Skip to main content

FSB 7465 South Wales Conference Brochure WELSH

Page 1

Eich cefnogi Eich amddiffyn Eich busnes

Dydd Mercher 2 Medi Stadiwm Swansea.com, Plasmarl, Abertawe, SA1 2FA

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

#FSBSWCONF26


Noddwyr y Gynhadledd Hoffem estyn ein diolch diffuant i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth hael, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

2


Rhaglen Agor Digwyddiad 9.00

Cofrestru, Lluniaeth a Rhwydweithio

9.30

Agoriad y Gynhadledd Gemma Casey, Newyddiadurwr Busnes

9.35

Anerchiad Croeso Josh Miles, Pennaeth FfBB Cymru

9.40

Anerchiad gan y Noddwr Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-Bwyllgor Corfforaethol DeOrllewin Cymru

Sesiwn Un: Cael Rhai o’r Pethau Sylfaenol yn Iawn… 9.45

Llif neu Ffrithiant: Y Grym Cudd sy’n Gyrru Llwyddiant Busnes Hayley Wheeler, Hayley T Wheeler Cyf.

10.05

Ffiniau, Cyfathrebu ac Adborth – Hanfodion i Bob Busnes i’w eu cael yn Iawn Laetitia Paul, Laetitia Paul Consulting

10.35

Gwneud y Mwyaf o’ch Aelodaeth o’r FfBB Alan Cole, Cynghorydd Aelodaeth, FfBB Cymru

10.50

Egwyl am Luniaeth a Golwg o amgylch yr Arddangosfa

Sesiwn Dau: Gwella Profiad Ein Cwsmeriaid 11.30

Taith y Cwsmer Mel Evans, Insight6

12.00

Nid Cyflwyniad arall ar Ddeallusrwydd Artiffisial Tom Lewis, Halo IT

12.30

Tirwedd Fusnes Cymru: Edrych yn ôl ar Etholiad y Senedd Joshua Miles, Pennaeth FfBB Cymru

12.55

Cinio, Rhwydweithio a Golwg o amgylch yr Arddangosfa

Sesiwn Tri Sicrhau’r Gwaith y mae ein Busnesau’n ei Haeddu 14.00

5 Peth. 30 munud. Dim Esgusodion Eich Marchnata Digidol wedi’i Ailgychwyn Angus Findlay, Web Adept

14.30

O Alwadau Digymell i Sylfaenydd Cwmni Melissa Curran, Modern Mind Group

15.10

Crynodeb a Diolch Josh Miles, Pennaeth FfBB Cymru

15.15

Cau’r Gynhadledd Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

3


Cyflwynydd Gemma Casey Newyddiadurwraig Busnes Mae Gemma yn newyddiadurwraig fusnes a chyflwynydd digwyddiadau a phodlediadau sydd â degawdau o brofiad yn y cyfryngau. Dechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth gyda phapurau newydd lleol, a daeth yn Olygydd Cymru ar gyfer y Press Association cyn ymuno â BBC Cymru, lle bu’n gweithio ym maes radio, newyddion teledu a materion cyfoes. Yna arweiniodd raglen beilot mewn darlledu lleol a oedd yn ceisio profi sut y gallai’r cyfrwng gefnogi busnesau bach a chanolig yn yr ardaloedd hynny. Treuliodd ddegawd gydag un o fanciau’r stryd fawr, yn gofalu am gysylltiadau cyhoeddus rhanbarthol, yn ogystal â chynnal digwyddiadau ar gyfer busnesau o bob maint ac ym mhob sector, gan arwain ar ei raglenni cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig, gyda ffocws penodol ar fentrau ar gyfer menywod mewn busnes ac entrepreneuriaid o blith lleiafrifoedd ethnig. Mae Gemma yn eiriolwr angerddol dros fusnesau bach a chanolig, rhywbeth y mae hi’n ei briodoli i dyfu i fyny gyda busnes bach yng Nghymoedd De Cymru, a oedd yn eiddo i’w theulu am bedair cenhedlaeth.

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

4


Siaradwr Joshua Miles Pennaeth FfBB Cymru Joshua Miles yw Pennaeth Cymru ar gyfer Ffederasiwn y Busnesau Bach. Mae gan Josh brofiad sylweddol o bolisi cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig o safbwynt busnes. Astudiodd bolisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Institut D’etudes Politiques Bordeaux ac mae ganddo MScEcon mewn Polisi Cyhoeddus. Mae rolau blaenorol Josh wedi cynnwys Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghyd-ffederasiwn Cludiant Teithwyr ac mae wedi gweithio ym maes polisi i FfBB Cymru ddwywaith o’r blaen. Mae wedi bod yn aelod o sawl bwrdd gan gynnwys bwrdd ymgynghorol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, Tasglu’r Cymoedd a bwrdd cwmni Traveline Cymru.

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

5


Siaradwr Hayley Wheeler Hayley T Wheeler Ltd Teitl: Llif neu Ffrithiant: Y Grym Cudd sy’n Gyrru Llwyddiant Busnes Trosolwg Cyflym: Pam mae rhai sefydliadau’n ennill momentwm tra bod eraill yn gweithio’n galetach ac yn galetach dim ond i sefyll yn llonydd? P’un a ydych chi’n fasnachwr unigol, yn arwain busnes bach a chanolig sy’n tyfu neu’n rhan o sefydliad mawr, mae llwyddiant cynaliadwy yn dibynnu ar fwy na strategaeth, talent neu ymdrech. Mae’n dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd o dan yr wyneb. Yn y sesiwn hon sy’n ysgogi meddwl, gallwch ddarganfod sut y gall pwyntiau bach o ffrithiant danseilio egni, arafu cynnydd, a chyfyngu ar botensial, yn ogystal â pham mai’r busnesau sy’n ffynnu yw’r rhai sy’n aml yn cael y pethau sylfaenol yn iawn. Bydd Hayley yn cyflwyno’r Cynllun Llif neu Ffrithiant, sef fframwaith ymarferol sy’n datgelu’r ffactorau cudd sy’n dylanwadu ar ddiwylliant, arweinyddiaeth, perfformiad a thwf. Bydd Hayley hefyd yn darparu mewnwelediadau ymarferol i helpu â gwella perfformiad, yn ogystal â strategaethau i adeiladu busnes a all dyfu heb fod pobl yn llosgi allan. Gwybodaeth am y Cwmni: Ers deg mlynedd ar hugain, mae Hayley wedi hyfforddi miloedd o bobl, o ddioddefwyr trais domestig i arweinwyr busnes, meddygon ac athletwyr i fyw eu bywydau gorau, gan eu tywys o fod dan straen, wedi llosgi allan a theimlo’n ddi-rym i fod â ffocws, cymhelliant ac yn hapus. Yn ôl athroniaeth Hayley, nid yw newid go iawn yn ymwneud ag emosiwn yn unig, mae’n ymwneud â newidiadau mewnol strwythurol ac aliniad a gweithredu cyson. Mae therapi wedi’i gynllunio i drin, gwneud diagnosis a sefydlogi. Mae hyfforddiant wedi’i gynllunio i wella perfformiad a meddylfryd. Ond nid yw’r naill na’r llall yn mynd i’r afael yn wirioneddol â sut mae emosiynau’n dylanwadu ar feddyliau, cred, ymddygiad, hunanwerth, perthnasoedd a hunaniaeth. Y gamddealltwriaeth honno sy’n dal pobl yn ôl. Mae EmotionMind Dynamic yn gweithio ar y sylfaen emosiynol. Fe’i crëwyd ar gyfer y man hwnnw lle nad oedd neb arall yn gweithredu, y gofod rhwng iechyd meddwl a hunanddatblygiad, gan integreiddio dealltwriaeth therapiwtig, hyfforddiant, mentora, ymwybyddiaeth ofalgar a phrofiad byw; nid â’r nod o drwsio pobl, ond i’w helpu i ddeall eu hunain. Manylion Cyswllt: Gwefan: www.emotionminddynamic.co.uk LinkedIn: www.linkedin.com/in/hayley-t-wheeler Facebook: www.facebook.com/EmotionMindDynamic

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

6


Siaradwr Laetitia Paul Laetitia Paul Consultancy Teitl: Ffiniau, Cyfathrebu ac Adborth – Hanfodion i Bob Busnes i’w Cael yn Iawn Trosolwg Cyflym: Mae llwyddiant busnes yn ymwneud â llawer mwy na gwybodaeth dechnegol neu arbenigedd proffesiynol. Yn y sesiwn ymarferol hon, bydd yr ymgynghorydd trawsnewid busnes ac adnoddau dynol, Laetitia Paul, yn archwilio sgiliau pobl mewn meysydd allweddol sy’n aml yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i berfformiad busnes. Bydd Laetitia yn darparu offer i osod ffiniau, rheoli perthnasoedd a sgyrsiau anodd yn effeithiol, ac i gael adborth gwerthfawr ar eich busnes. Hefyd yn ymwneud â hunanwerth a llesiant, bydd y mynychwyr yn datblygu offer ymarferol i adeiladu sylfeini busnes cryf a lleihau straen diangen iddyn nhw eu hunain a’u busnes yn y sesiwn ysgogol hon sy’n llawn mewnwelediadau o’r byd go-iawn i berchnogion busnesau ac arweinwyr. Gwybodaeth am y Cwmni: Yn Laetitia Paul Consultancy Cyf. maent yn darparu atebion AD ymarferol sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n helpu sefydliadau i adeiladu sylfeini cryf, gwella prosesau a chreu diwylliannau gweithle cadarnhaol. Trwy helpu sefydliadau i ddatblygu strategaethau AD, rheoli eu pobl, datrys heriau AD cymhleth, a gweithredu systemau sy’n symleiddio gwaith, mae hynny yn ei dro yn creu gweithleoedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso. Boed yn gweithio gyda busnes sy’n tyfu sydd angen cymorth adnoddau dynol ychwanegol neu gwmnïoedd sefydledig sy’n llywio newid cymhleth, nod Laetitia yw darparu cyngor syml, atebion ymarferol a’r hyder i symud ymlaen. Oherwydd nid yw AD da yn ymwneud â gwneud pethau’n fwy cymhleth, yn hytrach mae’n ymwneud â helpu pobl a sefydliadau i weithio’n well. Manylion Cyswllt: Gwefan: www.hrconsult-lp.com LinkedIn: www.linkedin.com/in/laetitia-sonia-paul

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

7


Siaradwr Mel Evans Insight6 Teitl: Taith y Cwsmer Trosolwg Cyflym: Yn y sesiwn hon, bydd Mel yn archwilio sut y gall busnesau ddechrau meddwl yn fwy strategol am daith eu cwsmeriaid a’u profiad cyffredinol. Byddwn yn edrych ar ffordd ymarferol o weld eich byd trwy lygaid y cwsmer. Gan dynnu ar ddegawdau o brofiad ymarferol, mae Mel yn dangos i fusnesau sut i wrando ar ‘lais y cwsmer’, troi adborth yn gamau gweithredu ystyrlon, a defnyddio offer fel mapio taith cwsmeriaid, gweithdai, mentora a hyfforddiant i feithrin ymddiriedaeth a gwella canfyddiad cwsmeriaid. Gwybodaeth am y Cwmni: Sefydlwyd Insight6 ym 1998, yn sgil awydd cryf i drawsnewid cwmnïau i ddod yn gyrchfan ddewisol i’w cwsmeriaid, gan fod yn angerddol am bobl a dysgu am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r pethau maen nhw’n eu gwerthfawrogi. Datblygodd yr angerdd hwn atebion Profiad Cwsmer (CX) uwch, a heddiw nhw yw’r cwmni ymgynghori CX mwyaf yn y DU. Mae Mel Evans yn arbenigwr profiad cwsmeriaid sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad o helpu busnesau i dyfu trwy roi eu cwsmeriaid wrth galon popeth maen nhw’n ei wneud. Trwy gydol ei gyrfa, mae hi wedi gweithio gyda sefydliadau i drawsnewid y dull o ymdrin â phrofiad cwsmeriaid, gan greu profiadau sy’n meithrin teyrngarwch, yn cryfhau enw da, ac yn gyrru llwyddiant busnes cynaliadwy. Mae ei dull ymarferol a diddorol yn ysbrydoli sefydliadau i weld profiad cwsmeriaid nid fel adran na menter, ond fel sylfaen ar gyfer twf hirdymor. Manylion Cyswllt: Gwefan: www.insight6.com LinkedIn: www.linkedin.com/in/mel-evans-the-voice-of-the-customer Facebook: www.facebook.com/insight6CX

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

8


Siaradwr Tom Lewis Halo IT Teitl: Nid Cyflwyniad arall ar Ddeallusrwydd Artiffisial Trosolwg Cyflym: Mae’r rhan fwyaf o bobl, mwy na thebyg, yn gwybod y dylent fod yn defnyddio AI yn eu busnes. Y broblem yw gwybod ble i ddechrau mewn gwirionedd. Er nad yw 30 munud yn ddigon o amser i gwmpasu popeth, bydd Tom yn sicrhau eich bod chi’n gadael â rhestr o bethau ymarferol y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw heddiw - dim damcaniaethau awyr-las, dim jargon, dim ond pethau sy’n gweithio. Boed yn gwella eich gwasanaeth cwsmeriaid, datblygu eich strategaethau a’ch deunyddiau marchnata, symleiddio eich prosesau neu ddim ond arbed amser, gall deallusrwydd artiffisial helpu eich busnes i fod yn fwy effeithlon ac ennill mwy o waith. Sesiwn hanfodol i unrhyw un sy’n awyddus i lwyddo mewn busnes! Gwybodaeth am y Cwmni: Sefydlwyd Halo Support yn 2017 gan Mark Haycock a Tom Lewis. Lansiwyd System Mewngofnodi Halo yn 2018 ac mae wedi tyfu i fod yn adnodd hynod boblogaidd, a ddefnyddir gan sefydliadau ledled y DU. Mae Tom yn gyd-sylfaenydd Halo Support ac yn Hyfforddwr Ardystiedig gan Google. Fel un o’r Hyfforddwyr Ardystiedig gan Google cyntaf yng Nghymru, mae Tom wedi gweithio gyda channoedd o Aelodau Staff i’w helpu i gael y gorau o blatfform Google Workspace. Mae hefyd wedi dylunio cyrsiau hyfforddi ar E-Ddiogelwch, Rheoli Data ac offer Cyfryngau. Yn sgil cyflwyno hyfforddiant technoleg ers dros ddegawd, ac ar ôl gweithio gyda deallusrwydd artiffisial ers dyddiau cynnar offer fel ChatGPT, mae Tom wedi datblygu arddull sy’n glir a phwrpasol tra hefyd yn hamddenol a hygyrch. Ei nod yw gwneud pynciau cymhleth yn hawdd eu deall, gan sicrhau bod pawb yn gadael yn teimlo’n hyderus. Manylion Cysylltu: Gwefan: www.halo.support LinkedIn: www.linkedin.com/in/tomlewis1 Facebook: www.facebook.com/halosupportuk

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

9


Siaradwr Angus Findlay Web Adept UK Teitl: 5 Peth. 30 munud. Dim Esgusodion Eich Marchnata Digidol wedi’i Ailgychwyn Trosolwg Cyflym: Pum peth. Tri deg munud. Effaith ar unwaith. Mae Angus Findlay o Web Adept yn caolbwyntio ar yr elfennau o farchnata digidol sy’n wirioneddol bwysig i fusnesau bach a chanolig ac yn rhoi pum buddugoliaeth gyflym i chi y gallwch chi ddechrau gweithredu arnyn nhw cyn i chi adael yr ystafell. Syml. Uniongyrchol. Effeithiol Gwybodaeth am y Cwmni: Yn Web Adept UK, mae eu nod yn syml: Gwneud eich busnes yn llwyddiannus ar-lein. Maent yn gosod eu hunain fel Eich Adran Marchnata Digidol Ymroddedig, gan gynnig cyfres gynhwysfawr o wasanaethau wedi’u cynllunio i ddyrchafu eich busnes ar-lein. Gyda thros 29 mlynedd o brofiad, mae’r asiantaeth arobryn hon yn arbenigo mewn Dylunio Gwefannau, Marchnata Digidol, Brandio Digidol a Hyfforddiant. Mae deall eich busnes a’ch cynulleidfa yn allweddol, felly maen nhw’n creu gwefannau effeithiol, wedi’u cynllunio’n bwrpasol ac yn hawdd eu defnyddio, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i ddiwallu anghenion eich busnes. Gallant hefyd greu strategaeth Marchnata Digidol i wella eich presenoldeb ar-lein ac ehangu eich brand, gan gynnwys gwasanaethau fel SEO, hysbysebu PPC a rheoli cyfryngau cymdeithasol. Maent wedi cydweithio ag ystod amrywiol o fusnesau twf-uchel, gan gyflawni canlyniadau pendant, fel cynnydd o 415% mewn traffig gwe ar gyfer elusen canser a chynorthwyo dros 2,500 o fusnesau gyda’u hymdrechion marchnata. P’un a oes angen ailgynllunio’ch gwefan yn llwyr, archwiliad digidol cynhwysfawr i weld ble rydych chi, ymgynghoriad strategaeth marchnata digidol arbenigol, neu gefnogaeth marchnata digidol, mae tîm Web Adept UK yn barod i gyflawni canlyniadau. Manylion Cysylltu: Gwefan: www.webadept.co.uk LinkedIn: www.linkedin.com/in/angusfindlay Facebook: www.facebook.com/WebAdeptUK

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

10


Siaradwr Melissa Curran Modern Mind Group Teitl: O Alwadau Digymell i Sylfaenydd Cwmni Trosolwg Cyflym: Trwy straeon personol pwerus, bydd Melissa yn rhannu sut y bu iddi ymdopi â gwrthodiad cyson ei helpu i feithrin y gwydnwch, y dygnwch a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gychwyn busnes a datgloi twf refeniw. Yn aml, mae sylfaenwyr yn ystyried gwerthiant fel ôl-ystyriaeth, rhywbeth i guddio rhagddo, neu “ddrwg angenrheidiol,” ond dyma’r ysgogydd twf mwyaf pwerus yn eich busnes. Yn y sesiwn ysbrydoledig a di-flewyn-ar-dafod hon, mae Melissa, gwerthwraig brofiadol sydd wedi troi’n entrepreneur llwyddiannus, yn mynd â chi y tu ôl i’r llenni ar ei thaith werthu. Mae’r sgwrs hon yn plymio’n syth i’r rheng flaen entrepreneuraidd, gydag enghreifftiau o’r byd go iawn o’r dyddiau cynnar caled o wneud galwadau digymell i fuddugoliaethau wrth dyfu refeniw busnes. Gwybodaeth am y Cwmni: Wedi’i sefydlu yn 2019, mae’r Modern Mind Group yn gwmni ymgynghori Gweithrediadau Pobl (AD) a Pherfformiad sy’n cynnig gwasanaethau proffesiynol wedi’u contractio allan. Gyda thros 12 mlynedd o arbenigedd mewn pobl, dysgu gweithrediadau a pherfformiad, maent yn ymfalchïo mewn darparu cyngor ac arweiniad dibynadwy, gwasanaeth o ansawdd uchel ag ymagweddiad bersonol ac unigryw. P’un a ydych chi’n sylfaenydd unigol sy’n cael trafferth dod o hyd i’ch traed, neu’n berchennog busnes sefydledig sydd am ailgynnau eich peiriant twf, bydd Melissa yn darparu’r ysbrydoliaeth amrwd a’r camau ymarferol sydd eu hangen arnoch ar gyfer cam nesaf eich taith. Ymhlith y pynciau allweddol y bydd Melissa yn eu trafod mae’r ‘Meddylfryd Sylfaenydd sy’n Seiliedig ar Werthiant’, ‘Adeiladu Gwydnwch’ ac ‘O Gyflenwad i Elw’, pob un yn darparu mewnwelediadau gwerthu ymarferol i droi dygnwch entrepreneuraidd yn refeniw mesuradwy. Manylion Cysylltu: Gwefan: www.modernmindgroup.co.uk LinkedIn: www.linkedin.com/in/melissa-curran Facebook: www.facebook.com/modernmindgroup

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

11


Arddangoswyr Ffederasiwn y Busnesau Bach

Hayley T Wheeler Cyf

O fusnesau newydd i’r rhai sydd am ehangu, mae FfBB yma i’ch helpu ar eich taith fusnes â’r nod o helpu busnesau llai i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau busnes hanfodol i’n haelodau gan gynnwys cyngor, arbenigedd ariannol, cefnogaeth a llais pwerus yn y llywodraeth.

Mae Hayley T Wheeler yn arweinydd meddwl adnabyddus, sy’n herio ac yn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am lesiant emosiynol a meddyliol. Fel crëwr a sylfaenydd EmotionMind Dynamic, mae Hayley wedi helpu nifer dirifedi o blant, oedolion a sefydliadau i gyflawni lefelau digynsail o lwyddiant emosiynol, gan bontio’r bwlch rhwng iechyd emosiynol a chanlyniadau yn y byd go iawn.

Manylion Cysylltu: Rob Basini www.fsb.org.uk rob.basini@fsb.org.uk

Yswiriant FfBB Sefydlwyd Gwasanaeth Yswiriant FfBB ar gyfer Aelodau FfBB, er mwyn darparu datrysiadau yswiriant i fusnesau bach, cyngor arbenigol a buddion unigryw i aelodau wedi’u teilwra ar gyfer busnesau bach yn y DU. Fel un o’r manteision gwerthfawr sy’n perthyn i Aelodaeth FfBB, maent yn bartner dibynadwy ar gyfer yswiriant busnesau bach, gan ddarparu datrysiadau wedi’u teilwra i amddiffyn eich busnes a chynnig tawelwch meddwl. Manylion Cysylltu: David Perry www.fsb-insurance-service.com David.Perry@fsbis.co.uk

Cydbwyso Eich Ymagwedd Mae Debbie Basden yn ymarferydd EFT ac NLP Uwch achrededig yn Ne Cymru, sy’n cynorthwyo pobl ledled y byd i gydbwyso eu hagwedd a gwella eu hiechyd meddwl. Gan ddefnyddio technegau gan gynnwys Havening, EFT, Tapping ac NLP, mae Cydbwyso Eich Ymagwedd yn cynorthwyo i dawelu oedolion sydd mewn trallod yn sgil gorbryder, ffobia a thrawma. Manylion Cysylltu: Debbie Basden www.balanceyouroutlook.com debbie@balanceyouroutlook.com

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

Manylion Cysylltu: Hayley Wheeler www.hayleytwheeler.co.uk hayley@hayleytwheeler.co.uk

Modern Mind Group Wedi’i sefydlu yn 2019, mae’r Modern Mind Group yn gwmni ymgynghori Gweithrediadau Pobl (AD) a Pherfformiad sy’n cynnig gwasanaethau proffesiynol wedi’u contractio allan, â thros 12 mlynedd o arbenigedd mewn pobl, dysgu gweithrediadau a pherfformiad. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad dibynadwy gyda gwasanaeth o ansawdd uchel, gan ddarparu ymgynghorwyr cymwys a hygyrch sydd ag ymagweddiad personol ac unigryw. Manylion Cysylltu: Melissa Curran www.modernmindgroup.co.uk melissa@modernmindgroup.co.uk

Branding By Becca Mae Branding by Becca yn cynnig ystod eang o wasanaethau marchnata i’ch helpu i sefyll allan o’r dorf, gan helpu busnesau a chwmnïau i sefydlu a pharhau â’u hunaniaeth brand yn yr hinsawdd ddigidol sydd ohonni heddiw. O wefannau a chyfryngau cymdeithasol i daflenni a hysbysfyrddau, darganfyddwch sut i ddod â’ch brand yn fyw! Manylion Cysylltu: Rebecca Davies www.brandingbybecca.co.uk hello@brandingbybecca.co.uk

12


Caffeine Creative

InSynch

Mae Caffeine Creative yn asiantaeth dylunio graffig ddwyieithog, hygyrch, sy’n rhoi pobl yn gyntaf, ac sy’n creu brandiau ysbrydoledig a chyfathrebu gweledol meddylgar, gan roi eich anghenion chi a’ch sefydliad yn gyntaf. Â chefndir yn y byd creadigol a marchnata, yn ogystal â dealltwriaeth o werthu a chyfathrebu wyneb-yn-wyneb, gall y tîm gynhyrchu gwaith gweledol sy’n siarad â’ch cwsmeriaid trwy gysylltiadau gweledol pwerus.

Fel asiantaeth marchnata digidol yn y DU, mae InSynch wedi bod yn helpu busnesau i dyfu ers 2005. Gyda thîm o arbenigwyr marchnata digidol wedi’u lleoli ar draws Aberystwyth, Caerdydd, Amwythig a Bryste, maent yn cefnogi sefydliadau ledled y DU a ledled y byd bob dydd â strategaethau marchnata digidol sy’n seiliedig ar ganlyniadau. Trwy fethodoleg Marchnata Digidol Cyflawn brofedig a gwahanol brosiectau ar gyfer y llywodraeth, maent yn darparu gwasanaethau marchnata digidol craidd, ymgynghoriaeth a hyfforddiant, â’r nod o helpu busnesau i gyflawni eu nodau.

Manylion Cysylltu: Jeff Patreane www.caffeinecreative.co.uk jeff@caffeinecreative.co.uk

Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD) Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn falch o gynorthwyo FfBB i ddod â’r Gynhadledd Busnesau Bach i Abertawe eto eleni. Fel buddsoddiad digynsail o hyd at £1.3 biliwn ar draws naw prosiect blaenllaw ledled De-orllewin Cymru, mae busnesau bach a chanolig wrth galon y Fargen Ddinesig, gan helpu i greu swyddi, tyfu’r gadwyn gyflenwi leol a gwella sgiliau. Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat. Manylion Cysylltu: Peter Austin www.swanseabaycitydeal.wales praustin@carmarthenshire.gov.u

Manylion Cysylltu: Eddy Webb ac Adele Causer-Evans www.insynch.co.uk enquiries@insynch.co.uk

Halo IT Mae Halo Support yn gwmni sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru sy’n darparu systemau mewngofnodi electronig wedi’u teilwra i dros 500 o sefydliadau ledled y DU, gan gynnwys busnesau, cartrefi gofal, ysgolion ac awdurdodau lleol. Fe wnaethon nhw greu System Mewngofnodi Halo i wella profiad ymwelwyr, diogelu, a chydymffurfiaeth - a hynny i gyd wrth gadw pethau’n syml, yn ddibynadwy, ac yn rhydd o gontractau diangen neu ddibyniaeth ar y cwmwl. Manylion Cysylltu: Tom Lewis www.halo.support tom@halo.support

Laetitia Paul Consultancy Cymru Iach ar Waith Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru. Maent yn annog cyflogwyr i gymryd camau gweithredol ar iechyd a llesiant, gan eu cynorthwyo i greu arferion gwaith a gweithleoedd iach a diogel, er budd eu gweithwyr, eu busnes a’r gymuned ehangach. Manylion Cysylltu: Rhian Gleed www.phw.nhs.wales/services-and-teams/healthyworking-wales Rhian.gleed@wales.nhs.uk

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

Mae Laetitia Paul Consultancy Cyf. yn darparu datrysiadau AD ymarferol sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n helpu sefydliadau i adeiladu sylfeini cryf, gwella prosesau a chreu diwylliannau cadarnhaol yn y gweithle. Trwy helpu sefydliadau i ddatblygu strategaethau AD, rheoli eu pobl, datrys heriau AD cymhleth, a gweithredu systemau sy’n symleiddio gwaith, mae hynny yn ei dro yn creu gweithleoedd lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso. Manylion Cysylltu: Laetitia Paul www.hrconsult-lp.com laetitia@lp-consult.co.uk

13


Insight6

Starrd Financial Solutions Cyf

Sefydlwyd Insight6 ym 1998, yn sgil awydd cryf i drawsnewid cwmnïau i ddod yn gyrchfan ddewisol i’w cwsmeriaid, gan fod yn angerddol am bobl a dysgu am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r pethau maen nhw’n eu gwerthfawrogi. Datblygodd yr angerdd hwn atebion Profiad Cwsmer (CX) uwch a heddiw nhw yw’r cwmni ymgynghori CX mwyaf yn y DU.

Yn Starrd Financial Solutions, maen nhw’n darparu ystod eang o feysydd cynllunio sy’n cynnwys Pensiynau, Buddsoddiadau ac ISAs, Treth Etifeddiaeth, Diogelu a Chynllunio Treth - gan eich helpu i wneud y gorau o’ch lwfansau. Eu nod yw rhoi cyngor clir, ymarferol heb y jargon fel y gallwch chi ddeall beth rydych chi’n ei wneud a pham. Mae Paul Binning yn Gynghorydd Ariannol cymwysedig, wedi’i Reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sy’n gweithio gydag unigolion a chyplau i gynghori, cynllunio, rheoli a diogelu eu hasedau a’u cyfoeth er mwyn sicrhau’r datrysiad gorau i’w gleientiaid a’u teuluoedd.

Manylion Cysylltu: Mel Evans www.insight6.com mel.evans@insight6.com

Manylion Cysylltu:

Web Adept UK Yn Web Adept UK, mae eu nod yn syml: Gwneud eich busnes yn llwyddiannus ar-lein. Maent yn gosod eu hunain fel Eich Adran Marchnata Digidol Ymroddedig, gan gynnig cyfres gynhwysfawr o wasanaethau wedi’u cynllunio i ddyrchafu eich busnes ar-lein. Â thros 29 mlynedd o brofiad, mae’r asiantaeth arobryn hon yn arbenigo mewn Dylunio Gwefannau, Marchnata Digidol, Brandio Digidol a Hyfforddiant. Manylion Cysylltu: Angus Findlay www.webadept.co.uk angus@webadept.co.uk

Linda Burbage HR Consultancy Mae BarrowHR a Linda Burbage HR yn darparu cyngor, cefnogaeth, arweiniad a hyfforddiant AD i berchnogion a rheolwyr busnesau ym mhob rhan o Fae Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Am un diwrnod yn unig, mae perchnogion y cwmni ymgynghori Deb Barrow a Linda Burbage yn dod ynghyd i roi cyngor AM DDIM i fynychwyr y gynhadledd ar yr holl newidiadau cyfredol yn y gyfraith cyflogaeth ac unrhyw faterion staffio sy’n effeithio ar eich busnes. Â’u hymrwymiad i weithio ar y cyd, maent yn awyddus i gefnogi busnesau lleol i gyflogi’r bobl gywir, meithrin diwylliant busnes cryf a pharhau i gydymffurfio â’r gyfraith. Manylion Cysylltu: Linda Burbage www.lindabhr.co.uk linda@lindabhr.co.uk

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

Paul Binning www.linkedin.com/in/paulbinningstarrd paul.binning@mandg.com

Embrace Business Support Mae Embrace Business Support yn helpu perchnogion busnesau i leihau gorlethu ac adeiladu systemau ymarferol sy’n cefnogi twf cynaliadwy. Trwy hyfforddiant arweinyddiaeth, hyfforddiant ADHD, cefnogaeth weinyddol a sesiynau eglurder, maent yn darparu canllawiau wedi’u teilwra i helpu arweinwyr i ennill hyder, gwella gweithrediadau o ddydd i ddydd a throi syniadau yn gynlluniau gweithredu clir a chyraeddadwy. Manylion Cysylltu: Siân Clemens www.embracebusiness.support sian@embracebusiness.support

Ajuda Mae Ajuda Training Services yn gwmni arobryn sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sy’n darparu cyrsiau hyfforddiant achrededig ledled Cymru, y DU ac Ewrop. Eu nod yw gwneud gwahaniaeth ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth, gan ddefnyddio senarios bob-dydd sy’n gyfarwydd i ni i gyd yn eu hyfforddiant, sy’n berthnasol i anghenion eich sefydliad. Mae pob cwrs yn cael ei reoleiddio gan gyrff dyfarnu, gan gynnwys OFQUAL a Chymwysterau Cymru, ac mae tîm Ajuda hefyd yn falch o ennill cydnabyddiaeth Buddsoddwyr mewn Pobl. Manylion Cysylltu: Dawn Evans www.ajuda.org.uk dawn@ajuda.org.uk 14


Celebrant Coaching & Training Academy Ers bron i 30 mlynedd, mae Dinah Liversidge wedi helpu pobl i feithrin hyder, datblygu sgiliau a chyflawni pethau nad oeddent erioed yn meddwl y byddent yn bosibl. Heddiw, mae hi’n cyfuno’r profiad hwnnw â’i gwaith fel offeiriad gweinyddol i helpu darpar offeiriaid gweinyddol i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon a gwerth chweil. Fel sylfaenydd y Celebrant Coaching & Training Academy, mae Dinah wedi hyfforddi a mentora cannoedd o offeiriaid gweinyddol trwy raglenni arobryn sy’n cyfuno sgiliau ymarferol, gwybodaeth fusnes a chefnogaeth barhaus. Manylion Cysylltu: Dinah Liversidge www.celebranttrainer.com dinah@celebranttrainer.com

Next Step Mindfully Mae Next Step Mindfully yn gwmni Ymgynghori Llesiant Gweithle a Chymunedol sy’n ymroddedig i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion i greu bywydau iachach, hapusach a mwy cyd-gysylltiedig. Wedi’i sefydlu gan yr Ymgynghorydd Llesiant a’r Eiriolwr Iechyd Meddwl Meg Taylor, mae’r busnes yn cyfuno arbenigedd ymarferol â dull tosturiol a chyfannol o lesiant. O ymgynghoriaeth llesiant yn y gweithle, hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a chefnogaeth ar gyfer arweinyddiaeth, i hyfforddiant, encilio adferol a phrofiadau llesiant sy’n seiliedig ar natur, mae pob gwasanaeth wedi’i gynllunio i helpu pobl i ffynnu - nid dim ond ymdopi. P’un a ydych chi’n awyddus i gryfhau diwylliant eich gweithle, cefnogi llesiant staff, neu archwilio dulliau newydd o ymdrin â llesiant, dewch i ddarganfod sut y gall cymryd un cam ymwybodol greu newid parhaol ac ystyrlon. Manylion Cysylltu: Meg Taylor www.nextstepmindfully.org mindfulmegsy@nextstepmindfully.org

Cybata Cyf Mae Cybata yn cyflwyno, yn hysbysu ac yn cefnogi eich sefydliad ar draws diogelu data, GDPR, seiberddiogelwch a strategaeth ddigidol. Trwy gysylltu eich technoleg â sut mae eich busnes yn rhedeg mewn gwirionedd, maen nhw’n darparu atebion ymarferol ar lefelau strategol a gweithredol, gan ddod â phersbectif tawel, strwythuredig i bob ymgysylltiad. Manylion Cysylltu: Christopher Roberts www.cybata.co.uk chris@cybata.co.uk

Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol Mae’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol ar gyfer De-Orllewin Cymru yn un o bedair partneriaeth ranbarthol yng Nghymru sy’n gweithio i ysgogi buddsoddiad mewn sgiliau trwy ddatblygu ymatebion yn seiliedig ar anghenion lleol a rhanbarthol. Yn bartneriaeth dan arweiniad cyflogwyr yn bennaf, maen nhw’n ymdrechu i weithio ar draws y rhanbarth, gan bontio’r bwlch rhwng addysg ac adfywio yn y gobaith o greu economi gref a bywiog sy’n seiliedig ar arloesedd, twf a gweithlu galluog. Manylion Cysylltu: Sara Nicholls www.rlp.org.uk smnicholls@carmarthenshire.gov.uk

MDJ Accountancy Cyf Mae MDJ Accountancy wedi’u lleoli yn Noc Penfro ger y Porthladd Rhydd Celtaidd, ac maen nhw’n awyddus i weithio gyda busnesau yng Nghymru sydd eisiau allforio’n fyd-eang ac sydd angen cymorth i leihau ffrithiant masnach ryngwladol, gan ddefnyddio toriadau treth lleol a manteision y porthladd rhydd i leihau costau a gwella llif arian. Manylion Cysylltu: Mark Jordan www.linkedin.com/in/mark-jordan-fca-303a2515 mdjaccts@gmail.com

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

15


Ceridwen Connections Mae Ceridwen Connections yn cynnig mannau rhwydweithio hyblyg a chroesawgar sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â bywydau prysur, gan greu amgylchedd hamddenol lle gall menywod droi i fyny yn union fel y maent. Mae eu sesiynau galw-heibio ar-lein yn agor y drws i gysylltiadau ystyrlon ledled Cymru, tra bod eu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb mewn lleoliadau sy’n cael eu rhedeg gan deuluoedd yn cryfhau cysylltiadau cymunedol. P’un a ydych chi’n llywio entrepreneuriaeth, yn ehangu eich cylch, neu am gael munud i fyfyrio, mae Ceridwen Connections yn cynnig lle diogel a chyfeillgar lle mae sgyrsiau dilys yn ffynnu a menywod yn teimlo eu bod yn cael eu deall yn wirioneddol. Manylion Cysylltu: Isabella Rossi www.linkedin.com/in/isabella-rossi-317a731aa ceridwenconnections@outlook.com

The AI Training Co Adeiladwyd yr AI Training Co ar gyfer y busnesau hynny nad ydynt yn cael sylw yn y penawdau. Y busnesau bach a chanolig, y busnesau sy’n tyfu, y sefydliadau lle mae pobl go-iawn yn troi i fyny bob dydd ac yn gwneud gwaith go-iawn, a lle mae deallusrwydd artiffisial wedi glanio ar eu desgiau p’un a ydynt wedi gofyn amdano ai peidio. Mae AI wedi symud yn gyflymach yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf nag y gall y rhan fwyaf o sefydliadau ei amgyffred, sy’n golygu bod y bwlch sgiliau rhwng yr hyn y mae busnesau’n ei fabwysiadu a’r hyn y maent yn barod ar ei gyfer yn ehangu. Mae’r AI Training Co yn bodoli i gau’r bwlch hwnnw gyda hyfforddiant byw, ymarferol, wedi’i adeiladu ar gyfer pobl nad ydynt yn dechnegol. Dim jargon, dim ond dealltwriaeth glir a hyderus o beth yw deallusrwydd artiffisial, beth mae’n ei olygu i’ch sefydliad, a sut i’w ddefnyddio’n gyfrifol. Manylion Cysylltu: Ceri Davies www.theaitrainingco.com ceri@ceri-davies.com

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

WfMHub – SA12 Technology & Solutions Mae Technology & Solutions SA12 yn dod â galluoedd Adnoddau Dynol a Rheoli Gweithlu o’r radd flaenaf o fewn cyrraedd busnesau llai. Gan dynnu ar fwy na 28 mlynedd o arbenigedd gweithredol, maen nhw wedi datblygu model meddalwedd pwrpasol sy’n rhoi mynediad i gwmnïau sy’n tyfu i’r un offer, systemau a mewnwelediad strategol ag y mae corfforaethau mawr yn dibynnu arnynt - heb orfod talu’r pris corfforaethol. O amserlennu a chydymffurfiaeth i Adnoddau Dynol, perfformiad a chynllunio’r gweithlu, mae eu platfform wedi’i adeiladu i dyfu ochr-yn-ochr â’ch busnes, gan addasu wrth i’ch tîm a’ch anghenion dyfu. Y canlyniad yw amserlennu craffach, gwell effeithlonrwydd, a goruchwyliaeth lwyr dros ased mwyaf gwerthfawr busnes: ei bobl. Manylion Cysylltu: Sean Harris www.linkedin.com/in/sean-harris-wfm info@sa12.co.uk

ACT Training Sefydlwyd ACT Training ym 1988 ac mae ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad o ddarparu hyfforddiant pwrpasol i unigolion a chyflogwyr yng Nghymru. Yn ACT maen nhw’n angerddol iawn am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol. Maen nhw’n darparu rhestr hir o raglenni hyfforddiant a chymwysterau sy’n helpu pobl i gyrraedd eu potensial llawn. O fenter Twf Swyddi Cymru+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o sectorau gwahanol, mae yna rywbeth i bawb, ac mae’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn. Manylion Cysylltu: Vicki Gittens www.acttraining.org.uk vickigittens@acttraining.org.uk

16


Busnes Cymru

DMSMatrix

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i unigolion a busnesau ym mhob cam, o’u sefydlu i’w dirwyn i ben. Mae’n gweithio gyda busnesau bach a chanolig sy’n awyddus i ddatblygu eu busnes a thyfu. Mae’r gefnogaeth arbenigol hon yn cynnwys cynllunio busnes, rheolaeth ariannol, cyngor AD a datgarboneiddio’r busnes, i gael mynediad at farchnadoedd newydd a chyngor allforio. Mae Busnes Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r strategaeth economaidd trwy feithrin entrepreneuriaeth ac annog twf busnesau ledled Cymru.

Mewn byd lle mae masnach fyd-eang yn gyfle ac yn her, mae DMS Matrix yn sefyll allan fel esiampl o arloesedd ac effeithlonrwydd. Eu nod yw pontio’r bylchau mewn masnach ryngwladol, gan alluogi busnesau o bob maint i ffynnu ar raddfa fyd-eang. Maent yn dwyn ynghyd gymysgedd unigryw o dechnoleg, arbenigedd, a ffocws ar gwsmeriaid i ddarparu datrysiadau sy’n mynd i’r afael â chymhlethdodau masnach drawsffiniol. O integreiddio di-dor i awtomeiddio uwch, mae eu platfform wedi’i adeiladu i addasu ar gyfer anghenion unigryw pob cleient.

Manylion Cyswllt:

Manylion Cysylltu:

www.businesswales.gov.wales Tel. 03000 603 000

Sudeep Singh www.dmsmatrix.com sudeep.singh@phoenixbizsolutions.com

Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD

My Biz Solution

Lansiwyd Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2014, i gydnabod ymrwymiad a chefnogaeth cyflogwyr y DU tuag at Amddiffyn. Roedd y cynllun yn cynnwys Gwobrau Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau a all ddangos gwahanol lefelau o gefnogaeth ac aliniad eu gwerthoedd â Chyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan dynnu sylw at fanteision cyflogi cyn-filwyr ac aelodau o’u teuluoedd trwy gefnogi milwyr wrth-gefn yn eich gweithlu.

Gall rheoli prosesau busnes fod yn llawn straen a chymryd cryn lawer o amser, ac mae rhedeg busnes yn fwy na dim ond cynnig cynhyrchion neu wasanaethau gwych. Mae MyBiz Solution yn cynnig platfform CRM, gwerthu a marchnata cynhwysfawr wedi’i deilwra i’ch busnes, â’r nod o helpu i symleiddio gweithrediadau, gwella ymgysylltiad â chwsmeriaid a hybu cynhyrchiant ac elw.

Manylion Cysylltu:

Estelle Cartlidge www.mybizsolution.uk support@making-the-grade.co.uk

Craig Middle www.armedforcescovenant.gov.uk wa-reed@rfca.mod.uk

Cynhadledd Busnesau Bach De Cymru FfBB 2026

Manylion Cysylltu:

17


Eichsupport cefnogi For Eichprotection amddiffyn For Eichbusiness busnes For

Frank Jay Chilli Shop Ltd

Eich amddiffyn chi a’ch busnes Yn Ffederasiwn y Busnesau Bach, rydym wedi cynorthwyo perchenogion busnesau bach fel Frank i gychwyn, rhedeg a thyfu busnesau anhygoel ers 1974. •

Digwyddiadau rhwydweithio lleol a chenedlaethol am ddim

•

Cymorth cyfreithiol ac amddiffyniad treth

•

Cyngor AD 24/7

•

Yswiriant costau cyfreithiol yn gynwysedig

•

Disgowntiau unigryw i aelodau

•

Mynediad i fwy na 1,500 o ddogfennau a thempledi cyfreithiol

Ymunwch heddiw Dechreuwch eich aelodaeth gyda ni Ewch i fsb.org.uk/join am fwy o wybodaeth


#FSBSWCONF26


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
FSB 7465 South Wales Conference Brochure WELSH by Federation of Small Businesses - Issuu