Cadarnheir gan Ambrose " ddarfod i'r deuddeg Apostol, fel celfyddydwyr medrus ymgynnull ynghyd, a gwneyd allwedd trwy eu cynghor cyffredin, hyny yw, y Credo ; trwy yr hwn y datguddir tywyllwch diafol, fel yr ymddangoso goleuni Crist." " Y mae eraill yn dywedyd i bob Apostol osod ysgrif, trwy yr hon y mae y credo wedi ei ranu yn ddeuddeg erthygl ; ac y mae pregeth, a draddodwyd i St. Austin, ac a ddyfynwyd gan yr Arglwydd Ganghellydd Brenin, yn gwneuthur fod pob ysgrif neillduol felly yn cael ei gosod gan bob Apostol neillduol. Pedr.—1. Credaf yn Nuw Dad Hollalluog; loan.—2. Gwneuthurwr nef a daear; Iago.—3. Ac yn Iesu Grist ei unig Fab ef, ein Harglwydd; Andrew.—4. Yr hwn a genhedlwyd gan yr Yspryd Glân, a aned o Fair Forwyn ; Philip.—5. Wedi dioddef dan Pontius Pilat, wedi ei groeshoelio, wedi marw, ac wedi ei gladdu; Thomas.—6. Disgynodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd oddi wrth y meirw; Bartholomew.—7. Efe a esgynodd i'r nef, sydd yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad Hollalluog; Mathew.—8. Oddi yno daw i farnu byw a marw; Iago, mab Alpheus.—9. Credaf yn yr Yspryd Glân, yr Eglwys sanctaidd Gatholig; Simon Zelotes.—10. Cymmun y saint, maddeuant pechodau; Jude brawd Iago.—11. Adgyfodiad y corff; Matthias.—12. Bywyd tragywyddol. Amen. “Cyn y flwyddyn 600, nid oedd mwy na hyn.”—Mr. Ustus Bailey 1 Credaf yn Nuw Dad Hollalluog: 2 Ac yn lesu Grist ei unig-anedig Fab, ein Harglwydd ni ; 3 Yr hwn a aned o'r Yspryd Glân, a'r Forwyn Fair, 4 Ac a groeshoeliwyd dan Pontius Pilat, ac a gladdwyd; 5 A'r trydydd dydd a atgyfododd oddi wrth y meirw. 6 Esgynodd i'r nef, eistedd ar ddeheulaw'r Tad ; 7 O ba le y daw i farnu byw a marw; 8 Ac yn yr Yspryd Glân ; 9 Yr Eglwys Sanctaidd; 10 Maddeuant pechodau; 11 Ac adgyfodiad y cnawd, Amen. Fel y mae yn llyfr Gweddi Gyffredin Eglwys Unedig Lloegr ac Iwerddon fel y sefydlwyd trwy gyfraith. 1 Credaf yn Nuw Dad Hollalluog, creawdwr nef a daear: 2 Ac yn Iesu Grist ei unig Fab ef, ein Harglwydd ni: 3 Yr hwn a genhedlwyd gan yr Yspryd Glân, a aned o Fair Forwyn, 4 Yn dioddef dan Pontius Pilat, wedi ei groeshoelio, wedi marw, ac wedi ei gladdu; 5 Disgynodd i uffern; 6 Y trydydd dydd efe a atgyfododd oddi wrth y meirw; 7 Efe a esgynodd i'r nef, ac sydd yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad Hollalluog; 8 O hynny allan y daw i farnu byw a marw. 9 Credaf yn yr Yspryd Glân; 10 Yr Eglwys sanctaidd Gatholig; cymundeb y saint; 11 Maddeuant pechodau; 12 Atgyfodiad y corff a'r bywyd tragwyddol, Amen.