Skip to main content

Scouts Cymru

Page 1


The Songbook Llyfr Caneuon y Squirrels

11 o ganeuon i’wchwarae a’u canu

Geiriau a cherddoriaeth gan Chris

Words and music by Chris James | Translation by Ceri Catrin

James | Cyfieithu gan Ceri Catrin

Squirrels yn Wiglo

The Squirrel Wiggle

Squirrels Bychan

Little Squirrels

Gwna dy Orau Glas

The Do Your Best Song

Cân Hip Hip Hwrê

The Hip-Hip-Hooray Song

Y Gân Neidio

The Jumping Song

Cân Symud Ymlaen

The Moving On Song

Fe hoffwn fynd i Squirrels bob un dydd

I Wish I Went to Squirrels Every Day

Pe bai plu ‘da ni

If a Squirrel had Wings

Amser Squirrels

It’s Time for Squirrels

Cân Diolch

The Thank You Song

Y coed pigog, pigog

The prickly, prickly woods

Diolch am ddewis fersiwn Gymraeg llyfr caneuon y Squirrels.

Gobeithiwn y bydd yn dod â digon o hwyl, cerddoriaeth a hyder i'ch sesiynau. Byddem wrth ein bodd yn gweld eich gr ŵp ar waith - os ydych chi'n recordio unrhyw glipiau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cofiwch dagio @ScoutsCymru fel y gallwn rannu'r llawenydd.

Diolch arbennig i Scouts UK am ariannu cyfieithu caneuon y Squirrels a'n helpu i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy ar draws Sgowtio yng Nghymru.

Thank you for choosing the Welsh-language version of the Squirrels songbook.

We hope it brings plenty of fun, music and confidence to your sessions. We’d love to see your group in action - if you record any clips for social media, remember to tag @ScoutsCymru so we can share the joy.

A special thank you to Scouts UK for funding the translation of the Squirrels songs and helping us make Welsh more visible across Scouting in Wales.

1 Squirrels yn Wiglo

The Squirrel Wiggle

Pennill 1 | Verse 1

Dewch gyda ni a wigl, wigl, wigl, Pawennau fry a sigl, sigl, sigl,

I’r chwith neu’r dde, pa ffordd ei di?

Tyrd i wiglo gyda ni!

Pennill 2 | Verse 2

Lindys sy’n gwingo ond Squirrel sy’n wiglo

Dalia bensil a dechrau sgriblo,

Lan neu lawr, pa ffordd ei di?

Mae pawb yn wiglo gyda ni!

Coda

Mae pawb yn wiglo gyda ni, Ie mae pawb yn wiglo gyda ni.

Squirrels Bychan Little Squirrels

Pennill 1 | Verse 1

Casglu mes y goedwig, a bod yn ofalus iawn, A gadael rhai i’r adar, teimlo’r heulwen drwy’r prynhawn, Crychu trwyn, pawennau mas, Squirrels yn yr awyr las,

Da iawn chi am fod yn rhan o’n nyth arbennig ni.

Cytgan | Chorus

Squirrels bychan, dyma chi, Tyfu’n fawr, tyfu’n dal fel y dderwen gry’, Am ganghennau! Dyna ddail!

Da iawn chi am fod yn iach a tyfu’n uwch na’r haul.

Pennill 2 | Verse 2

Amser gwely’n galw ac mae’r lleuad yn y nen,

Amser cysgu nawr, mae’n amser gorffwys pen, Cofiwch am y diwrnod da,

Yr hwyl a’r chwarae, sbort a sbri,

Da iawn chi am fod yn rhan o’n nyth arbennig ni.

Gwna dy Orau Glas

The Do Your Best Song

Pennill 1 | Verse 1

Rhoi gwên ar wyneb yr holl fyd, a gwneud ein gorau glas o hyd, Dyna yw ein dawn.

Pennill 2 | Verse 2

Dewch ynghyd bob Squirrel fywiog, helpu eraill sy’n ardderchog, Dyna yw ein dawn.

Cytgan 1 | Chorus 1

Ein gorau glas nos a bore, Ie, ein gorau glas bob un cyfle, Ie, ‘sdim byd sy’n well gan y Squirrels, Gwneud ein gorau glas.

Cytgan 2 | Chorus 2

Bydd yn ffrind da-da, fel hyn da-da, Yn help bob man ti’n mynd da-da, Y Squirrels sydd, y Squirrels sydd Yn helpu pawb o hyd,

Pennill 3 | Verse 3

Siwpyr Squirrels ydyn ni, llawn o hwyl a sbort a sbri, Dyna yw ein dawn

Cytgan 1 (Ailadrodd) | Chorus 1 (Repeat)

Cytgan 2 (Ailadrodd) | Chorus 2 (Repeat)

The Hip-Hip-Hooray Song

Cytgan | Chorus

Hip hip hwrê mae Squirrel newydd yn ein tre’,

Hip hip hwrê ffrind newydd yma i chware’,

Hip hip hwrê mae Squirrel newydd yn ein tre’. O ie!

