Gwyliwch y fideo: www.bit.ly/abchaat
yn gweithio o amgylch cleifion i roi iddynt y driniaeth sydd ei hangen arnynt.
Ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod
Ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod Rydym wedi rhoi crynodeb ichi o’r pethau rydym wedi bod yn eu gwneud yn GIG Cymru er mwyn parhau i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar eich cyfer. Rydym am eich sicrhau hefyd y byddwn yn gweithredu pan welwn bethau sy’n achosi pryder inni. Mae’n bwysig hefyd inni edrych ymlaen a sicrhau ein bod yn glir am yr hyn mae angen inni ei wneud yn y flwyddyn i ddod er mwyn gwneud gwelliannau pellach lle gwyddom fod angen gwneud hynny. Rydym eisiau gweithio gyda chi i’ch helpu i gymryd cymaint o ofal a chyfrifoldeb â phosib am eich iechyd chi ac iechyd eich teulu. Gwyddom fod ffordd iach o fyw yn gallu helpu i’n hatal rhag mynd yn sâl. Byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau integredig â’n partneriaid y mae modd eu darparu cyn agosed â phosib at gartrefi pobl. I wneud hyn byddwn yn buddsoddi yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd yr hyn rydyn ni’n
ei alw’n ‘glystyrau gofal sylfaenol’ yn cynnig atebion lleol i sialensiau ac anghenion lleol. Rydym am weithio tuag at ddarparu cymaint ag a allwn o ofal yn eich cymuned leol ac atal teithiau diangen i’r ysbyty.
Gofal mwy amserol Rydym eisiau sicrhau ein bod yn atal oedi annerbyniol cyn cael triniaeth. Mewn rhai achosion, bydd hyn yn cymryd amser ond mae gennym nifer o raglenni ar waith i gyflwyno ffyrdd
32 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
newydd o weithio i’n helpu i gyflawni hyn, gan adeiladu ar enghreifftiau a ddisgrifiwyd yn y ddogfen hon. Byddwn yn parhau i weithredu ar yr argymhellion yn yr adroddiad ‘Ymddiried mewn Gofal’ a’n hymweliadau dirybudd. Er enghraifft, yn ystod yr haf byddwn yn cyflwyno ymgyrch yn ymwneud ag atal diffyg hylif i wneud yn si r nad yw’r cyflwr hwn, sy’n hawdd ei osgoi, yn effeithio ar bobl. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i
Ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod
atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Mae gofal iechyd yn newid drwy’r amser gyda thriniaethau a chyfarpar newydd, felly rydym yn gwybod na allwn byth sefyll yn ein hunfan. Mae angen hefyd inni gyfrannu at y wybodaeth newydd hon, felly bydd ein holl sefydliadau yn cymryd rhan mewn ymchwil er mwyn inni barhau i gyflwyno ffyrdd newydd arloesol o weithio. sicrhau ein bod yn adnabod pobl y mae dementia yn effeithio arnynt mor gynnar â phosib, fel y gallant gael y gofal gorau iddyn nhw, yn enwedig pan fyddant yn yr ysbyty. Eleni byddwn yn cymryd amryw o gamau i sicrhau bod Cymru’n dod yn wlad sy’n deall dementia.
Parchu dymuniadau pobl Rydym eisiau sicrhau ein bod yn darparu gofal urddasol i bobl ar ddiwedd eu bywyd. Rydym eisiau cael sgwrs â phobl i ganfod a ydynt am inni geisio’u hadfywio os ydynt yn sâl iawn neu’n agos at farw. Rydym am gael y sgyrsiau hyn ymhell cyn bod angen gwneud penderfyniadau, fel bod modd parchu dymuniadau pobl pan fyddant yn marw. Rydym am wella’r ffordd rydym yn ymateb i unrhyw bryderon a chwynion
am y gofal rydyn ni’n ei ddarparu. Rydym am i bawb deimlo y gallant roi gwybod inni ar unwaith os ydynt yn poeni am eu gofal, er mwyn inni allu cywiro pethau. Rydym yn cymryd nifer o gamau. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn si r bod gennym systemau da i rannu a gweithredu ar unrhyw wersi sydd i’w dysgu pan aiff pethau o chwith.
Bod yn ddarbodus Bydd egwyddorion gofal iechyd darbodus yn help mawr wrth inni geisio datblygu’n gwasanaethau. Rydym eisiau atal niwed, defnyddio triniaethau yr ydym yn gwybod eu bod yn gweithio, a gwneud yn si r bod ein gwasanaethau yn gynaliadwy. Yn arbennig, rydym eisiau gweithio gyda’r bobl sy’n defnyddio’n gwasanaethau i ganfod gwell ffyrdd o ofalu am bobl ac
33 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Uwchlaw popeth, rydym am sicrhau ein bod yn darparu gofal saff, trugarog, sy’n canolbwyntio ar unigolion. Rydym wedi ymrwymo i gywiro pethau os bydd pethau’n mynd o le gennym. Rydym eisiau gweithredu ar bryderon pobl a gweithio gyda phobl Cymru i barhau i sicrhau bod gennym Wasanaeth Iechyd Gwladol y gallwn i gyd ymfalchïo ynddo. Diolch ichi am ddarllen y Datganiad Ansawdd Blynyddol hwn. Ein nod yw darparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel i chi. Os hoffech wneud sylwadau ar y cyhoeddiad hwn neu unrhyw agwedd arall ar ofal o fewn GIG Cymru, anfonwch e-bost i DyIechyddi@cymru.gsi.gov.uk
Gwybodaeth am wasanaethau’r GIG ac am y Datganiad Ansawdd Blynyddol
Gwybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi Os hoffech gael gwybod am y gwasanaethau iechyd yn eich ardal, dyma’r dolenni at y Datganiadau Ansawdd Blynyddol a gyhoeddwyd gan fyrddau iechyd Cymru ar gyfer 2013-14.
3
1. B wrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg www.bit.ly/abmuaqs 2. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan www.bit.ly/bipabdab 3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr www.bit.ly/bipbcdab
7
4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro www.bit.ly/bipcfdab
6 1
2
5 4
5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf www.bit.ly/ctafaqs 6. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda www.bit.ly/hddaaqs 7. Bwrdd Iechyd Addysgu Powys www.bit.ly/powysaqs
34 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Mae’r tair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru hefyd yn cynhyrchu Datganiad Ansawdd Blynyddol – dyma ddolenni at y cyhoeddiadau ar gyfer 2013-14 Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru www.bit.ly/iccdab2014 Ymddiriedolaeth GIG Felindre www.bit.ly/velindreaqs Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru www.bit.ly/wacdab14
Dolenni ychwanegol
Fy Ngwasanaeth Iechyd Lleol mylocalhealthservice.wales.gov.uk/#/cy
iWantGreatCare Wales www.bit.ly/iwgcwales
Nodiadau am y Datganiad Ansawdd Blynyddol hwn
Nodiadau am y Datganiad Ansawdd Blynyddol hwn Cafodd Darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl Cymru – Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014 ei gyhoeddi gan GIG Cymru. Mae llawer o’r deunydd hwn wedi’i dynnu o Ddatganiadau Ansawdd Blynyddol 2013-2014 a gynhyrchwyd gan sefydliadau GIG Cymru. Gwnaed pob ymdrech i wirio bod y wybodaeth yn y datganiad hwn yn gywir ac yn adlewyrchu arferion gwaith cyfredol o fewn GIG Cymru adeg ei gyhoeddi.
Ysgrifennwyd a chynhyrchwyd Darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl Cymru – Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014 gan Gwella 1000 o Fywydau a phrosiect Cydynhyrchu ‘Gweithio Gyda Nid I’ ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru. Hygyrchedd i’r defnyddiwr: Mae’r adroddiad hwn wedi’i wirio gan Barod CIC, i’n helpu i’w wneud yn haws ei ddefnyddio. (www.barod.org). ©2015, GIG Cymru.
35 Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Adolygiad o wasanaethau GIG Cymru yw’r Ansawdd Blynyddol hwn. Cyhoeddir ef gan Lywodraeth Cymru.
Datganiad Ansawdd Blynyddol GIG Cymru 2014
Darparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel i bobl Cymru Mae’n ymdrin â’r pynciau canlynol: • Eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach • Eich cadw’n ddiogel tra byddwch yn ein gofal • Eich trin ag urddas a pharch • Gweithio gyda chi i wneud yn si r eich bod yn cael y gofal iawn • Gwneud yn si r eich bod yn cael gofal yn gyflym ac effeithiol • Eich trin chi fel unigolyn • Ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod