

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Sir Gaerfyrddin yn cynnig grantiau o hyd at £1500 i gefnogi Gweithgareddau Cymunedol ar gyfer Bioamrywiaeth.
Nod y grant yw helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd bioamrywiaeth ac i gefnogi gweithgareddau cymunedol cysylltiedig.
Os oes gennych syniad am brosiect ac yr hoffech wneud cais, llenwch y ffurflen gais amgaeedig.
Cyflwyniad:
Rhaglen Llywodraeth Cymru yw Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, gyda'r nod o greu a chefnogi prosiectau i adfer a gwella natur mewn cymunedau lleol. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd uchel a'r rhai sydd heb lawer o fynediad at natur yng Nghymru, yn enwedig mewn amgylcheddau trefol ac o gwmpas trefi.
Ar draws Sir Gaerfyrddin, mae amrywiaeth o brosiectau'n cael eu cyflawni mewn partneriaeth â'r Cyngor Sir a'r Bartneriaeth Natur Leol, gan weithio gydag ystod eang o sefydliadau, grwpiau ac unigolion yn y gymuned i ddatblygu partneriaethau cryf a rhwydweithiau cynaliadwy ar gyfer adfer natur.
Efallai na fyddwn bob amser yn ei werthfawrogi, ond mae ein llesiant yn dibynnu ar iechyd yr amgylchedd naturiol. Os ydym am amddiffyn a'i adfer yn llwyddiannus, mae angen cynllun da arnom ac mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i'w gyflawni.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Sir Gaerfyrddin yma.
1/. Gellir defnyddio'r grant hwn i ariannu gweithgareddau prosiect sy'n seiliedig ar natur, fel: - darparu digwyddiad/gweithgaredd cyhoeddus a fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth ardal - cyflawni neu dderbyn sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr - creu deunydd hyrwyddo neu weithgareddau artistig sy'n ymwneud â bioamrywiaeth.
Gallwch gyfuno gwahanol elfennau o'r math hwn o weithgaredd fel rhan o gynnig eich prosiect. Gall y grant hwn dalu costau gweithgarwch y prosiect, ond nid oes modd ei ddefnyddio i brynu offer / seilwaith cyfalaf ac ati. Os oes angen eitemau o'r math hwn arnoch i chi gyflawni eich gweithgaredd, cysylltwch â mcollinson@sirgar.gov.uk am help i'ch cyfeirio at gyllid/llyfrgelloedd offer ac ati.
2/. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod 100 o arolygon Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael eu llenwi . Bydd hyn yn ein helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o ddiddordebau ac agweddau pobl leol, sy'n ymwneud â'u cymuned a'r amgylchedd naturiol a bydd yn cefnogi datblygiad prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.
Ein nod yw ymgysylltu â demograffig eang, felly hoffem i sefydliadau (fel chi) estyn allan at eich gwirfoddolwyr a'ch buddiolwyr - i gael eu barn ac iddyn nhw gasglu barn eu cyfoedion/teulu/cymdogion ac ati.
Os ydych am gyflwyno cais am y grant hwn, a fyddech cystal â llenwi a dychwelyd y ffurflen gais hon.
Argymhellir eich bod yn darllen trwy'r nodiadau a'r canllawiau isod cyn cwblhau eich cais. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y grant hwn neu os hoffech gael cyngor a chefnogaeth ynghylch eich syniad am brosiect, cysylltwch â mcollinson@sirgar.gov.uk.
Enw'r
Sefydliad:
Dau Enw Cyswllt a Chyfeiriadau
Rhif Ffôn:
E-bost:
Teitl y Prosiect
Cyfeiriad y Prosiect (os yw'n wahanol i'r cyfeiriad uchod)
1. Nodwch statws eich sefydliad (Os ydych yn elusen nodwch eich rhif cyfeirnod)
Enw Cyfrif Ariannol y Sefydliad
Côd Didoli
Rhif y Cyfrif
Sawl person awdurdodedig sy'n gorfod llofnodi er mwyn i arian gael ei dalu o'r cyfrif hwn?
Enw(au) a Swydd(i)
A yw eich sefydliad yn gallu hawlio TAW? Ydy Nac ydy Rhif Cyfeirnod TAW:
2. Beth yw syniad eich prosiect ac at ba ddiben y bydd y grant yn cael ei ddefnyddio?
3. Sut bydd eich prosiect yn helpu i (a) gwella bioamrywiaeth, (b) codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'i bwysigrwydd a (c) hyrwyddo gweithgareddau cymunedol perthnasol?
4. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod arolygon Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael eu llenwi'n effeithiol? (Gweler pwynt 5 o'r nodiadau a chanllawiau isod)
5. Cynaliadwyedd yn y dyfodol – pwy fydd yn gyfrifol am waith cynnal a chadw a rhwymedigaethau eich prosiect yn y dyfodol? Dywedwch wrthym sut y bydd eich prosiect yn cynnal ei hun yn ariannol yn y dyfodol?
6. Cadarnhewch a fydd lleoliad eich prosiect yn hygyrch i'r cyhoedd?
Bydd ☐/ Na fydd ☐
Rhowch y manylion os gwelwch yn dda:
7/. A oes gennych ganiatâd gan dirfeddiannwr safle'r prosiect arfaethedig?
Oes ☐ / Nac Oes ☐
Rhowch y manylion os gwelwch yn dda:
8/. A oes gan eich grŵp yswiriant atebolrwydd cyhoeddus addas ar gyfer y gweithgareddau arfaethedig?
Oes ☐ / Nac Oes ☐
Rhowch dystiolaeth o hyn gyda'ch cais.
9. Ariannol – Costau'r Prosiect
Rhowch fanylion am gyfanswm cost eich prosiect:
Cyfalaf Oes/Nac Oes a/neu
Refeniw Oes/Nac Oes
10. Nodwch unrhyw wybodaeth berthnasol arall:
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gorff cyllido ôl-weithredol. Mae'n rhaid i grwpiau dalu ymlaen llaw am holl wariant y prosiect a hawlio'r cyllid a ddyrannwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ni ellir ystyried unrhyw wariant a dynnwyd cyn i'r 'Llythyr Cynnig y Gronfa Gymunedol' gael ei gyhoeddi, ac mae hyn hefyd yn cynnwys lle mae contractau wedi'u llofnodi neu lle mae gorchmynion wedi'u gosod.
Bydd yr Awdurdod yn cadw cofnod o’r wybodaeth a nodir ar y ffurflen gais hon. Bydd y wybodaeth a nodir yn cael ei defnyddio hefyd gan swyddogion yr Awdurdod er mwyn monitro, adolygu a dadansoddi ei gynlluniau grant.
Y Rhestr Wirio a'r Dogfennau Ategol
Copi o Ddogfen Lywodraethu (e.e. Cyfansoddiad)
Cyfrifon / Cyfriflenni Banc
Tystiolaeth o Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
Datganiad
Rwy'n datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn y ffurflen hon yn gywir. Llofnodwr 1 Llofnodwr 2
Llofnodwyd ar ran y Grŵp:
Nodwch enwau mewn
llythrennau bras:
Swydd o fewn y Grŵp:
Dyddiad:
Anfonwch y ffurflen at y canlynol: m.collinson@carmarthenshire.gov.uk
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (y Biwro) yn casglu data personol amdanoch drwy’r ffurflen hon er mwyn inni fedru ymdrin â'ch cais. I gael gwybod rhagor am y ffordd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP. E-bost: diogeludata@sirgar.gov.uk
Ffoniwch 01267 224127 i gael ein Hysbysiad Preifatrwydd, neu ewch i'n gwefan www.sirgar.llyw.cymru
Nodiadau a Chyfarwyddyd:
1/. Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried a'u sgorio ar raddfa a gwerth eu heffaith h.y. budd i'r gymuned leol, bioamrywiaeth ac ehangder yr ymgysylltu.
2/. Croesawir ffocws ar weithio mewn partneriaeth a rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy'n gallu dangos dulliau cydweithredol.
3/. Mae'r cynllun grant hwn ond yn berthnasol i sefydliadau a gweithgareddau prosiect yn Sir Gaerfyrddin.
4/. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion a chanllawiau ynghylch bioamrywiaeth yma: Bioamrywiaeth (llyw.cymru) deddf-yr-amgylchedd-cymru-2016-bioamrywiaeth-a-chryfhau-ecosystemau-cwestiynaucyffredin.pdf (llyw.cymru)
5/. Dylid cwblhau arolygon cyn gynted â phosibl yn y broses. Gall arolygon gael eu cwblhau gan wirfoddolwyr/buddiolwyr eich prosiect, a gan aelodau eraill o'r cyhoedd yr ydych yn ymgysylltu â nhw. Yn ddelfrydol, hoffem hefyd weld gwirfoddolwyr yn ymgysylltu y tu hwnt i rwydwaith eich sefydliad a mynd at eu cyfoedion / cymdogion / perthnasau ac ati. Bydd angen gwirio canlyniadau'r arolygon ar Lwyfan Ymgysylltu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, felly gwnewch yn siŵr bod enw'ch sefydliad yn cael ei gynnwys (o fewn y maes perthnasol) ar ddiwedd pob ymateb i'r arolwg.
6/. Gellir cynnwys eich amser gwirfoddoli wrth gyflawni gwaith ymgysylltu gydag arolygon Lleoedd Lleol ar gyfer Natur o fewn y costau ar gyfer eich prosiect. Dylid costio'r amser gwirfoddoli o’r math hwn ar £20 yr awr, gan gynnwys (er enghraifft) costau teithio, hyfforddiant, goruchwylio, cyfleusterau, yswiriant ac ati.
7/. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Llythyr Cynnig, ynghyd â Thelerau ac Amodau'r grant, y mae'n rhaid ei lofnodi a'i ddychwelyd cyn dechrau'r prosiect
8/. Ar ôl i Delerau ac Amodau'r cynnig grant gael eu dychwelyd ac i unrhyw ofynion caffael ac amodau grant arbennig gael eu bodloni, bydd angen i chi hawlio'r grant, yn nodi'r costau y cytunwyd arnynt.
8
9/. Bydd grantiau'n cael eu talu yn ôl-weithredol, a hynny ar ôl cyflwyno tystiolaeth o wariant ar ffurf anfonebau gwreiddiol a dalwyd a chyfriflenni banc perthnasol sy'n dangos gwariant y prosiect.
10/. Gellir anfonebu am oriau gwirfoddoli ar gyfer gwaith yr arolwg yn uniongyrchol, ond dim ond am yr oriau y cytunwyd arnynt.
11/. Bydd angen i chi ddarparu cofnod ysgrifenedig byr o'ch prosiect a rhai lluniau o'r canlyniad(au).
12/. Bydd angen i chi gwblhau'r prosiect a hawlio’r grant erbyn 1 Mawrth 2025.
13/. Mae'n rhaid bod gan dderbynwyr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus addas ar gyfer unrhyw waith a wneir o dan y cynllun a bydd angen iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn cyn cael eu derbyn ar gyfer y grant.
14/. Mae'r trefnwyr yn gyfrifol am sicrhau asesiadau risg addas a rheolaeth drwy gydol y prosiect.