Cylchlythyr Cymru Ifanc Rhagfyr 2023 www.childreninwales.org.uk
2 | childreninwales.org.uk
Costau byw bywyd ecogyfeillgar
4
Ymgynghoriadau Cymru Ifanc sydd ar y gweill
5
Cwrs Preswyl Cymru Ifanc yng Nglan-llyn, Gogledd Cymru
6
Canlyniadau arolwg tlodi plant
8
Cyfarfod bord gron costau byw yng ngŵyl Cymru Ifanc
10
Rhagfyr 2023 | 3
4 | childreninwales.org.uk
Costau byw bywyd ecogyfeillgar Bethany Turner
Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cam 2 o’n prosiect ymchwil cyfoedion bellach ar waith. Bydd yr ymchwil hwn yn edrych ar y rhwystrau y mae pobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu wrth geisio byw bywyd cynaliadwy. Yn gynharach eleni, daethom â grŵp o 12 o bobl ifanc ynghyd i’w hyfforddi i ddod yn ymchwilwyr cyfoedion ac archwilio’r pwnc newid yn yr hinsawdd. Cydweithion nhw gyda staff Plant yng Nghrymu ac ymgynghorydd dulliau ymchwilio i ddatblygu cynllun ar gyfer y prosiect hwn. Yn ystod y cam hwn, dysgodd y bobl ifanc sut i gynnal ymchwil a phenderfynon nhw beth roedden nhw am ei archwilio a sut i wneud hynny. Penderfynodd y bobl ifanc eu bod am gynnal arolwg a rhai grwpiau ffocws er mwyn deall beth sy’n atal pobl ifanc rhag byw bywyd cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys ffactorau fel oed,
diwylliant ac ardal o Gymru. Cytunodd y grŵp bod angen ffocws arbennig ar sut mae cost yn effeithio ar ddewisiadau pobl yn y maes hwn. Yn seiliedig ar y gwaith gwych a gwblhawyd gan y bobl ifanc yn ystod cam 1, byddwn nawr yn cefnogi’r grŵp i gynnal yr ymchwil hwn. Rydym yn edrych ymlaen at rannu canlyniadau’r ymchwil hwn – gwyliwch y gwagle! Os hoffech chi ddysgu mwy am y gwaith yma, mae croeso i chi gysylltu – bethany.turner@childreninwales.org.uk Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Community Knowledge Fund sy’n ein cefnogi i gyflawni’r cynlluniau y buom yn gweithio arnynt yng Ngham 1. Mae’r Young Foundation ac UKRI wedi’u cyffroi gan y syniad o bobl ifanc yn parhau i yrru’r gwaith hwn ymlaen.
Rhagfyr 2023 | 5
Ymgynghoriadau Cymru Ifanc sydd ar y gweill Rydym yn falch o rannu bod Cymru Ifanc yn paratoi ar gyfer dau ymgynghoriad arwyddocaol a fydd yn ein galluogi i barhau â’n cenhadaeth o rymuso lleisiau ifanc. Bydd yr ymgynghoriadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y materion sy’n bwysig i bobl ifanc ledled Cymru. 1. Ymgynghoriad Diwygio’r Flwyddyn Ysgol Mae Cymru Ifanc yn falch o fod yn cyflwyno ymgynghoriadau ar ddiwygio’r flwyddyn ysgol, a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad â Miller Research. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn chwarae rôl bwysig wrth lywio dyfodol addysg yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda grwpiau ffocws o bob rhan o Gymru i edrych ar y cynigion ar gyfer ailstrwythuro tymhorau’r ysgol.
2. Ymgynghoriad Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) Bydd ein hail ymgynghoriad sylweddol yn canolbwyntio ar Fil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru). Gweithiodd Cymru Ifanc gyda grŵp ffocws yn ystod ein digwyddiad preswyl yn y gogledd a byddwn yn cynnal ymgynghoriad arall yn ystod yr wythnosau nesaf gyda grŵp llai. Mae ymgynghoriad Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) yn bwysig iawn gan ei fod yn effeithio’n uniongyrchol ar y rhai hynny sy’n defnyddio gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae’r ymgynghoriadau hyn yn gyfle gwych i gyfrannu at newid ystyrlon, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru. Os hoffech chi gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau Diwygio’r Flwyddyn Ysgol, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â rachel.clement@childreninwales.org.uk
6 | childreninwales.org.uk
l y w s e r P s r w C
c n a f I u r Cym u r m y C d d e l g o G , n y l l n a yng Ngl
Cynhaliwyd ein 3ydd cwrs preswyl eleni yn lleoliad hyfryd Glan-llyn, lle daeth dros 30 o wirfoddolwyr brwdfrydig Cymru Ifanc ynghyd o bob cwr o Gymru. Roedd y cwrs preswyl yn llawn gweithgareddau amrywiol; roedd rhywbeth at ddant pawb. O weithgareddau anturus fel rafftio ar y llyn i gyfnodau mwy hamddenol gyda’r gweithgareddau llesiant, ac o byliau cystadleuol yn chwarae pêl-droed i sesiynau karaoke difyr.
Tu hwnt i’r agweddau hamdden, dangosodd gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ymrwymiad canmoladwy tuag at wneud gwahaniaeth. Gan weithio yn eu byrddau a’u grwpiau, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru; lleisiwyd eu pryderon a’u safbwyntiau ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol.
Rhagfyr 2023 | 7
Er mwyn paratoi ar gyfer ein Gŵyl Cymru Ifanc, gweithiodd y gwirfoddolwyr ar gadeirio trafodaethau bwrdd gron. Roedd yn ysbrydoledig gweld angerdd ac ymroddiad yr eiriolwyr ifanc hyn yn dod i’r bwrdd. Yn ystod yr wyl, roedd y sesiynau hyn yn llwyddiannus iawn ac roeddent yn llwyfan hollbwysig ar gyfer llunio safbwyntiau, cyfnewid syniadau, a meithrin deialog ar faterion pwysig fel costau byw ac addysg. Roedd ein Prif Weithredwr, Hugh Russell yn bresennol ac ymgysylltodd â phawb a oedd yno. Roedd y cyfranogiad ymarferol hwn yn
gyffyrddiad arbennig yn ystod y cwrs preswyl ac yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin cysylltiadau a dealltwriaeth ymysg pawb a oedd yn bresennol. Roedd cwrs preswyl Glanllyn yn cynnig cyfle i gael hwyl ac i ymlacio ac yn dyst i wydnwch ac ymrwymiad gwirfoddolwyr Cymru Ifanc. Wrth iddyn nhw barhau i dyfu a datblygu, mae cyrsiau preswyl fel hyn yn chwarae rôl ganolog wrth gryfhau cysylltiadau, adeiladu ymdeimlad o undod, a grymuso pobl ifanc.
8 | childreninwales.org.uk
Canlyniadau arolwg tlodi plant
Eleni, cwblhaodd 270 o blant a phobl ifanc yr arolwg. Roedd y plant a’r bobl ifanc rhwng tua 10 a 25 oed. Roeddent o amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol.
Dywedodd y plant a’r bobl ifanc fod byw mewn tlodi yn anodd. Yn aml, doedd dim digon o fwyd gan y plant ac roedd llawer ohonynt yn llwglyd. Dywedon nhw hefyd fod cost trydan yn rhy uchel a bod hyn yn golygu nad oedd rhai teuluoedd yn gallu fforddio defnyddio trydan bob dydd. Roedd hyn yn golygu bod eu cartrefi yn oer ac yn dywyll a doedden nhw ddim yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd gartref na gwneud eu gwaith ysgol.
Dywedodd llawer o’r plant a’r bobl ifanc nad oedd hi’n deg bod plant yn byw mewn tlodi. Gwelsant fod plant yn cael eu bwlio o’i herwydd, yn enwedig yn yr ysgol.
Dywedon nhw fod plant a phobl ifanc yn cael eu bwlio oherwydd hyn ac nad oedd hynny’n deg. Roedden nhw am i bob plentyn a pherson ifanc gael ei drin â charedigrwydd a pharch.
Bob blwyddyn, ym mis Ebrill a mis Mai, mae Plant yng Nghymru yn cynnal arolwg am dlodi. Rydym yn gofyn i bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru i rannu eu safbwyntiau, barn a phrofiadau am dlodi.
Rhagfyr 2023 | 9
Dywedodd y plant a’r bobl ifanc a gymerodd rhan yn yr arolwg fod cael eich bwlio yn effeithio ar iechyd meddwl. Dywedon nhw fod y rheini sy’n cael eu bwlio yn aml yn teimlo’n drist, yn bryderus ac yn unig. Weithiau roedd y bwlio mor wael, doedden nhw ddim eisiau mynd i’r ysgol am eu bod yn cael eu bwlio oherwydd doedden nhw ddim yn gallu fforddio’r wisg ysgol iawn. Roedd hyn yn golygu doedden nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd i ddysgu â’u cyd-ddisgyblion. Roedd plant a phobl ifanc yn meddwl fod hyn yn annheg. Maen nhw am i blant, pobl ifanc ac oedolion drin ei gilydd a phawb yn gyfartal. Dywedon nhw ein bod ni i gyd yn haeddu parch ac i gael ein trin â charedigrwydd, beth bynnag fo’n hamgylchiadau.
10 | childreninwales.org.uk
Cyfarfod bord gron costau byw yng ngŵyl Cymru Ifanc Bethany Turner
Ar 18 Tachwedd, dathlwyd Diwrnod Rhyngwladol y Plant gyda’n Gŵyl Cymru Ifanc. Roedd amrywiaeth o weithgareddau yn yr ŵyl ar gyfer plant a phobl ifanc i’w mwynhau. Fel rhan o’r ŵyl, cyfarfu Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, â phobl ifanc i siarad am gostau byw. Siaradodd y bobl ifanc a’r Gweinidog am sut mae costau cynyddol bwyd a thrafnidiaeth wedi effeithio arnyn nhw a’r rhai sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Dywedon nhw fod trafnidiaeth yn rhy ddrud a bod yn rhaid i rai plant dalu llawer o arian i fynd i’r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedon nhw hefyd bod costau cynyddol yn golygu ei bod hi’n anodd i lawer o bobl ifanc fynd i ddigwyddiadau ar ôl ysgol a theithiau ysgol. Mae hyn yn golygu bod ganddynt lai o ffyrdd i ymlacio a chael hwyl, ond gall effeithio arnyn nhw mewn ffyrdd eraill hefyd. Dywedodd un person ifanc ei fod yn poeni y byddai ganddo lai i ysgrifennu amdano yn ei
ddatganiad personol ar gyfer ceisiadau prifysgol. Mae’n credu y bydd ganddo lai o opsiynau prifysgol oherwydd hyn. Siaradodd y bobl ifanc hefyd am yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud ynghylch costau byw. Dywedon nhw y dylai Llywodraeth Cymru helpu mwy gyda chostau bwyd, trafnidiaeth, offer (fel gliniaduron) a gweithgareddau hwyl. Cytunodd y Gweinidog bod hyn yn bwysig a dywedodd y byddai’n siarad â Gweinidogion eraill am yr hyn a ddywedodd y bobl ifanc.
21 Windsor Place, Cardiff CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk