Skip to main content

Cylchlythyr Cymru Ifanc - Tachwedd 2023

Page 1

Cylchlythyr Cymru Ifanc Tachwedd 2023 www.childreninwales.org.uk


2 | childreninwales.org.uk

Croeso

3

Dathlu cyfranogiad a hawliau plant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2023

4

Cydgynhyrchu ar waith – grŵp Cynllun Gwella’r Gyllideb yn Cymru Ifanc

5

Cymru Ifanc yn croesawu gwirfoddolwyr newydd

6

Cwrs Preswyl Cymru Ifanc yng Ngogledd Cymru

7

Gofalwyr Ifanc

8

A Oes Gennym Ddemocratiaeth Iach? Mae’n Bryd i chi gael Dweud eich Dweud

10

Arolygwyr Ifanc – Addysgwyr neu Aseswyr?

12

Dyfyniad gan Eve Lewis McLeod

13

Canlyniadau arolwg tlodi plant

14

Gŵyl Cymru Ifanc

16


Tachwedd 2023 | 3

Dathlu cyfranogiad a hawliau plant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2023 Mae cylchlythyr Cymru Ifanc mis Tachwedd yn canolbwyntio ar ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Plant, a rhannu arfer da gan sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a sut maen nhw’n blaenoriaethu hawliau a chyfranogiad plant. Bydd Diwrnod Rhyngwladol y Plant eleni yn cael ei ddathlu ar 20 Tachwedd 2023, ac mae’n nodi’r diwrnod y mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad ar Hawliau’r Plentyn ym 1959, a’r diwrnod y mabwysiadodd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ym 1989. Yn Plant yng Nghymru, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Plant drwy drefnu ein Gŵyl Cymru Ifanc flynyddol. Bydd eleni yn ddathliad fwy byth wrth i ni ddathlu pen-blwydd Plant yng Nghymru yn 30 oed.


4 | childreninwales.org.uk

Dathlu cyfranogiad a hawliau plant ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2023 Girija Deshmukh

Am ffordd wych o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Plant 2023, gydag UNICEF yn cydnabod Caerdydd fel y Ddinas gyntaf yn y DU sy’n Gyfeillgar i Blant. Mae’r newyddion yn fy atgoffa o ddyfyniad gan ymgyrchydd Indiaidd, Kailash Satyarthi, “Grym ieuenctid yw’r cyfoeth cyffredin ar gyfer y byd i gyd. Wynebau pobl ifanc yw wynebau ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol. Ni all unrhyw segment yn y gymdeithas gyfateb â grym, delfrydiaeth, brwdfrydedd a dewrder y bobl ifanc”. I mi, mae hawliau a chyfranogiad plant yn ymwneud â chynnwys plant a phobl ifanc wrth gynnig syniadau ac awgrymiadau ond hefyd, mae’n ymwneud â gwrando’n astud ar eu meddyliau, eu safbwyntiau a’u gweledigaethau a’u gwneud yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau. Mae’n hanfodol deall fod pobl

ifanc, fel pobl eraill, hefyd yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain. Mae ganddyn nhw’r gallu a’r ymwybyddiaeth i gael effaith ar gymdeithas i’w gwneud yn lle gwell i fyw ynddi. Yr unig beth sydd ar goll yw’r llwyfan i’w llais gael ei glywed. Cydlunio/cydgynhyrchu yw un o’r ffyrdd y gellir helpu i gynnwys plant a phobl ifanc yn well. Gall rhoi’r cyfle iddyn nhw arwain eu gwneud yn fwy hyderus i eirioli dros newid gwell. Mae gan bobl ifanc yr angerdd a’r egni i wneud i bethau cadarnhaol ddigwydd. Mae’n wir nad yw mor hawdd â hynny, ond nid yw cymdeithas yn gyflawn heb bobl ifanc. Mae angen mwy a mwy o ysgogwyr newid yn y byd. Fel y dywedodd yr awdur, José Rizal, “ieuenctid yw gobaith ein dyfodol”.


Tachwedd 2023 | 5

Cydgynhyrchu ar waith – grŵp Cynllun Gwella’r Gyllideb yn Cymru Ifanc

Mae ein grŵp gwych o bobl ifanc yn cydgynhyrchu fersiwn o Gynllun Gwella’r Gyllideb gyda Llywodraeth Cymru.

ddrafft cyntaf ar gyfer dechrau’r animeiddiad a’i ddangos i’r bobl ifanc. Ystyriwyd eu syniadau wrth ddatblygu’r adnodd hwn.

Mae’r ddogfen hon yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn datblygu, dadansoddi a rhannu ei Chyllideb. Mae’n esbonio ei chynlluniau tymor byr a thymor canolig ar gyfer proses ei Chyllideb. Mae’n ddogfen bwysig i bawb yng Nghymru, ond roedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol nad yw’n hygyrch i bobl ifanc. Gofynnodd i gael gweithio gyda ni yn Cymru Ifanc i ddatblygu animeiddiad a thaflen, wedi’u creu gyda phobl ifanc i bobl ifanc.

Ym mis Medi, dangosom ‘fideo rhagflas’ o’r animeiddiad i Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a’r Cadeiryddion Pwyllgorau, Peredur Owen Griffiths AS a Jane Bryant AS. Rydym bellach yn gweithio i ddatblygu’r adnoddau ymhellach gan ddefnyddio syniadau’r bobl ifanc ac yn edrych ymlaen at gael eu rhannu yn y flwyddyn newydd.

Mae’r bobl ifanc yn y grŵp hwn wedi bod yn gweithio gyda’r tîm Dylunio Canolog yn Llywodraeth Cymru i greu’r adnoddau. Bu dolen adborth barhaus rhwng y bobl ifanc a’r dylunwyr hyn. Tarodd y bobl ifanc ar y syniad gwreiddiol ar gyfer fformat y fideo (gêm fideo) a lluniwyd brasluniau gwreiddiol ar gyfer bob un o’r cymeriadau. Yna, creodd y dylunwyr


6 | childreninwales.org.uk

Cymru Ifanc yn croesawu gwirfoddolwyr newydd Rydym yn falch iawn o rannu newyddion cyffrous am ein rhaglen recriwtio gwirfoddolwyr diweddar. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymru Ifanc hyfforddiant sefydlu i roi croeso cynnes i’n gwirfoddolwyr diweddaraf ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Rhwng mis Awst a mis Hydref, rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cofrestru dros 70 o unigolion angerddol ac ymroddedig fel gwirfoddolwyr. Mae’r cynnydd anhygoel hwn o ran cofrestriadau yn dyst i bwysigrwydd cynyddol ein gwaith o godi lleisiau pobl ifanc, sydd ag egwyddorion Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth ei wraidd. Mae gan ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc gyfleoedd i weithio a chyfarfod â Swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae’r rhyngweithio hwn yn sicrhau y caiff safbwyntiau gwirfoddolwyr ifanc eu clywed, a’u bod yn cael eu hystyried yn ystod prosesau gwneud penderfyniadau canolog.

Mae ein rhaglen recriwtio gwirfoddolwyr yn gynhwysol ac ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru. Os hoffech chi ymuno â’n rhaglen gwirfoddolwyr, cwblhewch y ffurflen gofrestru. https://forms.office.com/e/L0a1etADvf

Neu, os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk


Tachwedd 2023 | 7

l y w s e r P Cwrs

c n a f I u r Cym ymru C d d e l g o yng Ng

Yn ystod gwyliau hanner tymor, bydd Cymru Ifanc yn cynnal ein 3ydd cwrs preswyl eleni. Gyda mwy na 40 o wirfoddolwyr ifanc brwdfrydig wedi cofrestru ar gyfer penwythnos llawn gweithgareddau, mae’r cwrs preswyl yn argoeli i fod yn brofiad ysbrydoledig a thrawsnewidiol. Rhwng 2 a 4 Tachwedd, bydd ein gwirfoddolwyr ifanc yn dod ynghyd yn Glanllyn yng Ngogledd Cymru i weithio yn eu byrddau a’u grwpiau, gan fynd i’r afael mewn modd angerddol â materion sy’n effeithio ar

bobl ifanc. Mae’r cwrs preswyl hwn hefyd yn llwyfan ar gyfer paratoi ar gyfer gŵyl Cymru Ifanc y mae disgwyl mawr amdani. Bydd y gwirfoddolwyr hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau llawn hwyl fel bowlio, adeiladu rafftiau, disco, cwis a llawer mwy! Os hoffech chi gymryd rhan yn ein cwrs preswyl nesaf yn ystod hanner tymor mis Chwefror, cysylltwch â rachel.clement@ childreninwales.org.uk am ragor o fanylion.


8 | childreninwales.org.uk

Gofalwyr Ifanc Mico Zenati-Parsons

Gofalwr Ifanc neu “Ofalwr sy’n Blentyn” fel y’i diffinir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw’r rhai hynny dan 18 oed sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu gofal di-dâl ar gyfer oedolyn neu blentyn anabl sydd angen cymorth. Cymru sydd â’r gyfran uchaf o Ofalwyr Ifanc yn y Deyrnas Unedig; cofnododd Cyfrifiad 2011 ffigwr o 7544 o Ofalwyr Ifanc dan 16 oed. Mae bod yn Ofalwr Ifanc yn anodd gan ein bod yn cael ein gwthio i’r neilltu am ein bod yn faich. Dyw’r pwysau emosiynol ac ymarferol rydw i wedi’i brofi ddim yn cael ei ystyried, er enghraifft bwlio, ofni cael fy stigmateiddio, teimlo pwysau ychwanegol o ran amser gyda fy nghyfrifoldebau gofal gartref a sut mae hyn wedi effeithio ar fy ngallu i astudio. Nid yn unig y pethau rwy’n eu cyflawni sy’n cael effaith arnaf, ond hefyd y straen emosiynol rwy’n ei deimlo os bydd fy mam yn sâl.

Felly beth gellir ei wneud? Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod beth i’w wneud; mae miloedd o oriau wedi cael eu treulio yn ysgrifennu cannoedd o adroddiadau yn amlinellu sut y mae’n RHAID i athrawon ac awdurdodau lleol nodi Gofalwyr Ifanc. Caiff ei dderbyn fod angen cymorth ychwanegol arnom o bosibl: mae Llywodraeth Cymru wedi talu am gardiau adnabod Gofalwyr Ifanc, hi oedd y llywodraeth gyntaf i gael Comisiynydd Plant a’r cyntaf i dderbyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Yn fy mhrofiad i, fodd bynnag, dydw i ddim wedi gweld hyn o gwbl ac rydw i wedi bod yn Ofalwr Ifanc drwy gydol fy oes. Dim ond pan ddes i’n ymwybodol o’r Comisiynydd Plant a Cymru Ifanc, yr wyf yn aelod o banel y ddau bellach, y gwyddwn i fod y pethau hyn yn bodoli.


Tachwedd 2023 | 9

Rwy’n gwybod beth sydd wedi mynd o’i le – dyma fy mhrofiad personol i. Ym mis Awst 2023, cefais wahoddiad i fynychu digwyddiad Gofalwyr Ifanc yn Llanfair-ym-Muallt. Roedd cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ledled Cymru yn y digwyddiad, gan gynnwys fy awdurdod lleol i. Dywedais wrth y bobl hyn nad oeddwn i wedi bod yn ymwybodol o unrhyw beth am Ofalwyr Ifanc. Gofynnon nhw i mi i ba ysgol roeddwn i’n mynd iddi a dywedais wrthyn nhw. Dywedodd fy nghynrychiolydd awdurdod lleol “Rydyn ni’n gwneud yn siŵr fod gan bob ysgol Hyrwyddwr Gofalwyr” ac atebais “ Na, does gennym ni ddim un” ac yna atebodd gan ddweud “Oes, mae gennych chi un; galli di fynd i ofyn i dy ysgol gan ein bod ni’n gwirio bob mis”

Mae yna ddwy broblem gyda’r datganiad. Yn gyntaf, mae erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn nodi’n GLIR y dylid gwrando ar blentyn. Yn ail, dylai hi fod wedi meddwl, o ystyried ei swydd hi, os nad ydw i wedi cael unrhyw wybodaeth yna dyw’r ysgol ddim wedi fy adnabod fel Gofalwr Ifanc, er gwaethaf y ffaith bod fy mam, sydd mewn cadair olwyn, wedi mynychu bob noson rhieni ers cyn i mi ddechrau, a bod cael fy adnabod fel Gofalwr Ifanc yn rhwymedigaeth gyfreithiol fel y’i nodir yn Neddf Llesiant 2014. I gloi, mae’n cymryd mwy o ymdrech na dim ond darllen adroddiad i ddeall UNRHYW fater. Mae pobl a’u profiadau personol yn bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau o bunnoedd yn ysgrifennu canllawiau ond os na chaiff y canllawiau hyn eu gweithredu’n briodol, yna mae’n wastraff amser llwyr.


10 | childreninwales.org.uk

A Oes Gennym Ddemocratiaeth Iach? Mae’n Bryd i chi gael Dweud eich Dweud Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru gyda nodau craidd i nodi opsiynau ar gyfer camau gweithredu i gynghorau cymuned a thref, cyrff cynrychioliadol y sector a’r llywodraeth i: •

wella ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad rhwng cymunedau a’u cynghorau cymuned

•

gwella nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiadau ar gyfer cynghorau cymuned a thref.

Gellir dod o hyd i ddatganiad ysgrifenedig am y grŵp gan Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yma: Datganiad Ysgrifenedig: Iechyd Democrataidd a Digidol Cynghorau Cymuned a Thref (26 Ebrill 2023) | LLYW.CYMRU

Mae cynghorau cymuned a thref yn cael eu hethol yn ddemocrataidd ac yn gweithredu ar lefel fwyaf lleol democratiaeth. Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru ac ychydig yn llai na 8,000 o gynghorwyr. Maent yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ar ran cymunedau. Yn etholiadau lleol mis Mai 2022, dim ond 38% o bobl bleidleisiodd. Roedd 85% o seddi cynghorau cymuned a thref yn ddiwrthwynebiad neu heb eu llenwi. Un broblem yw diffyg cyfranogiad a chynhwysiant pobl ifanc yng ngwaith cynghorau cymuned a thref. Mae angen help pobl ifanc ar y grŵp hwn er mwyn gwella democratiaeth yn ein cynghorau. Mae’r grŵp wedi dosbarthu arolwg i ddeall sut mae pobl ifanc yn teimlo am ddemocratiaeth leol a chynghorau cymuned a thref.


Tachwedd 2023 | 11

Mae’r arolwg hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddod yn ymwybodol o’r lefel hon o ddemocratiaeth, ei deall a chael llais. Gellir cwblhau’r arolwg gan unigolion 16+ oed. Drwy gymryd rhan yn yr arolwg, gall pobl ifanc gyfrannu’n weithredol at lunio dyfodol eu cymunedau a chaniatáu i’w safbwyntiau gael eu hystyried. Gall cyfraniadau pobl ifanc helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol. Mae Tilly Rees, sy’n aelod o’r grŵp, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant ac yn wirfoddolwr gyda Cymru Ifanc, yn annog bob person ifanc rhwng 16 a 25 oed i ddweud eu dweud drwy gwblhau’r holiadur yn y dolenni isod. https://www.smartsurvey.co.uk/s/6P6PGO/ – SAESNEG https://www.smartsurvey.co.uk/ s/6P6PGO/?lang=838811 – CYMRAEG At hyn, gallwch gael mynediad at yr arolwg cyhoeddus a mwy o wybodaeth yma: https://www.llyw.cymru/ymwybyddiaethymgysylltu-chynrychiolaeth-ar-gynghoraucymuned-thref-galwad-am-dystiolaeth


12 | childreninwales.org.uk

Arolygwyr Ifanc – Addysgwyr neu Aseswyr? Russell Baker, Cymru Ifanc

Fel cyn athro, mae sôn am y gair arolwg yn creu ymdeimlad o banig. Oriau hir o baratoi ar gyfer rhywbeth sy’n tynnu sylw oddi ar swyddogaeth graidd addysgu a dysgu. Ond ni ddylai fod felly, ac nid oes rhaid iddo fod felly. Mae lles y plant yn ganolog i arolygwyr ysgolion ac, yn yr un modd, mae gan Arolygwyr Ifanc fwriadau da. Mae Arolygwyr Ifanc yno i gynnig safbwynt wahanol ac i ychwanegu at syniadau, gwybodaeth a phrofiad y rheini sy’n cael eu “harolygu.” Mae’n bwysig dathlu’r holl waith da sy’n cael ei wneud a gall arolwg amlygu hyn. Ar yr un pryd, gall arolwg ofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau fel y gallwn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar waith. Mae Arolygwyr Ifanc yno i’n cefnogi ni i ddeall, creu a gweithredu polisïau sy’n dathlu hawliau plant; i’n helpu i wneud gwahaniaeth i’r plant a’r bobl ifanc rydym yn gweithio â nhw. Maen nhw’n ein helpu i nodi meysydd y gellir eu mabwysiadu i gefnogi plant a phobl ifanc mewn ffordd gadarnhaol i ddefnyddio eu hawliau a chymryd rhan yn effeithiol.

Mae Arolygwyr Ifanc wedi bod yn ganolog i adolygiad y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ac adolygiad Nod Barcut. Maent wedi bod yn bartïon cyfartal; mae eu barn a’u syniadau wedi dwyn llawer o bwysau a dylanwad oherwydd eu bod yn cael eu llywio gan hawliau plant a’u profiadau. Mae’r cynnig presennol sy’n cael ei ystyried yn cynnwys llawer o syniadau sydd wedi dod yn uniongyrchol gan y bobl ifanc sy’n rhan o’r broses, ac sy’n well oherwydd eu cyfranogiad. Nod arolygwyr ifanc yw sicrhau fod pobl ifanc yn cael y gwasanaeth gorau posibl. Sut gall hyn gael ei gyflawni? Ai drwy addysg neu asesu? Yr ateb yw ychydig o’r ddau; mae angen asesu er mwyn sefydlu lle mae sefydliad arni ac i ddathlu llwyddiannau, ond yr hyn a ddaw nesaf sy’n bwysig. Bydd tîm o arolygwyr hyfforddedig â phrofiadau amrywiol bob amser yn gallu gofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau a fydd yn gwneud i ni ystyried y gwasanaeth a ddarperir. Maen nhw’n gaffaeliad ac yn adnodd i’w ddefnyddio i helpu ar y llwybr tuag at sicrhau fod hawliau plant yn cael eu parchu a’u dathlu.


Tachwedd 2023 | 13

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Plant yn 2023 yn foment pwysig i ddathlu hawliau a chyfranogiad plant ledled y byd. Mae’n atgoffwr pwerus o arwyddocâd meithrin a grymuso ein cenhedlaeth ieuengaf. Drwy gynnal hawliau plant a’u cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau, rydym yn creu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi eu cyfranogiadau a safbwyntiau unigryw. Gadewch i ni fanteisio ar y cyfle hwn i godi lleisiau plant, amddiffyn eu llesiant, ac adeiladu dyfodol mwy disglair lle mae pob plentyn yn ffynnu’n hyderus. Eve Lewis McLeod


14 | childreninwales.org.uk

Canlyniadau arolwg tlodi plant

Eleni, cwblhaodd 270 o blant a phobl ifanc yr arolwg. Roedd y plant a’r bobl ifanc rhwng tua 10 a 25 oed. Roeddent o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol.

Dywedodd y plant a’r bobl ifanc fod byw mewn tlodi yn anodd. Yn aml, doedd dim digon o fwyd gan y plant ac roedd llawer ohonynt yn llwglyd. Dywedon nhw hefyd fod cost trydan yn rhy uchel a bod hyn yn golygu nad oedd rhai teuluoedd yn gallu fforddio defnyddio trydan bob dydd. Roedd hyn yn golygu bod eu cartrefi yn oer ac yn dywyll a doedden nhw ddim yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd gartref na gwneud eu gwaith ysgol.

Dywedodd llawer o’r plant a’r bobl ifanc nad oedd hi’n deg bod plant yn byw mewn tlodi. Gwelsant fod plant yn cael eu bwlio o’i herwydd, yn enwedig yn yr ysgol.

Dywedon nhw fod plant a phobl ifanc yn cael eu bwlio oherwydd hyn ac nad oedd hynny’n deg. Roedden nhw am i bob plentyn a pherson ifanc gael ei drin â charedigrwydd a pharch.

Bob blwyddyn, ym mis Ebrill a mis Mai, mae Plant yng Nghymru yn cynnal arolwg am dlodi. Rydym yn gofyn i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru i rannu eu safbwyntiau, barn a phrofiadau am dlodi.


Tachwedd 2023 | 15

Dywedodd y plant a’r bobl ifanc a gymerodd rhan yn yr arolwg fod cael eich bwlio yn effeithio ar iechyd meddwl. Dywedon nhw fod y rheini sy’n cael eu bwlio yn aml yn teimlo’n drist, yn bryderus ac yn unig. Weithiau roedd y bwlio mor wael, doedden nhw ddim eisiau mynd i’r ysgol am eu bod yn cael eu bwlio oherwydd doedden nhw ddim yn gallu fforddio’r wisg ysgol iawn. Roedd hyn yn golygu doedden nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd i ddysgu â’u cyd-ddisgyblion. Roedd plant a phobl ifanc yn meddwl fod hyn yn annheg. Maen nhw am i blant, pobl ifanc ac oedolion drin ei gilydd a phawb yn gyfartal. Dywedon nhw ein bod ni i gyd yn haeddu parch ac i gael ein trin â charedigrwydd, beth bynnag fo’n hamgylchiadau.


16 | childreninwales.org.uk

l y ŵ G

c n a f I u r Cym ru

a dol y Plant la w g n y h R rnod dathlu Diw

Bydd Plant yng Nghymru yn cynnal ein Gŵyl Cymru Ifanc flynyddol sy’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Plant. Bydd y dathliadau yn fwy fyth eleni wrth i ni gydnabod pen-blwydd Plant yng Nghymru yn 30 oed. Caiff yr ŵyl ei chynnal ddydd Sadwrn 18 Tachwedd ar Gampws Bae Abertawe. Mae’r ŵyl yn argoeli i fod yn ddiwrnod llawn gweithgareddau bywiog a chyfleoedd i ymweld â dros 26 o stondinau rhyngweithiol

g Nghym n y t n la P o 30 mlynedd

wedi’u cynllunio i ennyn diddordeb, hysbysu ac ysbrydoli meddyliau ifanc. Bydd gweithdai creadigol a chymhellol a digon o adloniant. Bydd Cymru Ifanc yn cynnal trafodaethau bord gron gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, gan edrych ar faterion fel newid yn yr hinsawdd, addysg ac iechyd meddwl. Bydd yr ŵyl yn ddiwrnod i bobl ifanc ddod at ei gilydd, dathlu eu lleisiau a mwynhau profiad bythgofiadwy.


21 Windsor Place, Cardiff CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Cylchlythyr Cymru Ifanc - Tachwedd 2023 by childreninwales - Issuu