y sgwrs
FAWR Cylchgrawn 25/26
Dadbacio Sgwrs Fawr Cymru Ifanc a chanfyddiadau’r Uwchgynhadledd
Croeso, Welcome!
y sgwrs
FAWR Cylchgrawn 25/26
Archwilio’r Sgwrs Fawr t.1 i 6 Uwchgynhadledd Cymru Ifanc t.7 i 8 Gweithdai a Marchnad t.9 i 10 Ymgysylltu â’r rhai sy’n Gwneud Penderfyniadau t.11 i 12 Gwaith Celf a Gweithdy’r Sgwrs Fawr t.13 i 16 Dadbacio Sgwrs Fawr Cymru Ifanc a chanfyddiadau’r Uwchgynhadledd
Gadewch i ni ddechrau... Beth yw’r Sgwrs Fawr? Mae’r Sgwrs Fawr yn brosiect gan Cymru Ifanc, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc ledled Cymru i rannu eu safbwyntiau a’u profiadau, gan adlewyrchu Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn “Eich hawl i ddweud beth ddylai digwydd ac i rywun wrando arnoch.”
Pam wnaethon ni hyn? Y llynedd, roeddem am ddarganfod sut mae themâu gweinidogol allweddol yn effeithio ar bobl ifanc. Eleni, roeddem eisiau deall am eu profiad bywyd o Hawliau Plant. Rhoesom y cyfle hwn i bobl ifanc fel ein bod yn gallu rhoi adborth ar eu safbwyntiau i Lywodraeth Cymru a Gwneuthurwyr Penderfyniadau, er mwyn dylanwadu ar bolisi a newidiadau ar gyfer pobl ifanc yn y dyfodol.
Ar bwy y gwnaethon ni wrando? Rhwng mis Awst a mis Hydref 2025, fe wnaeth tîm Cymru Ifanc gwrdd â phlant a phobl ifanc ledled Cymru. Fe wnaethon nhw gyflwyno sesiynau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, Sesiwn Preswyl Cymru Ifanc, Clybiau Ieuenctid ledled Cymru, Platfform, Dynamig Wrecsam a digwyddiadau Voices from Care Cymru.
THEMÂU ALLWEDDOL Fe wnaethom gwrdd â 279 o blant a phobl ifanc ledled Cymru, gyda’r nod o gysylltu Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn gyda’u profiadau bywyd a’u heriau.
Gofal
Addysg
Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud dros bobl ifanc mewn gofal, ond nid bob amser gyda nhw, “Dydyn nhw ddim bob amser yn gwrando arnaf i, ac mae’n fy ngwneud i’n gandryll!”
Mae rheolau ysgolion yn cyfyngu ar lesiant pobl ifanc, “Dydy fy ysgol ddim yn gadael i mi fynd i’r tŷ bach.”
Preifatrwydd
Anabledd
Mae pobl ifanc yn teimlo nad yw eu ffiniau yn cael eu parchu gan oedolion, “Does gen i ddim hawl i breifatrwydd”
Mae pobl ifanc anabl yn teimlo nad yw eu hanghenion yn cael eu deall na’u bodloni, “Dylai pobl ag anableddau gael amddiffyniadau arbennig”
Archwilio Rhwystrau P’un ai yn yr ysgol, mewn gofal, neu wrth geisio cymorth, mae pobl ifanc yn disgrifio teimlo nad ydynt yn cael eu clywed, eu bod wedi eu cyfyngu neu eu trin yn wahanol, gan arwain at fwlch rhwng beth mae’r hawliau yn ei addo a’r hyn y mae ganddyn nhw fynediad ato. “Gall pobl LHDTC+ ei chael yn anoddach i gael eu clywed. Pan nad ydynt yn cael eu cynnwys, mae’n eu gwneud nhw’n drist.”
“Parcio, anabledd, ariannu, gwasanaethau, ffyrdd, diffyg ymwybyddiaeth–mae hyn i gyd yn broblem ac yn creu rhwystr i mi.”
“Weithiau gall fod yn anoddach i bobl ifanc sy’n ofalwyr gael eu clywed a gwrando arnynt.”
“Dydi hunaniaeth pawb ddim yn cael ei werthfawrogi, mae rhai pobl yn cael eu trin yn annheg oherwydd eu hunaniaeth.”
Y Sgwrs Fawr (Tu ôl i’r llen)
Pobl Ifanc yn Galw am Weithredu Gwrandewch arnom ni, mae ein lleisiau’n bwysig Parchwch ein hunigoliaeth a'n preifatrwydd
Grymuswch ni i ddeall ein hawliau Gweithredwch! Trowch bolisïau yn brofiadau go iawn
“BETH YW DIBEN CAEL HAWLIAU,
OS NAD YDYNT YN CAEL EU PARCHU?”
Uwchgynhadledd Cymru Ifanc
Dewch i ni ei ddadbacio!
Beth yw Uwchgynhadledd Cymru Ifanc? Yn nodi Diwrnod Plant y Byd, roedd Uwchgynhadledd Cymru Ifanc yn ddigwyddiad i ddathlu llais ieuenctid a hawliau plant – cyfle i bobl ifanc o bob cwr o Gymru lywio trafodaethau, herio syniadau, ac arddangos eu creadigrwydd.
Beth wnaethom ei gynnig? Roedd yr Uwchgynhadledd yn llawn cyfleoedd i bobl ifanc ymarfer Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys Brecwast gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, Sesiwn Holi gyda Rocio Cifuentes, a gweithdai celf, cerddoriaeth, ffilm a democratiaeth.
Sut wnaethon ni roi llwyfan i leisiau Pobl Ifanc? Cafodd ein gwirfoddolwyr Cymru Ifanc y cyfle i lywio'r Uwchgynhadledd yn ystod y Sesiwn Preswyl yn yr Hydref. Buont yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio amserlen a roddodd gyfle i bobl ifanc gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau Llywodraeth Cymru, a chymryd rhan mewn gweithdai creadigol i rannu eu barn.
Cymerwch olwg ar ein Gweithdai… Y Gweithdy Democratiaeth Sesiwn ryngweithiol yn ymchwilio sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yng Nghymru, sut y gall pobl ifanc gymryd rhan, a pham y mae eu lleisiau mor bwysig wrth lywio newid.
Gweithdy Clywch, Clywch!
Dan arweiniad dau wirfoddolwr Cymru Ifanc, fe wnaethom archwilio sut mae pobl ifanc yn profi'r byd ar-lein, gan gwmpasu manteision ac anfanteision y cyfryngau cymdeithasol, ymgysylltu ar-lein, a'i effaith ar eu bywydau.
Caffi'r Byd Roedd sesiwn Caffi'r Byd yn rhyngweithiol ac yn ddiddorol, gan sbarduno sgyrsiau ystyrlon dan arweiniad pobl ifanc i bobl ifanc.
Talent yr Oes Newydd Rhoddodd pobl ifanc gynnig ar Boost, sesiwn sgiliau DJ, edrychwyd ar gelfyddyd stryd yng ngweithdy graffiti She Paints the Streets, ac ysgrifennodd rhai eu bariau eu hunain mewn gweithdy ysgrifennu rap gyda Missy G.
Cipolwg ar Farchnad Cymru Ifanc
GOFOD I YMGYSYLLTU Â SEFYDLIADAU IEUENCTID, CYMRYD RHAN MEWN GWEITHGAREDDAU HWYLIOG A DYSGU MWY AM GYFRANOGIAD YNG NGHYMRU.
Ymgysylltu â’r rhai sy’n Gwneud Penderfyniadau Roedd dau gyfle mawr i ymgysylltu â’r rhai sy’n Gwneud Penderfyniadau yn ystod Uwchgynhadledd Cymru Ifanc.
Dechreuodd Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc yr Uwchgynhadledd gyda 'Brecwast gydag Ysgrifennydd y Cabinet', lle ymunodd cyn Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, â nhw. Arweiniodd ein gwirfoddolwr Cymru Ifanc, Elizabeth, ‘Sesiwn Holi gyda Rocio Cifuentes', gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ofyn cwestiynau allweddol i Gomisiynydd Plant Cymru.
“FY LLAIS I,
FY NEWIS I”
Y Sgwrs Fawr
Gwaith Celf
Mae Ophelia Dos Santos yn ddylunydd ac ymchwilydd tecstilau o Gymru sy'n eirioli dros gyfiawnder hinsawdd a chynaliadwyedd mewn ffasiwn. Mae ei gwaith yn archwilio themâu treftadaeth, hunaniaeth a diwylliant, gan ddefnyddio technegau clytwaith a brodwaith â llaw ar ffabrigau sgrap.
OPHELIA
YGWIRFODDOLWYR CYMRU IFANC YN CREU EU DARNAU BRODWAITH
Ymunodd Ophelia â ni i gyflwyno Gweithdy Celf Y Sgwrs Fawr, cyfle i wirfoddolwyr Cymru Ifanc gyfrannu at ei gwaith celf sydd wedi'i ysbrydoli gan ganfyddiadau'r Sgwrs Fawr.
Y Sgwrs Fawr Gweithdy Celf Beth wnaethoch chi ei greu?
Creadigaethau Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc Gan ddefnyddio technegau brodwaith â llaw
y sgwrs
FAWR Cylchgrawn 25/26
Dathliad anhygoel o lais ieuenctid, creadigrwydd a gweithredu. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth, a gymerodd ran, a ofynnodd gwestiynau, ac a siaradodd am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
@children_in_wales