Skip to main content

Welsh E-bulletin October 2023

Page 1

R H W Y D WA I T H I E C H Y D C Y H O E D D U S C Y M R U

E- FWLETIN HYDREF 2023

MEDDWL TRW Y SYSTEMAU YM MAES IECHYD Y CYHOEDD


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023

Croeso C

roeso i e-fwletin mis Hydref sy’n tynnu sylw at feddwl systemau mewn iechyd cyhoeddus.

Mae meddwl am systemau yn ein helpu i ddatblygu a gwerthuso polisïau a mentrau drwy ystyried perthnasoedd, rhyngweithio, ffiniau a safbwyntiau. Mae dylanwadu ar rai o heriau iechyd cyhoeddus mawr ein cymdeithasau modern yn golygu mynd y tu hwnt i ddull llinol. Er nad oes diffiniad cyffredinol o system, yn gyffredinol, gellir ei ystyried yn grŵp o gydrannau rhyngweithio, cydberthynol a rhyngddibynnol sy’n ffurfio cyfanwaith cymhleth ac unedig (The Systems Thinker, 2018).

Cysylltu â Ni Drwy anfon e-bost: publichealth.network@wales.nhs.uk Twitter: @RICCymru

2


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023

Cynnwys 4

Penawdau Pa sgiliau sydd eu hangen ar arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus effeithiol? Canfyddiadau o’r llenyddiaeth a chyfweliadau ag arweinwyr systemau Yr Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr James Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr; Sophie Cole, Cynorthwydd Ymchwil, Sefydliad Ymchwil a Datblygu Cymunedol, Prifysgol Wolverhampton Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru Cymryd Ymagwedd Systemau Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru, enghreifftiau o’r rheng flaen Sophia Bird, Ilona Johnson, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Lydia Orford, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Fiona Valentine, bwrdd Iechyd Addysgu Powys PIPYN Merthyr a meddwl trwy systemau i ddylanwadu ar ordewdra plant Shelley Powell, Rheolwr Proffesiynol Deietig ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) Cyhoeddiadau

11

Trwy glep a si Adroddiad yn canfod bod canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfrannu at godi proffil gwaith teg ymhlith partneriaid yn y sector cyhoeddus Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

12

Fideos

13

Newyddion & Adnoddau

14

Rhifyn Nesaf

3


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Penawdau

Hydref 2023

Ymarfer

Pa sgiliau sydd eu hangen ar arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus effeithiol? Canfyddiadau o’r llenyddiaeth a chyfweliadau ag arweinwyr systemau

R

Yr Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr James Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr; Sophie Cole, Cynorthwydd Ymchwil, Sefydliad Ymchwil a Datblygu Cymunedol, Prifysgol Wolverhampton Manon Roberts, Uwch Swyddog Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru

ôl arweinwyr iechyd cyhoeddus yn y pen draw yw gwella canlyniadau iechyd, yn enwedig ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae’n rhaid i arweinwyr iechyd cyhoeddus weithio ar draws sawl ‘system’ gan fod yr hyn sy’n achosi pryderon iechyd cyhoeddus yn aml yn gymhleth ac yn amlweddog. Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Wolverhampton, ymchwil i archwilio rôl arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus mewn ysgogi newid i sicrhau canlyniadau iechyd gwell, a’r priodoleddau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn bod yn llwyddiannus fel y gall arweinwyr systemau’r dyfodol ddatblygu eu sgiliau yn y meysydd hyn. Roedd yr ymchwil yn cynnwys dau brif gam: adolygiad llenyddiaeth a chyfweliad ag un ar ddeg o arweinwyr systemau.

Y cwestiynau ymchwil oedd: • Beth mae newid systemau yn ei olygu yng nghyd-destun iechyd cyhoeddus? • Beth yw rôl ‘arweinwyr systemau’ a beth yw eu dealltwriaeth o newid systemau? • Pa sgiliau, priodoleddau a nodweddion sydd eu hangen ar arweinwyr systemau iechyd cyhoeddus? Mae arwain y gwaith o newid systemau yn sgil hanfodol sydd ei hangen ym maes 4

iechyd cyhoeddus; y gallu i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac ysbrydoli eraill i arwain newid a hwyluso hyn i ddigwydd. Nawr yn fwy nag erioed, gyda chyfyngiadau cyllidol a’r angen i symud systemau iechyd tuag at atal, mae cael y sgiliau arwain i ddod â phartneriaid ar y daith yn hanfodol. Ar lefel fyd-eang a chenedlaethol, mae angen i systemau ymateb i bryderon iechyd cyhoeddus cymhleth fel newid hinsawdd.


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Mae hyn yn golygu bod angen i arweinwyr iechyd cyhoeddus feddu ar y gallu i ddeall y darlun ehangach, i gyflwyno gweledigaeth ar sut y gall sectorau weithio gyda’i gilydd, a dod â’r sectorau hynny ynghyd i lunio a gweithredu datrysiadau ar y cyd. Mae canfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth a’r cyfweliadau yn amlygu pedair nodwedd arwain sydd eu hangen i ysgogi newid systemau ym maes iechyd cyhoeddus:

1. Gweld y darlun mwy a dewis dulliau gweithredu addas 2. Cydweithio’n effeithiol a chroesi ffiniau 3. Grymuso eraill i arwain, adeiladu ar y cysyniad o arweinyddiaeth wasgaredig 4. Cynnal cymhellion a gwerthoedd sylfaenol cryf, gan gynnwys yr angen am wyleiddra a meddylfryd dysgu Boed yn arwain ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol neu fyd-eang, mae sbarduno newid systemau yn sgil iechyd cyhoeddus craidd. Mae’r

Hydref 2023 ymchwil hon yn diffinio nodweddion arweinwyr iechyd cyhoeddus sydd wedi llwyddo i sbarduno newid systemau. Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog datblygu’r nodweddion hyn ymysg arweinwyr y dyfodol. Cyhoeddir yr adroddiad llawn ym mis Rhagfyr 2023 ar y wefan hon: https://phwwhocc. co.uk/?lang=cy Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Jo.Peden@wales.nhs.uk

Ymarfer

Cymryd Ymagwedd Systemau Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru, enghreifftiau o’r rheng flaen

Sophia Bird, Ilona Johnson, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Lydia Orford, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Fiona Valentine, bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Y

ng Nghymru, mae dros 60% o oedolion yn byw gyda pwysau ormodol afiach (Pwysau Iach: Cymru Iach, 2019). Yn ogystal, mae dros chwarter o blant Cymru yn cael eu heffeithio erbyn yr amser mae nhw’n dechrau ysgol. Mae’n anodd gwrthdroi gordewdra, hyd yn oed yn ystod plentyndod, ac mae ein tebygolrwydd o fod dros bwysau neu’n ordew yn cynyddu wrth inni fynd yn hŷn. Felly, mae’n hanfodol cymryd camau cynnar i fynd i’r afael â’r achosion ac atal gordewdra. Mae’r cynnydd mewn lefelau gorbwysedd a gordewdra yn gymhleth ac yn deillio o nifer

o newidiadau cyflym yn ein bywydau a’n ffyrdd o fyw dros yr ugeinfed ganrif. Rydym yn llai tebygol o weithio ym maes gwaith llaw; rydym yn teithio mewn ceir ac mae gennyn nifer o ddyfeisiau arbed llafur sy’n golygu ein bod yn defnyddio llai o ynni nag o’r blaen. Ar yr un pryd rydyn ni wedi gweld ehangiad enfawr mewn technoleg bwyd sydd wedi rhoi blaenoriaeth i fasgynhyrchu bwyd am gost a hwnnw’n ddwys o ran ynni ac yn cynnwys llawer o siwgr a halen. Rydym yn tyfu ac yn paratoi llawer llai o’n prydau gartref ac mae bywydau prysur yn golygu ein bod yn aml yn dewis prydau cyflym sydd wedi’u paratoi’n

5

barod neu wedi’u coginio gan bobl eraill. Ni fu rôl a dylanwad penderfynyddion masnachol iechyd erioed yn fwy ac yn aml i’r dylanwad hwnnw gael ddimensiwn byd-eang. Mae cymhlethdod y broblem yn golygu nad oes atebion syml ac na all un asiantaeth neu sefydliad ei ddatrys ar ei phen ei hun. Yn ychwanegol, ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod yna gydberthnasau cymhleth rhwng gwahanol agweddau mewn system sy’n addasu ac yn newid yn barhaus. Gall camau a gymerir gan un rhan o’r system gael effaith anfwriadol ar rannau eraill.


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Datblygwyd ein Dull Systemau Cyfan Pwysau Iach (DSC PI) yng Nghymru i ‘alluogi darparu rhaglen genedlaethol ar gyfer Dulliau Pwysau Iach ar Sail Systemau’ (Llywodraeth Cymru, 2019). Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhaglen gydweithredol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Grŵp Arwain Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd a Llywodraeth Cymru. Gan gydnabod cymhlethdod y system gordewdra, mae DSC PI yn cymryd golwg hirdymor,

gan weithio gydag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol, i ddeall y system yn well a’r cyfleoedd ar gyfer newid. Gan ddefnyddio ein proses 9 cam (Gweler y ddelwedd) rydym yn anelu’n benodol at ddatgelu’r strwythurau a’r nodau o fewn system benodol. Mae’r broses hon yn dod â phartneriaid yn y system ynghyd ac yn cytuno ar eu blaenoriaethau ar gyfer newid mewn ardaloedd lleol ac ar lefel strategol genedlaethol. Mae’r broses hon yn cynnwys

Hydref 2023 partneriaid yn y broses, gan ddatblygu dealltwriaeth o sut y gallant gyfrannu at y newid hwnnw trwy weledigaeth a dull gweithredu a rennir, drwy nodi eu meysydd dylanwad yn y system. Gellir dod o hyd i’n hanimeiddiad i esbonio’r angen am Ddull Systemau Cyfan yma: https://pwysauiach.cymru/ systemau/ Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Sophia.Bird@ wales.nhs.uk

Astudiaeth Achos 1: Nodi’r rhwystrau presennol o fewn y system, a sut y gellir ysgogi’r system i harneisio newid – Cynyddu mynediad at dalebau Cychwyn Iach: Y Sefyllfa: Er bod llawer o deuluoedd incwm isel ar hyn o bryd yn cael trafferth gyda’r cynnydd mewn argyfwng costau byw, ym Mhowys, dim ond 60% o deuluoedd cymwys sy’n defnyddio’r cynllun Cychwyn Iach. Mae’r cynllun Cychwyn Iach yn rhoi cymorth i deuluoedd cymwys brynu bwyd iach gan gynnwys llaeth, ffrwythau, llysiau a llaeth fformiwla babanod. Fodd bynnag, nid yw llawer yn cael

mynediad at y cymorth hwn ar gyfer mynediad at fwyd iach. Ymhlith y rhwystrau a nodwyd mae: y cynllun yn symud o gardiau papur i gardiau digidol; teuluoedd nad Ymhlith y rhwystrau a nodwyd mae: dryswch a achosir gan y cynllun yn symud o gardiau papur i gardiau digidol; teuluoedd nad ydynt yn cofrestru’n llwyddiannus ar gyfer y cardiau digidol; cardiau’n cael eu 6

gwrthod adegar y desg dalu mewn archfarchnaydoedd oherwydd diffyg ymwybyddiaeth staff; diffyg gwybodaeth am y cynllun ymhlith manwerthwyr gan gynnwys banciau bwyd; rhai teuluoedd cymwys yn cael gwybod cyngor yn anghywir eu bod yn anghymwys; teuluoedd sy’n yn cael anawsterau wrth fynd drwodd i linellau cymorth y cynllun.


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Dull System Gyfan: Sefydlu gweithgor, yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth gan gynnwys adwerthwyr bwyd lleol, cynghorwyr budd-daliadau, gweithwyr teulu, a.y.y.b. Mapio’r achosion, y rhwystrau a’r dylanwadau ar y nifer sy’n cael talebau.

Hydref 2023

Nod y canlyniad: Nodi ysgogiadau posibl ar gyfer newid; I nodi’r rhanddeiliaid sydd â dylanwad dros wahanol rannau o’r system, yn enwedig lle mae ysgogiadau wedi’u nodi. Nawr yn cytuno ar gamau gweithredu ar lefel system i newid y system.