Pennill 1 | Verse 1

Clapio dwylo, taro traed, curo curiad nawr sydd raid

Hip hip hwrê mae Squirrel newydd yn ein tre’. O ie!

Pennill 2 | Verse 2

Mae’n dda gweld Squirrels llon a chytûn, Mae’n well cael llond Nyth na dim ond un,

Hip hip hwrê mae Squirrel newydd yn ein tre’. O ie!

Pont | Bridge

Squirrels, Squirrels, Squirrels, Squirrels, Mae’n amser rhoi bloedd, hwrê, hwrê, hwrê!

Cytgan (Ailadrodd)

Pennill 2 (Ailadrodd)

Pont | Bridge

Y Gân Neidio

The

Jumping Song

Pennill 1 | Verse 1

O, rho naid, naid, naid mor uchel yn awr, A traed, traed, traed fel drwm ar y llawr,

Amser swatio lawr yn isel iawn, Cyn llamu fry a dangos dy ddawn.

Cytgan | Chorus

Mawr neu fach wyt ti? Wel ‘sdim ots ‘da ni! Y Squirrels!

Coch neu lwyd wyt ti? Cei chwarae ‘da ni! Y Squirrels!

Squirrels ydyn ni ac mae croeso i ti, Squirrels ydyn ni ac mae croeso i ti.

Pont | Bridge

Ni’n llamu trwy’r dail, ni’n neidio trwy’r coed, Does neb yn ein clywed, ‘dan ni’n ysgafndroed, Croeso i’r Sgowtiaid, y teulu cytûn,

Ni yw’r Squirrels ac mae croeso i ti, Squirrels ydyn ni ac mae croeso i ti,

Pennill 1 (Ailadrodd) | Verse 1 (Repeat)

Cytgan (Ailadrodd) | Chorus (Repeat)

Pont | Bridge (Ailadrodd)

Cân Symud Ymlaen

The Moving On Song

Pennill 1 | Verse 1

Fe gest ti sbri a mwynhau dy hun yn fawr x2

A gwneud sawl ffrind, nawr mae’n amser dweud hwyl fawr x2

Amser gadael fan ‘ma,

Y Beavers i ti nesa’

Pennill 2 | Verse 2

Ti’n help mawr i bawb gwnest dy orau glas bob tro x2

Yn chwerthin a gwenu, yn llawn o sbort, o do! x2

Gwneud popeth gyda’n gilydd, Yn llawn dop o lawenydd.

Cytgan | Chorus

Ni’n curo dwylo i ti, ‘Da’n pawennau ni,

Ti’n symud ‘mlaen, ti’n symud lan,

Ti’n symud ‘mlaen, ti’n symud ‘mlaen,

Ti’n symud lan, ti’n symud ‘mlaen.

Ti’n symud ‘mlaen, ti’n symud lan, Ti’n symud ‘mlaen.

7 Fe hoffwn fynd i Squirrels bob un dydd

I Wish I Went to Squirrels Every Day

Pennill 1 | Verse 1

Fe hoffwn fynd i Squirrels bob un dydd, Mewn siwmper goch a chwarae’n ffri o hyd,

A golchi ‘nannedd gwyn mewn cadach gwddf fel hyn, Y teimlad gorau yn y byd.

Pennill 2 | Verse 2

O, bod yn Squirrel bob un dydd yr hoffwn i,

Bathodyn mawr jyst am fod yn fi,

Bob wythnos a bob mis yn chwarae yn hapus,

O, Squirrel lawen iawn y byddwn i.

Cytgan | Chorus

Mor braf yw bod yn Squirrel sydd yn sboncio,

A byw yn hapus hapus yn fy nyth,

Fy nghynffon flewog fydd yn siglo, yn swisho ac yn wiglo,

A cael bod yn Squirrel brysur bob un dydd

Pont | Bridge

Bydd dydd Llun yn llonni, dydd Mawrth yn llawn o sbri, Melys fydd dydd Mercher, a chwarae fyddwn ni,

A gwenu ar ddydd Gwener am fod yn Squirrel lon,

Am wythnos hwyl a bywiog fyddai’r wythnos hapus hon

Cytgan (Ailadrodd) | Chorus (Repeat)

Pe bai plu ‘da ni If a Squirrel had Wings

Pennill 1 | Verse 1

Tair Squirrel fach yn eistedd yn eu lle,

Gwrando ar yr adar a bwyta te,

Un yn holi’r llall ‘pe bai gen ti blu

fel aderyn bach, ‘set ti’n hedfan fry?’

Pont | Bridge

Y deryn du a crawc y frân,

Y gwcw’n canu’n glir a glân,

Medd robin ‘Rhinc’, colomen ‘C

A hwtian ar gangen mae’r gwdih

Fe ganodd y Squirrels, pob un yn dweud,

Sut mae dewis beth i’w wneud?

Cytgan | Chorus

Pe bai plu ‘da ni ac adenydd mawr cry’, Byddai Squirrels yn hedfan drwy’r awyr fry,

Troi’r cymylau yn ffau a’r planedau yn Nyth,

Pe bai plu ‘da ni dyna hwyl fyddai hi, Cael hedfan o hyd am byth.

Pennill 2 | Verse 2

Tair Squirrel fach yn eistedd yn y dail,

Gwrando ar yr adar a siarad bob yn ail, Un yn holi’r llall ‘oes ots gen ti?

Fi sy’n dringo’r coed, a’r adar fyny fry’.

Pont (Ailadrodd) | Bridge (Repeat)

Cytgan (Ailadrodd) | Chorus (Repeat)

Amser Squirrels

It’s Time for Squirrels

Pennill 1 | Verse 1

Mae’n amser Squirrels, mae’n amser Squirrels,

Amser am lawer o sbri,

Mae’n amser Squirrels, mae’n amser Squirrels, Croeso mawr i’n Squirrels ni.

Pennill 2 | Verse 2

Amser i berthyn, amser i chwerthin, Amser am lawer o sbri,

Amser i berthyn, amser i chwerthin, Croeso mawr i’n Squirrels ni.

Cytgan | Chorus

Squirrels, Squirrels,

Popeth sy’n hwyl i ni, Squirrels, Squirrels, Croeso mawr i ti a fi.

Pennill 3 | Verse 3

Mae’n amser Squirrels, mae’n amser Squirrels, Amser am lawer o sbri,

Mae’n amser Squirrels, mae’n amser Squirrels, Croeso mawr i’n Squirrels ni.

The Thank You Song

Pennill 1 | Verse 1

Gan bawb o’r Squirrels i bawb sydd yn ein helpu, Chi, wrth gwrs,

I’r holl arweinwyr, i bob mam a dad,

Pob gofalwr a helpwr, sêr y wlad,

Felly pawb gyda’i gilydd a’n lleisiau fry,

I ddweud diolch gan y Squirrels,

Diolch mawr i chi.

Pennill 2 | Verse 2

Am y gemau a’r chwarae a’r hwyl i gyd, ni’n dweud diolch,

Diolch i chi,

Gan bawb o’r Squirrels i bawb sydd yn ein helpu, Helpu ni,

Ein helpu i ddysgu a’n helpu i wneud,

A dyna pam mae’n rhaid ni ddweud, Felly pawb gyda’i gilydd a’n lleisiau fry,

I ddweud diolch gan y Squirrels, Diolch mawr i chi.

Cytgan | Chorus

Diolch am y wên, diolch am y sbri, Diolch am yr help a gawsom gennych chi,

Diolch gan bob un Squirrel yn y Nyth, Ni’n dweud diolch, bawb, chi’n bobl wych.

Diolch, bawb, chi’n bobl wych.

(Llefaru: Diolch!)

Y coed pigog, pigog

The

prickly, prickly woods

Pennill 1 | Verse 1

Ni yw’r Squirrels hapus, a ni’n neidwyr heb ein hail,

Cuddio mewn canghennau ac yn cysgu dan y dail,

Cwt fel llwyn a siwt goch ciwt,

Defnyddio dail fel parasiwt,

Ni yw’r Squirrels hapus a ni’n neidwyr heb ein hail.

Cytgan | Chorus

Yn y coed, y coed, llawn cysgodion du,

Yn y coed, y coed, brigau’n tyfu fry,

Yn y coed, y coed, ni’n chwarae’n ffri o hyd,

Y coed, y coed, mae nyth i’n cadw’n glyd.

Pennill 2 | Verse 2

Gwylia rhag y cadno a’r moch daear ambell dro,

Os gweli di aderyn bach wel cofia ddweud ‘Helô!’

A rhwng canghennau dyma ni’n

Neidio uwch eich pennau chi,

Gwylia rhag y cadno a’r moch daear ambell dro,

Cytgan (Ailadrodd) | Chorus (Repeat)

Coda

Gwylio pigau’r ddraenen nawr, casglu mes y dderwen fawr,

Pan ddaw’r gaeaf hir cawn ni hwyl o hyd,

Yn y coed, y coed, cawn chwarae yn y coed, Yn y coed, y coed, cawn chwarae yn y coed.

Arhoswch mewn cysylltiad Stay connected admin@scoutscymru.org.uk www.scoutscymru.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Scouts Cymru by Sarah Garwood Creative - Issuu