
RCPCH Cymru
Gwefan: www.rcpch.ac.uk/nations/wales
![]()

RCPCH Cymru
Gwefan: www.rcpch.ac.uk/nations/wales
yn Gyntaf
Llythyr agored at arweinwyr y pleidiau a’r ymgeiswyr cyn etholiad y Senedd
A hithau ond ychydig wythnosau etholiad y Senedd, rydym yn ysgrifennu fel aelodau a chefnogwyr Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
Cymru i’ch annog i gefnogi ein galwad a sicrhau bod iechyd a llesiant babanod, plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol.
Plentyndod iach yw’r sylfaen ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol da pan fyddwch yn oedolyn. Er hynny mae gweithwyr iechyd plant proffesiynol ledled Cymru yn gweld heriau mawr yn wynebu plant a’u teuluoedd bob dydd:
• Aros yn hir am ofal, gyda gwasanaethau a staff dan straen
• Traean o’n plant yn cael eu magu mewn tlodi
• Chwarter o’n plant 4-5 oed dros bwysau neu’n ordew
• Cyfradd y plant a phobl ifanc sydd â chyflwr iechyd meddwl y gellir ei ddiagnosio wedi dyblu dros y ddau ddegawd diwethaf
Yn rhy aml o lawer, mae anghenion plant wedi cael eu hanwybyddu mewn system iechyd sydd wedi’i chynllunio’n bennaf o amgylch oedolion. Ni allwn barhau fel hyn. Ni all plant aros tymor Senedd arall i bethau newid.
Nid yw’r status quo yn opsiwn. Mae plant yng Nghymru yn haeddu gwybod eu bod yn flaenoriaeth.
Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i roi plant wrth galon y broses o lunio polisïau, mynd i’r afael â’r tanariannu hanesyddol ar gyfer gwasanaethau iechyd plant a chefnogi’r gweithlu sy’n gofalu amdanynt.
Buddsoddi yn iechyd plant yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o adeiladu
Cymru iachach, decach a mwy ffyniannus. Byddai rhoi cyfran deg i
wasanaethau iechyd plant yn lleihau’r pwysau hirdymor ar y GIG ac yn rhoi cyfle i ragor o’n plant ffynnu.
Rydym yn eich annog chi, fel arweinydd eich plaid, i wneud y canlynol:
• Ymrwymo’n gyhoeddus i flaenoriaethu iechyd babanod, plant a phobl ifanc yn addewidion eich ymgyrch
• Cefnogi newid cadarnhaol ar gyfer iechyd plant drwy fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau cynyddol sy’n niweidio iechyd a llesiant plant
• Cwrdd â chynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn ystod 100 diwrnod tymor newydd y Senedd a gweithio gyda nhw i adeiladu system sy’n adlewyrchu anghenion y genhedlaeth nesaf.
Dysgwch fwy am alwadau RCPCH Cymru yn ein maniffesto yn www.rcpch.ac.uk/Senedd-election-2026
Llofnodwyd,
170 o bediatregwyr ac eiriolwyr iechyd plant o bob cwr o Gymru.
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru (RCPCH)
Mae'r RCPCH yn gweithio i drawsnewid iechyd plant trwy wybodaeth, arloesedd ac arbenigedd.Mae'r RCPCH yn gyfrifol am hyfforddi ac archwilio pediatregwyr. Rydym hefyd yn eirioli ar ran aelodau, yn cynrychioli eu barn ac yn defnyddio eu harbenigedd i lywio datblygiad polisi a chynnal safonau proffesiynol. Mae gennym dros 25,000 o aelodau, gan gynnwys 600 yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah Williamson, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Sarah.Williamson@rcpch.ac.uk
Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant. Corfforir trwy Siarter Frenhinol ac yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr: 1057744 ac yn Yr Alban: SCO38299. Swyddfa gofrestredig 5-11 Theobalds Road, Llundain WC1X 8SH. Noddwr Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol.