Skip to main content

Cylchlythyr Cymru Ifanc

Page 1

Cylchlythyr Cymru Ifanc Hydref 2023 www.childreninwales.org.uk


2 | childreninwales.org.uk

Croeso

3

Ymgyrch Gwrth-fwlio Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent

4

Dathlu Amrywiaeth a Chydraddoldeb: Taith y Gymuned LHDTC tuag at Dderbyn

5

Grymuso lleisiau ifanc trwy ein gwaith ymgynghori

7

Beth Sydd Nesaf?

10

Dyfyniad gan Wirfoddolwr Ifanc

11

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Adroddiad y Cenhedloedd Unedig

12

Prosiect Newydd i Cymru Ifanc – Rhwydwaith Lleisiau Ifanc

14

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol – Pam ei fod yn bwysig?

16


Hydref 2023 | 3

Dathlu Mis Hanes Pobl Dduon a hyrwyddo amrywiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru Bydd cylchlythyr Cymru Ifanc ym mis Hydref yn canolbwyntio ar ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, a rhannu arfer da o ran sut mae sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ddangos eu gwerth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei gynnal bob mis Hydref ac yn dathlu cyfraniadau pobl ddu i gymdeithas Prydain. Dyma gasgliad o’r gwaith cadarnhaol y mae sefydliadau yn gwneud gyda phlant a phobl ifanc i hyrwyddo amrywiaeth.


4 | childreninwales.org.uk

Ymgyrch Gwrth-fwlio Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent Roedd y Maer Ifanc blaenorol ar gyfer 2021/2022, Chloe Lines, eisiau siarad am ei phrofiadau o fwlio a chreu ymgyrch i annog plant a phobl ifanc i siarad. Gan gydweithio fel Fforwm Ieuenctid â Chwmni Ffilmiau Cymru Creations, datblygodd y grŵp sgript a chreu ffilm ar gyfer y prosiect.

Mae’r straeon yn y ffilm yn rhai go iawn sy’n cael eu rhannu er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog plant a phobl ifanc i siarad. Lansiwyd y ffilm ar ddiwedd 2022 a’i chyflwyno i Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Plant Cymru. Rwy’n falch o ddweud bod y ffilm wedi cael ei henwebu ar gyfer rowndiau terfynol y wobr.

Nododd y Fforwm Ieuenctid sawl ffordd y gall plentyn neu berson ifanc gael ei fwlio ac roedd am greu rhywbeth dilys. Mae’r ffilm yn archwilio

Ar y cam hwn, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw’r canlyniad – byddwn ni’n cael gwybod ddiwedd mis Hydref a yw Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent wedi ennill. Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod hyn yn dyst i waith caled Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent sy’n parhau i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

•

rhywun nad yw’n ffitio i mewn ac sy’n cael ei adael allan

•

rhywun nad yw’n cael ei dderbyn oherwydd ei rywioldeb

•

rhywun yn cael ei drin mewn ffordd annheg oherwydd anabledd dysgu a

•

rhywun yn cael ei fwlio’n gorfforol.

Gallwch wylio’r ffilm gan ddefnyddio’r dolenni isod sy’n cynnwys isdeitlau dwyieithog. Mynd i’r afael â bwlio ac annog plant a phobl ifanc i siarad | Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)


Hydref 2023 | 5

Dathlu Amrywiaeth a Chydraddoldeb: Taith y Gymuned LHDTC tuag at Dderbyn Harvey Marshall

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gymuned LHDTC wedi cymryd camau sylweddol tuag at sicrhau cydraddoldeb a derbyn. Gydag ymdrechion diflino ymgyrchwyr, cynghreiriaid, ac aelodau’r gymuned, mae cynnydd wedi’i wneud i chwalu rhwystrau a hyrwyddo cynhwysiant.

Fodd bynnag, er gwaethaf y datblygiadau hyn, mae heriau o hyd. Mae gwahaniaethu a rhagfarn yn parhau i rwystro cynhwysiant lawn y gymuned LHDTC. Mae troseddau casineb a gweithredodd treisgar yn ein hatgoffa o bwysigrwydd eiriolaeth ac addysg barhaus.

Un o’r prif gerrig milltir yn ystod y daith hon oedd cyfreithloni priodasau un rhyw mewn llawer o wledydd ledled y byd. Roedd y penderfyniad pwysig hwn yn cydnabod cariad ac ymrwymiad cyplau LHDTC, gan roi’r un hawliau a breintiau iddyn nhw â chyplau heterorywiol.

Mewn ymateb i’r heriau hyn, mae sefydliadau a rhwydweithiau cefnogaeth LHDTC wedi dod i’r amlwg, gan ddarparu adnoddau a mannau diogel i unigolion ymgysylltu a dod o hyd i gymorth. Mae’r sefydliadau hyn yn chwarae rôl hanfodol wrth hybu iechyd meddwl, cynnig gwasanaethau cwnsela, a siarad o blaid hawliau LHDTC ar lefel lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol.

Ynghyd â llwyddiannau cyfreithiol, mae agweddau cymdeithasol hefyd wedi datblygu. Mae mwy a mwy o bobl yn cofleidio’r gymuned LHDTC, gan herio stereoteipiau, a meithrin diwylliant o dderbyn. Mae gorymdeithiau a digwyddiadau Pride yn symbol pwerus o undod, lle mae unigolion o bob rhan o gymdeithas yn dod ynghyd i ddathlu amrywiaeth a hyrwyddo hawliau LHDTC.


6 | childreninwales.org.uk

Mae’r gymuned LHDTC hefyd wedi dod o hyd i lais pwerus mewn diwylliant poblogaidd. Drwy ffilmiau, sioeau teledu, a cherddoriaeth, mae straeon LHDTC yn cael eu hadrodd, gan feithrin empathi a dealltwriaeth ymysg cynulleidfaoedd ehangach. Mae’r gynrychiolaeth hon yn helpu i chwalu stereoteipiau ac yn annog deialog am faterion LHDTC. Mae addysg yn agwedd hanfodol arall ar ddatblygu hawliau LHDTC. Mae ysgolion a sefydliadau addysg yn gynyddol rhoi cwricwla cynhwysol ar waith sy’n addysgu amrywiaeth, parch a derbyn. Drwy hybu addysg LHDTCgynhwysol, gallwn greu cymdeithas fwy cynhwysol a llawn dealltwriaeth. Mae’n bwysig cydnabod fod y daith tuag at gydraddoldeb lawn yn mynd rhagddi o hyd. Mae rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, ond

mae mwy o waith i’w wneud. Mae cefnogi unigolion LHDTC, herio gwahaniaethu, a siarad o blaid hawliau cyfartal yn gyfrifoldebau arnom ni i gyd. I gloi, mae’r gymuned LHDTC wedi cymryd camau sylweddol tuag at gydraddoldeb a derbyn. Mae llwyddiannau cyfreithiol, agweddau cymdeithasol datblygol, ac ymddangosiad rhwydweithiau cefnogaeth wedi cyfrannu at y cynnydd hwn. Fodd bynnag, mae heriau a gwahaniaethu o hyd, sy’n pwysleisio’r angen am addysg ac eiriolaeth barhaus. Drwy ddathlu amrywiaeth, hyrwyddo cynhwysiant, a herio rhagfarn, gallwn greu byd lle mae pawb, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd, yn cael eu derbyn a’u gwerthfawrogi.


Hydref 2023 | 7

Grymuso lleisiau ifanc trwy ein gwaith ymgynghori Rachel Clement

Ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, cychwynnodd Cymru Ifanc ar daith i sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi yn ystod proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Gan gofleidio egwyddorion erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n pwysleisio hawl plant i gael eu clywed mewn materion sy’n effeithio arnynt, mae’r ymgynghoriadau hyn yn chwarae rôl hanfodol wrth lunio polisïau a rheoliadau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau unigolion ifanc. Yn yr erthygl, rydym yn ystyried y tri ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod y misoedd hyn.

Ymgynghoriad 1 – Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ac Ymgysylltiad Disgyblion mewn Ysgolion Annibynnol •

Catch 22

•

Kings Monkton

•

Woodlands Limited

Dechreuodd ein taith gyda ffocws ar ysgolion annibynnol. Hwylusodd Cymru Ifanc ymgynghoriadau gyda thair ysgol annibynnol, gan ymgysylltu â 17 o blant a phobl ifanc. Cynlluniwyd y sesiynau hyn, a gynhaliwyd ar-lein, i gasglu mewnbwn a mewnwelediadau i lywio’r gwaith o ddatblygu rheoliadau a safonau ysgolion annibynnol. Chwaraeodd cyfranogiad y bobl ifanc hyn rôl hanfodol wrth sicrhau bod rheoliadau yn cyd-fynd â’u hanghenion a’u disgwyliadau. Dyma rhai o’u mewnwelediadau gwerthfawr. “Rydyn ni i gyd yn wahanol yn ein hysgol ac rydyn ni’n cael ein haddysgu i barchu ein gilydd a’r athrawon” “Rwy’n teimlo bod rhywun yn gwrando arna i ac yn fy ngwerthfawrogi; fel pan fyddaf yn cael cynnig bod yn rhan o gyfweliadau staff – mae’n dda eu bod nhw eisiau gwrando ar farn y disgyblion”


8 | childreninwales.org.uk

Dyma rhai o’r canlyniadau a gyniwyd gan y disgyblion:

“Mae angen mwy o arweiniad i rieni a phobl ifanc”

•

Parchu eraill – mae angen mwy o gyfleoedd a phrofiadau.

•

Adrodd pan fo rhywbeth o’i le yn yr adeilad – mae angen mwy o gyfleoedd i roi adborth a sut y gellir gwneud hyn yn ddienw, e.e. e-bostio, blwch awgrymiadau ac ati.

Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys cyflwyniadau, gweithgaredd dod i adnabod ei gilydd, gweithgaredd datganiadau a thrafodaethau grŵp gyda chwestiynau cylchdroi er mwyn casglu adborth cynhwysfawr. Cynhaliwyd pob ymgynghoriad yn yr ysgol am awr gyda 10 disgybl yn yr un flwyddyn ysgol.

Ymgynghoriad 2 – Presenoldeb ac Ymddygiad 1. 1Ysgol Gymraeg Y Trallwng, Y Trallwng – Cyngor Sir Powys 2. Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd – Cyngor Sir Powys

Dyma rhai o’r canlyniadau a gyniwyd gan y disgyblion: •

Defnyddio iaith glir a hygyrch

•

Fersiwn sy’n addas i blant / pobl ifanc a’u rhieni

•

Dylid ystyried diagramau / cymhorthion gweledol i wella hygyrchedd a dealltwriaeth y canllaw

3. Ysgol Alun, Yr Wyddgrug – Sir y Fflint 4. Coleg Cymunedol Y Dderwen, Pen-y-bont ar Ogwr – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 5. Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin – Cyngor Sir Caerfyrddin 6. Ysgol Gyfun Aberpennar – Rhondda Cynon Taf Cynhaliwyd yr ail ymgynghoriad hwn mewn cydweithrediad â chwe ysgol, a oedd yn cynnwys 175 o blant a phobl ifanc rhwng 6 ac 17 oed. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar ddogfen ganllaw drafft perthyn, ymgysylltu a chyfranogi. Drwy sesiynau rhyngweithiol, rhannodd disgyblion eu teimladau, pryderon ac awgrymiadau gwerthfawr, gan helpu i fireinio a gwella’r canllaw drafft. “Mae gormod o eiriau – mae angen crynhoi’r ddogfen”

Ymgynghoriad 3 – Cod Ymddygiad Teithio Cymru Gyfan 1. Ysgol Gymraeg Y Trallwng, Y Trallwng – Cyngor Sir Powys 2. Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd – Cyngor Sir Powys 3. Ysgol Alun, Yr Wyddgrug – Sir y Fflint 4. Coleg Cymunedol Y Dderwen, Pen-y-bont ar Ogwr – Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 5. Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin – Cyngor Sir Caerfyrddin 6. Ysgol Gyfun Aberpennar – Rhondda Cynon Taf Yn y trydydd ymgynghoriad, troesom ein sylw at god Ymddygiad Teithio Cymru Gyfan Gyda diolch i’r chwe ysgol a gymerodd ran,


Hydref 2023 | 9

ymgysylltom â 69 o blant a phobl ifanc rhwng 5 ac 16 oed. Cynlluniwyd y sesiynau hyn i gasglu mewnwelediadau am y cod ymddygiad teithio, gan gynnwys dogfennau a phosteri dwy ran. Rhannodd y bobl ifanc eu teimladau a’u hawgrymiadau, gan gyfrannu at wella cyfleustra a diogelwch teithio i bob disgybl. “Mae angen i ni wybod pwy i gysylltu â nhw os bydd problem” “Dylai hynny gael ei ddysgu i ni – sut ydyn ni fod i wybod beth yw ein rolau a’n cyfrifoldebau os nad oes neb yn dweud wrthym?” Awgrymiadau ar gyfer gwelliannau gan y disgyblion: •

•

Gweithredu gweithdai neu wersi addysgol ar y cod ymddygiad teithio ac annog ymdeimlad o gyfrifoldeb ymysg myfyrwyr. Gallai hyn fod yn becyn a anfonir at ysgolion gyda chynllun sesiwn y gallai athrawon ei addasu a’i gyflwyno i’r myfyrwyr. Sicrhau fod bob plentyn a pherson ifanc yn gwybod pwy yw’r person dynodedig yn eu hysgolion y gallan nhw fynd ato os bydd problemau teithio – gall hyn gynnwys disgyblion ac unrhyw gwynion am y gyrwyr bysiau. Ystyried rhoi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar waith drwy gydol y flwyddyn ysgol i roi gwybod i ddisgyblion am y system cymorth.

Mae’r ymgynghoriadau hyn wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr ac wedi grymuso lleisiau ifanc i fod yn gyfranogwyr wrth lywio dyfodol eu haddysg. Ar ran Llywodraeth Cymru a Cymru Ifanc, hoffem ddweud diolch yn fawr i bob plentyn a pherson ifanc a gymerodd ran yn yr ymgynghoriadau hyn. Mae pob cyfraniad wedi cyfoethogi’r gwaith, wedi ein hysbrydoli i wneud yn well ac wedi atgyfnerthu ein cred ym mhŵer lleisiau ifanc i lywio dyfodol gwell i bob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yng Nghymru.

Ymgynghoriadau yn y dyfodol Nid yw’n hymrwymiad i godi lleisiau plant a phobl ifanc yn dod i ben yma. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Cymru Ifanc yn parhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ledled Cymru, gan hwyluso ymgynghoriadau ar bynciau sy’n bwysig i chi. Os hoffech chi gymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â rachel.clement@childreninwales.org.uk


10 | childreninwales.org.uk

d d y S h t Be saf? Ne Meagan Griffiths Fel cymuned, dydyn ni ddim yn gwneud digon i gefnogi merched a menywod Du yn fy marn i. Yn bersonol, mewn ardal sy’n bennaf wyn, mae’n anodd cysylltu â’r ychydig fenywod Du yn yr ardal, a gwrando arnyn nhw, er eu bod nhw yno. Rwy’n ceisio gwrando ar unrhyw newid y mae arnyn nhw ei angen a’i eisiau. Dydy’r esgus hwnnw ddim yn ddilys i raddau mwyach – mae twf y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r gallu i gysylltu â nhw a sicrhau newid drwy ein dyfeisiau. Mae’r cylchlythyr hwn, er enghraifft, yn ffordd o ledaenu’r angen hwn – rwy’n gofyn i unrhyw un godi ei lais a rhannu sut gall fy ardal i helpu. Fel person gwyn ifanc, alla i ddim siarad am brofiadau pobl ifanc Du oherwydd breintiau fy hil. Yn ystod mudiad byd-eang Black Lives Matter, cynyddodd fy ymwybyddiaeth o’r sefyllfa roedd llawer yn ei hwynebu, yn enwedig y rheini yn America. Rwy’n euog o fod yn ddall i’r sefyllfa ar y cychwyn, heb dalu sylw i’r ffordd y mae’r rheini o fy nghwmpas yn cael eu trin; rwy’n siŵr y byddai llawer yn cyfaddef yr un

peth. I mi, roedd y mudiad yn agoriad llygad; roedd yn amlygu triniaeth ofnadwy pobl o liw ledled y byd, drwy bregethu a phrotestio dros gydraddoldeb. Mynychais brotest yn 2020 yn fy ardal leol lle roeddwn wedi fy amgylchynu gan angerdd ac egni cymuned a oedd yn cydweithio dros newid. Mae’n anodd esbonio’r ymdeimlad o ysbrydoliaeth a gefais o’r brotest – rwy’n siŵr bod hyn yn brofiad cyffredin. ... ond beth sydd nesaf? Yn ystod Covid, bu postiadau a phrotestiadau cyson, gyda dylanwadwyr yn rhannu profiadau â chynulleidfa enfawr... beth rydyn ni’n ei wneud nesaf? Efallai nad ydw i yn chwilio’n ddigon caled – dyna pam rydw i’n rhannu fy nheimladau. Mae dyfalbarhad yn allweddol i greu newid i ddylanwadu ar ein cymunedau. Dysgu pethau. Cwestiynu penderfyniadau. Mae pobl ifanc o liw yn haeddu’r un driniaeth â phobl wyn.


Hydref 2023 | 11

Pan fyddwch chi’n edrych ar hanes pobl Ddu yn y DU, mae’n anodd credu nad oedd unrhyw gyfreithiau yn erbyn arwahanu, hyd yn oed yn ystod blynyddoedd cynnar fy nain a’m taid. Yn wir, roedd arwahanu yn digwydd mewn bariau a bu’n rhaid aros rhai blynyddoedd i roi’r ddeddf ar waith, hyd yn oed ar ôl ei chyflwyno yn 1965. Rydym yn byw mewn byd lle mae plant o bob lliw, hil a chrefydd yn sefyll ochr yn ochr ac yn gweld ei gilydd yn gyfartal sy’n beth gwych. Ac eto i gyd, rydym yn clywed straeon am anghydraddoldeb hiliol ymysg oedolion. Rwy’n credu bod gennym ni fel pobl ifanc ac oedolion gymaint i’w ddysgu gan ddiniweidrwydd plant. Rwy’n gobeithio y byddwn ni i gyd, un diwrnod, yn cael ein gweld yn gyfartal, waeth beth fo’n lliw, hil neu grefydd... Ayse Gulcimen Dyfyniad gan Wirfoddolwr Ifanc


12 | childreninwales.org.uk

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Adroddiad y Cenhedloedd Unedig

Ym mis Chwefror, aeth gwirfoddolwyr Cymru Ifanc i Genefa i gyfarfod â Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Aeth pobl ifanc eraill o wahanol rannau o’r DU i’r cyfarfod. Roedd oedolion yno hefyd sy’n gweithio ar hawliau plant, fel Comisiynwyr Plant. Cyn hyn, roedd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc wedi gweithio gyda staff i gyd-gynhyrchu adroddiad ar hawliau plant yng Nghymru. Gallwch weld yr adroddiad yma. Defnyddiodd staff a gwirfoddolwyr Cymru Ifanc lawer o wahanol fathau o wybodaeth i ysgrifennu’r adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys ymgynghoriadau Cymru Ifanc, arolwg, ac adroddiadau gan sefydliadau eraill. Yn seiliedig ar hyn oll, rhoddwyd 13 o feysydd blaenoriaeth yn nhrefn pwysigrwydd lle roedden nhw’n teimlo bod angen newid. Ar gyfer bob maes,

cynigwyd argymhellion ar sut i helpu plant i ddefnyddio’u hawliau. Un o’r meysydd blaenoriaeth yn yr adroddiad oedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Roedd yr adroddiad yn rhoi dau argymhelliad ar gyfer y maes hwn: •

Sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo’n ddiogel trwy gyflwyno mwy o gyfreithiau i’n hamddiffyn ni i gyd.

•

Cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y Cwricwlwm Newydd i bobl ifanc ac mewn hyfforddiant i athrawon.

Ym mis Mai, aeth gwirfoddolwyr Cymru Ifanc yn ôl i’r Cenhedloedd Unedig. Y tro hwn, siaradodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig â llywodraethau’r DU – gan gynnwys Llywodraeth


Hydref 2023 | 13

Cymru. Wedi hyn, ysgrifennodd y pwyllgor adroddiad gydag argymhellion ar gyfer y llywodraethau (1). Roedd yn dangos sut y gallai’r llywodraethau wneud yn siŵr bod plant sy’n byw yn y DU yn defnyddio’u hawliau. Roedd rhan o’r adroddiad yn canolbwyntio ar wahaniaethu. Dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig fod y gwahaniaethu sy’n bodoli yn y DU yn ei boeni. Dywedodd fod yn rhaid i lywodraethau’r DU, fel Llywodraeth Cymru, ddod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â gwahaniaethu. Mae Llywodraeth Cymru yn meddwl am ffyrdd y gall ymateb i’r argymhellion. Fel rhan o hyn, mae am siarad â phobl ifanc a chasglu eu barn. Yn Cymru Ifanc, rydym yn sefydlu grŵp Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig i drafod hyn gyda Llywodraeth Cymru. Bydd aelodau o’r grŵp yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth adroddiad Cymru Ifanc i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig, fel Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech chi gymryd rhan yn y grŵp hwn, cofrestrwch i fod yn wirfoddolwr Cymru Ifanc yn https://forms.office.com/e/L0a1etADvf. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch bethany.turner@childreninwales.org.uk

1. OHCHR - (2023). Concluding observations on the combined sixth and seventh periodic reports of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland. Ar gael yn: https://tbinternet.ohchr.org/_layouts/15/ treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CRC%2F C%2FGBR%2FCO%2F6-7&Lang=en


14 | childreninwales.org.uk

Prosiect Newydd i Cymru Ifanc

h t i a w d y w Rh c n a f I u a i Lleis

Ym mis Mai, cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yng Nghymru am y tro cyntaf (1). Roedd hyn yn ffordd wych i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Er gwaethaf hyn, dim ond tua hanner pobl ifanc 16 ac 17 oed a gofrestrodd i bleidleisio yn yr etholiad hwn (2). Mewn etholiadau DU gyfan, dim ond y rhai hynny dros 18 oed sy’n cael pleidleisio. Yn etholiad cyffredinol 2019, pleidleisiodd llai na hanner y rhai hynny rhwng 18 a 24 oed (3). Pleidleisiodd tua 3 o bob 4 person dros 65 oed.

Nid oedran yw’r unig ffactor sy’n effeithio ar ba mor debygol y bydd rhywun o bleidleisio. Mae’r rhai hynny sydd â llai o arian yn llawer llai tebygol o bleidleisio na’r rhai hynny sydd â mwy o arian. Mae dynion yn fwy tebygol o bleidleisio na menywod. Mae pobl wyn yn fwy tebygol o bleidleisio na’r rhai hynny o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae’r ffactorau hyn hefyd yn croestorri. Er enghraifft, mae pobl hŷn sydd â mwy o arian yn llawer mwy tebygol o bleidleisio na phobl ifanc gyda llai o arian.


Hydref 2023 | 15

Mae’n amlwg bod grwpiau penodol o bobl yn ymgysylltu llai â democratiaeth nag eraill. Efallai eu bod yn teimlo nad yw eu pleidlais o bwys (4). Efallai eu bod yn teimlo na fyddai neb yn yr etholiad yn eu cynrychioli. Efallai nad ydyn nhw’n credu bod gwleidyddiaeth ac etholiadau yn bwysig neu’n ddiddorol. Efallai eu bod yn teimlo nad ydyn nhw’n deall digon am wleidyddiaeth. Efallai mai’r holl resymau hyn yw’r rheswm dros beidio pleidleisio, neu rywbeth arall.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn helpu pobl i ddysgu sut i bleidleisio a beth i’w ddisgwyl pan fyddan nhw’n pleidleisio.

Yn Cymru Ifanc, mae gennym brosiect cyffrous ar y gweill am etholiadau a democratiaeth. Rydym yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol i helpu i fynd i’r afael â diffyg pleidleisio ymysg pobl ifanc.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp hwn, cofrestrwch yma yn gyntaf https://forms.office.com/e/L0a1etADvf i wirfoddoli gyda Cymru Ifanc. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch bethany.turner@childreninwales.org.uk

1. Senedd Cymru (2019) Hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio – diwrnod hanesyddol i ddemocratiaeth yng Nghymru [ar-lein] Ar gael yn: https://senedd.cymru/ senedd-nawr/newyddion/hawl-i-bobl-ifanc-16-ac-17-oedbleidleisio-diwrnod-hanesyddol-i-ddemocratiaeth-yngnghymru/

3. IPSOS (2019) How Britain voted in the 2019 election [ar-lein] Ar gael yn: https://www.ipsos.com/en-uk/howbritain-voted-2019-election

2. BBC News (2021) Welsh elections: At least 35,000 young people not registered to vote. [ar-lein] Ar gael yn: https://www.bbc.co.uk/news/uk-walespolitics-56919775

Mae Cymru Ifanc yn creu Rhwydwaith Lleisiau Ifanc newydd gyda’r Comisiwn Etholiadol. Bydd y Rhwydwaith yn cynhyrchu adnoddau i helpu i annog pobl ifanc i bleidleisio. Bydd hefyd yn rhoi ei barn ar brosiectau amrywiol gyda’r Comisiwn Etholiadol.

4. BBC News (2017) Why the Don’t Knows aren’t voting. (2017) [ar-lein] Ar gael yn: https://www.bbc.co.uk/news/ uk-england-39784404


16 | childreninwales.org.uk

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol – Pam ei fod yn bwysig? Russell Baker, Cymru Ifanc

Yr ateb syml yw bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan hanfodol o amgylchedd iach a bywiog. Po fwyaf yw amrywiaeth yr unigolion a’r syniadau, y mwyaf cyffrous, arloesol a pherthnasol fydd y canlyniadau. Po fwyaf cyfartal y mae pobl yn teimlo, y mwyaf tebygol maen nhw o gyfrannu, tra bod cynhwysiant yn galluogi unigolion neu grwpiau i deimlo’n ddiogel, wedi’u parchu, wedi’u cymell a’u cynnwys. Wrth gwrs, mae rhesymau ymarferol i’w hystyried o ganlyniad i nodweddion gwarchodedig. Mae hi’n erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn erbyn unrhyw un oherwydd nodwedd warchodedig ac felly dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan. Mae amgylcheddau cyfartal, teg, amrywiol a chynhwysol yn meithrin cyfranogiad cyffrous, arloesol a pherthnasol. Dyluniwyd y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol gyda chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd y safonau. •

•

Mae Safon 1 yn nodi y bydd gwybodaeth yn hawdd ei deall. Mae hyn yn galluogi unigolion i wneud penderfyniadau gwybodus sydd, yn eu tro, yn sicrhau cydraddoldeb a thegwch Mae Safon 2, “Chi biau’r dewis”, yn golygu fod pawb yn cael cymryd rhan. Yr unigolyn sy’n cael dewis cymryd rhan, neu beidio, a gweithio ar y pethau sy’n bwysig iddo.

•

Mae Safon 3, “Dim gwahaniaethu” yn glir ynghylch yr angen i gydnabod gwahaniaethu. Yn wir, mae’r safon yn mynd ymhellach gydag ymrwymiad i herio gwahaniaethu

•

Os nad oedd hyn yn ddigon, mae Safon 4, “Parch”, yn cwmpasu’r cyfan – mae gan bawb yr hawl i leisio barn. Mae barn pawb yn bwysig a bydd yn cael ei pharchu

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gyfrifoldeb ar bawb, ac mae angen i bob un ohonom ni fod yn gefnogwyr amlwg a gweithredol, gan werthfawrogi llais pawb a dangos cefnogaeth i wrando ar bob safbwynt. Mae egwyddorion sylfaenol cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, drwy weithio mewn ffordd gynhwysol, yn galluogi cyfranogiad i flodeuo. Bydd defnyddio prosesau amrywiol i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, e.e. paneli amrywiol ac iaith addas yn gwella cyfranogiad. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan o’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol; mae’n bwysig gan mai dyma’r egwyddorion y dylem ni fod yn eu dilyn ond, yn bwysicach na dim, bydd defnyddio’r egwyddorion yn gwella cyfranogiad ac allbynnau i’r unigolyn a’r grŵp.


21 Windsor Place, Cardiff CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cylchlythyr Cymru Ifanc by childreninwales - Issuu