Skip to main content

Bargen Newydd i Fusnesau: Gweledigaeth FfBB Cymru ar gyfer 2026 – 2030

Page 1


Eich cefnogi

Eich amddiffyn

Eich busnes fsb.org.uk/wales

Cynnwys

Ynglŷn â FfBB Cymru

Rhageiriau

Busnesau Bach a Chanolig a Chymru

Yr Heriau sy’n Wynebu Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru

Ein Pum Gofyniad Ni

1. Busnesau Bach wrth Galon y Llywodraeth

2. Ardaloedd Bywiog

3. Cynhyrchiant yn y Byd Go Iawn

4. Lleihau Cost Cynnal Busnes

5. Pobl Lwyddiannus

Ynglyn â FfBB

Ffederasiwn y Busnesau Bach (FfBB) Cymru yw’r eiriolwr mwyaf blaenllaw dros fusnesau ledled Cymru, yn cynrychioli miloedd lawer o aelodau. Rydym yn gweithio’n angerddol tuag at dirwedd gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd well sy’n cefnogi busnesau ffyniannus a llwyddiant entrepreneuraidd. Gyda chefnogaeth rhwydwaith cadarn ar lawr gwlad a Chyngor Ymgynghorol yr Aelodau, ynghyd â thîm o staff yng Nghymru sy’n ymwneud yn uniongyrchol â sefydliadau, cyfryngau, rhanddeiliaid a llunwyr polisi, mae FfBB Cymru yn sicrhau bod pryderon a dyheadau ei aelodau’n cael eu mynegi’n amlwg wrth galon prosesau gwneud penderfyniadau.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae FfBB Cymru wedi bod yn ymgysylltu â thua 2,000 o fusnesau bob blwyddyn ledled Cymru, gan gynnwys cyflwyno ein Harolwg Mawr o Fusnesau

Bach cynhwysfawr ar gyfer Cymru (2025). Cafodd hyn, ynghyd ag adborth a mewnwelediadau o’n cynadleddau a’n rhwydweithiau yng Nghymru, sy’n cynrychioli busnesau o bob maint, ei werthuso gan Gyngor Ymgynghorol yr Aelodau. Defnyddiwyd y wybodaeth hon i ddatblygu cynigion polisi ymarferol, yn seiliedig ar dystiolaeth, a gynlluniwyd i wella’r dirwedd fusnes ar gyfer busnesau bach a chanolig ledled Cymru.

Maniffesto ar gyfer busnesau bach gan fusnesau bach yw hwn.

Rhageiriau

Yn FfBB Cymru, rydym yn falch o hyrwyddo mentrau bach a chanolig eu maint, sef gwir galon economi ein gwlad. Yn wir, o’r 200,000 o fusnesau gweithredol ledled Cymru, ystyrir bod 99.3% ohonynt yn fusnesau bach a chanolig. Mae’r busnesau hyn yn creu ac yn cefnogi swyddi lleol, yn cynnal cymunedau, ac yn sbarduno arloesedd, ond maent yn wynebu pwysau digynsail sy’n galw am gamau gweithredu brys. Trwy ein tîm ymroddedig yng Nghymru a rhwydweithiau ar lawr gwlad, rydym yn ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisi i gryfhau lleisiau busnesau bach a chanolig ac eirioli dros y newidiadau sydd eu hangen. Fel Cadeirydd FfBB Cymru, rwyf wedi bod yn falch o arwain y gwaith o gynnwys busnesau yn y drafodaeth a sicrhau eu bod wedi llywio’r maniffesto hwn. Maniffesto ar gyfer busnesau bach gan fusnesau bach yw hwn.

Mae’r maniffesto hwn yn cyflwyno ein cynigion beiddgar ar gyfer newid. Rydym yn galw am roi busnesau bach wrth galon Llywodraeth Cymru, lleoedd bywiog, cynhyrchiant yn y byd go iawn, gostyngiadau

mewn costau, a chefnogaeth i bobl lwyddiannus. O Fil Datblygu Economaidd arloesol ar gyfer twf busnesau bach i ryddhad o ardrethi wedi’i dargedu a sicrhau y gall busnesau gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt, bydd ein cynigion yn grymuso busnesau bach a chanolig i oresgyn rhwystrau a ffynnu. Wrth i ni agosáu at etholiad Senedd 2026, rydym yn annog Llywodraeth nesaf Cymru i fabwysiadu’r mesurau hyn, gan ddatgloi potensial entrepreneuraidd Cymru ar gyfer cymunedau gwydn a dyfodol llewyrchus.

