Skip to main content

CYMRAEG Cennin Pedr Award Pack

Page 1


Cy flwyniad

Helo bawb! Jamie a Maddie o Dîm Ieuenctid ScoutsCymru ydyn ni, ac mae cyflwyno Gwobr Cennin Pedr i chi’n gyffrous iawn – gwobr newydd sbon sy'n dathlu popeth sy'n gwneud diwylliant Cymru mor arbennig!

Mae'r bathodyn hwn yn helpu pobl ifanc i gysylltu ag iaith, traddodiadau, straeon ac ysbryd Cymru mewn ffyrdd hwyliog ac ymarferol. Boed yn dysgu ychydig o eiriau Cymraeg newydd, archwilio chwedlau lleol, blasu bwyd traddodiadol, neu ddarganfod y lleoedd anhygoel sy'n ffur fio ein cenedl – mae rhywbeth at ddant pawb.

Pleser yw creu partneriaeth â Cadw ar gyfer y bathodyn yma ac rydym ni’n gwerthfawrogi eu cyfraniad ariannol, a'u bod yn rhoi mynediad am ddim i'w henebion ar gyfer grwpiau sgowtio, i'w gefnogi.

Allwn ni ddim aros i weld arweinwyr a gwirfoddolwyr ledled Cymru yn dod â'r wobr hon yn fyw ac yn ysbrydoli pobl ifanc i deimlo'n falch o'n diwylliant a'n treftadaeth. Felly ewch amdani, byddwch yn greadigol, a dewch i ni ddathlu beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o Gymru –gyda'n gilydd!

Diolch yn fawr, a gyda Gwobr Cennin Pedr!

Gofynion

(4 i 6 oed)

Cwblhewch 4 o’r gofynion, rhaid gwneud o leiaf 1 o bob thema.

Bwyd a Sgiliau

• Helpwch i wneud pice ar y maen neu fwyd traddodiadol arall a’i flasu.

• Aroglwch a chyffwrddwch â chynhwysion Cymreig (cenhinen, caws, ac ati).

• Addurnwch y neuadd a gosod byrddau ar gyfer gwledd Gymreig.

Creadigrwydd a’r Celfyddydau

• Dysgwch gân Gymraeg a'i chanu gyda'ch gilydd.

• Lluniwch eich dehongliad chi o gerdd Gymraeg.

• Dyluniwch gastell Cymreig neu un dychmygol.

Hanes a Hunaniaeth

• Darganfyddwch beth yw eisteddfod a pham ei bod hi'n arbennig i Gymru (Gallech wrando ar gerddoriaeth, edrych ar luniau, neu roi cynnig ar eisteddfod fach yn eich nyth!)

• Trïwch ddillad traddodiadol Cymreig ymlaen a dysgu ffaith amdanyn nhw.

• Ewch i ymweld â un o safleoedd hanesyddol Cymreig Cadw* (gyda mynediad am ddim).

• Gwrandewch ar Addewid y Sgowtiaid yn y Gymraeg, dysgu rhai geiriau neu ymadroddion, neu ddysgu'r Addewid llawn (yn dibynnu ar eich gallu yn y Gymraeg).

• Gwrandewch ar stori am Dewi Sant.

Gofynion

(6 i 8 oed)

Cwblhewch 6 o’r gofynion, rhaid gwneud o leiaf 1 o bob thema.

Bwyd a Sgiliau

• Helpwch i wneud pice ar y maen neu fwyd traddodiadol Cymreig arall a’i flasu.

• Addurnwch gacennau bach neu fisgedi Dydd Gŵ yl Dewi.

Creadigrwydd a’r Celfyddydau

• Dysgwch gân Gymraeg a'i chanu gyda'ch gilydd.

• Lluniwch eich dehongliad chi o gerdd Gymraeg.

• Dyluniwch gastell Cymreig neu un dychmygol, meddyliwch beth sy’n gwneud castell da!

Hanes a Hunaniaeth

• Darganfyddwch beth yw eisteddfod a pham ei bod hi'n arbennig i Gymru (Gallech wrando ar gerddoriaeth, edrych ar luniau, neu roi cynnig ar eisteddfod fach yn eich llwyth!)

• Trïwch ddillad traddodiadol Cymreig ymlaen a dysgu ffaith amdanyn nhw

• Ewch i ymweld â un o safleoedd hanesyddol Cymreig Cadw* (gyda mynediad am ddim).

• Gwrandewch ar Addewid y Sgowtiaid yn y Gymraeg, dysgu rhai geiriau neu ymadroddion, neu ddysgu'r Addewid llawn (yn dibynnu ar eich gallu yn y Gymraeg).

• Gwrandewch ar o leiaf ddwy stori am Dewi Sant.

Gofynion

(8 i 10.5 oed)

Cwblhewch 7 o’r gofynion, rhaid gwneud o leiaf 2 o bob thema.

Bwyd a Sgiliau

• Helpwch i goginio pryd traddodiadol Cymreig ar dân agored (gyda help oedolyn!) a’i flasu

• Dysgwch am hanes llwyau caru a dylunio un eich hun

• Gwnewch Gawl, dysgu beth sy'n mynd i mewn iddo a’i fl

Creadigrwydd a’r Ce

• Dysgwch gân Gymraeg a'i chanu gyda'ch gilydd

• Lluniwch eich dehongliad chi o gerdd Gymraeg

• Dyluniwch gastell Cymreig neu un dychmygol

Hanes a Hunaniaeth

• Gwrandewch ar straeon neu chwedlau am Dewi Sant a rhannu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu gyda’ch Six

• Darganfyddwch beth yw eisteddfod a pham ei bod hi'n arbennig i Gymru - gallech wylio fideo, cymryd rhan mewn eisteddfod fach neu wrando ar gerddoriaeth neu farddoniaeth Gymraeg

• Trïwch ddillad traddodiadol Cymreig ymlaen a dysgu ffaith amdanyn nhw

• Ewch i ymweld â un o sa hanesyddol Cymreig Cadw* (gyda mynediad am ddim)

• Gwrandewch ar Addewid y Sgowtiaid yn y Gymraeg, dysgu rhai geiriau neu ymadroddion, neu ddysgu'r Addewid llawn (yn dibynnu ar eich gallu yn y Gymraeg).

Gofynion

(10.5 i 14 oed)

Cwblhewch 8 o’r gofynion, rhaid gwneud o leiaf 2 o bob thema.

Bwyd a Sgiliau

• Paratowch a choginiwch bryd traddodiadol Cymreig 3 chwrs ar dân agored.

• Cynlluniwch fwydlen Gymreig syml ar gyfer pryd gwersyll.

• Addaswch bryd traddodiadol ar gyfer llysieuwyr neu alergeddau.

• Gwnewch fideo byr yn esbonio sut i goginio pryd Cymreig.

• Dyluniwch a gwnewch lwy garu.

Creadigrwydd a’r Celfyddydau

• Dysgwch ddawns werin.

• Lluniwch eich dehongliad chi o gerdd Gymraeg.

• Crëwch berfformiad (cerddoriaeth, drama, neu farddoniaeth) wedi'i ysbrydoli gan Gymru neu ei chwedlau.

Hanes a Hunaniaeth

• Dysgwch am yr Eisteddfod Genedlaethol a sut mae wedi datblygu.

• Trïwch ddillad traddodiadol Cymreig ymlaen a dysgu ffaith amdanyn nhw.

• Ewch i ymweld â thri safle hanesyddol Cymru a chreu poster neu arddangosfa ddigidol amdanynt (mynediad am ddim gyda Cadw*).

• Dysgwch Addewid y Sgowtiaid yn y Gymraeg (gallech ei ddysgu'n llawn, ymarfer ymadroddion allweddol, neu helpu eraill yn dibynnu ar eich hyder yn y Gymraeg).

• Ymchwiliwch pwy oedd Dewi Sant a darllen tair stori amdano.

• Ymchwiliwch ystyr Anthem Genedlaethol Cymru, meddyliwch am yr hyn y mae'n ei olygu i chi fel unigolyn ac i eraill yng Nghymru. Gwnewch fwrdd stori o'r anthem.

Gofynion

(14 i 18 oed)

Cwblhewch 10 o’r gofynion, rhaid gwneud o leiaf 2 o bob thema a weithgaredd Arwain.

Bwyd a Sgiliau

• Paratowch a choginiwch bryd tri chwrs traddodiadol Cymreig ar dân agored.

• Ymchwiliwch i darddiad a hanes eich prydau Cymreig dewisol.

• Cymharwch draddodiadau bwyd Cymru â thraddodiadau bwyd gwlad arall (e.e., Eidalaidd, Indiaidd, ac ati).

• Dyluniwch a cher fiwch neu addurnwch eich llwy garu eich hun gydag ystyron symbolaidd.

Creadigrwydd a’r Celfyddydau

• Dysgwch ddawns werin.

• Crëwch ddehongliad gweledol neu ddigidol o gerdd Gymraeg.

• Cystadlwch mewn eisteddfod - gallai hyn fod mewn cerddoriaeth, ysgrifennu, celf, neu berfformiad.

• Cynlluniwch a chynhaliwch eisteddfod fach ar gyfer adran iau (Squirrels i Scouts).

Hanes a Hunaniaeth

• Dysgwch am yr Eisteddfod Genedlaethol a sut mae wedi datblygu dros amser – ystyriwch effeithiau diwylliannol a gwleidyddol.

• Trïwch ddillad traddodiadol Cymreig ymlaen a dysgu ffaith am eu cyd-destun hanesyddol neu ddiwylliannol.

• Ewch i ymweld â thri safle hanesyddol Cymru a chreu cyflwyniad amdanynt (mynediad am ddim gyda Cadw*).

• Dysgwch Addewid y Sgowtiaid yn y Gymraeg. Os ydych chi’n rhugl, helpwch eraill i ddysgu’r addewid neu archwilio ei ystyr.

• Ymchwiliwch ystyr Anthem Genedlaethol Cymru, meddyliwch am yr hyn mae'n ei olygu i chi fel unigolyn ac i eraill yng Nghymru.

nhw'n ei wybod am Gymru a rhannwch yr hyn rydych chi'n ei ddysgu, dysgwch ychydig o bethau iddyn nhw am Gymru hefyd.

Arwain

• Cynlluniwch ac arweiniwch sesiwn Gwobr Cennin Pedr lawn ar gyfer eich Uned Explorer neu adran iau.

• Byddwch yn fentor i Sgowt iau sy'n gweithio ar y Wobr Cennin Pedr, gan gynnig anogaeth, arweiniad a chefnogaeth.

• Cynhaliwch gêm, cwis, neu weithgaredd creadigol am ddiwylliant Cymru ar gyfer eich gr ŵp neu ardal.

• Helpwch i gynllunio a chynnal eisteddfod ar gyfer eich gr ŵp neu ardal.

• Rhannwch eich profiad o ennill y bathodyn mewn blog, neges ar y cyfryngau cymdeithasol, neu gylchlythyr Sgowtiaid.

Rhagor o Wybodaeth

Dolenni penodol i ardaloedd arbennig o’n gwefan

• Cadw Cymru Minecraft

• Dysgu Cymraeg gyda Cadw

• Celf, Crefftau a Chreadigrwydd

• Gwyliau a Thraddodiadau

• Arwyr ac Arwresau Cymru

• Gwarchodwr Treftadaeth

• a phecynnau Addysg (sy’n cynnwys pecyn cestyll) yn Adnoddau Addysg - i helpu i baratoi ar gyfer ymweliad.

Ffynonellau eraill o wybodaeth a delweddau allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer astudiaethau cysylltiedig:

• Casgliad y Werin Cymru

• Croeso Cymru

• Chwilio cofnodion Cadw

• Coflein

• Enwau Lleoedd Hanesyddol

• MapDataCymru

• Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

• Dolen i gyfryngau cymdeithasol Cadw

am y newyddion diweddaraf.

* Gweler Dysgu | Cadw am adnoddau i gefnogi'r bathodyn hwn –Ac Ymweliadau Addysg i gael gwybodaeth am gael mynediad at yr ymweliadau am ddim i safleoedd Cadw (nodwch y Telerau ac Amodau) a chofiwch dagio @Cadwcymruwales yn eich negeseuon cyfryngau cymdeithasol am unrhyw ymweliad â safle Cadw.

Arhoswch mewn cysylltiad

admin@scoutscymru.org.uk

www.scoutscymru.org.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
CYMRAEG Cennin Pedr Award Pack by Sarah Garwood Creative - Issuu