
Ceredigion

![]()


Guy Taylor
Arweinydd Tîm y Warws
Ddiwedd mis Medi 2024 ymunodd Guy Taylor â HAHAV fel arweinydd newydd Tîm y Warws Mae Guy wedi cael gyrfa amrywiol yn y byd gwerthiant amarchnata Pan ofynnwyd iddo am ei amser gyda HAHAV hyd yn hyn, esboniodd Guy:

“Er nad ydw i erioed wedi gweithio ym maes manwerthu o’r blaen, mae fy nghefndir mewn gwerthiant a marchnata wedi rhoi llawer iawn o brofiad i mi o weithio ag amrywiaeth eang o gwsmeriaid o bob cefndir Dwi’n mwynhau’r gwaith ry ni’n ei wneud yn Warws HAHAV yn fawr Mae’n wych rhoi bywyd arall gyda pherchennog newydd i’r holl roddion anhygoel o hael ry ni’n eu derbyn.
Ry ni wir yn ceisio sicrhau bod y Warws yn lle gwych i ymweld ag e a dod o hyd i fargen, ac yn lle gwych i wirfoddoli. Ry ni’n falch o’n rôl yn cynhyrchu arian ar gyfer elusen leol hanfodol, ac yn ceisio’i wneud yn hwyl ac yn bleserus i siopa a gweithio gyda ni Mae hyn yn golygu bod ein cwsmeriaid yn dod yn ôl atom a bod ein gwirfoddolwyr yn teimlo’u bod yn helpu i wneud gwahaniaeth”.
Sarah Jones
Cydlynydd Gwirfoddolwyr
“Sarah ydw i, a fi yw Cydlynydd newydd Gwirfoddolwyr HAHAV Ceredigion Rwyf eisoes wedi cyfarfod â llawer o’n gwirfoddolwyr A gobeithio y bydda i’n cwrdd â’r gweddill ohonoch yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr ym mis Mehefin pan fyddwn ni’n diolch i chi ac yn dathlu eich holl waith caled ‘Cyn hyn fues i’n gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn Ysbyty Cymunedol Tregaron mewn swydd weinyddol ac fel

Swyddog Cyswllt Teuluol Dyma lle y dechreues i ddod i ddeall a theimlo empathi gyda chleifion sy’n derbyn gofal lliniarol a chefnogi’r genhedlaeth hŷn.
Rwy’n dod yn wreiddiol o sir Gaerfyrddin, ond wedi byw yng Ngheredigion ers 24 mlynedd. Rwy’n briod ac mae gen i ddwy ferch yn eu harddegau, sy’n her ynddi ei hun! Pan na fydda i’n gweithio, rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn cludo fy merched i’r clybiau niferus maen nhw wedi ymuno â nhw. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’n gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr yn ystod y misoedd nesaf”

Cip ar Wirfoddolwr
Adrian Wells
“Rydw i wedi bod yn gwirfoddoli gyda HAHAV ers pan agorodd y Warws gyntaf Roedd fy ngwraig, June, eisoes yn ymwneud â’r elusen, a phan symudodd hi o’r siop i’r Warws, daeth yn amlwg fod angen mwy o help yno – felly ymunais â’r tîm manwerthu

Ers hynny, rwyf wedi gwneud amrywiol swyddi: gyrru a llywio’r fan, casglu rhoddion a danfon eitemau mawr i gwsmeriaid (a all fod yn dipyn o her, yn gorfforol ac yn feddyliol!) Rwyf wedi fy hyfforddi i gynnal profion PAT er mwyn gwneud yn siŵr fod yr eitemau trydanol yn ddiogel, wedi dysgu sut i ddefnyddio’r til, prisio stoc, a helpu i drefnu’r arddangosfeydd o ddodrefn a nwyddau Rwyf hefyd yn gweithio sifftiau yn y siop pan fydd angen
Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf yw bod yn rhan o dîm mor wych ac amrywiol, a gwybod bod fy ymdrechion yn helpu i gynhyrchu incwm hanfodol i’r elusen Mae cwrdd â phobl – yn y Warws neu wrth ddanfon nwyddau – mor wahanol i’r hyn roeddwn i’n ei wneud o’r blaen Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ac rwy’n falch o gefnogi achos mor werth chweil ”
Allwch Chi Helpu?
Wrth i’n gwasanaethau barhau i gynyddu, felly hefyd yr angen am fwy o help llaw Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am wirfoddolwyr ym mhob maes o’n gwaith: rhoi cymorth yn y cartref, bod yn gyfaill mewn galar, helpu yn ein siop neu’r Warws, a gyda’r gwaith gweinyddol yn gyffredinol
Mae gwirfoddoli gyda ni yn ffordd werth chweil o wneud gwir wahaniaeth i fywydau’r rhai sydd ei angen fwyaf Os oes gennych ychydig oriau’r wythnos – neu efallai fwy –i'w sbario, gallai eich amser olygu'r byd i rywun arall
Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddiddordeb, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Cymorth yn y Cartref Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i gyd dros y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd rwy’n brysur yn cynllunio hyfforddiant a sesiynau diweddaru i’r holl wirfoddolwyr, a bydd rhain yn dechrau yn ystod y mis nesaf. Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref yn cynyddu o ran niferoedd, ac mae rhai gwirfoddolwyr newydd yn ymuno â ni Yn anffodus, mae dau o’n gwirfoddolwyr ffyddlon wedi camu o’r neilltu, sef Roy Cope ac Eirlys Davies. Ar ran pawb yn HAHAV, hoffwn ddiolch iddynt am eu holl gefnogaeth dros y blynyddoedd, a gobeithio y byddan nhw’n ymuno â ni mewn digwyddiadau cymdeithasol yn y dyfodol. Sarah Jones

Mae’n gyfnod cyffrous i Grŵp Celf a Chyfeillgarwch HAHAV gan eu bod wedi cael gwahoddiad i fynychu gweithdy creadigol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o’r arddangosfa ‘Dim Celf Gymreig’ Ym mis Mai, bydd y grŵp yn gweithio gyda’r artist Jenny Fell mewn arddangosfa ledled Cymru ar wneud printiau Hefyd, cafodd doniau ein grŵp celf a thecstiliau eu mwynhau’n ddiweddar gan ymwelwyr â dwy arddangosfa, yn Amgueddfa Ceredigion a Neuadd y Dref, Aberteifi Fe gawson nhw eu disgrifio fel ‘artistiaid dawnus’ a’u canmol am gynhyrchu gwaith mor ysbrydoledig a chadarnhaol
Ry ni’n falch o gyhoeddi bod HAHAV wedi sicrhau cyllid gan y Grant Cymorth Profedigaeth Cenedlaethol am dair blynedd arall (2025–8). Bydd hyn yn ein galluogi i ehangu ein cymorth mewn galar yn ne Ceredigion, yn cynnwys cynnal ymgyrch leol i recriwtio gwirfoddolwyr
Bydd Eluned Rowlands yn trefnu cefnogaeth a hyfforddiant er mwyn gallu helpu rhai sy’n wynebu galar Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n gwirfoddoli drwy fod yn gyfaill mewn galar. Ar sail eich ymroddiad anhygoel, rydym wedi cefnogi dros 150 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
Y Siop a’r Warws
Mae ein siop a’n warws yn parhau i ffynnu, diolch i chi! Mae pob eitem sy’n cael ei phrynu a phob rhodd yn helpu i gynnal ein gwasanaethau Oeddech chi'n gwybod? Mae siopa gyda ni yn golygu cefnogi pobl yng Ngheredigion sy’n wynebu salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd


Cewch y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli drwy ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol ac edrych ar ein gwefan: hahav org uk Mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser a byddem wrth ein bodd petaech chi’n rhan ohono!



��Diolch am eich cefnogaeth gyson, Gyda’n gilydd, ry ni’n gwneud gwahaniaeth! ��
3/5/25 7/5/25
Bore Coffi’r Maer | 10:00-12:00
Dewch i fwynhau paned a chefnogi achos teilwng yr un pryd! Morlan | Aberystwyth
5/5/25 CFfI Mydroilyn | Bore Brecwast | 8:30 - 11:00 | Neuadd Mydroilyn
Caffi Cofion yn Dathlu Diwrnod VE | 2:00 - 4:00 | Plas Antaron
10/5/25 Cystadleuaeth Gorawl Côr-tastig | 19:30 | Ysgubor | Llwyncelyn
2-8/6/25 Wythnos Gwirfoddolwyr 2- 8 Mehefin 2025 Cyfle i ddod at ein gilydd a dathlu cyfraniad anhygoel ein gwirfoddolwyr!
8 Mehefin | ein digwyddiad cymdeithasol 14/6/25
Sioe Aberystwyth | Drwy’r Dydd
Dewch i’n gweld ar y stondin a dysgu mwy am ein gwaith
Mae eich cefnogaeth yn y digwyddiadau hyn yn codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer HAHAV
Caffi Cofion Te Prynhawn Dementia Cyfeillgar Cewch groeso cynnes
Os ydych chi neu rywun ry’ch chi’n gofalu amdanynt yn cael eu heffeithio gan ddementia, ymunwch â ni ar gyfer Caffi Cofion – te prynhawn cyfeillgar ym Mhlas Antaron
Bob Dydd Mercher 2 - 4pm.
Mwynhewch gacennau, brechdanau, cerddoriaeth, a sgwrs mewn lleoliad hamddenol gyda chydofalwyr. Mae pob wythnos yn cynnig rhywbeth arbennig: siaradwyr gwadd, sgyrsiau grŵp cefnogi, crefftau, bingo, canu, a dathliadau tymhorol Mae’n gyfle i ymlacio, cysylltu, a chael cyngor defnyddiol


Os yw HAHAV yn agos at eich calon, gallwch ein helpu mewn nifer o ffyrdd syml - heb wario ceiniog. Gallwch greu rhoddion am ddim wrth siopa ar-lein, neu rhowch eich cetris inc ail-law i'w hailgylchu
Mae pob cam bach yn cyfri, ac mae pawb ar eu hennill: rydych chi’n cefnogi ein gwaith heb wneud fawr ddim ymdrech







Guy Taylor joined HAHAV as the new Warehouse Team Leader at the end of September 2024. Guy has had a varied career in different sales and marketing roles When asked about his time so far with HAHAV, Guy explained:

“Although I have never worked in retail before now, my background in sales and marketing has given me a great deal of experience working with a wide range of customers from all different walks of life I really enjoy the work we are doing in the HAHAV Warehouse. It’s great giving all the incredibly generous donations we receive a new lease of life with a new owner
We really try to make sure the Warehouse is a great place to visit to find a bargain and a great place to volunteer with We are the retail-end of HAHAV, generating funds for a vital local charity, so we try to keep it fun and enjoyable to shop and to work with us. This makes sure our customers keep coming back and our volunteers really feel they are helping make a difference ”
“My name is Sarah and I am the new Volunteer Coordinator at HAHAV Ceredigion I have already met many of our volunteers but will hopefully meet the rest of you during Volunteers Week in June when we will say thank you and celebrate all your hard work I previously worked for Hywel Dda Health Board at Tregaron Community Hospital in an administration role and as a Family Liaison Officer, this is where I developed my understanding and empathy for palliative care patients and for supporting the older generation I have lived in Ceredigion for the last 24 years and originally come from Carmarthenshire I am married with two teenage daughters, which is a challenge in itself!! When I am not working, I spend most of my time ferrying my daughters to the numerous clubs they have joined I am looking forward to meeting our volunteers and supporters in the coming months”.


I’ve been volunteering with HAHAV since the warehouse first opened My wife June was already involved with the charity, and when she moved from the shop to the warehouse, it became clear that more hands were neededso I joined the retail team.

Since then, I’ve taken on a wide range of roles: delivery driver and navigator, collecting donations and delivering larger items to customers (which can be quite the challenge, both physically and mentally!)
I’ve trained in PAT testing to ensure donated electrical items are safe, learnt to use the till, price up stock, and help organise the everchanging displays of furniture and goods I also cover shifts in the shop when needed
What I enjoy most is being part of such a great, varied team and knowing that my efforts help generate vital income for the charity Meeting people whether in the warehouse or out on deliveries is a real contrast to my previous career No two days are the same, and I’m proud to support such a worthwhile cause.
As our services continue to grow, so does the need for more helping hands We're currently looking for volunteers across all areas of our work – from providing home support and grief companionship, to helping in our shop, warehouse and with general admin.
Volunteering with us is a rewarding way to make a real difference in the lives of those who need it most. Whether you have a few hours a week or more to spare, your time could mean the world to someone else
If you or someone you know might be interested, please do get in touch – we’d love to hear from you!

I’m looking forward to working with you all over the coming months and I’m currently busy planning training and refresher training for all volunteers to commence in the next month The Home Support Service is expanding in numbers with some new volunteers coming on board
Unfortunately 2 of our long-standing volunteers have stepped away from Home Support, namely Roy Cope and Eirlys Davies and I would like to thank them on behalf of everyone at HAHAV for all the support they have provided and hope they will come along to future social events
Sarah Jones


Join Us!
Exciting times for HAHAV’s Art and Friendship Group who have been invited to attend a creative workshop at the National Library of Wales as part of the ‘No Welsh Art’ exhibition. In May, the group will be working with artist Jenny Fell taking part in a Wales-wide exhibition on printmaking The talents of both our art and textile group were also recently appreciated by visitors to two exhibitions, at Ceredigion Museum and the Guildhall, Cardigan where they were described as ‘gifted artists’ and praised for producing such inspiring and positive work.
We’re delighted to share that HAHAV has secured a further three years of funding from the Welsh Government’s Bereavement Fund (2025–2028). This will allow us to expand our bereavement support in South Ceredigion, including a volunteer recruitment drive in the area
Eluned Rowlands will provide training and support around anticipatory grief. A huge thank you to our amazing grief companion volunteers - thanks to your dedication, we’ve supported over 150 people in the past year
Our shop and warehouse continue to thrive, thanks to you! Every purchase and donation helps keep our services going strong Did you know? Shopping with us means supporting people in Ceredigion facing life-limiting illnesses. Retail Update

Keep up to date with our latest news, events, and volunteer opportunities by following us on social media and visiting our website: hahav org uk There’s always something happening and we’d love you to be part of it!



��Thank you for your ongoing support, Together, we are making a difference! ��
3/5/25 7/5/25
Mayor’s Coffee Morning | 10:00-12:00
Enjoy a cuppa while supporting a great cause! Morlan | Aberystwyth
5/5/25 Mydroilyn YFC Breakfast Morning | 8:30 - 11:00 | Mydroilyn Hall
Caffi Cofion VE Day Celebration | 2:00 - 4:00 | Plas Antaron
10/5/25 Côr-tastig Choir Competition | 19:30 | Ysgubor, Llwyncelyn
2-8/6/25 National Volunteers’ Week 2- 8 June 2025
A time to come together and celebrate the incredible contribution of our volunteers. Save the 8 June | our social event th 14/6/25
Aberystwyth Show | All Day
Come visit our stand and learn more about what we do
Your support at these events helps raise awareness and vital funds for HAHAV
Caffi Cofion
Dementia Friendly Afternoon Tea A warm welcome awaits
If you or someone you care for is affected by dementia, join us for Caffi Cofion - a friendly weekly afternoon tea at Plas Antaron. Wednesdays 2 - 4pm.
Enjoy cakes, sandwiches, music, and conversation in a relaxed setting with fellow carers. Each week offers something special: guest speakers, support group talks, crafts, bingo, singing, and seasonal celebrations. It’s a chance to unwind, connect, and access helpful advice


If HAHAV is close to your heart, there are simple ways you can help - without spending a penny more Raise free donations while shopping online, or donate your used ink cartridges for recycling Every small action adds up, and it’s a win-win: you support our work, effortlessly