John Hurst Cadeirydd FfBB Cymru

Rhageiriau

Mae Cymru ar groesffordd wrth i etholiad Senedd Mai 2026 agosáu. Mae’r byd yn newid yn gyflym wrth i ni wynebu trawsnewidiad yn sgil deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio, amodau masnachu byd-eang heriol a gwasanaethau cyhoeddus dan straen. Mae’r hyn y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn ei wneud yn wyneb yr heriau hyn yn bwysig. Gallwn lunio ein ffyniant yn y dyfodol, neu gallwn gael ein llunio gan fyd sy’n newid.

Mae busnesau bach a chanolig, asgwrn cefn economi Cymru, yn brwydro yn erbyn costau cynyddol, baich rheoleiddio, a bylchau sgiliau sy’n bygwth twf a goroesiad. Yr hyn sydd ei angen nawr yw Bargen Newydd i Fusnesau. Gan dynnu ar fewnwelediadau helaeth gan aelodau o arolygon, digwyddiadau, a Chyngor Ymgynghorol yr Aelodau, mae FfBB Cymru wedi datblygu’r maniffesto hwn i ddarparu datrysiadau ymarferol ac effeithiol a fydd o fantais i Gymru gyfan.

Byddai Bargen Newydd i Fusnesau yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n gosod busnesau bach a’r economi wrth galon pob penderfyniad mae’n ei gwneud. Mae hefyd yn golygu bod pob plaid wleidyddol yn nhymor nesaf y Senedd yn ymrwymo i osod y sylfeini ar gyfer twf economaidd cynaliadwy sy’n cyrraedd pob cymuned ledled Cymru. Mae’n bwysig nodi y byddai bargen o’r fath yn rhoi eglurder a hyder i fusnesau ynghylch yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Rhaid i ymrwymiadau allweddol fod yn ganolog i’r fargen newydd, gan gynnwys:

• Strategaeth economaidd newydd a Bil Datblygu Economaidd newydd sy’n canolbwyntio ar dyfu busnesau Cymru

• Adfywio ein trefi trwy gyfundrefn ardrethi newydd ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden

• Newid sylweddol o ran buddsoddiad mewn seilwaith i wella cynhyrchiant yn y byd go iawn

• Arbed chwarter yr amser a dreulir ar reoleiddio trwy doriad o 25% mewn costau cydymffurfio

• Cymhelliant newydd ar gyfer cyflogaeth i fusnesau bach a chanolig gyflogi gweithwyr iau a sbarduno twf

Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu busnesau bach a chanolig er mwyn sicrhau busnesau a chymunedau bywiog a chynaliadwy nawr ac am genedlaethau i ddod. Mae FfBB Cymru wedi ymrwymo i’r weledigaeth hon.

Joshua Miles Pennaeth FfBB Cymru

Busnesau Bach a Chanolig a Chymru

Mae perchnogion busnesau yn grŵp o bobl angerddol. Trwy ein Harolwg Mawr o Fusnesau Bach, gofynnwyd iddynt amlygu eu prif resymau dros redeg eu busnesau. Dywedodd 65% wrthym mai eu prif reswm oedd oherwydd eu bod yn angerddol am yr hyn a wnant. Dyma oedd y rheswm pennaf a roddwyd, o bell ffordd. Mae’r cymhelliant cryf hwn yn fudd enfawr ac yn adnodd posibl i helpu â sbarduno economi Cymru. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn mynd ati i feithrin, cefnogi a hyrwyddo hyn yn rhagweithiol. Ledled Cymru, mae perchnogion busnesau yn gadarn, ac maent wedi gorfod bod felly dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod ein harolwg wedi tanlinellu rhywfaint o besimistiaeth ynghylch yr economi ehangach, mae perchnogion busnesau yn fwy hyderus yn eu busnesau a’u sector eu hunain. Fodd bynnag, roedd ganddynt lai o hyder yn “economi Cymru” o’i chymharu ag “economi’r DU” a’r “economi fyd-eang” yn gyffredinol. Bargen Newydd i Fusnesau a ffocws llwyr ar gefnogaeth gan Lywodraeth nesaf Cymru yw’r hyn sydd ei angen i atgyfnerthu angerdd ein busnesau bach a chanolig a’n hentrepreneuriaid ar draws pob rhan o Gymru.

Yr Heriau sy’n

Wynebu Busnesau

Bach a Chanolig yng Nghymru

Mae busnesau bach a chanolig ledled Cymru yn llywio tirwedd gynyddol heriol. Mae’r busnesau hyn, sy’n ffurfio conglfaen economi Cymru, yn gorfod wynebu cymysgedd cymhleth o bwysau economaidd, rheoleiddiol a gweithredol sy’n bygwth eu gwydnwch, eu twf ac, mewn rhai achosion, eu gallu i oroesi. O gostau cynyddol i heriau’n ymwneud â sgiliau, mae angen cymorth brys ar fusnesau bach a chanolig i sicrhau eu cyfraniad hanfodol a pharhaus i gymunedau lleol ac economi ehangach Cymru.

Mae busnesau bach a chanolig ledled Cymru yn wynebu:

Costau Cynyddol: Costau cyfleustodau, tanwydd, trethi a chyflogau yn codi’n sydyn, gyda 39% o fusnesau’n crybwyll beichiau treth a 37% yn nodi costau llafur fel rhwystrau mawr.

Diffyg Hyder: Mae hyder busnesau ar -58 pwynt, gyda 30% o fusnesau bach a chanolig yn disgwyl crebachu, gwerthu, neu gau o fewn blwyddyn, o’i gymharu â dim ond 18% yn rhagweld twf. (Arolwg Mynegai Busnesau Bach (MBB) FfBB Ch3 2025).

Contractau Cyhoeddus: Dim ond 14% o’r rhai a ymatebodd i’n Harolwg Mawr o Fusnesau Bach sydd erioed wedi ennill contract cyhoeddus, ond dywedodd 42% wrthym y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gwneud hynny. Gallai datgloi’r potensial hwn helpu i sbarduno twf, capasiti a galluoedd busnesau bach a chanolig Cymru, yn ogystal ag adeiladu cyfoeth cymunedol.

Prinder Sgiliau: Dim ond 8% o fusnesau bach all gynnig prentisiaethau oherwydd costau a diffyg ymwybyddiaeth, gan effeithio’n negyddol ar sectorau fel TG ac adeiladu, yn benodol. Yn ein Harolwg Mawr o Fusnesau Bach, roedd mynediad at staff oedd â’r sgiliau angenrheidiol ymhlith y pum her fwyaf sy’n effeithio ar berfformiad busnes.

Strydoedd ein trefi’n ei chael yn anodd: Mae gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, ardrethi busnes uwch a systemau cynllunio araf yn tarfu ar economïau lleol ac yn eu gwneud yn llai deniadol i fusnesau bach a chanolig. Dywedodd ein Harolwg Mawr o Fusnesau Bach wrthym fod 53% o’r ymatebwyr yn ystyried dyfodol ein strydoedd siopa i fod yn “Ddigalon” (35%) neu’n “Wael” (18%); dim ond 18% oedd yn credu bod y rhagolygon yn “Dda” (14%) neu’n “Llewyrchus” (4%).

Beichiau Rheoleiddiol: Mae newidiadau i ardrethi busnes, cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch, a’r Bil Hawliau Cyflogaeth newydd yn bygwth recriwtio a thwf busnesau bach. Er bod y consesiwn chwe mis gan Lywodraeth y DU ar hawliau diswyddo annheg yn gam i’w groesawu, mae 65% o gyflogwyr bach yn poeni am nifer fawr y newidiadau y bydd y Bil yn eu golygu iddynt. Yn ogystal, canfu ein Harolwg Mawr o Fusnesau Bach fod 39% eisiau “rheoleiddio gwell a symlach,” fel ail flaenoriaeth i drethi.

Toriadau mewn Swyddi: Torrodd 23% o fusnesau staff yn Ch3 2025 (MBB), ac mae 20% yn bwriadu gwneud hynny yn Ch4 (MBB), gan adlewyrchu cyfradd gyflogaeth sy’n gostwng yng Nghymru (70.8%) a chyfradd anweithgarwch economaidd uchel (25.6%).

(Trosolwg o’r Farchnad Lafur Llywodraeth Cymru Ch3 2025).

Diffyg Ymgysylltiad â’r Senedd ac Awdurdodau Lleol: Mae llawer o fusnesau bach a chanolig yn teimlo pellter a diffyg ymgysylltiad â’r Senedd ac awdurdodau lleol, lle gwneir penderfyniadau allweddol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu gweithrediadau o ddydd i ddydd a’u hyfywedd ariannol. Mae’r ymdeimlad hwn o bellter yn cael ei waethygu gan y ffaith nad yw contractau cyhoeddus yn aml yn cael eu hysbysebu’n ddigonol i ddenu busnesau bach a chanolig i dendro, gan gyfyngu ar gyfleoedd i fusnesau llai gymryd rhan yn effeithiol. Mae Ymchwil gan y Senedd (2023) yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfranogiad y sector preifat yn eu gwaith pwyllgor yn parhau i fod yn isel iawn, gan gynrychioli llai na 5% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg, er bod y sector hwn yn cyfrif am 69% o weithlu Cymru. Mae angen mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth hwn ar frys.

Beth Sydd El Angen

1. Busnesau Bach wrth Galon y Llywodraeth

Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru angen llywodraeth sy’n blaenoriaethu eu hanghenion wrth lunio polisïau er mwyn meithrin twf a sefydlogrwydd.

I fynd i’r afael â’r materion hyn, mae angen bargen newydd i fusnesau, gan gynnwys deddfwriaeth sy’n ymgorffori ystyriaethau busnesau bach a chanolig ym mhob pob penderfyniad a wneir gan y llywodraeth, sy’n hyrwyddo amgylchedd busnes cadarnhaol, ac yn sicrhau strwythurau cymorth dibynadwy.

Mae FfBB Cymru’n galw am:

• Bil Datblygu Economaidd (Cymru) ar gyfer twf busnesau bach

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru gyflwyno Bil Datblygu Economaidd (Cymru) newydd. Ers datganoli ym 1999 a phwerau deddfu llawn yn 2011, nid oes yw Lywodraeth Cymru wedi cyflwyno bil sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu economaidd. Byddai’r ddeddfwriaeth hon yn sail i’r mentrau polisi a amlygwyd trwy gydol y ddogfen hon sy’n canolbwyntio ar dwf busnesau bach. Byddai’n anfon arwydd clir bod Llywodraeth nesaf Cymru’n cefnogi busnesau yn economi Cymru.

• Strategaeth economaidd newydd sy’n canolbwyntio ar dyfu busnesau Cymru

Ar hyn o bryd, mae diffyg strategaeth economaidd hirdymor gydlynol yn golygu bod busnesau’n gorfod ymdopi ag ansicrwydd, gyda lefelau hyder

yn effeithio ar gyfleoedd buddsoddi a thwf. Dylai strategaeth economaidd newydd fod yn gwbl glir yn ei dyheadau. Dylai dargedu cynyddu nifer y busnesau sy’n cael eu sefydlu yng Nghymru, canolbwyntio ar dyfu cwmnïau ‘canolig’ eu maint, meithrin cyfoeth cymunedol ac angori buddsoddiad mewnol trwy ddatblygu cyflenwyr Cymreig.

• Asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru

Er mwyn cyflawni’r strategaeth newydd, dylai Llywodraeth nesaf Cymru gyflwyno asiantaeth datblygu economaidd newydd. Byddai’r asiantaeth yn cael y dasg o ryngwladoli busnesau Cymru a byddai’n geidwad brand Cymru dramor; byddai’n ceisio buddsoddiad mewnol sy’n ategu twf busnesau bach a chanolig Cymru ac yn darparu canolbwynt ar gyfer polisi economaidd.

• Atgyfnerthu’r dirwedd cymorth busnes bresennol

Mae sefydliadau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn darparu cymorth gwerthfawr, ond heb gefnogaeth statudol gyda chyllid aml-flwyddyn, mae eu heffaith yn anghyson, gan effeithio ar ddatblygiad busnesau ledled Cymru. Dylid sefydlu eu pwrpas mewn statud, sef cynorthwyo â chreu a datblygu busnesau bach a chanolig cynhyrchiol yng Nghymru, a dylid eu cefnogi i arloesi trwy gynyddu’r cyllid sydd ar gael, â’r nod o’i adfer i’r lefel oedd yn bodoli cyn gadael yr UE dros dymor nesaf y Senedd.

2. Ardaloedd Ffyniannus

Mae’r stryd fawr mewn llawer o drefi Cymru dan straen oherwydd gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr, costau uchel, seilwaith hen ffasiwn, ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cynyddol. Mae’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn wynebu beichiau anghymesur yn sgil ardrethi busnes, tra bod ymdrechion adfywio araf a datblygiad lleol tameidiog yn methu â chreu cymunedau ffyniannus lle gall busnesau lwyddo.

Mae adfywio’r ardaloedd hyn yn gofyn am ymyriadau wedi’u targedu i leihau pwysau ariannol, gwella diogelwch, a grymuso gwneud penderfyniadau lleol, gan sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn sbarduno adfywiad economaidd a chymdeithasol.

Mae FfBB Cymru’n galw am:

• System luosi newydd ar gyfer ardrethi busnes yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden

Wrth ymateb i’n Harolwg Mawr o Fusnesau Bach, ynghylch adfywio’r stryd fawr, dywedodd 55% o berchnogion busnesau wrthym fod angen cymhellion a gostyngiadau mewn ardrethi ar gyfer busnesau bach yng nghanol trefi. Mae llywodraethau yn Lloegr a’r Alban wedi gweithredu i wneud i’w system ardrethi busnes ymateb i’r anghenion hyn. Mae’n bryd i Gymru wneud yr un peth. Rydym yn argymell system luosi newydd ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden wedi’i gosod 20c islaw’r gyfradd safonol ac wedi’i hariannu gan y system luosi newydd ar gyfer busnesau manwerthu mawr.

• Cynyddu cyllid ar gyfer Cronfa Trawsnewid Trefi a democrateiddio ei dull gweithredu

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru gynyddu’r cyllid sydd ar gael i gynorthwyo ag adfywio canol trefi ledled Cymru. Dylai geisio ymestyn cyllido i grŵp ehangach o randdeiliaid o fewn trefi, gan gynnwys busnesau bach a chanolig, gan ddefnyddio mecanweithiau sefydledig fel Ardaloedd Gwella Busnes neu trwy sefydlu partneriaethau canol trefi.

• Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy blismona rhagweithiol

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bryder mawr i fusnesau yng nghanol trefi. Dylid mynd i’r afael â hyn trwy gamau i ddod â’r gymuned a busnesau ynghyd i ddelio â phryderon yn gynnar, mwy o blismona a mentrau diogelwch cymunedol i ddiogelu twf dan arweiniad busnesau bach

a chanolig a chreu strydoedd siopa diogel a ffyniannus ledled Cymru.

• Datgloi datblygiad gyda Deddf Gynllunio newydd

Mae’n rhaid i’r system gynllunio gydbwyso llawer o bryderon, economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae’n methu â sicrhau’r cydbwysedd cywir. Mae’n brin o adnoddau, mae’n araf i’w llywio ac mae’n gostus. I gwmnïau bach, mae’n teimlo’n or-gymhleth ac mae penderfyniadau’n aml yn cael eu gohirio gan ychwanegu at gostau sylweddol o ran amser ac arian. Dylai deddf gynllunio newydd a diwygio ehangach unioni’r cydbwysedd hwn a hefyd edrych ar greu cymhellion i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd amserol.

• Ardoll Ymwelwyr/Treth Twristiaeth

Mewn cyfnod o gostau cynyddol ac adferiad economaidd sydd wedi dod i stop, nid yw trafodaethau ynghylch mwy o drethi’n fuddiol, felly dylid cadw treth twristiaeth oddi ar y bwrdd ar gyfer y tymor hwn. Mae ein harolwg yn dangos bod mwyafrif sylweddol o fusnesau yn gwrthwynebu’r ardoll yn eu hardal leol, a dylai llunwyr polisi fod yn ymwybodol o’r effaith ar ymddiriedaeth yn y sector sy’n hanfodol i economi Cymru.

3. Cynhyrchiant yn y Byd Go Iawn

Mae busnesau bach a chanolig ledled Cymru yn cael trafferth gyda chynhyrchiant oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth annigonol, seilwaith sy’n heneiddio, a rhwystrau i fabwysiadu arloesiadau fel deallusrwydd artiffisial, neu ymateb i heriau fel datgarboneiddio ac uchelgeisiau sero net. Mae hyn yn cyfyngu ar effeithlonrwydd, yn cynyddu costau gweithredu, ac yn llesteirio cystadleurwydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd eraill lle mae cysylltedd yn wael.

Mae mynd i’r afael â chynhyrchiant yn gofyn am fuddsoddiad mewn seilwaith modern a chefnogaeth i arferion arloesol a chynaliadwy i alluogi busnesau bach a chanolig i addasu a ffynnu mewn economi sy’n newid.

Mae FfBB Cymru’n galw am:

• Newid sylweddol o ran buddsoddi mewn seilwaith

Mae meddwl tymor hwy yn elfen graidd o ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Dylai hyn ffurfio rhan o bolisi seilwaith, gyda llwybr clir wedi’i osod allan ar gyfer y seilwaith y mae ei angen ar Gymru yn 2050, gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd, digidol ac ynni, gan ystyried tueddiadau byd-eang fel datgarboneiddio a deallusrwydd artiffisial. Mae yna gapasiti ar gyfer cynnydd darbodus mewn benthyca i ariannu blaenoriaethau seilwaith. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru ddadlau dros gynyddu terfynau benthyca a defnyddio cyllid allanol fel cronfeydd pensiwn Cymru i wneud newid sylweddol mewn buddsoddiad.

• Cefnogi Mynediad at Gyllid i Dyfu Cwmnïau Bach

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r arian sydd ar gael trwy Fanc Datblygu Cymru. Dylai hyn asesu ble mae bylchau ar hyn o bryd, a yw’r cyfraddau llog yn briodol, a dylid gwneud hyn i atgyfnerthu cwmnïau ar eu taith o’u sefydlu i ehangu. Yn benodol, ymddengys bod bwlch o ran mynediad at gyllid ar gyfer cwmnïau canolig eu maint.

• Gweinidog dros Ddigideiddio

Dylai’r rôl hon gydlynu polisi digidol ar draws y llywodraeth, hyrwyddo mabwysiadu offer digidol gan fusnesau bach a chanolig, ac ysgogi buddsoddiad mewn seilwaith a chynhwysiant. Dylai Cymru anelu at efelychu arfer gorau byd-eang mewn gwasanaethau cyhoeddus digidol, gan leihau baich rheoleiddio yn y broses ar gwmnïau sy’n rhyngweithio â’r sector cyhoeddus.

• Net Sero Busnes Cymru

Mae datgarboneiddio yn cynnig cyfle i lawer o gwmnïau, ond mae hefyd yn peryglu cynyddu pwysau costau os na chaiff ei wneud yn dda. Byddai cynllun newydd Sero Net Busnes Cymru, fel rhan o gynnig Busnes Cymru, yn helpu i gynorthwyo â datgarboneiddio a thrawsnewidiadau sero net trwy gymhellion, cyngor a chyllid wedi’i deilwra ar gyfer busnesau bach a chanolig.

• Sicrhau bod gan fusnesau le i dyfu

Mae sgiliau, tir ac adeiladau yn feysydd lle mae galw mawr gan fusnesau bach a chanolig.

Mae hefyd yn faes lle gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddynt i leihau rhwystrau i gwmnïau bach. O ran tir ac adeiladau, rhaid cynnal asesiad o’r adnoddau sydd ar gael a sut y gellir eu defnyddio’n gyflym, gan roi’r lle sydd ei angen ar gwmnïau, ac yn enwedig cwmnïau gweithgynhyrchu, i dyfu.

• Adeiladu cyfoeth cymunedol

Mae Cymru’n cael “llai o werth” am bob punt o dwf Gwerth Ychwanegol Gros o’i gymharu â’r Alban yn sgil caffael yn y sector cyhoeddus.

Dylai Llywodraeth Cymru efelychu Bil Cyfoeth Cymunedol yr Alban sydd â’r nod o gynyddu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, hyrwyddo twf busnesau bach a chanolig a chefnogi busnesau domestig mewn cadwyni cyflenwi.

Bargen Newydd i Fusnesau

4. Lleihau Cost Cynnal Busnes

Mae costau cynyddol cynnal busnes yng Nghymru, o filiau ynni ac ardrethi busnes i fiwrocratiaeth reoleiddiol a thaliadau hwyr, yn gwasgu elw busnesau bach a chanolig ac yn atal twf. Yn wir, nododd 48% o’r rhai a ymatebodd i’n Harolwg Mawr o Fusnesau Bach eu bod wedi dioddef yn sgil taliadau hwyr dros y 12 mis diwethaf. Mae pwysau trethiant ehangach, gan gynnwys costau Yswiriant Gwladol a chyflogau cynyddol, yn dwysáu straen ariannol ymhellach, tra bod prosesau caffael aneffeithlon yn cau busnesau llai allan o gyfleoedd gwerthfawr yn annheg.

Mae lleddfu’r beichiau hyn yn hanfodol er mwyn creu amgylchedd gweithredu mwy fforddiadwy, gan ganiatáu i fusnesau bach a chanolig fuddsoddi mewn ehangu a thwf yn hytrach na dim ond goroesi.

Mae FfBB Cymru’n galw am:

• Diwygiad cynhwysfawr o ardrethi busnes, a hynny ar fyrder

Nid yw’r system ardrethi busnes yn addas i’r byd modern. Mae’n gosod costau o flaen busnesau cyn iddyn nhw hyd yn oed ddechrau gwneud incwm, mae’n darbwyllo cwmnïau rhag buddsoddi mewn adeiladau ac yn ystumio costau gweithredu rhwng busnesau yn seiliedig ar eu lleoliad, neu a ydyn nhw ar-lein ai peidio. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru alinio cynllun Gostyngiad Ardrethi Busnesau Bach Cymru â Lloegr trwy drothwy o £12,000 a’i gynyddu’n raddol i £15,000. Yn y tymor canolig, dylid ystyried diwygio mwy sylfaenol.

• Gorfodi telerau talu 30 diwrnod ar draws contractau sector cyhoeddus

Mae talu’n hwyr yn broblem hirhoedlog i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Gallai deddfwriaeth

arfaethedig y DU fynd i’r afael â hyn. Fodd bynnag, rhaid cyflawni hyn gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth nesaf Cymru. Dylent arwain trwy esiampl ar daliadau hwyr a chaffael trwy orfodi telerau talu 30 diwrnod ar draws pob contract sector cyhoeddus, gan ei gwneud yn ofynnol i berfformiad o ran taliadau gael ei gyhoeddi bob chwarter.

• Arbed chwarter yr amser a dreulir ar reoleiddio trwy doriad o 25% mewn costau cydymffurfio

Mae rheoleiddio yn rhwystr sylweddol i dwf. Mae arolygon yr Adran Busnes a Masnach yn dangos bod amser cynyddol yn cael ei dreulio ar gydymffurfiaeth reoleiddiol dros y blynyddoedd diwethaf. Ychydig iawn o drafodaeth sydd wedi bod am y mater hwn gan reoleiddwyr Cymru. Dylid cyflwyno Cynllun Gweithredu Rheoleiddio i Gymru gyda tharged o leihau’r amser a dreulir ar reoleiddio datganoledig 25%.

• Cymorth digidol i fusnesau bach a chanolig

Dylai cynnydd technolegol leihau beichiau gweinyddol ac o ran amser i fusnesau bach a chanolig sy’n cael eu heffeithio’n anghymesur gan waith papur o’i gymharu ag endidau mwy. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru sefydlu cynllun clir ar gyfer darparu seilwaith digidol gwell dros y degawd nesaf. Dylid cynllunio unrhyw ddatblygiadau o’r cychwyn cyntaf i flaenoriaethu effeithlonrwydd a rhwyddineb defnydd i fusnesau, yn hytrach na gwasanaethu hwylustod llywodraethol yn unig.

5. Pobl Lwyddiannus

Mae ymchwil gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi canfod y gallai’r DU elwa o gynnydd mewn cynhyrchiant o 5% pe bai’r diffyg cysondeb sgiliau’n cael ei leihau i lefelau arfer gorau’r OECD. Er nad yw llawer o ysgogiadau datblygu economaidd a thwf yn nwylo Llywodraeth Cymru, mae’r maes hwn wedi’i ddatganoli i raddau helaeth, ac felly dylai ddarparu blaenoriaeth economaidd glir a chael ei ddatblygu fel amcan i Lywodraeth Cymru ar sail drawslywodraethol.

Rhaid i’r strategaeth ar gyfer twf a arweinir gan sgiliau, wedi’i hanelu at fusnesau bach a chanolig, fod yn seiliedig ar y nod o wneud mynediad at sgiliau’n haws, o fewn cwmpas cymorth busnes ehangach o greu mwy o amser a lle, neu hyblygrwydd, i fusnesau fanteisio ar gyfleoedd, gan gynnwys yn benodol ym maes datblygu sgiliau.

Mae busnesau bach a chanolig ledled Cymru yn wynebu rhwystrau caled wrth geisio adeiladu gweithluoedd llwyddiannus, o gymorth cyfyngedig i fusnesau newydd sy’n llesteirio entrepreneuriaeth i anawsterau wrth gyflogi, datblygu staff, a chynllunio ar gyfer ymadawiadau neu olyniaethau busnes. Ni wneir digon o ddefnydd o brentisiaethau, oherwydd costau a bylchau ymwybyddiaeth, gan adael prinder sgiliau mewn meysydd allweddol a llesteirio cynaladwyedd hirdymor.

Mae grymuso pobl trwy gymorth wedi’i dargedu yn hanfodol i feithrin entrepreneuriaeth, datblygu talent, a phontio llyfn, gan sicrhau y gall busnesau bach a chanolig ddenu a chadw’r gweithlu sydd ei angen ar gyfer llwyddiant.

Mae FfBB Cymru’n galw am y canlynol:

• Gwneud busnesau newydd yn flaenoriaeth

Mae nifer y busnesau bach wedi gostwng ers y pandemig, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae entrepreneuriaeth yn elfen allweddol o economi ddeinamig, ac mae angen gwrthdroi’r duedd hon trwy gymorth a chyngor wedi’u targedu, sydd wedi’u hanelu at ysgogi creu busnesau. Dylid cyflwyno strategaeth ar gyfer cychwyn busnesau newydd, wedi’i hategu â chyllid grant a chyllid sbarduno, gan ail-ganolbwyntio ar fusnesau newydd yn Busnes Cymru.

• Cynyddu cyllid ar gyfer prentisiaethau mewn busnesau bach a chanolig

Mae prentisiaethau yn llwybr allweddol i’r farchnad lafur i lawer, ac mae busnesau bach a chanolig yn ffurfio asgwrn cefn cynllun presennol Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyllido wedi bod yn anghyson, ac rydym yn gwybod bod yna rwystrau o ran costau recriwtio a rheoli prentisiaid, ynghyd â diffyg ymwybyddiaeth ynghylch sut i recriwtio prentisiaid. Dylai cyllido ychwanegol dargedu’r rhwystrau i fusnesau bach a chanolig ymgymryd â phrentisiaethau.

• Cefnogi galluoedd Arweinyddiaeth a Rheoli busnesau bach a chanolig

Yn ein hymchwil, mae adeiladu gallu craidd i reoli pobl a gwella gallu cwmnïau i fabwysiadu sgiliau newydd er mwyn ehangu yn gam cyntaf angenrheidiol tuag at wella busnes. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru ailgyflwyno cynnig arweinyddiaeth a rheolaeth eang i fusnesau yng Nghymru.

• Cymhelliant ar gyfer cyflogaeth i fusnesau bach a chanolig

Mae busnesau bach a chanolig yn cyfrif am oddeutu tair rhan o bump o gyflogaeth y sector preifat yng Nghymru, mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad. Er gwaethaf hyn, gwyddom fod rhan sylweddol o’r farchnad lafur yng Nghymru yn anweithredol yn economaidd. Trwy’r pwerau cymorth cyflogaeth sydd newydd eu datganoli, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cymhelliant ar gyfer cyflogaeth newydd i fusnesau bach a chanolig. Gallai hyn fod yn debyg i gynlluniau blaenorol fel Twf Swyddi Cymru.

Bargen Newydd i Fusnesau

Galw am Weithredu!

Mae Cymru mewn cyfnod hollbwysig. Bydd y penderfyniadau a wneir yn ystod tymor nesaf y Senedd yn pennu a yw ein busnesau bach a’n cwmnïau teuluol sy’n cyflogi’r rhan fwyaf o weithwyr ledled Cymru ac yn cadw ein cymunedau’n fyw, yn cael eu grymuso i dyfu, neu a ydynt yn cael eu gadael i ymladd i ddim ond goroesi.

Mae FfBB Cymru a’n haelodau yn barod i bartneru â’r llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i gyflawni’r newidiadau ymarferol a nodir yn ein maniffesto. Yn y bon, rydym yn gofyn am y sicrwydd, y tegwch a’r uchelgais a fydd yn caniatáu i fusnesau ac entrepreneuriaid angerddol ym mhob cwr o Gymru fuddsoddi, cyflogi ac arloesi â hyder.

Felly, rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol, pob darpar ymgeisydd ac, yn anad dim, Llywodraeth nesaf Cymru a’r Aelodau sy’n dychwelyd i’r Senedd a’r rhai newydd, i ymrwymo i wneud tymor y Senedd 2026/30 yn Dymor Busnesau Bach. Bydded iddo fod yn dymor y Senedd sy’n blaenoriaethu busnesau bach a chanolig, dileu beichiau diangen, ac adeiladu economi sy’n gweithio i bob cymuned ledled Cymru.

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook