Skip to main content

Cymraeg Summer School 2026

Page 1


Ar gyfer dysgwyr

22 Mehefin – 03 Gorffennaf 2026

Ysgol Haf CYRSIAU AM DDIM!

Campws Llandaf

Croeso i Ysgol Haf Prifysgol

Metropolitan Caerdydd ar gyfer oedolion sy'n ddysgwyr.

Darganfyddwch sut mae bywyd prifysgol yn edrych yn ein Hysgol Haf AM DDIM, a gynhelir ar gampws

Llandaf o 22 Mehefin – 3 Gorffennaf 2026! Ers dros 15 mlynedd, mae'r digwyddiad hwn wedi bod yn ffefryn ymhlith ein dysgwyr, gan gynnig cyfle i oedolion roi cynnig ar bynciau newydd, rhoi hwb i'w hyder, a mwynhau profiadau dysgu croesawgar a chefnogol. Byddwch yn cael profi ein campws a'n cyfleusterau, rhoi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau blasu ysbrydoledig, a chwrdd ag eraill sydd hefyd yn meddwl am gymryd y cam nesaf yn eu taith ddysgu. Mae pob sesiwn wedi'i chynllunio i'ch helpu i dyfu eich sgiliau, sbarduno diddordebau newydd, a chael hwyl ar hyd y ffordd.

Gall llawer o'n cyrsiau blasu hyd yn oed arwain at raglenni hirach, achrededig—gan agor llwybrau posibl i un o gyrsiau gradd Met Caerdydd.

Cymerwch ran a darganfyddwch a allai astudiaeth bellach fod y cam nesaf.

Sut ydw i’n cofrestru?

Tîm Ehangu Mynediad

Met Caerdydd

Nod Ehangu Mynediad yw sicrhau bod pobl o unrhyw gefndir neu grŵp ethnig dros 18 oed yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio yma gyda chymorth.Rydym yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i gynnal amrywiaeth o gyrsiau i'r rhai nad ydynt wedi cael y cyfle o'r blaen neu sydd wedi cael cyfleoedd cyfyngedig i astudio mewn Addysg Uwch.

Pwy all fynychu?

Mae ein Hysgol Haf ar agor i bob oedolyn dros 18 oed. Fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i ddysgwyr sydd:

- yn byw mewn ardaloedd o amddifadedd lluosog

- heb unrhyw gymwysterau yn uwch na lefel 3

- o gymunedau ethnig du a lleiafrifol/mwyafrif byd-eang

- yn ofalwr di-dâl llawn amser neu wedi bod â phrofiad o ofal

- yn ddi-waith

- yn Ffoadur, yn Geisiwr Lloches neu'n Berson Di-wladwriaeth

- yn hawlio budd-daliadau'r llywodraeth (ac eithrio budd-dal plant)

- gydag anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol.

Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen archebu ar-lein sydd ar gael ar ein gwefan: cardiffmet.ac.uk/summerschool

Os ydych yn cael anhawster i gyrchu’n ffurflen neu angen help i’w chwblhau, cysylltwch â’n Tîm Ehangu Mynediad a fydd yn barod i’ch cynorthwyo:

 029 2020 1563  wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

Cynnwys

Blogio i Ddechreuwyr:

Tudalen

Ysgrifennu i ddenu cynulleidfa 04

Hybu Eich Hyder fel Dysgwr ESOL 04

A all eich Cinio Achub y Blaned?

Dewisiadau Bwyd Bob Dydd ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy 05

Gwnïo Addurnol ar gyfer

Trwsio Dillad 05

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) 06

Barddoniaeth i Bawb 06

Mynegi Eich Hun drwy Ysgrifennu a Darlunio 07

Garddio gyda Natur 07

Ysgrifennu’n Greadigol! 08

Dechrau Arni gyda Google 08

Cynhyrchion Glanhau Gwyrdd 09

Tyfu Bwyd mewn Lleoedd Bach 09

Peryglon Tai

10 Cyflwyniad i Gelf Haniaethol 10 Cyflwyniad i IELTS Academaidd 11

Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc 11

Rydym yn bartner yn y rhaglen Ymestyn yn Ehangac Wedi’i ariannu gan Medr – y Comisiwn Addysg

Drydyddol ac Ymchwil – mae Ymestyn yn Ehangach yn anelu at gynyddu cyfranogiad addysg uwch o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i reachingwider.ac.uk

Blogio i Ddechreuwyr:

Ysgrifennu i ddenu cynulleidfa

26 Mehefin

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs ysgrifennu blog ymarferol hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i greu cynnwys ar-lein ymgysylltiol, clir ac ystyrlon. Drwy ymarferion dan arweiniad ac adborth, byddwch yn meddel am bynciau blogiau ar gyfer cynulleidfa darged ac yn ymarfer ysgrifennu postiadau sy'n llywio, yn ysbrydoli neu'n rhannu profiadau.

Byddwch yn archwilio sut mae blogiau'n gweithio, sut i ddatblygu syniadau a sut i ysgrifennu mewn arddull ar-lein ddeniadol. Bydd y cwrs yn eich helpu i strwythuro postiadau gyda phenawdau cryf, arddull sy’n llifo, dsygu sut i gysylltu â darllenwyr a golygu eich gwaith.

Byddwch hefyd yn myfyrio ar sut mae blogio yn meithrin llais, cynulleidfa a hyder ar-lein, gan roi'r offer i chi barhau i ysgrifennu y tu hwnt i'r cwrs.

Hybu Eich Hyder fel Dysgwr ESOL

22 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Bydd y cwrs hwyliog a chyfeillgar hwn yn eich helpu chi:

- Ddeall beth sy'n eich helpu i deimlo'n fwy hyderus

- Rhoi cynnig ar weithgareddau newydd mewn lle diogel a chefnogol

- Gweithio gyda'ch gilydd mewn grwpiau bach a dysgu gan eraill

Drwy gwblhau tasgau syml, gwaith grŵp a myfyrio, byddwch yn darganfod ffyrdd o feithrin eich hyder bob dydd, sut y gall cefnogaeth gan eraill eich helpu i dyfu, a phwysigrwydd credu ynoch chi'ch hun ac aros yn bositif.

Gam wrth gam, byddwch chi'n magu hyder ac yn dysgu sut i gyflawni eich nodau - wrth gael hwyl a chwrdd â phobl newydd!

A all eich Cinio Achub y Blaned?

Dewisiadau Bwyd Bob

Dydd ar gyfer Dyfodol

Cynaliadwy

22 Mehefin

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs rhyngweithiol hwn yn archwilio sut mae eich prydau bwyd bob dydd yn cysylltu â'r amgylchedd a systemau bwyd byd-eang.

Byddwch yn darganfod sut mae cynhyrchu bwyd yn cyfrannu at newid hinsawdd, yn cymharu effaith amgylcheddol bwydydd cyffredin ac yn archwilio rôl gynyddol prydau bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion mewn systemau bwyd cynaliadwy.

Drwy weithgareddau grŵp, byddwch yn edrych ar wahanol brydau ac yn trafod ffyrdd syml o ddylunio seigiau sy'n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd. Byddwch yn dysgu sut mae gwahanol fwydydd yn effeithio ar yr amgylchedd, gan gynnwys cemeg a phrosesu bwyd sylfaenol, ac yn archwilio ffyrdd ymarferol o gynnwys dewisiadau cynaliadwy, sy'n seiliedig ar blanhigion, yn eich diet bob dydd.

Gwnïo Addurnol ar gyfer Trwsio Dillad

25 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ar y cwrs creadigol undydd hwn byddwch yn darganfod sut y gall brodwaith a thrwsio dillad drawsnewid eich dillad mewn ffyrdd hardd ac ymarferol. Byddwch chi'n rhoi cynnig ar bedwar techneg wahanol a fydd yn eich helpu i drwsio, addurno a phersonoli'ch dillad. Yn y bore cewch gyfle i roi cynnig ar batrymau cadwyn a sashiko wedi'u pwytho â llaw gydag edafedd lliwgar, neu arbrofi gyda gwnïo rhydd ac apliqué i wneud i'ch gwaith trwsio sefyll allan. Yn y prynhawn byddwch yn canolbwyntio ar eich dilledyn eich hun ac yn datblygu eich hoff dechneg gyda chefnogaeth gan y tiwtor. Mae hon yn ffordd wych o feithrin eich sgiliau trwsio dillad creadigol a gall agor y drws i ddysgu pellach, fel y cwrs Ymarfer Portffolio Celf a Dylunio Lefel 3 gydag Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Saesneg i Siaradwyr

Ieithoedd Eraill (ESOL)

02 a 03 Gorffennaf 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i wella'ch Saesneg, ni waeth beth yw eich lefel gallu bresennol.

Byddwn yn canolbwyntio ar weithgareddau a phynciau cyfarwydd, a fydd yn eich helpu i ymarfer darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Bydd yr athro dosbarth cyfeillgar a phrofiadol yn gwneud ymdrech arbennig i ddysgu beth rydych chi am ei wella, a dod o hyd i ffyrdd o deilwra gweithgareddau i gyd-fynd â'ch anghenion penodol. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio'r iaith Saesneg yn fwy rheolaidd a hyderus.

Barddoniaeth i Bawb

29 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Bydd y cwrs blasu barddoniaeth lafar hwn yn meithrin eich hyder, eich creadigrwydd a'ch llais. Byddwch yn archwilio sain, delweddau ac adrodd straeon personol trwy awgrymiadau, ymarfer perfformio ac adborth cefnogol, wrth gynhyrchu syniadau o'ch profiadau bywyd a'ch emosiynau eich hun. Byddwch yn datblygu iaith fywiog a strwythur barddonol clir wrth i chi arbrofi gyda thechnegau ysgrifennu ac ymarfer darllen yn uchel gyda mynegiant. Byddwch hefyd yn myfyrio ar sut y gall barddoniaeth gyfathrebu hunaniaeth, cymuned a newid mewn ffyrdd ystyrlon wrth i chi wrando ar waith pobl eraill. Erbyn diwedd y cwrs, dylech allu deall elfennau allweddol barddoniaeth gair llafar, creu a pherfformio cerdd wreiddiol.

Mynegi Eich Hun

drwy Ysgrifennu a Darlunio

1 diwrnod ½ diwrnod

Garddio gyda Natur

02 Gorffennaf

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mynegwch eich hun trwy eiriau a lluniau ar y cwrs ysgrifennu a darlunio undydd hwn. Yn addas ar gyfer pob gallu, mae'r cwrs yn eich helpu i arbrofi a datblygu syniadau yn greadigol. Archwiliwch dechnegau darlunio trwy ymarferion tiwtor gan ddefnyddio pensiliau, pasteli ac inciau, wrth adeiladu hyder mewn ysgrifennu creadigol. Dysgwch sut mae lluniau a geiriau yn cyfuno i gyfleu syniadau ac emosiynau, a darganfod darlunwyr sy'n adrodd straeon trwy eu gwaith celf. Gyda chefnogaeth ac ysbrydoliaeth trwy gydol y dydd, byddwch yn creu eich darn darluniadol eich hun o ysgrifen i fynd adref. Mae hwn yn gam cyntaf gwych tuag at ddysgu pellach, gan gynnwys y cwrs Ymarfer Portffolio Celf a Dylunio Lefel 3 achrededig a gynigir trwy Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

24 Mehefin 12.30yp - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae ein creaduriaid gwyllt dan bwysau, ond mae gan bob gardd y potensial i fod yn warchodfa sy’n croesawu bywyd gwyllt.

Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio newidiadau syml er mwyn ailddychmygu eich gardd fel lle i fywyd gwyllt a sut i ddarparu bwyd addas, lloches a chysylltiadau diogel rhwng cynefinoedd. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddewis planhigion hardd sydd o fudd i fywyd gwyllt.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Green Squirrel.

Ysgrifennu’n

Greadigol!

23 a 24 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Dechreuwch eich taith i fyd cyffrous ysgrifennu creadigol gyda'r cwrs byr cyflwyniadol hwn. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau ysgrifennu trwy drafodaeth, enghreifftiau ac awgrymiadau byr a fydd yn eich helpu i feithrin hyder a datblygu eich sgiliau creadigol. Byddwch yn dysgu sut mae awduron yn defnyddio cymeriadau, lleoliad, gwrthdaro a deialog i ddod â straeon yn fyw a byddwch yn edrych ar waith cyhoeddedig i ddeall beth sy'n ei wneud yn effeithiol. Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ysgrifennu eich darn eich hun o ffuglen fer, gyda chanllawiau ar sut i ddrafftio a golygu. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall technegau ysgrifennu creadigol allweddol a byddwch wedi cynhyrchu darn o ffuglen fer i'w gymryd adref.

Dechrau Arni gyda Google

03 Gorffennaf 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Yn chwilfrydig am fynd ar-lein ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?

Bydd y cwrs cyfeillgar hwn yn eich helpu i ddefnyddio Google. Byddwch yn dysgu sut i greu cyfrif Google, defnyddio Gmail, ac archwilio offer syml fel Google Sheets a Google Forms. Gan weithio ar liniaduron ac iPads, byddwch yn ymarfer tasgau bob dydd fel anfon negeseuon, cadw gwybodaeth a llenwi ffurflenni sylfaenol.

Nid oes angen unrhyw brofiad TG blaenorol. Bydd y grŵp yn gefnogol, a bydd digon o gyfle i ofum cwestiynau, fel y gallwch chi feithrin hyder gan ddefnyddio offer digidol ar gyfer astudio, gwaith neu fywyd bob dydd.

Glanhau Gwyrdd

24 Mehefin

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae cyfnewid rhai o'n cynhyrchion glanhau am ryseitiau cartref yn lleihau gwastraff, yn helpu i ymladd llygredd aer a dŵr, ac yn arbed arian i ni. Yn y sesiwn hon byddwch yn dysgu sut i ddewis a chyfuno cynhwysion cartref yn gynhyrchion glanhau syml a chryf a all arbed arian i chi a chadw eich cartref yn iach. Yn y sesiwn ymarferol hon, cewch gyfle i greu eich chwistrelli glanhau gwyrdd eich hun, tabledi glanhau’r toiled a sbwng amldro.

Tyfu Bwyd mewn

Lleoedd Bach

24 Mehefin

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae gan bawb y gallu i gynhyrchu peth o'u bwyd eu hunain, ni waeth pa mor fach yw'r gofod tyfu sydd ar gael, o ardd drefol i sil ffenestr.

Gyda llawer o awgrymiadau a chyngor ymarferol, bydd y sesiwn hon yn rhoi’r hyder i chi ddechrau tyfu gartref, p'un a oes gennych ardd, patio, neu sil ffenestr. Byddwn yn archwilio tyfu mewn cynwysyddion, dewis y cnydau perffaith ar gyfer mannau bach a llawer mwy.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Green Squirrel.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Green Squirrel.

Peryglon Tai

ac Iechyd

02 Gorffennaf

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Dysgwch sut i adnabod y peryglon yn ein cartrefi a’n cymdogaethau – o leithder a llwydni a chartrefi oer i beryglon trydanol a diogelwch tân. Darganfyddwch beth all fynd o'i le, beth ellir ei wneud i ddatrys y problemau, a phwy sy'n gyfrifol am gywiro pethau.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall y peryglon a'r risgiau a all ddigwydd yn ein cartrefi a'n cymdogaethau, a sut mae ymyriadau tai iechyd amgylcheddol yn helpu i amddiffyn preswylwyr a thenantiaid, ac yn cefnogi landlordiaid i wella eu heiddo.

Cyflwyniad i Gelf Haniaethol

23 a 24 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae artistiaid yn creu celf haniaethol? Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno hanfodion celf haniaethol mewn ffordd dawel ac ysgogol. Byddwch chi'n dysgu sut i sylwi ar siapiau, patrymau a bylchau, rhoi cynnig ar wahanol frwsys ac offer, ac ymarfer gollwng gafael ar fanylion bach. Bydd y tiwtor yn cynnig canllawiau cam wrth gam a digon o amser i arbrofi.

Erbyn y diwedd, byddwch yn deall syniadau allweddol y tu ôl i gelf haniaethol ac yn teimlo'n fwy hyderus i greu eich paentiadau mynegiannol eich hun, ac efallai y byddwch yn teimlo'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich taith greadigol, gan gynnwys symud ymlaen i'r cwrs Ymarfer Portffolio Celf a Dylunio Lefel 3 achrededig.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cyflwyniad i

IELTS Academaidd

29 Mehefin

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Os ydych chi eisiau astudio yn y brifysgol ond nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, efallai eich bod chi'n teimlo'n ansicr ynghylch ble i ddechrau. Bydd y cwrs undydd hwn yn eich helpu i feithrin hyder gyda Saesneg a dysgu am y cwrs Paratoi ar gyfer IELTS Academaidd am ddim a all gefnogi eich camau nesaf i'r brifysgol. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau byr, hawdd sy'n cwmpasu siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.

Byddwch yn cael eich cefnogi mewn lle diogel a chyfeillgar lle gallwch roi cynnig ar sgiliau newydd heb bwysau. Bydd y tiwtor yn eich helpu i sylwi ar eich cryfderau a deall beth rydych chi am ei wella. Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi'n gwybod sut i barhau i ddysgu a ble i ddod o hyd i gefnogaeth bellach.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael 1

Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc

26 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Cyflwyniad byr i'r rhai sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o dwf a datblygiad yn ystod plentyndod ac ieuenctid. Byddwn yn dechrau archwilio rhai safbwyntiau, cysyniadau a syniadau damcaniaethol allweddol, a fydd yn helpu i lywio eich dealltwriaeth o ddatblygiad plant a phobl ifanc.

Mae'r diwrnod blasu wedi'i gynllunio i'ch galluogi i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau trwy gyfranogiad gweithredol a myfyrio. Yn ddelfrydol os ydych chi am ddatblygu eich gwybodaeth fel rhiant, gofalwr, neu ymarferydd neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa yn gweithio gyda phlant neu bobl ifanc.

Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

01 Gorffennaf

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn iechyd a gofal cymdeithasol drwy archwilio'r egwyddorion a'r gwerthoedd allweddol sy'n llunio arfer da. Byddwch yn dysgu am ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, dulliau sy'n seiliedig ar hawliau a sut y gall cymryd risgiau cadarnhaol a phenderfyniadau cadarnhaol gefnogi unigolion.

Mae'r cwrs hefyd yn edrych ar feysydd pwysig o ran llesiant ac yn eich helpu i feithrin hyder mewn iechyd a diogelwch, diogelu a deall sut mae ymarfer proffesiynol yn cefnogi gwaith diogel a gofalgar. Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall sut y gall yr egwyddorion hyn eich helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cyflwyniad i Fregusrwydd Seicolegol

30 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am bynciau sy’n ymwneud â seicoleg, iechyd a gofal cymdeithasol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Bydd y cwrs undydd hwn yn eich cyflwyno i feysydd allweddol fel iechyd meddwl, anhwylderau personoliaeth, camddefnyddio sylweddau a Chamfanteisio Rhywiol ar Blant.

Byddwch yn archwilio'r ffactorau sy'n gwneud pobl yn fwy agored i niwed, sut mae'r materion hyn yn effeithio ar unigolion a sut y gellir cysylltu gwahanol heriau. Bydd y cwrs yn eich helpu i feithrin hyder wrth ddeall pynciau cymhleth mewn lle diogel a chefnogol. Mae hwn yn gam cyntaf gwych tuag at ddysgu pellach, gan gynnwys y cwrs Seicoleg Lefel 3 achrededig a gynigir trwy Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

1 diwrnod

Cyflwyniad

i Seicoleg

01 Gorffennaf

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Pam mae pobl yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw'n ei gwneud? Pa esboniadau gwahanol sydd ar gyfer ymddygiad dynol?

Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cipolwg i chi ar Seicoleg - astudiaeth wyddonol o sut mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu. Wedi'i gynllunio i ennyn eich diddordeb, bydd y cynnwys yn cynnwys archwiliad o rai o ymchwil enwocaf seicoleg fel astudiaeth glasurol Milgram o ufudd-dod i awdurdod, yn ogystal ag ystyriaeth o faterion moesegol posibl o fewn ymchwiliad seicolegol. Mae'r cwrs hwn yn gam cyntaf defnyddiol tuag at ddysgu pellach, gan gynnwys y cwrs Seicoleg Lefel 3 achrededig gydag Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cyflwyniad i Gymdeithaseg

29 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd 1 diwrnod

Mae Cymdeithaseg yn ein helpu i ddeall pobl, cymunedau a'r byd cymdeithasol rydyn ni'n byw ynddo.

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i rai o'r syniadau a'r dadleuon allweddol sy'n llunio gwaith gwyddonwyr cymdeithasol. Byddwch yn archwilio gwahanol ffyrdd o edrych ar gymdeithas ac yn darganfod safbwyntiau newydd, hyd yn oed os oes gennych chi rywfaint o brofiad o'r pwnc eisoes.

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i feithrin eich hyder a'ch helpu i feddwl am sut mae materion cymdeithasol yn effeithio ar fywyd bob dydd. Mae hefyd yn gam cyntaf gwych tuag at ddysgu pellach, gan gynnwys y cyrsiau Cymdeithaseg Lefel 3 achrededig a gynigir trwy Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cyflwyniad i Tai Chi

02 Gorffennaf

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs hwn yn eich cyflwyno i arfer tawelu Tai Chi, gan ganolbwyntio ar ymlacio, ymwybyddiaeth a symudiad ysgafn, wedi'i addysgu gan hyfforddwr Tai Chi ardystiedig. Dysgwch egwyddorion sylfaenol fel ystum, cydbwysedd, a thechnegau anadlu, wrth archwilio llif a rhythm Tai Chi.

Drwy gyfarwyddiadau hawdd eu dilyn, byddwch yn ymarfer symudiadau sylfaenol ac yn profi manteision cysylltiad meddwl-corff. Daw'r sesiwn i ben gydag oeri ymlaciol, gan gynnwys ymestyniadau ysgafn ac ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad. Perffaith i'r rhai sy'n chwilio am well cydbwysedd, hyblygrwydd a heddwch mewnol.

Cyflwyniad i Addysgu Oedolion

25 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Os ydych chi'n awyddus i ennill profiad o addysgu oedolion neu bobl ifanc (14-25) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16, bydd y cwrs blasu undydd hwn yn eich cyflwyno i'r sgiliau sydd eu hangen i addysgu yn y sector hwn.

Byddwch yn gallu archwilio'r ffyrdd y gall cymhelliant personol effeithio ar ddysgu; trafod y ffyrdd y mae oedolion yn dysgu ac ystyried defnyddio dulliau addysgu cynhwysol ar gyfer addysgu mewn sector amrywiol. Bydd hefyd yn amlinellu'r cyfleoedd posibl ar gyfer addysgu mewn addysg bellach, addysg uwch, gwaith ieuenctid ac addysg oedolion, cymunedol a charchardai ac yn trafod llwybrau dilyniant ar gyfer dysgu pellach.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Dysgu Sut i

Ddefnyddio Peiriant

Gwnïo

23 a 26 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ydych chi eisiau dysgu sut i ddefnyddio peiriant gwnïo? Efallai bod gennych chi un gartref nad ydych chi erioed wedi teimlo'n hyderus i roi cynnig arno, neu hoffech chi gael arweiniad gan diwtor profiadol i feithrin eich sgiliau. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu â rhywfaint o brofiad, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i deimlo'n gyfforddus wrth ddefnyddio'ch peiriant. Byddwch yn archwilio'r gwahanol swyddogaethau a gosodiadau, yn dysgu sut i edafu'r peiriant, yn rhoi cynnig ar fathau gwahanol o bwythau ac yn deall pryd i'w defnyddio. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wnïo sêm a hem. Gan ddefnyddio eich sgiliau newydd, byddwch yn creu eich prosiect unigryw eich hun i'w gymryd adref.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Dysgu i Ddysgu: Y Seicoleg y Tu Ôl i Ddysgu

26 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatgelu dirgelion sut mae bodau dynol yn dysgu. Gan ddefnyddio gwybodaeth o ymchwil addysgu a gwyddoniaeth wybyddol, byddwch yn cael rhoi'r mewnwelediadau a'r sgiliau hyn ar waith yn uniongyrchol: cwblhau gweithgareddau sy'n dangos sut y gall myfyrwyr a phlant ddysgu'n fwy effeithiol.

P'un a ydych chi'n dysgu eich hun ac yn edrych i wella'ch sgiliau astudio, neu'n rhiant a hoffai helpu eu plentyn i wella yn yr ysgol, bydd y cwrs hwn yn eich dysgu pa strategaethau dysgu sydd fwyaf llwyddiannus, fel y canfuwyd o ddegawdau o ymchwil!

Dewch i gwrdd

â'r Robotiaid!

30 Mehefin

10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Yn y gweithdy STEM hwyliog a diddorol hwn, byddwch chi'n cwrdd ac yn rhyngweithio â robot dynolffurf wrth archwilio sut mae robotiaid yn symud, yn synhwyro eu hamgylchedd, ac yn ymateb i fewnbwn dynol.

Drwy gyfres o weithgareddau ymarferol, byddwch yn darganfod y ffyrdd ymarferol y gall robotiaid gefnogi tasgau bob dydd ac yn dysgu sut maen nhw'n cyfathrebu, dysgu ac addasu mewn amser real. Mae'r sesiwn hefyd yn arddangos robotiaid o Labordy EUREKA yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd, canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil roboteg sy'n canolbwyntio ar robotiaid dynolffurtf cymdeithasol a gwasanaethu. Bydd cyfle i chi wylio arddangosiadau byw, gofyn cwestiynau, a phrofi technoleg robotig arloesol.

Diwrnod ym Mywyd Arolygydd

Diogelwch Bwyd

02 Gorffennaf 12.30yp - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Profwch ddiwrnod ym mywyd arolygydd diogelwch bwyd wrth i chi ddatgelu'r gwir y tu ôl i achos o wenwyn bwyd. Drwy weithgareddau ymarferol a thasgau datrys problemau, byddwch yn dysgu sut mae swyddogion iechyd amgylcheddol yn amddiffyn cymunedau drwy archwilio safleoedd bwyd, helpu busnesau ac ymchwilio i achosion o glefydau.

Erbyn diwedd y cwrs byddwch chi'n deall y peryglon a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes bwyd, a sut mae ymyriadau diogelwch bwyd iechyd amgylcheddol yn helpu i amddiffyn defnyddwyr a chymunedau.

Peintio a Lluniadu

Natur Cymru

25 a 26 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Cwrs celf 2 ddiwrnod creadigol a chroesawgar sydd wedi'i gynllunio i sbarduno eich dychymyg a magu hyder ar unrhyw lefel. Byddwch yn archwilio amrywiaeth o dechnegau gwneud marciau a phaentio gan ddefnyddio deunyddiau fel golosg, coffi, brigau, pastels, tâp masgio ac acrylig. Trwy weithgareddau tywysedig, byddwn yn canolbwyntio ar arsylwi, cyfansoddi a ffyrdd o fynegi eich syniadau. Bydd tirweddau Cymreig a morluniau dramatig yn ysbrydoli eich creadigrwydd wrth i chi ddatblygu eich sgiliau mewn amgylchedd cynhwysol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi cwblhau gwaith celf ar gynfas gorffenedig i'w gymryd adref, a gall hefyd fod yn gam tuag at astudiaeth bellach, gan gynnwys y cwrs Ymarfer Portffolio Celf a Dylunio Lefel 3 achrededig a gynigir trwy Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Cymhorthfa Lliw a Steilio Personol

29 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r gweithdy undydd hwn yn archwilio'r sbectrwm lliwiau ar gyfer personoli eich dewisiadau ffasiwn a steilio. Byddwch chi'n dysgu sut mae'r olwyn liw yn gweithio, yn dadansoddi lliwiau cynnes ac oer ac yn deall sut mae lliwiau'n rhyngweithio â'i gilydd. Fe welwch chi’r lliwiau sy’n eich gweddu’n naturiol a sut i wneud i bron unrhyw liw siwtio chi.

Nod y gweithdy yw meithrin hyder drwy eich helpu i ddeall eich steil eich hun a theimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud dewisiadau sy'n addas i chi. Mae llawer o ddysgwyr yn canfod bod wybodaeth hon yn gwneud i wisgo deimlo'n haws ac yn fwy pleserus. Mae'n ddefnyddiol dod â ffôn clyfar neu gamera i ddogfennu eich arbrofion ar y diwrnod.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Dechrau Eich

Taith Addysgu

23 neu 24 Mehefin 10yb - 12yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ydych chi wedi meddwl am addysgu fel gyrfa ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar sut beth yw addysgu mewn gwirionedd ac yn eich helpu i archwilio a allai fod y llwybr cywir i chi. Byddwch yn dysgu am y gwahanol lwybrau i addysgu a chael cyfle i ofyn cwestiynau am y sgiliau a'r profiad sydd gennych eisoes.

Mae'r cwrs yn hamddenol, yn rhyngweithiol ac yn ffordd gefnogol o ddysgu mwy am weithio gyda dysgwyr o wahanol oedrannau. Byddwch yn archwilio beth sy'n gwneud athro effeithiol, beth sydd ei angen arnoch i fod yn llwyddiannus a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael. Os ydych chi eisiau archwilio addysgu fel gyrfa yn y dyfodol, y cwrs hwn yw'r un i chi.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

Dechrau Busnes

Lletygarwch ar yr Ochr

30 Mehefin a 1 Gorffennaf 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ydych chi eisiau datblygu’ch sgiliau a'ch gwybodaeth er mwyn sefydlu busnes lletygarwch? Mae'r cwrs deuddydd hwn yn cyflwyno byd cychwyn busnes, meddwl am syniadau ac entrepreneuriaeth ym maes lletygarwch a bwyd. Byddwch yn archwilio cystadleuaeth, cwsmeriaid a chostau ac yn dysgu sut mae'r rhain yn llunio syniad busnes cryf. Bydd gweithgareddau ymarferol i'ch helpu i ddatblygu cynnig gwerthu unigryw clir a deall beth sy'n gwneud i'ch syniad sefyll allan.

Mae'r cwrs yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes lletygarwch neu adeiladu busnes bach ar yr ochr sy'n cyd-fynd ag ymrwymiadau eraill.

1

Cefnogi Llesiant

Pobl Ifanc drwy’r

Celfyddydau Creadigol

Rheoli eich Arian

29 Mehefin

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio celfyddydau

creadigol i gefnogi llesiant pobl ifanc. Byddwch yn dysgu am y ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd meddwl, llesiant a gwydnwch, a sut y gall dulliau creadigol annog hunanfynegiant mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol. Mae'r cwrs yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau creadigol syml a all helpu pobl ifanc i reoli eu hemosiynau, meithrin hyder a theimlo'n fwy cysylltiedig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i adnabod arwyddion cynnar y gallai fod angen cefnogaeth ar berson ifanc a sut y gall gweithgareddau creadigol agor sgyrsiau. Mae'r cwrs yn addas i unrhyw un sy'n gweithio gyda phobl ifanc neu'n gofalu amdanynt mewn lleoliadau cymunedol, addysgol neu gartref.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

24 Mehefin 10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Gall rheoli eich cyllid eich hun fod yn gam pwysig tuag at wella'ch bywyd a bywyd eich teulu. Pu’n a ydych chi’n caru neu’n casau rhoi trefn ar eich arian personol, bydd y cwrs byr rhyngweithiol hwn yn rhoi'r hyder i chi ddechrau rheoli eich arian yn well. Gan ddefnyddio senarios perthnasol ac enghreifftiau bywyd go iawn, byddwch yn dod i ddeall eich gwerthoedd a'ch credoau personol eich hun am arian, credyd a risg. Drwy ddefnyddio offer a chyfrifianellau arlein, byddwch yn archwilio cyllidebu, cynilo, buddsoddi a benthyca ac yn darganfod pwysigrwydd sgoriau credyd a pham mae angen i chi reoli eich un chi'n ofalus.

1 diwrnod

Deall Iechyd

Meddwl a Llesiant Plant

Cynhyrchion Gofal

Personol Diwastraff

22 Mehefin

10yb - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Mae'r cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i iechyd meddwl a llesiant mewn plant a phobl ifanc. Byddwch yn archwilio beth sy'n effeithio ar iechyd meddwl, yr effaith y gall ei chael ar unigolion, teuluoedd a bywyd bob dydd, ac yn dysgu am y continwwm iechyd meddwl. Mae'r cwrs yn cyflwyno enghreifftiau o gyflyrau iechyd meddwl cyffredin a'r ffactorau a all gynyddu'r risg. Mae'r cwrs hefyd yn darparu adnoddau ymarferol i'ch helpu i gefnogi a chyfeirio plant a phobl ifanc. Mae'n addas i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant neu'n gofalu amdanynt gartref, yn yr ysgol neu yn y gymuned, a gall eich arwain at gyfleoedd dysgu eraill fel y cwrs Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Lefel 3 achrededig gydag Ehangu Mynediad.

Cyfleoedd i ddatblygu ar gael

24 Mehefin 12.30yp - 2.30yp

Campws Llandaf

Prifysgol Metropolian Caerdydd

Ffarweliwch â phecynnu plastig a chynhwysion dirgel, amhosibl eu hynganu! Yn y sesiwn hon, byddwch yn dysgu sut i wneud eich cynhyrchion gofal corff eich hun, gan gynnwys diaroglydd solet naturiol, ryseitiau gofal croen, a phethau i dretio’ch hun.

Byddwch yn gadael yn teimlo'n barod i fod yn greadigol a lleihau gwastraff drwy wneud cynhyrchion o gynhwysion cyffredin y cartref a hyd yn oed sbarion o’r gegin, gan arbed arian a'ch helpu i deimlo'n dda am y pethau rydych chi'n eu rhoi ar eich corff.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno gan Green Squirrel. ½ diwrnod

Eich amserlen ar gyfer y diwrnod

9.30yb - 10.00yb

Mae cofrestru'n agor yn

Starbucks/Yr Hyb ar ein campws yn Llandaf.

10.00yb - 2.30yp

Mae eich cwrs blasu yn dechrau!

Sylwch fod rhai cyrsiau'n rhedeg ar wahanol adegau; mae'r rhain wedi'u rhestru ar dudalennau'r cyrsiau.

12.30 - 1.00yp Egwyl am ginio

Sesiwn Galw Heibio

Cefnogaeth Dysgu

Eisiau sgwrsio ag aelodau o'n timau

Gwasanaethau Myfyrwyr, Cyngor

Ariannol, a Derbyniadau i gael cyngor ac arweiniad ynghylch astudio ym

Met Caerdydd neu'r brifysgol?

Galwch heibio i'r Hyb bob amser cinio am gyngor ac arweiniad cyfeillgar.

Cyngor Gyrfa Un-i-Un

Angen help i symud ymlaen i gam nesaf eich gyrfa? Eisiau sgwrs 1-i-1 sy'n eich grymuso ac yn eich helpu i nodi'r camau y gallwch eu cymryd i gyrraedd eich nodau gyrfa?

Galwch heibio i'r Hyb am sgwrs gyflym 1-i-1 gyda Hyfforddwr

Gyrfaoedd Met Caerdydd am arweiniad a chyngor ymarferol ar y dyddiadau isod (nid oes angen archebu lle):

○ 24 Mehefin, 12 – 1yp

○ 29 Mehefin, 12 – 1yp

○ 03 Gorffennaf, 12 – 1yp

Bydd staff Met Caerdydd o gwmpas drwy'r dydd i'ch helpu a'ch tywys. Nid oes angen i chi ddod ag unrhyw beth penodol ar gyfer eich cwrs. Darperir pennau ysgrifennu a phapur, a bydd eich Tiwtor yn darparu unrhyw adnoddau arall sydd eu hangen ar gyfer y cwrs.

Cynlluniwr Cyrsiau Defnyddiol

Defnyddiwch yr amserlen isod i gynllunio pa gyrsiau yr hoffech eu mynychu. Mae croeso i chi archebu cymaint ag y dymunwch - gwnewch yn siŵr nad ydynt yn digwydd yr un pryd. Mae'r rhan fwyaf o gyrsiau'n rhedeg o 10yb i 2.30yp heblaw eu bod wedi'u nodi'n fel arall ar dudalen y cwrs.

Ysgol Haf 2026 WYTHNOS UN Llun 22

Hybu Eich Hyder fel Dysgwr ESOL

Deall Iechyd Meddwl a Llesiant Plant

A all eich Cinio Achub y Blaned? Dewisiadau Bwyd

Bob Dydd ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy

Dysgu Sut i Ddefnyddio Peiriant Gwnïo

Dechrau Eich Taith Addysgu

Cyflwyniad i Gelf Haniaethol

Ysgrifennu’n Greadigol!

Dechrau Eich Taith Addysgu

Garddio gyda Natur

Cynhyrchion Glanhau Gwyrdd

Tyfu Bwyd mewn Lleoedd Bach

Cynhyrchion Gofal personol Diwastraff

Rheoli eich Arian

Gwnïo Addurnol ar gyfer Trwsio Dillad

Cyflwyniad i Addysgu Oedolion

Peintio a Lluniadu Natur Cymru

Blogio i Ddechreuwyr: Ysgrifennu i ddenu cynulleidfa

Dysgu i Ddysgu: Y Seicoleg y Tu Ôl i Ddysgu

Cyflwyniad i Ddatblygiad Plant a Phobl Ifanc

Ysgol Haf 2026 WYTHNOS

Cymhorthfa Lliw a Steilio Personol

Barddoniaeth i Bawb

Cyflwyniad i IELTS Academaidd

Cyflwyniad i Gymdeithaseg

Cefnogi Llesiant Pobl Ifanc

drwy’r Celfyddydau Creadigol

Dewch i gwrdd â'r Robotiaid!

Dechrau Busnes Lletygarwch ar yr Ochr

Cyflwyniad i Fregusrwydd Seicolegol

Cyflwyniad i Seicoleg

Cyflwyniad i Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyflwyniad i Tai Chi

Mynegi Eich Hun drwy Ysgrifennu a Darlunio

Peryglon Tai ac Iechyd

Diwrnod ym Mywyd Arolygydd Diogelwch Bwyd

Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

Dechrau Arni gyda Google

“Mwynheais y bobl newydd

“Cwrs anhygoel a oedd yn ddefnyddiol i hogi fy meddwl”

“Yn ddiddorol ac addysgiadol”

Pam y dylech chi gymryd rhan yn yr Ysgol Haf eleni?

Clywch beth wnaeth dysgwyr

ei fwynhau fwyaf y llynedd

“Awyrgylch cefnogol”

“Esboniadau clir ac enghreifftiau bywyd go iawn”

“Darganfod fy hun yn agor i fyny”

“Rwyf nawr yn teimlo'n obeithiol am y dyfodol”

“Roeddwn i wrth fy modd sut roeddwn i’n gweld fy ngalluoedd yn tyfu”

“Darparodd lawer o wybodaeth a phroses feddwl”

“Roedd yr athrawon yn hyfryd”

“Roeddwn i’n hoffi pa mor rhyngweithiol oedd e”

Dywedodd 99%

o'r dysgwyr a fynychodd yr

Ysgol Haf bod y profiad yn un

rhagorol neu'n un da*

*Adborth Ysgol Haf 2025

Sganiwch yma i gofrestru gan ddefnyddio ein ffurflen archebu ar-lein

Dywedodd 98% o'r dysgwyr a fynychodd yr

Ysgol Haf bod eu Tiwtor yn rhagorol neu'n dda*

Ysgol Haf Met Caerdydd

Sut gall ein cyrsiau eich helpu i symud ymlaen i'r Brifysgol?

Ysgol Haf

Rhowch gynnig ar gwrs Ysgol Haf Siaradwch â staff yn yr Ysgol Haf am gyngor ac arweiniad ar eich camau nesaf

Cwrs Achrededig

Gosodwch eich nodau Ymunwch â chwrs achrededig Ehangu Mynediad (Lefel 3; 10 credyd Prifysgol) yn eich cymuned leol

Sut gall ein cyrsiau eich helpu i symud ymlaen i'r Brifysgol?

Gallai ymuno â chwrs Ysgol Haf fod y cam cyntaf tuag at fynd i'r brifysgol.

Mae Ehangu Mynediad yn cynnig cyrsiau byr mewn cymunedau lleol sy'n gadael i chi roi cynnig ar bynciau newydd, meithrin eich hyder, a dysgu sgiliau newydd mewn ffordd hamddenol a chefnogol.

Mae llawer o oedolion yn poeni am bethau fel sgiliau astudio, amser, neu deimlo allan o le. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i helpu gyda hyn. Maent yn rhoi lle diogel i chi ddysgu, cwrdd ag eraill, a gweld beth allwch chi ei wneud. Gall rhai cyrsiau hyd yn oed arwain yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein llwybrau Cymuned i Gampws.

Datblygu eich sgiliau Saesneg

Mynychu Diwrnod Agored

Datblygwch eich sgiliau Saesneg gyda'n sesiynau blasu Paratoi ar gyfer IELTS neu ESOL Academaidd. Mynychwch Ddiwrnod Agored i weld sut beth allai bywyd prifysgol fod i chi

Sut i wneud cais i Met Caerdydd

Ydych chi'n ystyried gwneud cais i Met Caerdydd? Ydych chi eisiau help i ddeall sut i wneud cais, faint y gallai gostio, neu pa gymorth ariannol y gallech chi ei gael (fel benthyciadau, grantiau neu fwrsariaethau)?

Yn ystod yr Ysgol Haf, bydd staff ar gael bob amser cinio yn Starbucks/Yr Hyb. Gallwch alw heibio i ofyn cwestiynau, dysgu mwy am astudio, neu archwilio eich camau nesaf. Nid oes angen apwyntiad arnoch - dewch draw. Rydym yn hapus i helpu!

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau rhad ac am ddim sy'n eich diddori chi: www.cardiffmet.ac.uk/courses

Blwyddyn

Sylfaen Met Caerdydd

Defnyddiwch eich credydau Lefel 3 i gymryd y cam nesaf i Flwyddyn

Sylfaen Met Caerdydd (yn dibynnu ar y pwnc)

Israddedig

Symudwch ymlaen i radd israddedig neu ôl-raddedig ac arbenigo yn eich maes pwnc dewisol

Graddiwch a throwch eich nodau'n realiti

Chwiliwch am symbol yr het raddio ar wybodaeth am y cwrs i weld pa gyrsiau all eich helpu i symud ymlaen i raglen prifysgol.

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau rhad ac am ddim sy'n eich diddori chi.

Gradd
Graddio!

Cwestiynau Cyffredin

All unrhyw un fynychu cwrs

Ysgol Haf?

Gall pob oedolyn 18 oed a throsodd wneud cais, ond rhoddir blaenoriaeth i grwpiau o ddysgwyr a restrir ar glawr mewnol y llyfryn hwn ar gyfer lleoedd yn yr Ysgol Haf.

Faint fydd fy nghwrs Ehangu

Mynediad yn yr Ysgol Haf yn ei gostio?

Mae holl gyrsiau Ehangu Mynediad ein

Hysgol Haf yn rhad ac am ddim.

A oes angen unrhyw gymhwyster arnaf i fynychu Ysgol Haf?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau i fynychu cyrsiau’r Ysgol Haf.

Oes angen i mi archebu lle?

Rhaid i chi archebu lle ar y cwrs y dymunwch ei fynychu gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, sganiwch yma i’w chyrchu neu deipio www.cardiffmet.ac.uk/summerschool i mewn i’ch porwr.

Os ydych yn cael anhawster gyda'r ffurflen, ffoniwch y tîm Ehangu

Mynediad ar 02920 201563 a gallwn ni eich helpu. Peidiwch â mynychu sesiwn heb archeb a chadarnhad ymlaen llaw.

A alla i archebu lle ar fwy nag un cwrs?

Gallwch fynychu mwy nag un cwrs. Gwiriwch ein taflen ‘Cynlluniwr’ ar dudalen 15 er mwyn sicrhau nad ydy’r cyrsiau y dymunwch eu mynychu yn cael eu cynnal ar yr un pryd. Ni fydd yn bosibl i chi fynychu mwy nag un cwrs ar yr un diwrnod.

Beth os ydw i wedi archebu lle ond ddim yn gallu mynychu?

Mae lleoedd ar gyrsiau ein Hysgol Haf yn brin. Os ydych chi wedi archebu lle ond methu mynychu mwyach, ewch i'ch e-bost cadarnhau a chliciwch ar 'Gweld Y Cyrsiau Rydych Wedi'u Harchebu' yna 'Canslo Cofrestriad', neu anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol. Yn aml, bydd gennym restr aros o bobl sydd am ddod a thrwy ein hysbysu ymlaen llaw na allwch fynychu, gallwn gynnig lle iddyn nhw.

Ble a phryd mae'r cyrsiau?

Mae cofrestru'n agor am 9.30yb yn Yr Hyb ar ein Campws Llandaf, mae cyrsiau'n dechrau am 10yb ac yn gorffen am 2.30yp (heblaw bod wedi'u nodi'n wahanol).

Os nad ydych chi'n gyfarwydd â'r campws, gallwch chi fynd i'r Brif Dderbynfa ar blaen y campws. Bydd staff yno i'ch croesawu a'ch cyfeirio at y pwynt cofrestru.

Am fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ewch i'n gwefan: www.cardiffmet.ac.uk/llandaff

A allaf barcio ar y campws?

Mae lle parcio ar y campws yn gyfyngedig, felly os yw'n bosibl dod ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddem yn argymell gwneud hynny. Mae Met Caerdydd yn gweithredu system barcio talu ac arddangos, sy'n costio £1 am hanner diwrnod a £2 am barcio diwrnod cyfan. Os ydych chi'n bwriadu parcio ar y campws, bydd angen i chi fynd i mewn i'r brif fynedfa a throi i'r dde i mewn i faes parcio'r gwesteion a mannau parcio ymwelwyr. Ewch i'r brif dderbynfa i gofrestru'ch car. Yna gallwch dalu am barcio a bydd staff y dderbynfa yn eich cyfeirio at y lleoedd sydd ar gael. Bydd Llysgennad Myfyrwyr ar gael yn y dderbynfa i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.

Beth os nad ydw i wedi astudio ers peth amser?

Ni ddisgwylir bod gennych unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc. Lluniwyd y cyrsiau ar gyfer pobl sydd wedi ymgilio o fyd addysg ers tro. Bydd tiwtoriaid profiadol yn eich helpu i ddatblygu’ch ssgiliau ac ehangu’ch gwybodaeth mewn amgylchedd cefnogol, cyfeillgar a hwyliog. Nod y cyrsiau hyn ydy rhoi blas i chi o sut beth fyddai astudio yn y brifysgol.

A ddarperir cinio?

Byddwn yn darparu lluniaeth ysgafn. Gallwch hefyd ddod â'ch bwyd eich hun neu brynu bwyd a diodydd ar y campws. Cofiwch fod y campws yn rhedeg system di-arian parod.

Dim ond un o ddyddiau’r cwrs gallaf i ei fynychu. Ydy hi’n dal yn bosibl i mi ddod?

Ni allwch fynychu os na allwch fynychu pob diwrnod o'r cwrs. Yn aml, mae ein cyrsiau yn adeiladu ar y gwaith a wnaed ar y diwrnod blaenorol ac mae’n tarfu ar waith y tiwtor a dysgwyr eraill os mai dim ond rhan o'r cwrs y gallwch eu fynychu.

Telerau ac Amodau

Cofrestru

Mae gofyn i bob myfyriwr cofrestru cyn iddyn nhw gychwyn ar eu rhaglen astudiaeth.

Dydy ymrestru ddim yn uned gyflawn tan:

- i ffurflen gofrestru

Prifysgol Metropolitan Caerdydd gael ei chwblhau’n foddhaol.

- i unrhyw weithdrefnau gweinyddol eraill gael eu cyflawni.

Ni chaiff unrhyw fyfyriwr sydd ag ymrwymiadau ariannol dyledus i Brifysgol Metropolitan Caerdydd gofrestru.

Ymddygiad

Disgwylir i chi ymddwyn mewn modd rhesymol a threfnus, gan roi ystyriaeth ddyledus i bobl eraill ac i eiddo Met Caerdydd fel yr amlinellir yn Siarter y Myfyrwyr.

Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â rheoliadau Met Caerdydd, a cheir y manylion ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Rhaid riportio unrhyw niwed neu ddifrod i eiddo Met Caerdydd ar unwaith i aelod o'r staff. Efallai bydd gofyn i fyfyrwyr dalu am y colledion ar gyfer Dysgwyr sy'n Oedolion neu am ddifrod i unrhyw lyfr, cyfarpar neu offer yn eu gofal.

Dydy Met Caerdydd ddim yn gyfrifol am golli eiddo personol neu ei ddifrodi ac os digwydd i gyfrwng digidol gael ei ddychwelyd fel eiddo coll, mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i roi’r ddyfais yn ôl i’w wir berchennog.

Rhaid gadael beiciau yn y raciau arbennig a ddarparwyd yn benodol ar eu cyfer a’u cloi yn briodol. Gofynnwch am gymorth yn y Prif Dderbynfa.

Mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i symud myfyrwyr o'r cwrs ar unrhyw adeg.

Mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i ganslo, gohirio neu addasu unrhyw raglen petai amgylchiadau yn gofyn am hynny.

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen ymrestru hon ei thrin yn unol ag egwyddorion Diogelu Data, yn unol â gofynion Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR).

Efallai byddwn yn rhannu’ch data gyda sefydliadau partner at ddibenion gweinyddu’r cwrs a chadarnhau eich presenoldeb/cyflawniad.

Sefydliadau yn y gymuned ydy ein sefydliadau partner sy’n ein cyfeirio at ba gyrsiau sydd eu hangen yn y gymuned leol yr ydyn ni’n gweithio ynddi.

Bydd y wybodaeth a rannwn gyda'r sefydliadau yn gyfyngedig i’r canlynol:

- Cyfnewid gwybodaeth sylfaenol (e.e. enwau’r mynychwyr os mai’r sefydliad partner sy'n cynnal y cwrs yn un o’u lleoliadau); a chrynodeb o'r wybodaeth o ran y nifer o fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i addysg bellach ar ôl cwrs. Am wybodaeth bellach ar sut yr ydyn ni'n defnyddio’ch data personol, darllenwch Hysbysiad Prosesu Teg i Fyfyrwyr.

Sganiwch yma i gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein

Ehangu Mynediad, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YB  029 2020 1563

wideningaccess@cardiffmet.ac.uk

www.cardiffmet.ac.uk/summerschool

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i argraffu gyda phapur cynaliadwy a charbon cytbwys. Ailgylchwch y cyhoeddiad hwn. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir ar adeg argraffu: Ebrill 2026.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook