

ASESIAD OâR EFFAITH AR IECHYD


Croeso
Mae Asesiad oâr Effaith ar Iechyd (HIA) yn darparu fframwaith systematig ond hyblyg ac ymarferol y gellir ei ddefnyddio i ystyried effeithiau ehangach polisĂŻau neu fentrau lleol a chenedlaethol a sut y gallant, yn eu tro, effeithio ar iechyd pobl. Mae HIA yn gweithio orau pan fydd yn cynnwys pobl a sefydliadau a all gyfrannu gwahanol fathau o wybodaeth a mewnwelediad perthnasol. Yna defnyddir yr wybodaeth i gynnwys mesurau i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer iechyd ac i leihau unrhyw risgiau. Mae hefyd yn darparu ffordd o fynd iâr afael ââr anghydraddoldebau iechyd syân parhau i fodoli yng Nghymru (WHIASU, 2024).
Maeâr e-fwletin hwn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a mentrau sydd wedi defnyddio, neu syân defnyddio AGIC i wella iechyd a lles cymunedau ledled Cymru.
Cynnwys
4 Articles
Wales Health Impact Assessment Support Unit marks 20 years of âshaping a healthier Walesâ
Wales Health Impact Assessment Support Unit Health Impact Assessment (HIA) and the Wales Health Impact Assessment Support Unit (WHIASU)
Kathryn Ashton, Principal Health Impact Assessment Development Officer; Wales Health Impact Support Unit, Public Health Wales
Liz Green, Consultant in Public Health / Programme Director for Health Impact Assessment; Wales Health Impact Support Unit, Public Health Wales
Understanding the health impacts of a national lung cancer screening programme: a participatory health impact assessment (HIA) workshop summary
Catrin Lyddon, Public Health Practitioner, Wales Health Impact Support Unit, Public Health Wales
Jennifer Sharp, Screening Engagement Specialist, Screening Engagement
Self-administered sexual health testing in an open prison setting: a pilot health impact assessment and social return on investment analysis
Kathryn Ashton, Department of Care and Public Health Research, Maastricht University, Maastricht, The Netherlands and Department of Policy and International Health, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK
Oliver Kempton, Envoy Partnership, London, UK
Aimee Challenger, Department of Health Protection, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK
Timo Clemens, Department of Care and Public Health Research, Maastricht University, Maastricht, The Netherlands
Mariana Dyakova, Department of Policy and International Health, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK
Christie Craddock, Department of Health Protection, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK
Jordan Williams, Department of Policy and International Health, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK
Liz Green, Department of Policy and International Health, Public Health Wales NHS Trust, Cardiff, UK and Department of Care and Public Health Research, Maastricht University, Maastricht, The Netherlands
Analysing the value, benefits and barriers to stakeholder and community participation in health impact assessments (HIAs) in Wales from 2005 to 2020
Liz Green, Wales Health Impact Assessment Support Unit, Policy and International Health, WHO Collaborating Centre Directorate, Public Health Wales, Cardiff, UK | Department of International Health, Care and Public Health Research Institute â CAPHRI, Maastricht University, Maastricht, the Netherlands
Christopher Standen, Centre for Primary Health Care and Equity, Faculty of Medicine & Health, UNSW Sydney, Sydney, Australia | Health Equity Research Development Unit, Sydney Local Health District, Sydney, Australia
Amber Murphy, Centre for Primary Health Care and Equity, Faculty of Medicine & Health, UNSW Sydney, Sydney, Australia | Health Equity Research Development Unit, Sydney Local Health District, Sydney, Australia
Fiona Haigh, Centre for Primary Health Care and Equity, Faculty of Medicine & Health, UNSW Sydney, Sydney, Australia | Health Equity Research Development Unit, Sydney Local Health District, Sydney, Australia
Kathryn Ashton, Wales Health Impact Assessment Support Unit, Policy and International Health, WHO Collaborating Centre Directorate, Public Health Wales, Cardiff, UK | Department of International Health, Care and Public Health Research Institute â CAPHRI, Maastricht University, Maastricht, the Netherlands
Early Years Group
Jayne Messer, Specialist Health Visitor

Penawdau

Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru yn nodi 20 mlynedd o âlunio Cymru iachachâ
Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru
Mae Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi nodi 20 mlynedd o helpu i âlunio Cymru iachach a thecachâ.
Dathlodd yr uned, syân darparu arweiniad, hyfforddiant, adnoddau a gwybodaeth mewn perthynas â chynnal asesiadau oâr effaith ar iechyd, y garreg filltir ar 14 Tachwedd drwy gynnal gweminar mewn partneriaeth â Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ystod y sesiwn, a ddenodd gyfranogwyr o wahanol sectorau, buâr rhai a oedd yn bresennol yn myfyrio ar ddatblygiad UGAEIC dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â hyn, bĂťm yn archwilio sut mae rhoi asesiadau oâr effaith ar iechyd ar waith, ac yn trafod ei ddyfodol - yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno
rheoliadau ynghylch cynnal asesiadau oâr effaith ar iechyd.
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynwyd dau adnodd newydd:
Mae âDan Sylw â Iechyd, Llesiant a Thegwch gan Ddefnyddio Asesuâr Effaith ar Iechyd: Astudiaethau Achos o Gyrff Cyhoeddus yng Nghymruâ yn cynnwys nifer o enghreifftiau o asesiadau oâr effaith ar iechyd (HIAs) a gynhaliwyd yng Nghymru ar draws sectorau a lefelau arbenigedd amrywiol. Mae ffeithlun WHIASU@20 yn tynnu sylw at lwyddiannauâr uned wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed.
Buâr panel hefyd yn ystyried dyfodol asesuâr effaith ar iechyd ymhen 20 mlynedd arall, o ystyried y newidiadau sylweddol a fu yn y maes dros y ddau ddegawd diwethaf.
Dywedodd Liz Green, Cyfarwyddwr Rhaglen
UGAEIC: âUgain mlynedd ers ei sefydlu, mae WHIASU yn dyst i rym Asesiadau oâr Effaith ar Iechyd i lunio Cymru iachach a thecach.
âWrth inni edrych tuaâr dyfodol, mae ein hymrwymiad i newid syân seiliedig ar dystiolaeth yn parhauân gryf. Rydym yn adeiladu ar wersiâr gorffennol ac yn datblygu arferion syân rhoi iechyd, llesiant a thegwch wrth wraidd polisi cyhoeddus, yn enwedig wrth i Lywodraeth Cymru gyflwynoâr rheoliadau Asesuâr Effaith ar Iechyd yn 2025.â
Ewch i dudalen tĂŽm
UGAEIC am ragor o wybodaeth.

Asesiad oâr Effaith ar Iechyd (HIA) / Uned Gymorth
Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC)
Kathryn Ashton,
Prif Swyddog Datblygu Asesuâr Effaith ar Iechyd; Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Asesuâr Effaith ar Iechyd (HIA) yn broses sydd wediâi dylunio i werthuso effeithiau posibl polisĂŻau, prosiectau, neu gynigion ar iechyd a llesiant poblogaeth, yn enwedig mewn sectorau y tu hwnt i ofal iechyd traddodiadol. Diben HIA yw sicrhau bod iechyd a llesiant yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau, gan alinio â dull Iechyd ym Mhob Polisi (HiAP) . Wediâi sefydlu yn 2004, mae Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) yn gweithio i hybu a chefnogiâr defnydd o HIA ledled Cymru.
Liz Green,
Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd/ Rhyngwladol Cyfarwyddwr y Rhaglen argyfer Asesuâr Effaith ar Iechyd; Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gan weithredu o fewn y Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus
Cymru (ICC), mae WHIASU yn cydweithio â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i ymgorffori iechyd a llesiant mewn prosesau gwneud penderfyniadau, gan ganolbwyntio ar wella tegwch iechyd.
Yn ddiweddar, mae WHIASU wedi cefnogi timau amrywiol o fewn ICC i gynnal HIAs. Mae enghreifftiau nodedig yn cynnwys gwaith gydaâr
TĂŽm Bwydo Babanodo dan y TĂŽm Gwella Iechyd, aâr TĂŽm Iechyd Cynhwysiant
o fewn Diogelu Iechyd. Yn ogystal, mae WHIASU yn cyfrannu at yr HIA ar gyfer y Rhaglen Sgrinio Ysgyfaint wediâi Dargedu, syân cael ei datblygu iâw rhoi ar waith ledled Cymru.
Gan adeiladu ar ddau ddegawd o waith, mae WHIASU yn parhau i fod yn ymroddedig i hyrwyddo HIA aâr dull HiAP, gydaâr nod o integreiddio arferion HIA yn llawn ledled Cymru. O dan y rheoliadau HIA sydd ar ddod, fel yr amlinellir ynNeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, bydd WHIASU yn cydweithioân agos â chyrff cyhoeddus Cymru iâw cynorthwyo i ymgorffori
HIA yn eu fframweithiau gwneud penderfyniadau. Bydd y rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru gynnal HIA wrth wneud penderfyniadau strategol. Mae WHIASU eisoes wedi cyflwyno ymateb iâr ymgynghoriad ar ran ICC ynghylch y rheoliadau drafft ac mae hefyd wedi cefnogi Llywodraeth Cymru i drefnu dau weithdy gyda chynrychiolwyr cyrff cyhoeddus i adolygu canfyddiadauâr ymgynghoriad. Mae nodau WHIASU yn cynnwys: Darparu arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth
ar gyfer cynnal HIAs, gyda rhaglen hyfforddi iâw haillansio yn gynnar yn 2025. Annog y defnydd o HIA fel arf mewn polisi cyhoeddus a gwneud penderfyniadau. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae polisĂŻau, prosiectau a chynigion yn effeithio ar iechyd a llesiant cymunedau a gwahanol grwpiau poblogaeth. I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau, ewch i wefan WHIASU: https:// phwwhocc.co.uk/whiasu/ Cysylltwch â: WHIASU. PublicHealthWales@ wales.nhs.uk

Practice
Deall effeithiau posinl rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint ar iechyd: crynodeb gweithdy asesiad effaith ar iechyd cyfranogol
Catrin Lyddon,
Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Canser yr ysgyfaint yw prif achos marwolaethau o ganser yng Nghymru, gan gyfrif am fwy o farwolaethau na chanser y fron a chanser y colon aâr rhefr gydaâi gilydd 3. Dengys tystiolaeth o hap-dreialon dan reolaeth y gall sgrinio wediâi dargedu ar gyfer unigolion risg uchel â CT dos isel wella canlyniadau.
Mae Treial Sgrinio
Cenedlaethol yr Ysgyfaint a NELSON yn ddau hap-dreial dan reolaeth mawr syân dangos gostyngiad cymharol o 20% neu fwy mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint yn dilyn sgrinio CT dos isel mewn
Jennifer Sharp, Arbenigwr Ymgysylltu Sgrinio, Ymgysylltu â Sgrinio
unigolion risg uchel.
Ym mis Medi 2022, gwnaeth Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol diwygiedig y DU argymhelliad cadarnhaol ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint wediâi dargedu, gan argymell bod gwledydd y DU yn symud tuag at gyflwyno sgrinio canser yr ysgyfaint wediâi dargedu a darpariaeth gwasanaeth rhoiâr gorau i ysmygu wediâi integreiddio. Yn dilyn yr argymhelliad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru wneud argymhellion ar sut y gellid darparu rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer

canser yr ysgyfaint. Mae tĂŽm prosiect wedi bod yn gweithio i ddatblyguâr rhain ers mis Ebrill 2024.
Gofynnodd y Pennaeth Ymgysylltu â Sgrinio am gymorth gan Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) i gefnogi cynnal gweithdy asesuâr effaith ar iechyd (HIA) cyfranogol i ddeall yn well effeithiau iechyd rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint cenedlaethol yng Nghymru.
Er y gall rhai effeithiau ar benderfynyddion iechyd fod yn uniongyrchol, yn amlwg,
a/neuân fwriadol, gall eraill fod yn anuniongyrchol, yn anodd eu hadnabod, ac yn anfwriadol. Gall HIA cyfranogol yn yr achos hwn nodi anghydraddoldebau iechyd nid yn unig yn y boblogaeth gyffredinol ond mewn grwpiau agored i niwed hefyd4. Prif allbwn unrhyw HIA yw set o argymhellion syân seiliedig ar dystiolaeth a ddylai arwain at leihau risgiau neu ganlyniadau anfwriadol a sicrhauâr manteision mwyaf posibl. Gall ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a llenwi unrhyw âfylchauâ a nodwyd yn y gwasanaethau a ddarperir.
Yn ystod y gweithdy a gynhaliwyd ym mis Hydref 2024, nododd y grĹľp rhanddeiliaid y prif grwpiau poblogaeth a allai gael eu heffeithio gan y rhaglen sgrinio arfaethedig gan ddefnyddio Rhestr Wirio Grwpiau
Poblogaeth WHIASU.
Roedd cynnal gweithdy HIA cyfranogol yn y modd hwn yn cryfhauâr dystiolaeth yn ymwneud ââr grwpiau poblogaeth aâr penderfynyddion y gallai gweithrediad cenedlaethol rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint yng Nghymru effeithio arnynt. Roedd y drafodaeth â rhanddeiliaid yn ystod y gweithdy wedi nodi nifer o themâu allweddol a fydd yn cael eu rhannu yn yr adroddiad terfynil ar ddechrau
2025.
Roedd y gweithdy HIA yn dilyn proses systematig, yn ysgogi trafodaeth fywiog ac ysgogol, ac yn amlygu ystod eang o faterion iâw hystyried. Ar y cyfan, cytunwyd bod gan raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ysgyfaint y potensial i fod o fudd mawr i boblogaeth Cymru, drwy nodi canserauâr ysgyfaint yn gynnar a thrwy hyrwyddo gwasanaethau rhoiâr gorau i ysmyguân integredig.
Fodd bynnag, tynnodd sylw hefyd at ystod, a phwysigrwydd, y gwaith sydd ei angen i sicrhau bod rhaglen sgrinio hygyrch a theg yn cael ei darparu. Mae hyn wedi atgyfnerthu gwaith ymchwil arall a wnaed gan y TÎm Ymgysylltu â Sgrinio, yn ogystal â chodi cwestiynau nas ystyriwyd yn flaenorol. Bydd yn darparu sylfaen a ffocws ar gyfer camau nesaf y gwaith ymgysylltu o fewn y prosiect sgrinio canser yr ysgyfaint.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint ar gael yma. Mae adnoddau syân ymwneud â phob agwedd ar HIA ar gael ar wefan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru.
3 Gweithrediaeth GIG Cymru. https://gweithrediaeth.gig.cymru/ swyddogaethau/rhwydweithiau-achynllunio/canser/ffrydiau-gwaith/ archwiliad-iechyd-yr-ysgyfaint/
4Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (2012) âAsesiad oâr Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferolâ.
Profion iechyd rhywiol hunan-weinyddol mewn carchar agored: neu asesiad oâr effaith ar iechyd a dadansoddiad o adenillion cymdeithasol o fuddsoddi y rhaglen
beilot
Kathryn Ashton,
Adran Gofal ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Maastricht, Maastricht, Yr Iseldiroedd aâr Adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru Ymddiriedolaeth GIG, Caerdydd, y DU
Oliver Kempton, Envoy Partnership, Llundain, DU
Mae iechyd rhywiol y boblogaeth carchardai gwrywaidd yn aml ymhlith y tlotaf mewn gwlad. Nod y papur hwn yw nodi effeithiau iechyd ehangach a gwerth cymdeithasol rhaglen hunansamplu iechyd rhywiol a gynigir i garcharorion gwrywaidd mewn carchar agored yng Nghymru.
Cymhwysodd yr astudiaeth hon ddull peilot unigryw o ddefnyddio Asesiadau oâr Effaith ar Iechyd a Fframweithiau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ochr yn ochr. Nodwyd grwpiau rhanddeiliaid allweddol yr effeithiwyd arnynt gan yr ymyriad, ac ymgysylltwyd â hwy trwy weithdai, cyfweliadau a holiaduron i nodi a mesur yr effeithiau ar iechyd a
Aimee Challenger,
Adran Amddiffyn Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru NHS Trust, Caerdydd, UK
Timo Clemens,
Adran Gofal ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Maastricht, Maastricht, Yr Iseldiroedd
Mariana Dyakova,
Adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Caerdydd, y DU
chanlyniadau ehangach. Yna cafodd canlyniadau eu prisio gan ddefnyddio gwerthoedd ariannol dirprwyol i gyflwyno amcangyfrif o werth cymdeithasol cyffredinol y gwasanaeth hunan-samplu.
Yn seiliedig ar sampl fach, maeâr canlyniadauân dangos bod gwerth posibl o ÂŁ4.14 wediâi greu am bob ÂŁ1 a wariwyd ar y gwasanaeth hunan-samplu yn y carchar. Arweiniodd hyn at gymhareb o ÂŁ4.14:ÂŁ1. Roedd tua un rhan o dair oâr gwerth a grĂŤwyd (ÂŁ1,517.95) wediâi gategoreiddio fel un adenilladwy yn ariannol. Roedd y gwerth a oedd yn weddill (ÂŁ3,260.40) yn werth cymdeithasol darluniadol yn unig, er enghraifft llesiant meddyliol gwell.
Christie Craddock,
Adran Diogelu Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, Caerdydd, y DU
Jordan Williams,
Adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru NHS Trust, Caerdydd, y DU
Liz Green,
Adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru NHS Trust, Caerdydd, y DU aâr Adran Gofal ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Maastricht, Maastricht, Yr Iseldiroedd
Maeâr astudiaeth beilot unigryw hon yn dangos effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol ehangach darparu gwasanaeth iechyd rhywiol hunan-samplu i garcharorion mewn carchar agored. Drwy roi prawf arloesol ar ymarferoldeb defnyddio proses Asesiad oâr Effaith ar Iechyd ochr yn ochr â dadansoddiadau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi, maeâr papur hwn wedi amlinellu sut y gellir defnyddioâr fframweithiau mewn synergedd i ddangos nid yn unig adenillion uniongyrchol o fuddsoddi ond hefyd gwerth cymdeithasol darparu gwasanaeth oâr fath.
Darllenwch yr erthygl lawn YMA (Saesneg yn unig).
Dadansoddi gwerth, buddion a rhwystrau i gyfranogiad
rhanddeiliaid a chymunedau mewn asesiadau oâr effaith ar iechyd (HIAs) yng Nghymru rhwng 2005 a 2020
Liz Green,
Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Cyfarwyddiaeth Canolfan Gydweithredu WHO, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Caerdydd, UK | Adran Ryngwladol
Sefydliad Ymchwil Iechyd, Gofal ac Iechyd y Cyhoedd - CAPHRI, Prifysgol Maastricht, Maastricht, yr Iseldiroedd
Christopher Standen,
Canolfan Gofal Iechyd Sylfaenol ac Ecwiti, Cyfadran Meddygaeth ac Iechyd, UNSW Sydney, Sydney, Awstralia | Uned Datblygu Ymchwil Ecwiti Iechyd, Ardal Iechyd Lleol Sydney, Awstralia
Amber Murphy,
Canolfan Gofal Iechyd Sylfaenol ac Ecwiti, Cyfadran Meddygaeth ac Iechyd, UNSW Sydney, Sydney, Awstralia | Uned Datblygu Ymchwil Ecwiti Iechyd, Ardal Iechyd Lleol
Sydney, Awstralia
Fiona Haigh,
Canolfan Gofal Iechyd Sylfaenol ac Ecwiti, Cyfadran Meddygaeth ac Iechyd, UNSW Sydney, Sydney, Awstralia | Uned Datblygu Ymchwil Ecwiti Iechyd, Ardal Iechyd Lleol
Sydney, Awstralia
Cynhelir Asesiadau oâr
Effaith ar Iechyd (HIA) i lywio prosesau gwneud penderfyniadau trwy asesu effeithiau iechyd a thegwch iechyd posibl rhaglen, polisi neu brosiect a datblygu ymatebion priodol i liniaru niwed a sicrhauâr buddion mwyaf posibl. Mae cyfranogiad rhanddeiliaid a chymuned yn ganolog i broses asesiadau oâr effaith. Maeâr ymchwil hwn yn archwilio profiadau rhanddeiliaid ac aelodau oâr gymuned a gymerodd ran mewn gweithdai HIA yng Nghymru rhwng 2005 a 2020. Casglwyd data trwy holiadur ar ddiwedd pob sesiwn gweithdy HIA. Bu
rhanddeiliaid a chyfranogwyr oâr gymuned o gefndiroedd amrywiol yn adrodd ar brofiad eu cyfranogiad. Maeâr dadansoddiad yn datgelu ystod o fanteision canfyddedig cymryd rhan yn y broses HIA. Roedd y manteision a nodwyd yn cynnwys y cyfle i gael eich clywed, rhwydweithio, a chipolwg ar gyfranogiad fel gwasanaeth cymunedol. Maeâr canfyddiadau hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd cyfranogiad rhanddeiliaid aâr gymuned mewn HIA, trwy safbwynt y cyfranogwyr eu hunain. Maeâr astudiaeth hon yn cyfrannu at ddealltwriaeth o gyfranogiad cymunedau a rhanddeiliaid mewn prosesau
Kathryn Ashton,
Uned Cymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Cyfarwyddiaeth Canolfan Gydweithredu WHO, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Caerdydd, UK | Adran Ryngwladol Sefydliad Ymchwil Iechyd, Gofal ac Iechyd y Cyhoedd - CAPHRI, Prifysgol Maastricht, Maastricht, yr Iseldiroedd
asesiadau oâr effaith. Mae hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer gwella arferion ac effaith HIA wrth ddatblygu polisi. Maeân bosibl y gellir trosglwyddoâr canfyddiadau hyn i fathau eraill o asesiadau oâr effaith, a mathau eraill o gyfranogiad cymunedol a rhanddeiliaid.
Darllenwch yr erthygl lawn YMA (Saesneg yn unig).
Trwy glep a si



hyd yn oed pan fydd pobl yn gyntaf yn archwilio âbeth yn cynnwys gwahodd cynifer
GrĹľp Blynyddoedd Cynnar Awtistiaeth
o sefydliadau trydydd sector syân darparu cymorth i blant a phobl ifanc ag awtistiaeth i ddod i gwrdd â rhieni a gofalwyr.
Agwedd allweddol yw bod y grwpiau hyn yn cael eu cynnal yn bersonol hefyd i helpu rhieni a gofalwyr i gysylltu ag eraill, i helpu i fynd iâr afael ââr unigedd y gellir ei deimloân aml wrth ofalu am blentyn ag awtistiaeth.
Cwblheir ffurflenni gwerthuso ar ddiwedd pob grĹľp. Fel yr ysgrifennodd un rhiant âroedd y sesiynauân ymdrin â nifer o heriau syân ein hwynebu fel teulu, yn rhoi strategaethau newydd i ni feddwl amdanynt ac yn ein cysylltu â rhieni eraill gan ein sicrhau nad ydym ar ein pennau ein hunainâ. Mewn perthynas ag ymddygiad eu plant, dywedodd un rhiant ar Ă´l iâr grĹľp ddweud âyn awr rwyân deall ac yn gwybod sut i
ddelio â phroblemau fy mabâ. O ran cael cymorth, dywedodd un arall âRwyân gwybod sut i gael mynediad at wasanaethau nawr ac wedi dysgu am wasanaethau newydd nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyntâ. Ar y cyfan roedd pobl yn teimlo bod y grĹľp yn darparu âamrywiaeth dda o bynciau a deunyddiauâ.
Y cynllun yw parhau i gynnig y grwpiau hyn trwy gydol y flwyddyn o fewn y gymuned i helpuân hygyrch a hefyd arlein iâr rhai syân cael trafferth teithio.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch: jayne.messer@ wales.nhs.uk
Fideos




Cefnogi rheoli pwysau Ă´l-enedigol
Byddwn yn archwilioâr angen i ddatblyguâr sylfaen dystiolaeth, yn trafod persbectif gwyddor ymddygiad ac yn ystyried y camau nesaf ar gyfer datblygu polisi ac ymarfer i gefnogi iechyd a llesiant Ă´l-enedigol.
Archwiliwch ein llyfrgell fideo ar-lein
Fforwm Iechyd y Cyhoedd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
Hyrwyddodd y Fforwm Iechyd Rhyngwladol yn brofiadau cydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhannodd eu ddysgu o gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymchwil iechyd rhyngwladol a rhoddodd amser i drafod cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gymryd rhan mewn partneriaethau rhyngwladol a rhwydweithiau. Bydd y gwaith hwn yn galluogi ac yn cefnogi gweithredu Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwylio
Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd
Maeâr dirwedd Asesuâr Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesuâr Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydluâr uned yn 2004.
Gwylio
Gweld ein holl fideos
Gwylio

Newyddion & Adnoddau

Mae pobl Cymru angen mwy o gyfleoedd i amddiffyn eu lles meddyliol
26-11-2024

Yr amgylchedd bwyd yn hytrach na diffyg gwybodaeth ywâr rhwystr mwyaf i weithredu ar bwysau
26-11-2024

Meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu yn y blynyddoedd cynnar wediâu nodi i helpu i gefnogi teuluoedd ifanc yng Nghymru
26-11-2024
Health-enhancing physical activity in the European Union, 2024 âSaesneg yn unig
Sefydliad Iechyd y Byd
Waiting for change: Reducing suicide and improving poor mental health on the parenthood journey in Wales
Samaritans Cymru
Pob Adnoddau