Astudiaeth Achos 2, tîm Betsi Cadwaladr: Sut y nodwyd rhwystrau yn y system ac yr aethpwyd i’r afael â hwy, gan arwain at newid yn y system ar y lefel Cynllunio ar gyfer mannau gwerthu bwyd Y Sefyllfa: Mewn llawer allfeydd bwyd poeth yn aml mwy cyson ac amserol i o ardaloedd mae mynediad wedi’u lleoli ger ysgolion; yn geisiadau cynllunio; mwy o cyfyngedig at fwyd iach a cynyddu cyfraddau gorbwysedd ymwybyddiaeth o geisiadau fforddiadwy, ond mynediad a gordewdra mewn ardaloedd gyda goblygiadau IC; dylanwad hawdd at fwydydd siop prydau lleol, ac mae’r cyfraddau hyn yn IC ar adroddiadau achos ac sy’n aml yn uchel mewn braster, aml yn uwch mewn ardaloedd o argymhellion swyddogion halen neu siwgr. Mae siopau anghydraddoldeb. Cynllunio. Er enghraifft, roedd cludfwyd poeth yn aml wedi’u Dull System Gyfan: 1 cais yn cynnig newid defnydd lleoli’n agos at rai eraill, ac mae Tîm Iechyd Cyhoeddus wedi o fanwerthu i fwyd a diod. niferoedd cynyddol o’r mathau ymgysylltu â chydweithwyr Codwyd pryderon IC ynghylch hyn o fannau gwerthu. Cynllunio; datblygu a lleoliad nifer o leoliadau Ymhlith y rhwystrau gweithredu proses IC wythnosol addysgol; agosrwydd at siopau a nodwyd mae: Nid yw i ymateb i geisiadau cynllunio; prydau parod poeth eraill; a Byrddau Iechyd a thimau datblygu cyfres o dempledi chyfraddau presennol dros Iechyd y Cyhoedd (IC) yn ymateb gan ddefnyddio’r sylfaen bwysau a gordewdra yn yr ardal. ymgyngoreion swyddogol ar dystiolaeth ddiweddaraf, data, Caniatawyd y cais cynllunio geisiadau cynllunio felly nid a pholisïau cenedlaethol a lleol i gyda’r amod na fydd unrhyw ydynt yn aml yn ymwybodol o lywio ymatebion; hyfforddi holl fwyd na diod poeth yn cael eu geisiadau am ragor o allfeydd aelodau’r tîm IC yn y broses. gwerthu na’u darparu i’w bwyta bwyd poeth; mae ceisiadau Canlyniad: Ymatebion oddi ar eiddo’r cais. 7


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023 Ymarfer

PIPYN Merthyr a meddwl trwy systemau i ddylanwadu ar ordewdra plant Shelley Powell, Rheolwr Proffesiynol Deietig ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB)

Y

myrraeth deuluol yw PIPYN Merthyr, wedi’i gwreiddio mewn ymagwedd systemau cyfan gref at wella ymddygiadau ffordd iach o fyw teuluoedd ym Merthyr Tudful. Mae gan Ferthyr y cyfraddau uchaf o blant ac oedolion sydd dros bwysau ac yn ordew (Iechyd Cyhoeddus

Cymru, 2021; Llywodraeth Cymru, 2022a) a phydredd dannedd yng Nghymru, sy’n gysylltiedig â chyfraddau uchel o amddifadedd (Llywodraeth Cymru, 2022b; Llywodraeth Cymru, 2023) ac ymgysylltiad cyfyngedig â gwasanaethau iechyd (CTMUHB, 2023). Mae ymyriadau unigol yn rhoi mwyafrif y cyfrifoldeb am newid ymddygiad ar deuluoedd ac unigolion. Ar hyn o bryd, mae teuluoedd yn wynebu amgylchedd ffisegol ac economaidd heriol, lle nad yw dewisiadau ffordd iach o fyw yn opsiwn rhwydd na hyfyw, o reidrwydd. I gefnogi ymagwedd unedig a system gyfan at greu lleoliadau ac amgylcheddau iach o amgylch y teulu, nod PIPYN Merthyr yw rhannu’r cyfrifoldeb am weithredu ymddygiadau iach ar draws

systemau a gwasanaethau, gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau. Mae PIPYN Merthyr wedi ymgysylltu â mwy na 150 o deuluoedd lleol i gydgynhyrchu cangen ymyrryd y gwasanaeth hwn. Mae hefyd wedi gwneud gwaith cynyddu dealltwriaeth gyda mwy na 100 o bartneriaid i greu rhwydweithiau cymorth a hyrwyddo cyfrifoldeb a rennir am amgylcheddau iach. Yn seiliedig ar y data hwn, nod PIPYN Merthyr yw: • Datblygu grŵp llywio amlasiantaethol â nodau a rennir i alluogi gweithredu a newid cynaliadwy i systemau • Datblygu presenoldeb digidol cryf ar-lein i gynorthwyo teuluoedd a phartneriaid i hyrwyddo a gweithredu ymddygiadau ffordd iach o fyw • Cynyddu sgiliau a chynorthwyo asiantaethau partner i ddatblygu amgylcheddau iachach o amgylch y teulu • Mapio a chodi ymwybyddiaeth o wasanaethau presennol, gan gynyddu darpariaethau o ansawdd da yn y cymunedau mwyaf difreintiedig • Cydgynhyrchu gwasanaethau newydd sy’n 8

cyrraedd safonau ansawdd, yn seiliedig ar fapio ac asesu anghenion • Cefnogi’r broses o ddatblygu opsiynau arlwyo iachach y tu allan i’r cartref • Cynorthwyo teuluoedd i gael at amgylcheddau iachus yn ystod gwyliau’r ysgol • Cynorthwyo teuluoedd â thlodi bwyd a mynediad at wasanaethau cymorth am ddim neu gost isel • Darparu hyfforddiant, adnoddau ac offer o ansawdd da i gefnogi ymddygiadau iach parhaus • Dylanwadu ar brosesau comisiynu lleol i ddylanwadu ar safonau ansawdd ar draws gwasanaethau


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hyd yma, mae PIPYN Merthyr wedi cynorthwyo ystod o wasanaethau i ddarparu opsiynau bwyd a diod iachach y tu allan i’r cartref. Mae hyn yn cynnwys gwella darpariaethau ar draws ysgolion cynradd a gwasanaethau chwarae, gofal plant, gwyliau’r haf a hamdden. Mae asiantaethau partner bellach yn adrodd bod mwy o wybodaeth, sgiliau, hyder, cymhelliad ac adnoddau ar gael i raeadru a gweithredu cyfleoedd o ansawdd da ar gyfer bwyd a gweithgarwch corfforol a chyfleoedd ymddygiad ffordd o fyw cadarnhaol ehangach. Cyflwynwyd mwy o weithgarwch

corfforol, bwyd a sgiliau coginio ymarferol ar draws ysgolion cynradd ym Merthyr hefyd, yn unol â’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae ymagwedd systemau cyfan yn ystyried sut mae gwahanol elfennau a rhanddeiliaid yn rhyngweithio ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Felly, fe all helpu i fynd i’r afael â materion iechyd y cyhoedd cymhleth, fel gordewdra, ac mae’n cynnwys cydweithio, hyblygrwydd, a dealltwriaeth a rennir o’r her a’r cyfleoedd ar gyfer newid. Er mwyn cefnogi effeithiolrwydd ymyriadau

9

Hydref 2023 pwysau iach, mae ymagwedd systemau ehangach yn cynyddu canlyniadau posibl i’r eithaf gan y rhai sy’n ymgysylltu â gwasanaethau. Mae hefyd yn cyrraedd ymhellach o lawer nag y gall unrhyw ymyrraeth ar ei phen ei hun. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Shelley Powell, Shelley.Powell@wales.nhs.uk Rhif ffôn: 01685 351289


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023

Cyhoeddiadau I’r rhai ohonoch sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am roi ymagweddau seiliedig ar systemau ar waith, mae’r cyhoeddiadau canlynol yn rhoi cyflwyniad i’r maes. Saesneg yn unig. Pecyn cymorth cyflwyniadol ar feddwl trwy systemau i weision sifil (2022) Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth Meddwl trwy Systemau ac Ymarfer: Canllaw i gysyniadau, egwyddorion ac offer ar gyfer yr FCDO a phartneriaid (2023) Y Sefydliad Astudiaethau Datblygu Canllawiau ar gyfer datblygu safbwynt systemau i werthuso ymyriadau iechyd y cyhoedd lleol (2019) Ysgol Ymchwil Iechyd y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) Meddwl trwy systemau ar gyfer polisi atal clefydau anhrosglwyddadwy: canllawiau i roi ymagweddau systemau ar waith (2022) Sefydliad Iechyd y Byd

10


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Trwy glep a si

Hydref 2023

Ymchwil.

Adroddiad yn canfod bod canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfrannu at godi proffil gwaith teg ymhlith partneriaid yn y sector cyhoeddus

Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod partneriaid yn y sector cyhoeddus yn cynyddu eu hymdrechion i wella iechyd a llesiant drwy fynediad at waith teg. Gwaith teg yw lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo’n deg, eu clywed a’u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau’n cael eu parchu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.

Mae cymryd rhan mewn gwaith teg yn floc adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd da. Mae’n rhoi ymdeimlad o ddiben ac adnoddau ar gyfer bywyd iach. Gall hyn yn ei dro leihau straen a helpu plant yn y teulu i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Ers mis Mai 2022, mae’r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ymgysylltu ag asiantaethau ledled Cymru i’w cynorthwyo i gysylltu gwaith teg ac iechyd, llesiant a thegwch a deall pa gamau gweithredu y gallant eu cymryd. Mae hyn yn adeiladu ar eu canllaw a’u hadnoddau ar gyfer partneriaid lleol a rhanbarthol i gynyddu

11

cyfranogiad mewn gwaith teg er mwyn gwella iechyd, llesiant a thegwch. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023

Fideos Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru Ymunwch â chydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a roddodd drosolwg o’r hyn a olygir gan y term Ymagwedd System Gyfan a sut mae’n cael ei ddefnyddio i gefnogi pwysau iach yng Nghymru. Disgrifiodd y gweminar y dystiolaeth, y cyd-destun strategol a’r dull naw cam ar gyfer ymagweddau system gyfan yng Nghymru. Trafododd y gweminar pam fod gweithio fel hyn yn wahanol i waith partneriaeth mwy traddodiadol.

Gwylio Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu Cyflwynodd y gweminar hwn adnodd ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu unigolion a thimau i weithredu i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Gwylio Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru Roedd y gweminar hwn yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

Gwylio

Gweld ein holl fideos

Archwiliwch ein llyfrgell fideo ar-lein

12


Hydref 2023

Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Newyddion & Adnoddau Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net

Gwahodd cyfranogwyr i gymryd rhan mewn arolwg gweithgareddau hamdden

31-10-2023

Ymgynghoriad: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc

25-10-2023

31-10-2023

Pob Newyddion Promotion of health-enhancing physical activity in small-tomedium-sized enterprises – Ar gael yn Saesneg yn unig Sefydliad Iechyd y Byd

More people, More active, More often for heart health: Taking action on physical activity. A World Heart Federation Policy Brief – Ar gael yn Saesneg yn unig Ffederasiwn y Galon y Byd

Pob Adnoddau 13


Meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd

Hydref 2023

Rhifyn Nesaf P LANT A’R ARGYFWNG COSTAU BY W YNG NGHYMRU Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar fywydau pobl o ddydd i ddydd yng Nghymru, ond gydag effeithiau penodol ar blant. Mae’r effeithiau hyn yn peri pryder arbennig o ystyried sut mae profiadau o dlodi yn ystod plentyndod yn cael effeithiau negyddol hirhoedlog ar eu datblygiad ac iechyd a ffyniant yn y dyfodol. Mae mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd sicrhau dyfodol gwell a mwy gwydn i Gymru ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Ar gyfer ein bwletin nesaf byddem yn croesawu erthyglau sy’n ymdrin â mentrau, polisïau neu raglenni cenedlaethol, rhanbarthol neu leol sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy argyfwng costau byw.

Cyfrannu

14


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook