LD YDRADDO EBAU AC AR B NGH OBL A AR A'R O I AN T N GE Y N W B M L W O N YA F
FNYDD I O DE
pow y s I'R AF H EIT
GWELLA IECHYD A LLES
"CYNTAF YN Y DOSBARTH"
IACH A GOFALGAR
NAE
THA
U
I RDD O O F HYF EITHI GW BYW
hyd 2027 a thu hwnt... arweinydd ym aes iechyd a gofal gwledig integredig (Fersiwn Gryno 2, Mehefin 2017)
GW
ASA
Gweledigaeth hyd 2027 a thu hwnt
H AR GYFER T E A G I ED Y DY L E W F OD G OL E IN CA
Strategaeth Iechyd a Gofal i Bowys
WEDI'U DA RPAR YM MHOW U YS
LLE BYNNAG Y BO'N BOSIBL
Cynnwys Croeso i’r Weledigaeth ar gyfer Iechyd a Gofal ym Mhowys hyd 2027 a thu hwnt.... 3 Strategaeth ar gyfer y dyfodol....................................................................................... 4 ‘Cipolwg’ ar y Strategaeth iechyd a gofal ar gyfer Powys........................................... 5 Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd?.................................................................................... 6 Yn gwrando ar bobl Powys............................................................................................. 7 Yr hyn y mae pobl Powys wedi’i ddweud..................................................................... 8 Pa egwyddorion ddylai ein harwain?.......................................................................... 10 Gweledigaeth ar gyfer Powys iach a gofalgar............................................................ 12 Ein dull o weithredu...................................................................................................... 13 Gwireddu’r weledigaeth gydol oes pobl Powys......................................................... 14 Fe fydd iechyd a gofal yn y dyfodol ym Mhowys yn gwella trwy.............................. 17 Cadw Mewn Cysylltiad.................................................................................................. 18 Sut y gwnaethon ni ddatblygu ein Strategaeth yn ystod 2016/17............................ 19
2
Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r Strategaeth Iechyd a Gofal hyd 2027 a thu hwnt. Mae rhagor o wybodaeth yn: www.biapowys.cymru.nhs.uk/strategaeth-iechyd-a-gofal. Gwelwch dudalen 18 i gael y manylion.
Croeso i’r Weledigaeth ar gyfer Iechyd a Gofal ym Mhowys hyd 2027 a thu hwnt... Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Strategaeth Iechyd a Gofal integredig gyntaf ar gyfer Powys. Mae’n adeiladu ar filoedd o sgyrsiau rhwng pobl Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys a phartneriaid allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n amser llawn her, yn enwedig o ystyried y cyfnod maith o ddarbodaeth ac anghenion newidiol pobl Powys. Rydyn ni’n gwybod bod pobl ym Mhowys yn byw bywydau hirach ac iachach nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod Powys yn rhywle lle rydyn ni’n dyheu am helpu i wella lles pawb. Dyna pam fod gan y strategaeth hon nod i alluogi plant a phobl ifanc i gael ‘Dechrau Da’, i bobl ‘Fyw’n Dda’ ac i bobl h n ‘Heneiddio’n Dda’. Er nad yw’n disgrifio’r datblygiadau’n fanwl ar hyn o bryd—bydd hyn yn dilyn yn ystod 2017/18—mae’n amlinellu’r cyfeiriad rydyn ni’n teimlo sy’n bwysig inni fynd iddo. Hybu lles; cynnig help a chefnogaeth gynnar i bobl; mynd i’r afael â’r pedwar clefyd mawr sy’n cyfyngu ar fywyd (canser, clefydau cylchrediad y gwaed, iechyd meddwl, clefydau anadlu); a darparu gofal cydgysylltiedig yw’r meysydd allweddol rydyn ni’n awgrymu y dylen nhw ddod yn flaenoriaethau ar gyfer gweithredu.
Rydyn ni hefyd eisiau darparu cymaint o iechyd a gofal â phosibl ym Mhowys. Cafwyd llwyddiant go iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wrth gyflwyno gwasanaethau newydd, ac rydyn ni o’r farn y gallem ni—wrth i dechnoleg newydd ddatblygu, er enghraifft— wneud mwy ym Mhowys. Rydyn ni’n gwybod y bydd angen i rai pobl barhau i deithio am wasanaethau y tu allan i’r sir, ond fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau o fewn cyrraedd gwell lle bynnag bo hynny’n bosibl. Fe hoffem ni ddiolch i bawb fu’n helpu i siapio’r strategaeth hon hyd yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn ystod 2017/18 i roi hyn ar waith mewn trefi a chymunedau ledled y sir. Yr Athro Viv Harpwood, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd, Cyngor Sir Powys
2027
A THU HWNT
Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n treulio mwy o amser ac ymdrech yn helpu pobl i gadw’n iach, i’w helpu nhw i gymryd camau cynnar i atal iechyd gwael ac i gael cymorth a, lle bo galw am ofal a thriniaeth, ein bod ni’n gweithio gyda phobl i sicrhau bod gofal yn gydgysylltiedig a’i fod wedi’i seilio ar y pethau sydd o’r pwys mwyaf i’r unigolyn. 3
Strategaeth ar gyfer y dyfodol Pam fod angen i ni gael strategaeth ar gyfer y dyfodol? Mae cymaint wedi newid dros y deng mlynedd diwethaf— dronau, ffonau clyfar, darbodaeth. Fe fyddwn ni’n gweld mwy fyth o newidiadau yn y deng mlynedd nesaf. Mae yna rai newidiadau y gallwn ni eu rhagweld. Fe fydd eraill yn ein dal yn annisgwyl. Ond yn bendant, mae angen inni gydweithio i greu dyfodol lle mae pawb ym Mhowys yn cael y cyfle gorau i fyw bywydau iach, llawn ac annibynnol, lle mae pobl yn dyheu am fyw, dysgu a ffynnu. Rydych chi wedi bod yn rhannu’ch meddyliau yngl n â’r newidiadau sydd o’n blaenau, a dyma’r prif themâu. Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar yr hyn y mae pobl Powys wedi’i ddweud am eu hiechyd a’u gofal—mewn arolygon defnyddwyr gwasanaeth, cwynion, canmoliaethau, digwyddiadau ymgysylltu, cynadleddau a fforymau defnyddwyr gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys digwyddiad Dyfodol Iechyd a Gofal ym mis Rhagfyr 2016, ac mae’r “cofnodion gweledol” o’r digwyddiad hwn wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon drwyddi draw. Cynigiwyd y cyfle i’r cyfranogwyr gymryd rhan yn naill ai’r Saesneg neu’r h Gymraeg, ac mae’r delweddau et a hyn yn adlewyrchu’r iaith eg t a ddewiswyd. ra
st
4
PAWB YM MHOWYS
Rydych chi wedi bod yn rhannu’ch meddyliau am iechyd a gofal
Rydyn ni’n datblygu gweledigaeth ar gyfer dyfodol iechyd a gofal ym Mhowys...
Canolbwyntio
gy nnar
Help a Chefnogaeth
Mynd i r Afael A r Pedwar Mawr
sut rydyn ni’n defnyddio adnoddau
dau
od
a lp He
Chefnogae th
Dyfodol y Gweithlu
ad n
Go fal a Ch y m o rth
problemau iechyd meddwl
canSer
ar ffoc w s
sgyrsiau gonest
cwbl
clefydau anadlu
clefydau cylchrediad y gwaed
Cyfartal ym Mhowy fle s Cy gof
pobl a chymunedau
al arbenig ol
triniaethau a thechnolegau
partneriaid cyfartal
dyfodol
CRYFDERAUTraw snew id
mewn Partn eriae th
l
id ig o
Fe fydd dyfodol iechyd a gofal yn gwella trwy...
iddio’n Hene
dd wy ne
Fe fydd egwyddorion eglur wrth wraidd ein blaenoriaethau a’r camau y byddwn ni’n eu cymryd...
Byw’ n
n lu nl cy
Fe fyddwn ni’n cefnogi pobl i wella’u hiechyd a’u lles trwy...
h r au Dec
Hybiau Cymunedol
D
EIN NOD YW CYFLAWNI’R WELEDIGAETH HON GYDOL OES POBL POWYS...
All illustrations by ©Scarlet Design Int. Ltd 2017 www.FranOHara.com
‘Cipolwg’ ar y Strategaeth Iechyd a Gofal ar gyfer Powys
mewn Partneriaeth
Ca n olf ol annau Rhanbart h
Dyfodol y Gweithlu
Amgylcheddau Arloesol
Digidol yn gyntaf
Trawsnewid mewn Partneriaeth
5
Beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd? • Mae pobl yn byw yn hirach, ond nid yw’r blynyddoedd hynny bob amser yn rhai iach.
• Mae yna fwy o gyfleoedd i gefnogi pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.
• Mae triniaethau newydd yn cael eu datblygu a allai helpu mwy o bobl, ond maen nhw’n ddrud.
• Mae yna sail wirfoddoli gref ym Mhowys, sydd o fudd mawr iawn, ond fe allai hyn ddiflannu os na fyddwn ni’n cymryd camau i’w gynnal.
• Mae technoleg wedi datblygu cymaint. Mae hyn yn golygu bod y ffordd y gellir darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a’r ffordd y gellir cefnogi pobl, yn newid. • Mae’r gweithlu wedi newid – mae yna brinderau yn nifer o’r meysydd proffesiynol (fel gweithwyr gofal a meddygon) ac mae’n debygol y bydd hyn yn parhau am gryn amser. • Mae llawer o adeiladau lleol yn hen ac yn anaddas i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal modern. • Mae darbodaeth, a fforddiadwyedd a chynaliadwyedd y gwasanaethau presennol, yn wir broblem – ni all gwasanaethau aros yr un fath.
• Mae yna amrywiad yn y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ledled y sir. Mae rhai gwasanaethau’n cael eu darparu y tu allan i Bowys, ac mae pobl yn dibynnu ar wasanaethau o amgylch ffiniau’r sir. Mae’n gallu bod yn her cael mynediad i wasanaethau. • Mae llawer o’r gwasanaethau o amgylch ffiniau’r sir yn newid. Mae rhai gwasanaethau Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yn dod yn fwy arbenigol tra bo modd darparu eraill yn fwy lleol. • Mae newidiadau yn y boblogaeth yn golygu y bydd yna fwy o bobl h n a llai o bobl ifanc ym Mhowys yn y dyfodol. • Mae disgwyliadau oes pobl yn wahanol, gan ddibynnu ar eu hincwm a’r lle y maen nhw’n byw, sy’n annheg.
hau sy'n cael eu darparu le gwasanaet dled y y n y d ia sir w y r am
mae’n gallu bod yn her cael mynediadi wasanaethau
6
SAIL WIRFODDOLI GREF YM MHOWYS
newidiadau yn y boblogaeth
mae technoleg wedi newid cymaint
mwy o gyfleoedd i gefnogi pobl yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain
ni all gwasanaethau aros yr un fath
mae’r boblogaeth yn newid
Yn gwrando ar bobl Powys Crëwyd y mapiau ‘Cofnodion gweledol’ hyn yn Saesneg yn un o’n digwyddiadau ‘Dyfodol Iechyd a Gofal’ ym mis Rhagfyr ’16, i ddarlunio barn a syniadau’r rheini a gymerodd ran.
7
Yr hyn y mae pobl Powys wedi’i ddweud... Rhoi pobl yn gyntaf “Gwnes i ddysgu am reoli fy null o fyw, am atal ail byliau o salwch ac am ymyrraeth gynnar trwy fod yn ymwybodol o’r pethau sy’n sbarduno’r salwch ac o’r arwyddion rhybuddio cynnar. Fe newidiodd y rhaglen yma fy mywyd a dwi bron yn sicr ei bod wedi achub fy mywyd. Dwi nawr yn rheoli fy anhwylder deubegynol yn lle dim ond ymdopi ag ef.” (Defnyddiwr Gwasanaeth)
Defnyddio technoleg yn well: “Defnyddio mwy ar dechnoleg a’i defnyddio’n well” “Mae angen cysylltiadau gwell mewn gwasanaethau ac yn y cartref trwy Fand Eang, 4G ac ati” “Mae angen cymorth arnon ni i ddefnyddio technoleg”.
8
“Rhoi sylw i anghenion gofalwyr” “Rhoi anghenion dinasyddion, a phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, wrth galon eich cynlluniau” “Goresgyn rhwystrau i bobl sydd â nam ar eu synhwyrau, anableddau ac anghenion eraill o ran mynediad” “Darparu gwasanaethau yn Gymraeg” “Gwrando arnon ni a’n parchu”.
“Byddai’n helpu pe baech chi’n gallu mynd am ryw ymarfer corff ysgafn sydd wedi’i drefnu’n benodol ar gyfer pobl hŷn, yn y gymuned. Byddai’n eich cadw chi’n symud” (Defnyddiwr Gwasanaeth)
Sicrhau bod gwybodaeth a chyngor o fewn cyrraedd gwell
“Rhoi gwybod i bobl am y pethau y gallan nhw eu gwneud i gadw eu hunain yn iach” “Codi ymwybyddiaeth ac arwain pobl at y wybodaeth a’r gefnogaeth iawn i gael help yn gynt”.
Yr hyn y mae pobl Powys wedi’i ddweud... Cydlynu a chydgysylltu gwasanaethau
“Mae angen i wasanaethau fod ar gael yn Gymraeg heb orfod gofyn, yn ogystal â’r egwyddor nad oes camwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu bod nhw’n byw mewn ardal wledig.” (Defnyddiwr Gwasanaeth)
“Caniatáu rhannu gwybodaeth yn ddiogel” “Lleoli gwasanaethau fel bod yna lai o alw am nifer o wahanol apwyntiadau, a chaniatáu i mi weld gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol mewn un lle” “Cynllunio gwasanaethau mewn ffyrdd sy’n helpu pobl i gydweithio”.
“Cofiwch. Pan mae pobl ifanc yn dod am help, maen nhw’n aml yn ofnus. Efallai eich bod chi’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, ond dydyn nhw ddim yn gwybod.” (Defnyddiwr Gwasanaeth)
Sicrhau bod gwasanaethau a thrafnidiaeth o fewn cyrraedd gwell
“Nid yw’n hawdd i mi deithio i’r dref neu i’r ysbyty” “Nid oes gen i gar ac mae’n anodd i mi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus” “Mae mwyafrif y gwasanaethau ysbyty y tu allan i’r sir” “Dwi’n ei chael hi’n anodd cael gafael ar ofal iechyd o amgylch fy ymrwymiadau gwaith a gofal”.
Gwasanaethau lleol “Darparu gwasanaethau’n lleol lle bo’n bosibl” “Ystyried cael ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys” “Dod â gwasanaethau ynghyd mewn hybiau cymunedol” “Cysylltu iechyd a gofal â gweithgareddau cymunedol” “Fy helpu i atal problemau iechyd a gofal rhag codi”. 9
Pa egwyddorion ddylai ein harwain? Ar sail yr hyn rydyn ni wedi’i glywed, rydyn ni wedi nodi chwe egwyddor a fydd yn ein harwain wrth inni greu dyfodol iach a ffyniannus ar gyfer pobl a chymunedau Powys. Mae cyflawni ein gweledigaeth yn golygu dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng y chwe egwyddor hyn.
dau
ar
n lu nl y c
sgyrsiau gonest
Go fal a Chy m o rth
sut rydyn ni’n defnyddio adnoddau
EGWYDDOR 1. Gwneud Beth Sy’n Bwysig Fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar ‘Beth Sy’n Bwysig’ i bobl. Fe fyddwn ni’n cydweithio i gynllunio gofal a chymorth wedi’i bersonoli, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau sy’n bwysig i’r unigolyn.
10
EGWYDDOR 2. Gwneud Beth Sy’n Gweithio Fe fyddwn ni’n darparu gofal a chymorth sy’n canolbwyntio ar ‘beth sy’n gweithio’, ar sail tystiolaeth, gwerthusiad ac adborth. Fe fyddwn ni’n cael sgyrsiau gonest yngl n â sut rydyn ni’n defnyddio adnoddau.
a lp e H
Chefnogae th
a dn
od
ffoc w s
dyfodol
EGWYDDOR 3. Canolbwyntio ar yr Angen Mwyaf Fe fyddwn ni’n canolbwyntio adnoddau ar y rheiny sydd â’r angen mwyaf am help a chefnogaeth, mewn ffordd sy’n ystyried cenedlaethau’r dyfodol.
Pa egwyddorion ddylai ein harwain? Ar sail yr hyn rydyn ni wedi’i glywed, rydyn ni wedi nodi chwe egwyddor a fydd yn ein harwain wrth inni greu dyfodol iach a ffyniannus ar gyfer pobl a chymunedau Powys. Mae cyflawni ein gweledigaeth yn golygu dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng y chwe egwyddor hyn.
pobl a chymunedau
Cyfartal ym Mhowy e l f s Cy gof al arbenig ol
dd wy ne
triniaethau a thechnolegau
EGWYDDOR 4. Sicrhau Bod Gwasanaethau o Fewn Cyrraedd Teg Fe fyddwn ni’n sicrhau bod gofal arbenigol a thriniaethau a thechnolegau newydd o fewn cyrraedd teg, gan helpu i gyflawni Powys fwy cyfartal a chydnabod heriau gwledig.
partneriaid cyfartal EGWYDDOR 5. Bod yn Ddarbodus Fe fyddwn ni’n defnyddio adnoddau cyhoeddus yn ddoeth fel bod gwasanaethau iechyd a gofal dim ond yn gwneud y pethau mai dim ond y nhw sy’n gallu eu gwneud, gan gefnogi pobl i fod yn bartneriaid cyfartal a chymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd a’u gofal.
CRYFDERAU EGWYDDOR 6. Gweithio Gyda Phobl a Chymunedau Fe fyddwn ni’n gweithio gydag unigolion a chymunedau i ddefnyddio’u holl gryfderau mewn ffordd sy’n sicrhau’r iechyd a’r gofal gorau posibl i bawb, gan ganolbwyntio ar bob cam o fywyd — Dechrau Da, Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda. 11
Gweledigaeth ar gyfer Powys iach a gofalgar
12
pow y s I'R AF H EIT
M W YA F
"CYNTAF YN Y DOSBARTH"
IACH A GOFALGAR
THA
U
I RDD O O F HYF EITHI GW BYW
NAE
l Fe fydd Powys yn arwain y ffordd o ran iechyd a gofal gwledig effeithiol, integredig
FNYDD I O DE
GWELLA IECHYD A LLES
A'R AN GE N
ASA
l Fe fydd pobl yn dewis Powys fel lle i hyfforddi, gweithio a byw
AR IO T YN W B L NO
DDOLDEBAU AC A HYDRA R BO ANG BL
hyd 2027 a thu hwnt... arweinydd ym aes iechyd a gofal gwledig integredig
GW
l Fe fyddwn ni’n defnyddio ‘Punt Powys’ i’r eithaf
CA
l Fe fyddwn ni’n rhoi pobl Powys yn gyntaf
ETH AR GYF ER A G I D Y DY LE E W F OD G OL E IN
WEDI'U DA RPAR YM MHOW U YS
LLE BYNNAG Y BO'N BOSIBL
l Fe fyddwn ni yn “gyntaf yn y dosbarth” o ran gwella iechyd a lles l Fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau ym Mhowys ac ar bobl â’r angen mwyaf
l Fe fyddwn ni’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys lle bynnag y bo hynny’n bosibl
EIN DULL O WEITHREDU Ein bwriad yw gwireddu’r weledigaeth gydol oes pobl Powys. Mae gan y strategaeth hon nod i alluogi plant a phobl ifanc i gael ‘Dechrau Da’, i bobl ‘Fyw’n Dda’ ac i bobl h n ‘Heneiddio’n Dda’.
Byw’ n
h r au Dec
iddio’n Hene
4 MAES ALLWEDDOL Fe fydd ein gwaith yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:
Canolbwyntio
gy nnar
• hybu lles
Help a Chefnogaeth
• cynnig help a chefnogaeth gynnar i bobl • mynd i’r afael â’r pedwar clefyd mawr sy’n cyfyngu ar fywyd (canser, clefydau cylchrediad y gwaed, iechyd meddwl, clefydau anadlu)
1. Canolbwyntio ar Les clefydau cylchrediad y gwaed
• darparu gofal cydgysylltiedig. Ar Dudalennau 14 i 16, rydyn ni wedi darparu enghreifftiau o’r ffyrdd y byddwn ni’n cefnogi pobl yn ystod pob un o’r tri chyfnod mewn bywyd.
canSer
2. Help a Chefnogaeth Gynnar
clefydau anadlu
cwbl
problemau iechyd meddwl
Mynd i r Afael A r Pedwar Mawr 3. Mynd i’r Afael â’r ‘Pedwar Mawr’
4. Gofal Cydgysylltiedig 13
Gwireddu’r weledigaeth gydol oes pobl Powys h r au Dec
Dechrau Da
Byw’n Dda
Heneiddio’n Dda
Dyma rai enghreifftiau o sut y byddwn ni’n cefnogi pobl i gael Dechrau Da... clefydau cylchrediad y gwaed
Canolbwyntio
gy nnar
Help a Chefnogaeth Canolbwyntio ar Les • Fe fyddwn ni’n darparu hybiau cymunedol integredig gydag addysg, cymunedau a’r sector gwirfoddol, gan sicrhau gwasanaethau sy’n hygyrch yn lleol. • Fe fyddwn ni’n datblygu rhaglen holistaidd gyda chymunedau i gefnogi chwarae a gweithgareddau i’r meddwl a’r corff, gan ddefnyddio mannau gwyrdd awyr agored.
14
Help a Chefnogaeth Gynnar • Fe fyddwn ni’n buddsoddi mewn cymorth emosiynol ac ymddygiadol i deuluoedd, plant a phobl ifanc er mwyn eu helpu nhw i ymdopi a’u cefnogi yn y cyfnod hwnnw pan maen nhw’n dod yn oedolion. • Fe fyddwn ni’n cael effaith mor bositif â phosibl o fewn y 1000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn, gan ganolbwyntio ar atal profiadau niweidiol mewn plentyndod. • Fe fyddwn ni’n targedu adnoddau at deuluoedd dan anfantais. • Fe fyddwn ni’n cefnogi ac yn cynorthwyo gofalwyr ifanc.
canSer
clefydau anadlu
cwbl
problemau iechyd meddwl
Mynd i r Afael A r Pedwar Mawr
Mynd i’r Afael â’r ‘Pedwar Mawr’ • Fe fyddwn ni’n cefnogi plant a theuluoedd i greu sylfeini iechyd da drwy gydol eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys pwysau iach, diet a gweithgarwch positif, y gallu i ymdopi’n bersonol ac â pherthnasoedd, a chamau eraill a fydd yn lleihau’r risg o ddatblygu’r pedwar prif beth sy’n achosi iechyd gwael a marwolaethau cyn pryd yn ddiweddarach mewn bywyd: - canser - clefydau cylchrediad y gwaed - clefydau anadlu - problemau iechyd meddwl
Gofal Cydgysylltiedig • Fe fyddwn ni’n cynnig profiad cwbl integredig o iechyd a gofal i bobl ifanc a theuluoedd. • Fe fyddwn ni’n sicrhau bod iechyd a gofal yn gweithio’n agos â darparwyr addysg i gefnogi pobl ifanc a datblygu ymddygiadau iach. • Fe fyddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu diogelu.
Gwireddu’r weledigaeth gydol oes pobl Powys Dechrau Da
Byw’ n
Byw’n Dda
Heneiddio’n Dda
Dyma rai enghreifftiau o sut y byddwn ni’n cefnogi pobl i Fyw’n Dda... clefydau cylchrediad y gwaed
Canolbwyntio
gy nnar
Help a Chefnogaeth Canolbwyntio ar Les • Fe fyddwn ni’n grymuso pobl i wneud dewisiadau deallus ar sail gwybodaeth sydd wedi’i theilwra ac sy’n eu galluogi nhw i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain, ac yn canolbwyntio ar greu amgylchedd sy’n gwneud y dewis iach yn ddewis haws. • Fe fyddwn ni’n defnyddio cryfderau cymunedol a’r amgylchedd ffisegol i’r eithaf i gefnogi pobl i gynnal eu hiechyd a’u lles.
Help a Chefnogaeth Gynnar • Fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar i gefnogi annibyniaeth a chyfranogiad pobl â nam ar eu synhwyrau, anableddau corfforol, anawsterau dysgu a chyflyrau eraill. • Fe fyddwn ni’n cefnogi pobl i fod yn annibynnol ac yn weithgar yn eu cymunedau. • Fe fyddwn ni’n nodi’n gynt y bobl hynny sydd mewn risg o ddatblygu clefyd, a byddwn ni’n eu helpu nhw i leihau’r risg a’r effaith. • Fe fyddwn ni’n canolbwyntio ar weithgareddau sy’n lleihau’r angen am lawdriniaethau ac yn gwella canlyniadau ar ôl llawdriniaeth.
canSer
clefydau anadlu
cwbl
problemau iechyd meddwl
Mynd i r Afael A r Pedwar Mawr
Mynd i’r Afael â’r ‘Pedwar Mawr’ • Fe fyddwn ni’n datblygu gwasanaethau effeithiol i drin a chefnogi pobl sy’n dioddef o’r pedwar prif beth sy’n achosi iechyd gwael a marwolaethau cyn pryd ym Mhowys : - canser - clefydau cylchrediad y gwaed - clefydau anadlu - problemau iechyd meddwl • Fe fyddwn ni hefyd yn datblygu cymorth i leihau effaith a nifer yr achosion o glefydau yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gofal Cydgysylltiedig • Fe fyddwn ni’n cynnig dull mwy cyd-drefnus o fynd ati i reoli cyflyrau tymor hir sy’n rhoi cyfle i bawb adeiladu ar eu cryfderau. • Fe fyddwn ni’n datblygu gwasanaeth sy’n gweddu i fywydau prysur pobl – gan ddarparu dewis a gwasanaethau hygyrch a theg yn fwy lleol. • Fe fyddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu trigolion.
15
Gwireddu’r weledigaeth gydol oes pobl Powys Dechrau Da
Byw’n Dda
iddio’n Hene
Heneiddio’n Dda
Dyma rai enghreifftiau o sut y byddwn ni’n cefnogi pobl i Heneiddio’n Dda... clefydau cylchrediad y gwaed
Canolbwyntio
gy nnar
Help a Chefnogaeth Canolbwyntio ar Les • Fe fyddwn ni’n cefnogi pobl h n i fod mor egnïol â phosibl, trwy wirfoddoli a gwneud ymarferion y corff a’r meddwl. • Fe fyddwn ni’n annog pobl i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, a chymryd camau sy’n lleihau cynnydd a nifer yr achosion o gyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, fel dementia. • Fe fyddwn ni’n cefnogi amrywiaeth o opsiynau llety ac yn sicrhau eu bod nhw’n hygyrch i bobl wrth iddyn nhw heneiddio. 16
canSer
clefydau anadlu
problemau iechyd meddwl
Mynd i r Afael A r Pedwar Mawr
Help a Chefnogaeth Gynnar
Mynd i’r Afael â’r ‘Pedwar Mawr’
• Fe fyddwn ni’n defnyddio technoleg fel bod pobl h n yn gallu gofalu am eu hunain ac aros yn annibynnol, ac i annog mwy o gynhwysiant cymdeithasol.
• Fe fyddwn ni’n datblygu gwasanaethau effeithiol i drin a chefnogi pobl sy’n dioddef o’r pedwar prif beth sy’n achosi iechyd gwael a marwolaethau cyn pryd ym Mhowys:
• I ofalwyr, fe fyddwn ni’n parhau i ddatblygu gwasanaethau i ddiwallu anghenion holistaidd y teulu ac i ddarparu gofal seibiant digonol.
• Fe fyddwn ni’n helpu pobl i drechu unigrwydd ac allgáu cymdeithasol ac i fod yn aelod gweithgar o’u cymuned.
cwbl
- canser
- clefydau cylchrediad y gwaed - clefydau anadlu - problemau iechyd meddwl • Fe fyddwn ni hefyd yn datblygu cymorth i leihau effaith a nifer yr achosion o glefydau yn ddiweddarach mewn bywyd.
Gofal Cydgysylltiedig • Fe fyddwn ni’n cefnogi timau iechyd a gofal i weithio’n ddi-dor gyda phobl h n i gael pethau’n iawn y tro cyntaf ac i atal anghenion rhag gwaethygu. • Fe fyddwn ni’n adolygu’r gwasanaethau iechyd a gofal presennol ac yn buddsoddi mewn amgylcheddau iechyd a gofal a fydd yn diwallu anghenion yn y dyfodol – gan ddarparu dewis a gwasanaethau hygyrch a chyddrefnus. • Fe fyddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu trigolion.
• Cefnogi ein gweithlu i ddatblygu modelau gofal arloesol mewn amgylchedd gwledig trwy addysg, ymchwil, hyfforddiant a thechnoleg.
• Tyfu gweithlu Powys trwy hyfforddi a datblygu lleol.
• Cefnogi trydydd sector ffyniannus ac economi graidd.
• Hybu lles yn y gweithle.
Digidol yn Gyntaf • Fe fydd technoleg a theleofal yn cefnogi pobl i fod yn annibynnol. • Fe fydd telefeddygaeth a chyfathrebu trwy wegamerâu (e.e. Skype) yn dod â sgiliau a gwybodaeth arbenigwyr o bell i bobl ym Mhowys. • Fe fydd gwybodaeth, a’r gallu i gael gafael ar wybodaeth, yn galluogi pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb a gwneud dewisiadau deallus.
• Fe fydd y gweithlu iechyd a gofal yn hyblyg i ymateb i anghenion pobl yn amserol.
• Datblygu “hybiau cymunedol” integredig sy’n darparu “siop un stop” i bobl leol, a hefyd defnyddio cyfleusterau ac asedau cymunedol i gryfhau’r modd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal lleol. • Llety sy’n briodol ac yn diwallu angen.
l
id ig o
• Cefnogi pobl i weithio’n hirach, gan sicrhau bod gwybodaeth, sgiliau a phrofiad yn cael eu trosglwyddo.
Amgylcheddau Arloesol
Dyfodol y Gweithlu
Hybiau Cymunedol
D
Dyfodol y Gweithlu
Ca n olf ol annau Rhanbart h
iechyd a gofal, gan ddarparu amgylchedd gofal ac amgylchedd gweithio modern sy’n gwneud pobl yn falch.
• Datblygu canolfannau rhanbarthol gwledig ym • Mynd i’r afael â Mhowys i alluogi darparu chyfleusterau o cymaint o iechyd a gofal ansawdd gwael integredig â phosibl yn y sir. Traw snew id ar gyfer gwasanaethau
fe fydd iechyd a gofal yn y dyfodol ym Mhowys yn gwella Trawsnewid trwy... mewn
mew n Part neri aeth
Partneriaeth
• Fe fydd datblygiadau newydd mewn technoleg yn galluogi gwneud mwy o brofion diagnostig lleol ym Mhowys. • Cydweithio i gefnogi pobl i ddefnyddio technoleg.
• Cryfhau’r ymgysylltu ag unigolion, teuluoedd, cymunedau a phartneriaid ar draws y sector gwirfoddol, y sector statudol a’r sector busnes trwy gynllunio ar sail ardal. • Chwalu rhwystrau hanesyddol rhwng sefydliadau, gan weithio mewn ffordd fwy integredig i ymateb i anghenion
mewn Partneriaeth holistaidd pobl. • Gwella gwasanaethau ar sail yr hynny sy’n gweithio’n dda. • Gwella’r comisiynu i ddarparu mwy o wasanaethau yn y sir, a chynnig gwell parhad gofal yn achos gwasanaethau a ddarperir y tu allan i’r sir. 17
Cadw Mewn Cysylltiad Mae mewnwelediadau miloedd o bobl a phartneriaid ledled Powys wedi dylanwadu ar y strategaeth hon ac wedi darparu sail ar ei chyfer. Yn ystod 2017/18 fe fyddwn ni’n dechrau ei rhoi ar waith. Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda chi i wneud beth sy’n bwysig, gwneud beth sy’n gweithio, canolbwyntio ar yr angen mwyaf, sicrhau bod gwasanaethau o fewn cyrraedd teg, bod yn ddarbodus a gweithio gyda phobl a chymunedau.
18
Mae ein Gweledigaeth ar gyfer Powys Iach a Gofalgar wedi’i datblygu gyda chi – pobl Powys. Mae angen i chi hefyd siapio’r camau nesaf. Yn ystod 2017/18, rydyn ni’n cynllunio cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau fel eich bod chi’n gallu’n helpu ni i benderfynu ar ein blaenoriaethau i Ganolbwyntio ar Les, darparu Help a Chefnogaeth Gynnar, Mynd i’r Afael â’r Pedwar Clefyd Mawr sy’n cyfyngu ar fywyd, a sicrhau Gofal Cydgysylltiedig. Fe fydd hyn yn cynnwys gweithio gyda chi i ddatblygu opsiynau a chynigion clir gydol oes – gan helpu pobl Powys i gael Dechrau Da, Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda. Fe fyddwn ni hefyd yn dechrau rhoi’r sylfeini iawn ar waith ar gyfer y dyfodol. Felly, yn ystod 2017/18 fe fyddwn ni hefyd yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynlluniau mwy manwl ar gyfer: • Amgylcheddau Arloesol • Digidol yn Gyntaf • Dyfodol y Gweithlu, a • Thrawsnewid mewn Partneriaeth.
Os hoffech chi gadw mewn cysylltiad, a chael eich ychwanegu at ein cronfa ddata i dderbyn rhagor o wybodaeth a chymryd rhan mewn digwyddiadau yn y dyfodol: • Gallwch chi weld mwy am hyn ar www.biapowys.cymru.nhs.uk/ strategaeth-iechyd-a-gofal • Gallwch chi ymuno â’r ddadl ar Twitter trwy @PTHBHealth #PowysHCS • Gallwch chi anfon e-bost atom ni yn powys.engagement@wales. nhs.uk • Gallwch chi ysgrifennu atom ni yn Tîm Strategaeth Iechyd a Gofal, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, Powys LD3 0LU
Sut y gwnaethon ni ddatblygu ein Strategaeth yn ystod 2016/17 Mai 2016 Bu Cyngor Sir Powys (CSP) a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn datblygu fframwaith cynllunio
Cam 1: Datblygu Ein Strategaeth Darparodd mwy na 1000 o aelodau o’r cyhoedd, staff a phobl a sefydliadau eraill rydyn ni’n gweithio gyda nhw eu barn, a chyfrannodd hyn at ddatblygu ein strategaeth ddrafft
MehefinAwst 2016:
Tachwedd 2016
Mân Weithdai ar 21 thema
Digwyddiad Staff Iechyd a Gofal
Cam 3: Lansio’r Strategaeth Lansio’r strategaeth 10 mlynedd ledled Powys
Gorffennaf 2017
Mawrth 2017
Lansio cyfnod nesaf y gwaith ledled y sir
Cabinet CSP a Bwrdd BIAP yn cymeradwyo Strategaeth Iechyd a Gofal Powys
Rhagfyr 2016
Datblygwyd dogfen ymgynghori’r strategaeth ddrafft o’r adborth
Digwyddiad Creu Gweledigaeth â’r Cyhoedd, Staff a Rhanddeiliaid
Cam 2: Gofyn i Bobl am eu Barn • 23 o ddigwyddiadau Ymgysylltu Strategaeth Iechyd a Gofal, gyda 500+ o bobl • 26 o Sioeau Teithiol a Digwyddiadau Asesu Lles mewn Trefi a Phentrefi ledled Powys – mewn llyfrgelloedd, canolfannau siopa, canolfannau cymunedol, ysbytai, marchnadoedd a garejis • Cyrhaeddwyd cynulleidfa eang trwy’r cyfryngau cymdeithasol
IonawrChwefror 2017 Ymgysylltu Cam 2
Datblygwyd dogfen strategaeth ddiwygiedig o Adborth Cam 2
FNYDD I O DE
pow y s I'R AF H EIT
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm yn powys.engagement@wales.nhs.uk
Eiddo Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yw’r adroddiad hwn. Mae croeso ichi atgynhyrchu tudalennau unigol o’r adroddiad hwn, gyda’r gydnabyddiaeth a ganlyn “Detholiad o’r ‘Strategaeth Iechyd a Gofal ar gyfer Powys’ ©Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys, 2017”
GWELLA IECHYD A LLES
"CYNTAF YN Y DOSBARTH"
IACH A GOFALGAR
NAE
THA
U
DDI FOR HYF EITHIO GW BYW
ASA
Dyluniwyd yr adroddiad a’r darluniadau gan ©Scarlet Design Int. Ltd 2017 www.FranOHara.com
LD YDRADDO EBAU AC AR B NGH OBL RA A A'R AN TIO N GE Y N W B M L W O N YA F
hyd 2027 a thu hwnt... arweinydd ym aes iechyd a gofal gwledig integredig
GW
Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan y Tîm Rhaglen Strategaeth Iechyd a Gofal ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys.
CA
GAETH AR GYFER Y I D E L DYF WE OD G N OL I E
WEDI'U DA RPAR YM MHOW U YS
LLE BYNNAG Y BO'N BOSIBL